Hide Articles List

3 articles on this Page

1919. I

News
Cite
Share

1919. ADOLYGIAD BERIAH. Fel rheol bydd masiiachwr, ar der- fyn blwyddyn, yn tynnu allan ei fantol- en gan ddangos ei ennill a'i golled, er gweled sut y saif wrth wynebu blwyddyn newydd. Da fyddai i gen- edl \vneuthur yn gyffelyb. Da ar ddiwedd blwyddyn yw gaiw i gof ei digwyddiadau, er da neu- er drwg. "Cofia y dyddiau gynt," ebe Moses wrth feibion Israel, "gofvn i'th dad, ac efe a fynega i ti'; i'th henuriaid, a hwy a ddywedant wrthyt." Ni fwriedir yn yr ysgrif ferr hon wneud mwy na thaflu brasolwg yn frysiog dros rai o brif ddigwyddiad- au'r flwyddyn yn eu perthynas a ni fel cenedl. 0 angenrheidrwydd mewn vsgrif b'r fath rhaid gadael allan lawer o bethau y byddai yn dymunol eu cynnwys. Ond dichon y gwasan- aetha yr hyn a gynhwysir fel cymorth i alw i gof rai o'r pethau y dylid eu cofio, ac a allant, o bosibl, dylanwadu vn fawr ar ddyfodol ein cenedl. Y Byd Cydgenedlaethol. Mewn ystyr arbennig cvfrifir igig fel blwyddyn hynotaf hanes gwledydd y byd yn eu cysylltiad y naill a'r Hall. Yn 1914 gyrrwyd holl wledydd cred i yddfau eu gilydd. Yn 1919 y gwnaed cymod, a thrwy Gynghrai y Cen- hedloedd ceisir dysgu i'r cenhedloedd y wers a ddysgodd Abraham i Lot pan ddywedodd, "Na fydded cynnen rhyngof fi a thi, o herwydd brodyr ydym ni." Cydnabod cydfrawdoliaeth dyn yw amcan mawr y Cynghrair. Cynhwysa hanfod dysgeidiaeth Crist. Os llwydda, cyflawnir proffwydoliaeth Micah, "Efe a farna rhwng pobloedd lawer, ac a gerydda genhedloedd crvfion hyd ymhell; a throant eu cleddyfau yn sychau, a'u gwaewffyn vn bladuriau, ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysg- ant ryfel mwyach." Golyga hynny ddiarfogiad cyffre- dinol; gwasgaru pob byddin ysgafn- hau beichiau aruthrol militariaeth, a throi gallu dinystriol mwyaf y byd yn allu cynhyrchiol digyffelyb. Cri y Llywodraeth heddyw yw: "Rhaid cyn- hyrchu mwy ateb Cynghrair y Cen- hedloedd yw: "Gyrrer ynte filiynau milwyr y byd at waith er budd dynol- iaeth. Dyna'r ffordd i gynhyrchu mwy." Hir gofir 1919, ynte, fel blwyddyn fawr dechreu'r gwaith da. Y Byd Seneddol. Y flwyddyn hynotaf hefyd yn holl hanes gwleidyddiaeth Prydain fu'r flwyddyn 1919. Fel canlyniild i Eth- oliad Seneddol Rhagfyr llynedd, ffurfiwyd Senedd na welwyd ei bath o fewn cof hanes. Dyma rai o ffrwyth- .au amlycaf yr Etholiad 1. Y Senedd fwyaf Geidwadol, o ran pleidiau politicaidd, a welwyd o fewn cof. 2. Y Prif Weinidog mwyaf Rhydd- frydol ei ddaliadau a welodd Senedd Prydain erioed. 3. Y Llywodraetb- Gymysg ryfeddaf a welodd y wlad, neu o bosibl y byd erioed. Ynddi cyflawnwyd yn llyth- rerinol ran o broffwydoliaeth Esaiah: "V blaidd a drig gyda'r oen, a'r llew- paid a orwedd gyd a'r mynn; y llo hefyd, a chenaw y llew, a'r anifail bras a fyddant ynghyd-a bachgen bychan a'u harwain, a'r llew, fel yr ych, a bawr wellt." Nid wyf mor sicr ei bod yn gwirio diwedd y broffwydol- iaeth sydd yn dweyd, "Ni ddrygant ac ni ddifethant canys y ddaear a fydd Hawn o wybodaeth yr Arglwydd. 4. Hanner dinystriwyd peiriant mawr Rhyddfrydiaeth, yr hwn yn y dyddiau gynt a fu a wnaeth gymaint i hyrwyddo egwyddorion rhyddid mewn deddfwriaeth. 