Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
AT EIN GOHEBWYR. I
AT EIN GOHEBWYR. Dymunwn gydnabod yn diolchgar dderbyn- iad ysgrifau oddiwrth Nonconformist; Prysor; Adolygiad ar Ddarlith y Br. D. Ial Jones ar Socialaeth.
Hyfrydwch (?) y Gwasanaeth…
Hyfrydwch (?) y Gwasanaeth Milwrol Taith Anghysurus y Milwyr Rhestr- edig o'r De i Buenos Aires. Y mae genym eto i alw sylw at y dull creulon yr yiiiddyl-lir at y milwyr rhestredig Argentaidd. Dylai diofalwch anfaddeuol parhaus ein hawdurdod milwrol o'u dyled- swydd i wylio dros iechyd a chysur ein dyn- ion ieuainc sydd yn cael eu galw i'r gwasan- aeth, gael ei ddadlenu bob tro y digwyddo fel na bo y wlad yn anwybodus o'r hyn gym- er le o dan reolaeth ein swyddogion milwrol. Dau ddiwrnod yn ol, derbyniodd y cyn- rychiolydd seneddol Dr. Repetto, y wefreb ganlynol o Borth Madryn Yn yr agerlong Camarones sydd i gyr- aedd yna yfory, teithia y milwyr sydd wedi eu galw o'r diriogaeth hon, wedi eu pentyru ar eu gilydd fel pe buasent anifeiliaid, gan fod yn y Hong fwy o deithwyr dair gwaith nag oedd o le iddynt. Y mae yn gywilydd fod atnddiffynwyr ein gwlad yn cael eu cludo mewn dull mor annynol. Y mae y rhan fwyaf o honynt yn gorfod cysgu heb ddiih o danynt, a dim ond gwrthban i'w cadw rhag yr oerni mawr. Dymunwn arnoch geisio cael gwybod pan gyrhaedda y Hong, yn mha gyflwr y glania y trueiniaid, modd y gellwch roddi gwybod i'r awdurdodau goruchel, er rhoddi y cyfrifoldeb ar y sawl y perthyn iddo, ac na ail ddigwyddo y creulonderau hyn sydd yn sarhad ar ein diwylliant cenedlaethol, ac i ddynoliaeth yn gyffredinol." Wedi gwybod am y wefreb uchod gwnaeth- om bob brys i anfon un o gynorthwywyr y newyddur hwn i weled yn mha gyflwr y cyr- aeddasai y milwyr ieuainc. Perthyn y Camarones i gwmni Hamburg South American, yr hon gyrhaeddodd i'r Darsena Sud ddoe yri llwythog o deithwyr, nwyddau a milwyr rhestredig. Enwir hwynt yn y drefn uchod, er dangos hunangarwch dinystriol y cwmni llongau a diofalwch neu ddiffyg trefn o du y gweinidog rhyfel. Gwnaeth y milwyr y daith o bellderoedd y De heb ddadwisgo i orphwyso, ond gorwedd yn eu dillad blith draphlith ar y dec. Yr oeddynt yn dri neg pump o rifedi, yn Uanciau iach a chryf, y rhai gyda eu bod wedi eu galw i'r gwasanaeth milwrol ddechreuasant deimlo gerwinder eu sefyllfa newydd. Fel bwndeli wedi eu cyfeirio i'r gweinidog rhyfel cyrhaeddasant i Buenos Aires boreu ddoe, wedi treulio dwy noson yn yr awyr agored ynghanol oerni anioddefol, a dim ond gwrthban (oedd wedi gweled dyddiau gwell) bob un i'w cadw rhag yr oerfel. Buom yn siarad ag un o honynt, yr hwn a gwynai yn dost oblegid yr anghysur ddioddef- asant mewn canlyniad i'r oerni mawr a'r diffyg dillad priodol i gadw ein hunain rhag- ddo. Dywedodd y Cad ben wrthym, ei fod o herwydd fod y Hong mor llawn, wedi methu cael lie iddynt yn unman ac felly wedi gorfod eu gadael i wneud goreu gallent ar y dec, gan iddo gael gorchymyn pendant i'w cymeryd ar y bwrdd. Am naw o'r gloch y boreu, cymerwyd y milwyr i'r barracks yn Calle Caseros o'r He y rhenir hwy i'r gwahanol gadrodau. Er fod y dechreuad inor druenus i'r milwyl ieuainc, y mae cyni a dioddef mwy yn or oblegid y mae disgyblaeth a rheolaeth y barracks yn cymeryd yn ganiataol fod pob milwr yn wrthwynebol i bob ufudd-dod ac yi-aroddiad.O La Vangnardia am Mehefin. NODIAD.-Teg a Chadben y llong yw gwneud yn hysbys iddo ef rybuddio yr awdurdod- au yn Nhrelew, cyn i'r bechgyn gychwyn, o'r fan yma-" Nad oedd ganddo le i neb o honynt ar y bwrdd," ond ymaith a hwynt yn y tren ar fore gwlawog, heb droedfedd o le sych i sefyll nac eistedd am fod y cer- byd yn gollwng fel rhidyll.
