Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

LLYTHYR 0 'GYMRU.I

News
Cite
Share

LLYTHYR 0 GYMRU. Derbyniodd Mr. a Mrs. Edward Morgan, Bryn Crwn, y llythyr canlynol oddiwrth eu merch-Mrs. J. T. Evans, Comodoro :— AFONWEN, NORTH WALES, Mai 2iain, 1914- Anwyl Dad a Mam, Dyma ni wedi cyrhaedd Cymru Ian o'r diwedd, ac y mae yn dlws odiaeth; er pan y daethom i olwg tir y ddau ddiwrnod olaf o'r daith gwelwn olwg hollol wahanol arno rhagor a welais erioed o'r blaen,—caeau gwyrdd tlws ym mhob man. Pasiem gydag ymyl Dover, yr oedd tuag ugain o longau rhyfel yn y porthladd, a phasiodd un o'r llongau mawrsycld yn croesi o Calais i Dover ar y pryd, croesant mewn 58 munud y pell- der 021 milldir. Gwelais torpedo hefyd, a'r noson olaf ar y dwr pasiem drefi mawrion ar y lan, ac yr oedd y goleuadau i weld oddiar y llong yn dlws tu hwnt i ddesgrifiad. Ang- orasom allan yn yr afon y noson olaf, gan fyned i'r porthladd yn y boreu. Codasom tua haner awr wedi pedwar i edrych o gwm- pas glaniasom yn yr Albert Docks ychydig latheni oddiwrth yr Hydrolic Bridge, gwelais hi yn agor ac yn cau i long fawr basio dani. Cawsom frecwast am saith yn lie wyth fel arfer. Yi-na.clawal -,T Cicll)en o'r ]lot)- yti union gan ei gadael i ddwylaw awdurdodau y Cwmni, ffarweliodd a'r teithwyr cyn mynd a dyma hwythau yn dechreu canu For he is a jolly good fellow," yr oedd pawb yn hoff iawn o houo. Ar (il i bawb basio ell pethau drwy'r custom house yr oedd tren arbenig yn mynd a ni igyd am Liverpool Station, a dyna lie 'rocdd gwaeddi vivo a hwre pan yn gadael y station a chael yr olwg ddivveddaf ar yr "Highland Glen"; cychwynasom o'r station am 9.30. Yno ffarweliem a'n gilydd i gyd, posibl na welwn ein gilydd eto, trueni hynny onide, ar ol adnabyddiaeth mor dclymunok Aethom ni am Hotel Ivanhoe," ychydig latheni oddiwrth adeilad ardderchog y British Museum, acer fod yno 200 o ystafelloedd nis gallent ddweud ar y pryd, os oedd yno le i ni, cymerasom cwpanaid ac aethom am, ble, meddyliwch chwi,—am unlle llai na'r City Temple, nis gallaf dclesgrifio yr olygfa ichwi, yr adeilad mawr costus, canoedd o bobl yn- ddo, a'r cor bendigedig-y mae ganddynt eu caps a'u cloaks i gyd, eisteddent yn front yr oricL Canent tuhvvnt i ddim glywais erioed, yn enwedig unawd gan un ferch ieuanc, llais hyfryd ganddi, nid ocs geiriau genyfi ddes- grifio y peth. R. J. Campbell oedd y pregeth- wr, ei destyn oedd yn ol y Revised Version Make disciples of all the worlcl,y genhad- aeth oedd o flaen ei lygaid, yr oedd yno gen- hadwr o China yn siarad ar ei ol, am eu gwaith gyda bechgyn China ac yn casglu at hynny ar ol y gwasanaeth. Nis gallaf ddy- weucl I mi cldeall pregeth Mr. Campbell, defn- yddiai eiriau clasurol nad oedd y tipynSaes- neg sydd genyf yn ddigon i'w ddilyn. Mae golwg urddasol iawn arno yn y pwlpud, ei wallt yn wyn fel gwlan, a gwyneb mwyn iawn. Yn y prydnawn, aethom i gerdded y dref, gwelsom rai o bi-if leoecid y ddinas, Westmin- ster Abbey Cof-golofn Nelson, a 11 u o ryf- eddodau eraill, ac wrth basio drwy Charing Cross dyma Tom yn gwaeddi, "look over there," a beth welwn ond llech ar y inur a threfn y mocldiou yn Gymraeg ami, beth oedd yno ond Capel y Methodistiaid, aethom i fewn, ac yn wir yr oedd dipyn yn anhawdd ffeindio'r ffordd i fewn dros yr amryvv risiau yno yr oeddent yn canu i ddechreu, yr oedd y don yn gyfarwydd i mi, ond yn wir ni wyddwn taw Cymraeg ganent nes iddynt basio llyfr hymnall Cymraeg i ni. Yr oecld swn da yno, organ ardderchog ond y geirio ar ol, rhagor canu'r City Temple. Yr oedd dan bregethwr i fod yno,—Williams a Jones, ond gorfu i ni fyned allan cyn y bregeth gan fod Elvina wedi dechreu cadw swn, ac nid oedd yno yr un baby arall nac yn y City Temple y boreu, gallvvn feddwl nad oes croesaw i blant yn y capeli yno. Arol mynd allan beth welem ar y gornel ond Salvation Army wrthi, aethom i wrando arnynt hwy, mae Tom a mwy o olwg ar y rhai yma, cym- hell pechaduriaid at Grist oeddent eu goreu. Yr oedd band bychan ganddynt a chwareu- asant yr emyn "Our help in ages past," chwi welwch nad yw cyfleusderau i addoli y gwir a'r bywiol Dduw yn brin mewn He fel Llun- dain heblaw y rhai yna gwelsom Gapel y Bedyddwyr, French Protestant Church, yn yr ychydig fuom ni o gwmpas, heblaw adeilad rhyfeddol yn perthyn i'r Y. M. C. A. Nid ymhelacthaf gall fy mod am ysgrifenu i'r plant ac i Comodoro. Yr ydym yn iach ond wedi blino, ac nid rhyfedd mae'r baby yn drwm iawn i'w chario o gwmpas. Cofion anwyl a chynes ein tri, MARGARET.

Ysgol Sul Bryn Crwn.I

ER COF