5) Cafodd Plaid Llafur ei hail eni, ac eisoes yn y rhagolwg am ddal cyn hir awenau'r Llywodraeth, "ei meibion a'i merched a broffwydant, ei henuriaid a welant freuddwydion, a'i gwyr ieuainc a welant weledigaethau." A gyflawnir y breuddwydion, ac a sylweddolir y gweledigaethau, sydd gwestiwn arall. Gorffwysa hynny yn nwylaw gwerin y wlad, canys wrth y rhai sydd yn llywodraethu, yn ogvstal ag wrth y sawl a chwenychant eu lie, gellir dywedyd "Nac ymffrostia o'r dydd yfory, canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod." Eithr o holl rannau Prydain Fawr, Cymru a safodd gadarnaf adeg yr etholiad. Danfonodd fwy o gyfartal- edd o Ryddfrydwyr, a mwy o gyfar- I taledd o Aelodau Llafur, i'r Senedd newydd nag a ddanfonodd Lloegr na'r Alban. Ni pherthyn i ni ddehongli yr hyn a olyga hyn y tro nesaf. Byd Llywodraeth Leol. Mis Mawrth 'cafwyd Etholiad y Cynghorau Sir, a'r Cynghorau Tref, Seneddau lleol ein gwlad. Yn yr etholiadau hyn gweddnewidiwyd y Cynghorau. Esgynnodd Llafur i'r Lorsedd mewn ami i fan; daetb mor agos iddi mewn mannau eraill, fel y gwel ami un a lywodraethai yn ol ei fympwy ei hun gynt, yn awr ym mreuddwydion nos megys Haw yn ys- grifennu ar galchiad y pared, "Mene', mene, tekel upharsin. "Syrth cyfrifol- deb mawr a thrwm ar ysgwyddau Llafur fel canlyniad i'r digwyddiadau hyn. Byd y Merched. Blwyddyn y Merched hefyd a fu hon. Yn Etholiad Senedd 1919 y cawsant lais am y tro cyntaf. Cawsant hefyd yr hawl i gael eu hethol iddi. Gwelwyd am y tro cyntaf erioed I chwaer yn Aelod Seneddol. Ac er gwrthod b'r Arglwyddi agor drws eu Ty hwy i Arglwyddes Rhondda, mae'r amser yn agos pan ganiateir hawl merch i fyned yno hefyd. Agor- wyd i'r ferch hefyd ddrysau gai- wedigaethau a gedwid gynt fel "pre- serves i'r dynion mor ofalus ag y cedwir "pheasants ar dir y sgweier, Bellach gall merch weithredu fel cyfreithiwr, neu fargyfreithiwr mewn llys, a chyn hir gwelir hi yn eistedd yn sedd y Barnwr—ac, o bosibl, yn gyrru ei gwr i garchar am droseddu'r gyfraith Y Byd Gwleidyddol. Yn y byd gwleidyddol gwelwyd cau allan o'r Senedd arwyr gwleidyddol fel Mr. Asquith a'i brifgefnogwyr. Collodd Cymru wasanaeth dewrion gonest fel Mr. E. T. -John a Mr. Llew- elyn Williams, a sonia Mr. Tom Rich- ards am ymneilltuo o'r^Senedd. Eithr nid yw* y diwedd eto. Mae crochan gwleidyddiaeth yn berwi yn fwy fifrochwyllt nag erioed. Digwyddiad hynod oedd gwahodd Mr. Asquith i Aberystwyth, yn cael ei ganlyn gan araith fawr y Prif Weinidog yn Man- chester, a honno drechefn gan ail, er- gyd Asquith yn yr un dref-a'r oil yn profi fod bnvydro mawr gerllaw. Y Byd Eglwysig. Tri digwyddiad mawr y byd eglwysig oeddent:— i. Claddu eweryl Datgysylltiad a Dadwaddoliad yng Nghymru. 2. Helaethu sylfeini CyDgor Cen- edlaethol EglAysi Rhyddion Cymru. 3. Gwaith Corff y Methodistiaid Calfinaidd yn estyn cortynau ei bres- wylfeydd i fyd Llafur drwy sefydlu argraffwasg o'i eiddo ei hun. 0 bosibl mae yn y cysylltiad hwn hefyd y dylid cynnwys, Y sgol Haf Mr. Gwilym Davies ynglyn a gwas- anaeth cymdeithasol, mudiad a rydd agwedd ymarferol i broffes yr eghvysi. O'r un nodwedd yw Mudiad "Oes y Plant" a fugeilir gan Mr. Vivian Rees, Caerdydd. Arwyddocaol iawn yw penderfyniad awdurdodau Coleg y Bedyddwyr yng Nghaerdydd i gyn- orthwyo'r myfyrwyr i drwytho eu meddyliau yn addysg ac athrawiaeth y jnaes