11 V FARCHNAD
11 V FARCHNAD Nid oes gyfnewidiad o bwys yn mhrisiau cynyrchion yn Buenos Aires er yr wythnos o'r blaen, ond y mae y farchnad am hadau alfalfa yn dechreu bywiogi. Disgwylir am- genach prisiau yn fuan.
- ..-......---.LLONGAU.
LLONGAU. CAMARONES o Buenos Aires, i'w disgwyl yn Madryn heddyw (dydd Gwener). MITRE i'w disgwyl, ar ei ffordd o'r De. RAWSON i adael Buenos Aires ar yr neg, yn syth am Madryn. FLAMENCO o Loegr i'w disgwyl i Montevidio ar y 5ed cyfisol. ARGENTINO i adael Buenos Aires ar yr neg, am Madryn.
JVIovirrslento de Vapores.
JVIovirrslento de Vapores. ARGENTINO saldra de Buenos Aires el I I de Julio, via Montevideo. ASTURIANO llegara el I I del corriente a Bue- nos Aires. ATLANTICO en Buenos Aires. CAMARONES de Buenos Aires, esperado en Madryn el 10 de Julio. RAWSON saldra de Bs. As. el I I de Julio directo. MITRE del Sud, esperado en Madryn el IT del corriente. FLAMENCO de Inglaterra, esperado en Monte- video el 5 de Julio.
Advertising
CYflGtfEflDD BLYfiYDDOIi YR Ysgol Ganolraddol Caiman • Nos tau, Awst 6ed. Remate de arboles frutales en Gaiman quedo postergado para los dias LUNES y MARTES, 13 y 14 de Julio.
Edicto Judicial.
Edicto Judicial. Por disposicion del Senor Juez Letrado Suplente del Territorio Nacional del Chubut, Doctor ANGEL SORIA MENA, se cita, llama y emplaza por el termino de treinta dias a contar descle la primera publicacion del pre- sente Edicto a todos los que se consideren con derecho a los bienes dejados por falleci- miento de Don Juan J. Roberts, ya scan co- mo herederos 6 acreedores para que dentro de dicho termino comparezcan por ante su Juzgado y Secretaria a, cargo del autorizante a declucir sus acciones en forma bajo aperci- bimiento de lo que hubiera lugar por dere- cho. Rawson, Junio 12 de 1914. JUAN A. MAYO-Pro-Secretario.
DA A DRWG. PA BETH YDYNT ?
