Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
fihamant y Rhos (MGELONA), Yn awr vn  .) a r o d. Yn awr yn barod. Pris loc. Orwylr post ls. -Anfoner yr archebion i: Moelona, Pantybugail, Glais, Swansea.
PETH O'R CYNNWYS.
PETH O'R CYNNWYS. Y Crane — Gwersilr Streic 2 Iwerddon gan T. Cwynn Jones 3 Meddyliau Crwydr 3 H!thy Go!. 4 Senetd a Seneddwyr jj Byd y Bardd a'r Lienor 6 Undeb y Bedyddwyr 7 Y Cymdeithasau 7
BWRDD Y GOL.
BWRDD Y GOL. Mewn Liaw.-Colofn y Celt, Cwmsyfiog, Llith y Tramp, Ffydd a Gweithredoedd Lloyd George, 0 Gwm Gwendraeth, Nod- ion o Wlad Mvrddin, Chwaon o Geredig- ion, Tonyvefail, Caerffili, Cymrodorion Abertawe, Tylorstown, Gorsemon, Tai Bwyd i'r Bobl.
I Llythyr at y Gol.
I Llythyr at y Gol. I .1 LLEN-LADRAD. Annwyl Syr,—Yn y DARIAN yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddwyd beirn- iadaeth rhywun ar y darn adrodd- "Heddweh," yng nghystadleuaeth Eis- teddfod y Fforest, a gwelaf i un ym- geisydd a'i geilw ei hun "Y Lluman Werdd, yrru pryddest o waith bardd arall i'r gystadleuaeth. Yr wyf yn digwydd gwybod bod y ddau gwpled a ddyfynnwyd yn y feirniadaeth mewn pryddest ar "Gyhoeddiad Heddweh," a enillodd wobr yng nghystadleuaeth y "Liverpool Courier," ac nad anfonwyd y darn i gystadleuaeth y Fforest gan awdur y bryddest. A oes modd cael gwybod pwy yw'r "Lluman Werdd"? Yr wyf yn apelio at ysgrifennydd Eis- tedafod. y Fforest i gyhoeddi ei enw yn y DARIAN, fel y galler ei ddangos yn ei 1iw ei hun ger gwydd gwlad. Yr wyf yn deall bod cryn lawer o ladrata cyn- hyrdiion beirdd eraill yn y De y blynydd- oedd hyn, ac y mae'n amser i rywun roi terfyn ar yr arfer ddrwg honno. Diameu bod eraill o ddarllenwyr y DARIAN yn gwybod am driciau o'r fath, ac yr wyf yn credu y dylent ddadlennu'r twyll. Gwnai ysgrifennydd Eisteddfod y Fforest fawr les trwy gyhoeddi yn ddiym- droi enw'r ymgeisydd a ymgyfenwai, "Y Liuman Werdd."—Yr eiddoch, CHWARAE TEG.
I Dihangfa Gyfyng.
Dihangfa Gyfyng. Y STREIC A'I CHANLYNIADAU. GAN WAS CYFLOG. Trech: gwlad nag arglwydd. Ni waeth pwy fo'n ceisio arglwydd- iaethu arnom, rhaid iddo ildio i'r werin pa bryd bynnag yr aiff hi'n frwydr rhyngddynt. Yr un yw can- lyniad y frwydr bob amser, pa un ai pendefig ynte plaid neu adran o blaid fo'n gwrthwynebu'r bobl. Ceisiodd arweinwyr gweithwyr y ffyrdd haearn arglwyddiaethu ar y wlad yn y streic. Nid oedd waeth ganddynt beth a ddeuai ohonom ni'r bobl, na beth a ddigwyddai i'r anifeil- iaid druain a adawyd yn garcharorion yn y cerbydau heb neb i roi tamaid na llymaid iddynt. Ennill goruchafiaeth oedd eu hamcan, waeth beth fo'r draul. Diolch nad oedd pawb o'r gweithwyr o'r un farn, na phawb o'r arweinwyr ychwaith, oblegid addefir bod J. H. Thomas yn erbyn y streic o'r dechreu ond ei fod wedi ei drechu gan ei gyd-arweinwyr. Cofier, ni ddywedwn fod y Llywod- raeth wedi cynnyg telerau teg i'r gweithwyr. Cyhoeddodd y Llywod- raeth restr o'r cyflogau a gynhygid, gan feddwl yn ddiameu y buasai honno'n argiyhoeddi'r wlad fod y gweithwyr yn gwrthod telerau teg. Diau y cyrhaeddasid yr amcan hwnnw onibai am un ffaith-yr oedd y cyflogau a gynhygid yn rhy fych- ain. Yn y rhestr honno ni chan- fyddem ddim o'r ysbryd haelionus y sonnid cymaint amdano gan rn i o ael- odau'r Llywodraeth. Nid oedd ynddi ddim arlliw o haelioni, na llawer o degwch ychwaith. Yr oedd y sym- iau'u fwy na'r rhai a delid cyn y rhyfel, mae'n wir, ond addefir gan bawb fod y rheiny'n gywilyddus o lychan, ac ni ddylid ar unrhyw gyfrif sylfaenu rhestr newydd ar yr hen un. I Rhaid llwyr anwybyddu honno cyn byth y gwneir cyfiawnder a gweith- wyr y ffyrdd haearn. Ond er dweyd hyn ni chyfaddefwn fod y streic yn un gyfiawn. Nid oedd y telerau'n deg, mae'n wir, ac