newydd hwn. I Byd Addysg. Gwelodd igig ddechreu gweithio Deddf Addysg Fisher, a dechreu gweithredu yn hyn a gymeradwyai y Ddirprwyaeth Frenhinol ynglyn a Phrifysgol Cymru a'i Cholegau. Gwelodd newid dau o'r tri Phrif- athro, gan ddyrchafu Proffeswr Trow yng Nghaerdydd, a Mr. J. H. Davies yn Aberystwyth. Gwelodd wneud tri- awd y Colegau yn bedwarawd drwy roi safle Coleg Prifysgol i Goleg Abertawe. Gwelodd waddoli Coleg Aberystwyth ag ugain mil o bunnau at amcanion addysg mewn arrraethydd- iaeth, a deng mil ar hugain arall i sefydlu Cadeiriau yno mewn Gwlad- weiniaeth Gydgenedlaethol, mewn Llenyddiaeth Gymreig, ac mewn Daearyddiaeth. s Gwelodd hefyd athrawon Cymru yn ymysgwyd er hawlio cael cystal- cyflog a heddgeid- wad! Byd yr Anghydfodau. I ;Gwiriodd amI i ddosbarth y gair, Yn y byd gorthrymder a gewch." Cwyna'r deuluvddes fod pris y bwvd a rheidiau eraill bywyd yn afresymol o ¡ uchel. Cwyna'r babanod na chant laeth, a chwyna'r mamau fod y pris a ofynhir, ie, ac a fynnir ei gael, yn ei gwneyd yn amhosibl iddynt (idiwallu angen y plant. Mae y Pwyllgor a benodwyd gan Bwyllgorau Bwyd y Deyrnas i wneud ymchwiliad i'r mater yn hysbysu yn groew nad oes sail i'r haeriad na ellir cynhyrchu llaeth am lai o bris na'r crocbris presennol. Rhyddhawyd pob bwydydd o lawer o'r "rheolau" a lyffetheirient gwsmeriaid a masnachwyr—ond parheir i gadw byddin fawr o swyddogion y bwyd drwy'r holl wlad, a phob swyddog yn cael cyflog uchel. Bu helynt mawr ym myd y glo pan ychwanegwyd chwech su-llt y dunell at ei bris-a helynt cymaint a hynny pan ostyngwyd chweugain ar y pris drachefn. "Os ceisir gennyf es- bonio'r paham am y codiad neu'r gostyngiad, rhaid yw ateb, "Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddiwrthi." Anghydfod a, beryglodd bob olwyn mewn masnach a' holl gysuron pob cartref drwy'r deyrnas oedd Strcic y Rheilffyrdd. Sethvyd hi, eithr am dymor yn unig. Pan wyf yn ysgrifennu hyn mae tymor y cadoediad yn cyflym ddirwyn i ben. Terfyna dydd gras yn y "watchnight eleni. Ar hyn o bryd ymddengys yr arwyddton yn addawol am gymod. Byd Anturiaethwr yr Awyr. Ni wehvyd yn holl hanes dynoliaeth flwyddyn ryfeddach i'r anturiaethwr. Mae dyn wedi cymeryd "adenydd y wawr ac wedi "trigo yn-eithafoedd y mor, "Marchogodd hefyd ar y cerub, ac a ehedodd; ie, efe a ehedodd ar adenydd y gwynt." Croesodd For y Wervdd yn ol ac ymlaen ar hyd. y Chvybr Llaethog yn yr entnch uwch- ben. Ehedodd o Brydain i Awstralia gan brofi ei hun" yn llythrennol Ar- glwydd y Greadigaeth. Dyna un o ffrwythau daionus y rhyfel a symbyl- odd ddyfais dyn. Byd Barddas. 1 Teimlir yn dra chyffredin fod Eis- teddfod Genedlaethoi 1919 wedi cychwyn cyfnod newydd ym myd Barddas. Swn diwygiad a glywid ar bob Haw. Mynnir diw^^io'r Orsedd, a Chymdeithas yr Eisteddfod, a gwneud y naill a'r llal1 yn ysbryd yn bywhau llenyddiaeth Cymru. Yn y cysylltiad hwn gwelir, posibilrwydd mawr yn y mudiad i ddiwygio cerddor- iaeth yr Eisteddfod a'r Genedl. 