Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Newyddion gyda'r Pellebr.…
Newyddion gyda'r Pellebr. (HAVAS AGENCY). BUENOS AIRES, DYDD MAWRTH. BUENOS Aiizi-s.- Y mae y Weinyddiaeth i wedi cyflwyno i'r Gyngres amcan-gyfrif cost- au y Gyllideb am y fhvyddyn 1915, y rhai a rennir fel y canlyu :—Atdreuliau y Gyngres $4,916,040; y Swyddfa Gartrefol,$51,278, 582; Swyddfa Dramor,$4,715,576; Trysor- lys,$21,576,836; y Ddyled Gyhoeddus $8,667,648 Swyddfa Cyfiawnder ac Addysg, $64,024,909; Swyddfa Rhyfel, h8,671, I 32; Swyddfa Morawl,$26,440,452 Swyddfa Amaethyddol, $ 1 2,6 I 3,647 Swyddfa Gweith- iau Gyhoeddus,$9,052,900 Blvvydd-daliadau &c.,$1,425,000; Arfau Rhyfel, &c., $5,221, 400. Cyfanswm Gweithiau CylioecidL,.s-- $63,000,000. Tanysgrifiadau Cynorthwyol, $13,313,180. Yn y Brif-ddinas a'r trefi cylchynol, clath- lwyd Gwyl y 9fed o Orphenaf gyda brwd- frydedd, er gwaethafy gwlaw trvvm ddisgynai drwy'r dydd. Hysbysir fod yr agerlong Argentaidd jfell- .doza, perthynol i'r Hamburg South American Line, pan ar ei thaith o borthladdoedd arfor- dir y De i Buenos Aires, wedi myned ar y graig yn agos i Punta Mogotes, o fewn pedair milltir i Cape Corrientes, ac fod ei sefyllfa yn beryglus iawn, ond fod y teithwyr oil yn ddiogel. Digwyddodd y ddamwain am naw o'r gloch nos Wener, y iofed cyfisol. Hysbysir o Mar del Plata, fod teithwyr yr -i, fod teit ] -iwyr yr agerlong Mendoza wedi eu glanio yn ddiogel. Ofnir na fydd modd achub y llong. VIEN-NA.-Hysbysa y newydduron, y bydd i Austria ofyn yn swyddogol i Servia gyn- iortliwyo yn yr ymchwiliad i lofruddiaeth yr Archdduc Francis-Ferdinand, a gwrthoda i'r Serbs i wneudarddangosiadaucyhocddus yn Bosina yn ffafr Servia. ST. PETERSBURG. Cyhoeddir deddf yn Rwssia mewn ychydig ddyddiau, yn gwa- hardd cyflenwi y inilwyr a diodydd meddwol. BELFAST.—Hysbysir fod ysgarmes ffyrnig wcdi eymeryd lie rhwng y Nationalists a'r Unionists yn un o'r trefi cyfagos, pryd y bu saethu gyda revolvers. LLUNDAIN.-Dywed y Prif Weiilldo,Mr. Asquith, y disgwylir y bydd i'r Senedd dori i fyny yn Awst, wedi derbyn y Gyllideb a'r gwelliantau ar fesur Ymreolaeth i'r Iwerddon. DYDD GWENER. BUENOS AIRES.- Y inae General Allaria wedi ei benodi yn Weinidog Rhyfel. Cyflwynodd diputad Pastro fesur i'r Gyng- res ddoe yn awdurdodi y Weinyddiaeth i drefnu benthyciad hyd i gan iniliwn o ddoleri am log o 5%. MEXICO.-Credir v bydd i Huerta ymadael oddiyma heddyw neu yfory am Vera Cruz. BORDEAUX.—Aeth yr agerlong Divonaar y bane wrth adael y porthladd. Cafodd y teith- wyr eu trosi i long arall, a chredir y gellir arbed y llong. LLUNDAIN.Y mae cwmni wedi ei ffurfio i adeiladu llongau pwrpasol at gludo cigfwyd rhewedig. Y mae Ty y Cyffredin wedi derbyn gyda 301 o bleidebau yn erbyn 207 y cynygion wriaed gan Garighellor y'Trysorlys, Mr. Lloyd George, ynglyn a threth yr Incwm. Y mae- Ty yr Arglwyddi wedi derbyn trydydd ddarlleniad cynygion cyfnewidiadau Mesur Ymreolaeth i'r Iwerddon. WASHINGTON.- Sicrheir fod cytundeb cyf- lafareddol wedi ei arwyddo gan y Gwerin- iaethau Argentina, Brazil a. Chile, yn ol yr hwn bydd i bob mater o anghydwelediad ddigwydd rhyngddynt yn ystod blwycldyn o ddyclcliad y cytundeb gael ei gyflwyno i fwrdd cyflafareddol rhyngwladwriaethol. NEW YORK.-BU i'r rhyfel-long Princetown ,daro yn erbyn craig a suddo, eithr achubwyd yr oil o'r dwylaw. RHUFAIN.—Gwefreb o Ravena ddywed fod 50 Carbineers, 50 o filwyr meirch, a dau gwmni gwyr traed wedi amgylchynu pentref Fusignano, ac wedi cymeryd 26 o bersonau i'r ddalfa ar y cyhudcliad o gymeryd rhan flaenllaw yn y streic anarchaidd, waedlyd ddiweddaf. LEIPZIG.—Hysbysir fod aviator Ellmynaidd o'r enw Enlich wedi curo pob ymgais flaen- orol; cyrhaeddodd uchder 7,500 mydr.
