Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Yr Ysgol Gymraeg. I

News
Cite
Share

Yr Ysgol Gymraeg. I ATEB I "DOSBARTH Y TRI." Gofynnir i mi Benderfynu dadl sy rhwng y "tri wyr" hyn ynglyn a threiglo'r berf-enw nbod'" ar ol (i) berf-enw arall, (2) ffurf amhersonol berf. Dadleua un or tri na ddylid treiglo. 'bod" yn yr achosicn hyn, tra dywed y ddau arall nad oes eisiau bod mor gaeth i hyn gan fod rhai lienor- ion o fri yn rhoi'r sain feddal i "bod" mewn cysylltiadau o'r fath. Wel, fy marn i yw y dylid ym- ddwyn yn deg tuag at bawb a phopeth fel ei gilydd, a chan na threiglir berf- enwau eraill yn yr achosion hyn, ni ddylid trtugio "bod" chwaith, eithr dylid "sgrifennu, "Cofio' bod, dywed- yd bod, etc., dysgir bod, dywedir bod, etc." Mi wn i yr ysgrifenna lie nor ion o fri "cofio fod, dywedyd fod, etc., dysgir fod, dywedir fod, etc. ond y mae'r panam y gwnant hynny'n dywyllwch i mi, ac yn sicr, hyd y gwelaf i, ni ddylent roi'r sain feddal yn yr achosion hyn. Gofynnir hefyd pa ffurf a ddylai ''bod" gymryd ar ol "efallai, oher- wydd," etc. Y mae'n debig y daw, "ond, er, hwyrach, oblegid, eithr," a llu o eiriau eraill i mewn yn yr ''etc." sydd yn llythyr "Dosbarth y Tri." Ni ddylid rhoi "bod" yn y sain feddal ar ol y geiriau hyn chwaith, oddeithr hwyrach ar ol "efallai" %s cymerir ei swydd wreiddiol h. y. fel berf i ystyr- iaeth, fel hyn "ef allai" (it is poss- ible). Gwelir y ffurfiau anghywir hyn yn ami iawn, ond fod, ac fod (yn lie "a bod"), er fod, oblegid fod, oher- wydd fod, etc.. "Bod" yw'r ffurf gywir ar 01 pob un o'r geiriau hyn. Yr .ail ofyniad yw, Beth am "heddiw, tebig, cynnig," etc. Def- nyddir y ffurfiau "heddyw, tebyg, cynnyg, etc." gan y mwyafrif o sgrif- emvyr heddiw. Yn ddilys ddiameu y ffurfiau blaenaf yw'r ffurfiau hynaf, a cheir hwy yn odli A geiriau yn "iw" ac ig. Dyma i chwi enghreifftiau 0, rai o'r geiriau hyn gan y beirdd i gadarnhau'r gosodiad uchod :— Dwys oedd dwy wefus heddiw, Ar enau Hen o'r un lliw. Myn y Gwr a fedd heddiw, Mae gwaew i'm pen am wen wiw. Nid oes fyd na rhyd na rhiw, Na Ile rhydd, na llawr heddiw. Trwy ei hun y trawai hwrdd, Tebig i ganu tabwrdd. Annhebig i'r mis dig du, A gerydd i bawb garu. Deune geirw, dyn a garaf Dan frig, a'i rhyfig yw'r haf. Doe ym mherigl y ciglef Ynglyn aur angel o'r nei. Ond dychmygiofo dynion dig A charu oedd pob dychymyg. Eraill a rydd, deisnydd dig, Am y tal im het helig. D. Ap G. Mhvsig ar gerrig i gyd, Mesuraw maes ei wryd. Tudur Aled. Dyn, o gorwedd dan gerrig, Dan dy draed, Un Duw, a drig. Hywel Dafydd. Rhinwedd mab leuan feddig Ar dy rudd fal aur a drig. Lewis Glyn Cothi. .A'i fwng yn debig ddigon I fargod ty, neu frig ton. Guto'r Glyn. Herwydd nas gwnai ddyhirin Feritro ei oes o fewn trin. Sion Tudur. Tydi Lyn, nid du dy liw, Tyddyn y gl?r wyt heddiw. Morus Dwyfach. Ar y Haw arall, fe ,eir "heddyw? b gan Wm. Llyn yn y cwpledau a gan- lyn:- Pe canwn tra fyddwn fyw I rai a'i haeddai heddyw. Gwae Wynedd na bae heddyw Gant yn fud ac yntau'n fyw. Felly fe welir bod y ffurf "heddyw" n hen, eithr y ffurf "heddiw" yw'r hynaf. A gellir dywedyd yr un peth am y ffurfiau eraill ag "i" ynddynt, a digwyddodd y cyfnewidiad o i" i "y" drwy ffug gyfatebiaeth (false analogy) yn y ffurfiau deilliedig o'r geiriau hyn, megis "meddygon, teb- ygu, peryglon, peryglus, cynhygiaf, etc. Dim ond i ni daflu golwg dros y ffurfiau Lladin o'r geiriau hyn gwelwn'mai "i" sydd i fod ynddynt, e.e., cynnig (condico), perigl (peri- culum, peric'lum), meddig (medicus). N'i welaf i un rheswm yn y byd dros beidio a glynu wrth yr hen ffurfiau heddiw, tebig, etc. Ceir gair ar y gvveddill or gofyniadau'r wythnos nesaf. Diolch yn gynnes i "Ddos- barth y Tri" am eu geiriau caredig.— Yr eiddoch, SAM YR HALIER.

Lly, thyran at y Gol.

IINewyddion. II

Advertising

[No title]

OYOOIADUR EISTEDOFODAU, etc.…