0 lywio yn ddoeth geill yspryd diwygiad wneuthur gwrhydri; o'i gam-lywio b OJ geill ddwyn trychineb. Yn yr un cysylltiad, efallai, y gweddai gynnwys sylw ar y deffroad ym myd y Ddrarna yng Nghymru. Mae "Wythnos y Ddrama yn Aber- tawe, yn y Rhondda, yn Aberystwyth, a mannau eraill, yn beth i'w groesawu. Mae gwaith Pwyllgor Eisteddfod Genedlaethoi 1921 yn cynnyg gwobr hael am gyfansoddi drama i'w pher- fformio yn yr Eisteddfod honno yn gam ymlaen llawn mor bwysig. Byd Ymreolaeth. Er fed Mcsur Ymreolaeth i'r WTerddon wedi cael ei ohirio un- waith eto, mae ysbryd cenedlaetholdeb a'i hawliau yn fwy byw nag erioed. Caniatawyd Mesur o Ymreolaeth i'r India. Danfonwyd' Dirprwyaeth i'r Aifft er cael gweled pa fodd i ganiatau cyffelyb hawl i frodorion y wlad honno—a Chymro glan gloew, y Cad- fridog Syr Owen Thomas, yn aelod o honi. Yn araf ond yn sicr mae Cymru yn gwthio ymlaen i'r ffrynt. Er ei holl ddiffygion mae penodiad Bwrdd Iechyd i Gymru yn gaffaeliad drwy gydnabod hunaniaeth cenedlaethol y Dywysogaeth. Mae sefydlu Undeb Cenedlaethol Ffermwyr Cymru, er yr amheuaeth ynghylch yr amcanion sydd o'r tu 01 iddo, yn gam pwysig yn yr un cyfeiriad. Gwna Undeb y Cymdeithasau Cym- raeg o bosibl fwy na dim arall i wasgu hawliau Cymru i'r ffrynt. Helaeth- wyd terfynau teyrnas yr Undeb eleni i'r Gogledd-rhinbarth anawdd ei deffro fel rheol. Bydd y dystiolaeth a roddir ar ran yr Undeb o flaen y Ddir- prwyaeth sy'n edrych i mewn i am- gylchiadau Addysg Ganolradd Cymru yn amhrisiadwy. Yr oedd gwenwyn marwol Dic Shon Dafyddiaettf yn lledu drwy wahanol gylchoedd bvwyd cyhoeddus Cymru. Drwy weithgar- wch aphenderfyniad vr Undeb, a thrwy weithredu ar egwyddorion Cym- deithas Siarad Cymraeg Gwylfa, ac ar gymhellion Gwili a "Wil Ifan a-'ucyel- yb y medr Cymru brofi oreu ei hawl i Ymreolaeth. Anffawd i'r mudiad mown cylch eangach oedd gorfod gohirio y Gyngres Geltaidd oedd i gyfarfod yn Edinburgh. Streic Gwyr y Rheil- ffordd yn unig oedd gyfrifol am y gohiriad. Dichon er hynny y daw eto dda o'r drwg hwn, ac y bydd y Gyngres. ohiriedig a gynhelir y Sul- gwyn, nesaf yn fwy llewyrclius ac yn hvy pendant yn hawlio rhyddid a breintiau cenedlaethol i'r Celtiaid oil. Yn y cyfarnser gweithied holl ganghennau yr Undeb ymhob man yn ddylal a diflino i greu syniad cy- hoeddus iach dros hawliau Cymro, l Cymru, a Chymraeg. i Er Cof. Erys eto y gorchwyl poenus o dywallt deigryn hiraeth ar ol yr ar- weinwyr coll. Ni wnaf ond nodi ychydig o'r dynion da a gollwyd yn 1919, ac o'u colli y rpae Cymru gym- aint tlotach. Haedda pob un o honynt ysgrif iddo ei hun—a haedda amI un arall le amlwg yn y rhestr anghyflawn hon :— Y Prif-athrc/ T. F. Roberts, Aber- ystwyth, a wnaeth gymaint: dros addysg, ac addysg Gymreig, ei wlad. Y Parch. Hugh Jones, D.D., Bangor, un o golofnau cadarnaf Wesleyaeth a Chrefydd Cvmru. Y Parch. D. Stanley Jones, Caer- narfon, ar ol gweinidogaeth effeithiol ynghanol prysurdeb y Rhondda, a thawelwch Sir Benfro a Gogledd Cymru. I 'Yr Henadur S. N. Jones, Cas- Yr Henadur S. jojies, ('as- newydd, ynghanol ei afiaeth o blaid Ymreolaeth i Gymru. Y Rarch. Ellis James Jones, y tref- nydd medrus, a'r Parch. BarroW Wil- liams, a'i hyawdledd swynol yn gadael Corfr y Methodistiaid yn dlotach lawer mewn Pwyllgor a Phwlpud. Elfyn, y bardd, a weledd amJ i bro- fedigaeth. i- l ia. hvii oil n;i fedral Dvnion oedd y rhai hyn oH na fedrai Cymru tlorddio eu couL Disgynned deuparth o'u hysbryd ar y sawl sydd eto yn aros, a bydded eu hesiampl yn ysbrydiaeth i'r to sydd yn codi.

O r Gogledd.

CYMRODORION ABERDAR.