[No title]
Unwyd Cymru a Lloegr yn 1283, yr Iw- erddon yn 1180. Ar Alban yn 1603.
I CANOEDDYNMARW O'R TYPHOID.…
CANOEDDYNMARW O'R TYPHOID. Y mae yr afiechid blin hwn-Typhoid-yn dinystrio bywydau lawer yn Ardales-tref yn nhalaeth Malaga, yn Ysbaen. Mewn adrodd- iad swyddogol dywedir fod rhyw 200 yn dioddef a'r rhan fwyaf o honynt yn anob- eithiol. Aclios y clefyd yw dwfr llygrol, y mae y gladdfa yn ganol y dref lle y mae nifer fawro'r dosbarth gweithiol yn byw. Y ii-iae a-orclivinvii wedi ei roddi i arfer anti-typhoid vaccine, i gau y gladdfa, ac i dorri'r pibelli dwfr. STREIC FAWR YN WOOLWICH. Y mae 12,000 o ddynion oedd yn gweithio mewn Arfdy yn Woolwich wedi gadael eu gwaith fel gwrth-dystiad oherwydd i engineer gael rhybudd i adael ei waith am iddo wrthod codi peiriant ar sylfaen oedd wedi ei gweithio gan ddynion oedd heb fod yu perthyn i'r undeb. BRENIN LLOEGR YN SHREWSBURY Ar y drydedd o'r mis hwn bu y brenin George mewn arddanghosfa amaethyelc101 yn Shrewsbury,—rhoddodd sylw arbenig i'r anifeiliad oedd wedi enill y gwobrau. Yr oedd yr haul mor boeth fel y bu farw naw o'r anifeiliaid. ETHOLIAD GORLLEWIN BIRMINGHAM. Trwy farwolaeth Mr. Joseph Chamberlain y mae sedd gorllewin Bermingham- yn was;. Y mae Mr. Austin Chamberlain-mab yr hen aelod-yn rhoddi ei le i fyny fel aelod dros Worcestershire, ac yn ymgeisydd am Gorllewin Birmingham. COF-GOLOFN I MR. CHAMBERLAIN. Y mae pobl Birmingham wedi rhoddi mynegiad i'w bwriad o gael Cofgolofn i'w diweddar aelod dros y rhanbarth Orllewinol. Y mae newydduron Llundain wedi cym- eryd y syniad i fyny gyda brwclfrydedd. TEYRNGED Y PRIF WEINIDOG I MR. JOSEPH CHAMBERLAIN. Yn Nhy y Cyffredin talodd y Prif WTeinidog deyrnged ragorol i goffadwriaeth y gwlad- weinydd enwog, a gohiriwyd y sehedd er dangos ei pharch i lafur a gallu y gwlad- weinydd ymadawedig.
. -.. - , Pethau gwerth eu…
Pethau gwerth eu gwybod, gan Tomos. Mae trallodion fel babanod, yn tyfu wrth eu meithrin. Mae'r hwn a brioda weddw yn gyfrifol am ei dyledion. Mae 5 o ddynion yn gweithio 10 awry dydd yn gyfartal i waith un celfyl am 8 awr. Mae amgylchedcl. yr haul yw 880,000, o filldiroedd, ac un y ddaear yn 24,889.. Mae haiarn yn saith waith trymach na dwr, arian yn ddeg waith, ac aur 19 gwaith, ac y mae dwr yn 830 gwaith trymach na'r awyr.
Y PARCHNAD
Y PARCHNAD Yn ol y newyddion diweddaraf o Buenos Aires.. GWENITH CHIJBUT.—Yn dal oddeutu $8.50 i$9.00 y can kilo am rawn o'r dos- barth goreu. GWENITH BARLETTA goreu o $9.00 i $9.10 y can kilo. GWENITH CANDEAL. goreu o $11.50 i $12.50 v can kilo. HAIDD at borthiant, o $6.00 i $6.50 y look. HADAU ALFALFA-Y mae yn bur amhvg fod gwell galw am hadau da yn ddiweddar ac y mae y stoc anferth sydd.ar law yn y gwahanol ystorfeydd yn graddol leihau. Y pris yw am A.—Hadau y tymor presenol, o $4.00 i §4.60 y 10 kilo. B.—Hadau newydd o $3.40 i $3.80 y 100 k. C. ,,$2.00 1$2.30 GWAIR (yn marchnad Caballito) mewn bales mawr yn unig Goreu $50.00 i $60.00 y dunell. Ail$30.00 i$40^00 Gwael $18.00 i $25.00 Nid yw y derbyniadau gwair gymaint ag oeddynt, a'r pris o ganlyniad yn tueddu i godi. Cynghorwn ein haelodau i beidio gwneud cytundebau am wair am bris isel, yn y rhagolwg y bydd i brisiau wella yn y dyfodol agos. Nid oes gyfnewidiad yn mhrisiau Gwlan, Grwyn, &c.