DA A DRWG. PA BETH YDYNT ? PARHAD. Clywir yn fynych y dywediad,—"jGwna dy ddyledswydd, deled a ddelo." Sylwer mai nid gwybod ond gwneud dyledswydd ddywedir. Gellir gwybod heb wneud. Gweithred o eiddo y deall yw gwybod, ond gweithred o eiddo'r ewyllys yw gwneud. Nid oes gweithred foesol os nad yw yn tarddu o'r ewyllys. Effaith yr ewyllys yn dewis yn rhydd ae hamddenol yw y Cwymp, a dyma ffynhonell anrhefn mwyaf y byd. Ewyllys allan o drefn sydd yn cyfrif am gyflwr truenus y byd, ac y mae dynion yn dioddef oherwydd anrhefnusrwydd eu hewyllys eu hunain neu ewyllys rhywun arall. Pan gyflawnir dyledswydd dylai llawenydd ddilyn, ac felly Da yw yr hyn ddylai fod. Diwrnod ar ol diwrnod gwelodd Duw mai Da oedd ei waith. Paham? Am ei fod i fyny a'r drychfeddwl difai a perffaith. Dengys y gwaith fod meddwl y Gwneuthurwr mewn trefn hollol ac felly y mae y cread yn Dda—yr hyn ddylai fod. Fel y daeth dyn allan o law ei Greawdwr yr oedd yn dda, yr oedd yr hyn ddylai fod; fel y daeth dyn allan o'i law ei hun y mae yn ddrwg-y mae yr hyn ni ddylai fod, a dyma'r anrhefn sydd yn peri blinder a phoen, a chofier fod rhyw ewyllys yn gyfrifol oherwydd ei bod allan o drefn. Y mae Plato yn gosod allan Da fel haul y meddwl. Gwyddom werth yr haul yn myd natur. Cynwysa yn ei lewyrchiadau wres a goleuni a hyn sydd yn cyfrif am waith y rhosyn yn gogwyddo ei ben atto. A dywedir wrthym fod Da-haul y meddwl —gwir oleuui y rheswm yn cynwys yn ei lewyrch ddyledswydd a dedwyddwch; a dyma paham y mae ein henaid yn troi ato. Y mae'r enaid, meddir, heblaw pan y troir ef o'i ogwydd naturiol, bob amser yn troi tua'r Da, ac yr ydym yn ei edmygu nid yn y ffurf o ddyledswydd, ond ynddo ei hun am ei fod y prydferthwch pennaf. Gwir ymborth enaid yw gwneuthur ewyllys ei Greawdwr ac heb hyn newyna, dirywia, a threnga yn ysbrydol. Gwyddom pa beth sydd Dda ac yr ydym yn ei edmygu er nad yn fynych yn ei welthredu. Onld oes dynion drwg yn canmol dynion da, egwydd- orol ? Pa fodd, gofynwn, y mae deddfau da yn cael eu cymeradwyo gan ddynion drwg ag sydd yn anufuddhau iddynt? Ie, pa fodd y mae y ddeddf foesol yn cadw ei safle er fod dynion yn gyffredinol yn euog o'i thorri? Y hi, wedi'r cyfan, yw y Ddeddf. Torrir hi yn amlach nag unrhyw ddeddf, ac etto yn mhlith holl ddeddfau'r byd ffurfia hon ddosbarth ar ei phen ei hun yn mharch dynion tuag atti. Pan dwyllir meistr drwg gan was drwg fe'i condemnia yn Ilym, ac yn ei waith yn condemnio Drwg y mae yn cymeradwyo Da-yn cymeradwyo y ddeddf foesol. Cofiwn y tri deffiniad gawsom o H Dda" yn yr ysgrif ddiweddaf. Gwelwn fod dyn, er yn ddrwg ei hunan, yn cym- eradwyo Da ac yn condemnio Drwg. Yn ol cynwys dysg'eidiaeth y ddeddf foesol gwelir mai dyledswydd pob dyn yw cysegru ei fywyd er daioni cyffredinol cymdeithas a gwneud hyny mewn cydymffurfiad a'r drefn gynwysedig yn y ddeddf foesol. Crynhoir pob dyledswydd i dri dosbarth:—Dyled- swyddau hunanbarch. Peidio darostwng ein hunain i fod yn gydradd a'r creaduriaid direswm trwy wneud ein henaid yn gaeth- was i'r corph, Y ddyledswydd gyntaf enwir, felly, yw caru hunan-car dy o- mydo- fel by ti dy hun. Yr ail ddyledswydd enwir yw, dyledswyddau cyfiawnder. Yma gelwir arnom i barchu hawliau cyfreithlawn ein cyd-ddynion, ac i gondemnio yr hyn sydd niweidiol i gymdeithas. Ceir cynwys yr ail ddosbarth yn y geiriau, car dy gymydog fel ti dy hun. Y trydydd dosbarth o ddyled- swyddau yw, dyledswyddau cymwynasgar- wch. Oddiwrth y tri dosbarth o dyled- iwyddau, canfyddir fod natur i fod yn ddarostyngedig i'r meddwl, a'r meddwl i gael ei lywodraethu gan ddeddf cymwynas- garwch. Y mae y dyledswyddau hyn yn argraffedig ar y rheswm a'r gydwybod ac yn deimladwy ynom. I'w barhau.
Advertising
'"¡¡ ) Peidiwch prynu » AUTOMOBILE < ¡AUTOMOBILE ¡ ) eln prlSlau. ) ¡:¡ AUTOMOVILBS  precios. S antes de consultar nuestrosl c" 7W. I C. jf??t c. |