LLONGAU.
LLONGAU. RAWSON a'r ARGENTiNowedi cyrhaedd Madryn dydd Mercher, gydallythyrgod a theithwyr. QUINTANA i adael Buenos Aires ar yr 21am cyfisol, yn syth am Madryn. Rio NEGRO yn Madryn.
Advertising
GVBaaEQDDBLVNVDDOh YR Ysgol Ganolraddol Gaiman Nos lau, Awst 6ed.
11 YN A'R LLALL.
11 YN A'R LLALL. Llongyfarchwn yn galonog wyr Y DRAFOD ar eu gwaith rhagorol yn helaethu eu new- yddiadur clodwiw i wyth tudalen fras. Can- moliaeth gyffredinol sydd i'r papur yn ei ddillad newydd, yn mhob man ar hyd a lied y Dyffryn, ac nicl eithafol o gwbl oecld yr hyn ddywedwyd gan berson neillduol y dydd o'r blaen, sef, v deil Y DRAFoD yn awr i'w chydmaru a llawer o newyddiaduron lleol Cymru.
[No title]
Drwg gan ein calon oedd cJywed am far- wolaeth sydyn ac anisgwyliadwy Mrs. M. E. Morgan, Trelew, yr hyu a gymerodd le yn Quebec bell. Un o'r rhai caredicaf, addfwyn- af, a thyneraf a adwaenom erioed oedd y ddi- weddar Mrs. Morgan. Yr oedd bob amser yn barchus o bawb, ac nid yn ami y cyfar- fyddici ac un parotach i gynorthwyo lie bydd- ai angen am Inmy. Bydcl ei lie yn wag yn hir raewn llawer cylch heblaw ar ei haelwyd ei hun. Dwfn y cydymdeimlwn a'r brodyr a'i chwaer, ac yn enwedig a'r hen fam oed- ranus sydd yn wylo ei hiraeth a'i cholled ar ei hoi. -0- Newyddion da ddaeth dros y don gyda'r mail diweddaf, am y Bonwr William Price, Dyffryn Uchaf. Gwnaeth y daith i Gymru,- mae'n debyg lawer oles iddo, a theimla ei hun yn gwelia. Llwyr iaehad iddo yw dy- muniad pawb. Yr wythnos ddiweddafy dechreuwyd go.sod i lawr reiliau ar y darn newydd o'r ffordd haiarn sydd i fod o'r Gaiman i'r Dyffryn Uchaf. Diau y bydd yna dren yn rhedeg ar fyrder. Dywedir fod yna ddau dren y dydd i redeg ar hyd-ddi ar ol ei hagor. Hei lwc, wir! ni fydcl eisieu codi-mor fore wed'yn i fynd i Drelew, na chwaith aros diwrnod cyfan, heb ddim i'w wneud, mewn lie mor anifyr ac afiach. -0- Bobol anwyl! dyna fwd sydd yn awr ar y ffyrdd yn ein trefydd. Yn wir, nid oes llai na rhyw droedfedd nen ddwy am wn i, o slivtch tew mewn llawer man yn y Gaiman, ac nid yw cyftwr pethan fymryn gwell yn Nhrelew. Anrhamwyol bron yw y ffyrdd yn y ddwy dref. Medde clamp o Sais wrthyf heddyw'bore:—"Now, you may choose one out of three things', Stop in the house, ride a horse, or being buried in the mud," ac yn wir, felly yn union y mae. Credwn mewn difrif, y dylai cyflwr ffyrdd ein trefydd fod yn well. Ar b;vv'y ri'Íáe'r bai tybed ? -0- Codi yn ofnadwy wna yr hen Gamwy y dydcliau hyn, ac os deil i godi i'r graddau y cwyd heddyw (dydd Mawrth), fe fydd dros y glanau cyn gwe! y nodynhwn beiriant y DRAFOD, Beth wed'yn ? We]! wel GwyHtiodd ceffyll y Br. Philyp J. Rees y dydd o'r blaen, pan yn dychweiyd adref o'r Gaiman, a thailwyd yntau o'r cerbyd, ond o drugaredd, achubodcl gydag ychydig bach o niwed. Beth ddaeth o'r papur l'hagorol a ddarllen- wyd gan y Br. D. O. Williams, Trelew, yn Ngyfeillach Bryn Crwn, dro yn ol ar Y Weinidogaeth a'r oes?" Gofynwyd ,iddo-fel y cefais ar clcleall gan un oedd yn bresenol yn y Gynhadlecld-i'w argraffu. Fel unsydd wedi, ac yn disgwyl amdano, apeliaf ato am iddo ei anfon i'r wasg. Yn sicr, bydd yn werth ei ddarllen yn bwyllog a myfyrgar. B.C.