mae mor wir a hynny nad oeddynt yn ddigon annheg i gyfreithloni streic ar foment o rybudd. Gwyddai'r arwein- wyr beth fyddai canlyniadau'r streic, a'u dyledswydd oedd ceisio ymhob ryw fodd fynnu tecach telerau cyn cyhoeddi rhyfel yn erbyn y bobl. Buont fyrbwyll ac annoeth. Nid oedd ystyfnigrwydd y Llywodraeth yn cyfreithloni gweithred mor ysgeler ac mor ddirybudd. Yr oedd gan- ddyn ddigonedd o amser i drafod y mater ymhellach. Eithr ni fynnent hwy roo hynny. Teimlent fod yr awr wedi dyfod i daro. A tharo a wnaethant, nes parlysu bywyd gwlad a thref. Yn wir dihangfa gyfyng gawsom rhag y math gwaethaf ar ryfel sy'n bod—rhyfel cartrefol. Yn y frwydr profwyd mai'r bobl oedd drech. Safasant fel un gwr yn erbyn traha'r giwed fu'n cynllwyno i ddwyn gwlad a Llywodraeth at eu traed hwy. Trefnwyd cerbydau modur heb rif i gario ymborth o'r porthladdoedd i'r trefi a'r pentrefi ar hyd a lied y wlad. Ni ddaeth newyn i gartref neb o'r 45,000,000 sy'n preswyHo "o fewn ein gwlad, a phe buasai'r streic wedi parhau am fis neu ychwaneg buasai gennym ar hyd yr amsher ddigon o fwyd, beth bynnag. Y Prif Weinidog a J. H. Thomas bia'r clod am ddwyn yr helynt i ben. Mae'n amlwg na fedd Geddes, er ei holl allu, ddim o'r ddawn i gymodi. Y ddau Gymro derfynodd yr ymladd. Yn y diwedd gadawyd hwy'n unig yn yr ystafell i setlo'r mater, a chaw- sant hwy ffordd allan o'r anhawsterau, fu'n ormod i bawb ereill eu gorch- fygu. Wedi'r frwydr gwelir mai gwan iawn yw plaid anarchaeth yn ein gwlad. Mae hi'n bur uchel ei chloch, ond ychydig 0 nerth sydd ganddi. Er bod J. H. Thomas wedi ildio iddi yn y dechreu, fe'i trechwyd hithau cyn y diwedd. Danghosodd y wlad ei bod yn gadarn o blaid trefn a llywodraeth ac yn effro i'r perygl sy'n wynebu'r werin pan mae'r adran eith- afol yn ceisio trawsfeddiannu'r Aw- durdod a ymddiriedodd y bobl i'r Llywodraeth. Da oedd cael amlyg- I iad 01 wendid Bolchefiaeth yn ein mysg.
I0 Gwm Tawe.
I 0 Gwm Tawe. Llawenydd mawr oedd drwy'r Cwm Llun diweddaf, wrth glywed swn y tren yn dod i fyny trwy'r dyffryn. Ni fu'r hen Gwm mor di-dwrw er's blyn- yddoedd, oblegid prysurdeb a gwaith fu yn ei nodweddu y blynyddoedd diweddaf. Taflodd y Streicwyr y capeli i drafferth enbyd. Digwyddai Cyrddau arbenig %glwysi'r gwahanol enwadau ddisgyn ar y ddau Sul y bu'r olwyn ion yn,segur. Cyrchwyd y Cenhadon mewn modur gerbydau, a thystient ei bod yn ffordd fwy cysurus o lawer i fynd a dod 0 gwrdd mawr. Para yn uchel iawn mae pris y moch bach. Medde un wrth y llall yn y Cwm: "Rw i am ddau fochyn braf, fel na fydd gwaith mawr i'w tewhau; ond nid wyf yn mynd i dalu rhagor na phedair punt yr un am danynt." "0," medde'r llall, "Ma gyda fi ddau yn dy sivyto 1 r aim; danfon f) crWt bach a basged i fyny i'w cyrchu. Gall gario dau o foch o'r pris wyt ti yn fodIon roddi am danynt." Hawyr annwyl I Beth sydd yn bod ar Ysgolfeistri y Cwm. Dvma Mr. Unas Salmon, B.Sc., Alltwen* yn ym- geisydd am ysgol uwch elfenol Og- more Vale. Mae wedi bod yn llwydd- iannus iawn fel athro yng Nghwm Tawe. Dechreuodd tymor yr Ysgol Nos yr wythnos ddiweddaf, ac y mae argoel- ion am lwyddiant mav.'r ymhob un o'r jadrannau. Hyderwn y gwna ieu- enctyd y Cwm ddal ar y cyfleusterau sydd yn dod mor agos atynt. Cynhaliodd Eglwys y Tabernacl ei Chyfarfodydd Blynyddol y Sadwrn, Sul, a'r Llun diweddaf. Y cenhadon oedd y Parchn. B. Davies, D.D.. Cas- tellnewydd Emlyn, D. J. Davies, B.A., Capfcl Als, Llanelli, a Ben Davies, Pan teg. Cafwyd gwledd yng ngwir ystyr y gair. Dymuna pawb gafodd y pleser o wrandaw yr Hybarch Dr. Davies nos Sadwrn, H 0 Frenin bydd fyw byth." Nos Mercher, cynhaliodd Eglwys y TabernacI gwrdd i longyfarch ei horganydd, Mr. J. T. Davies, F.R.C.O., ar ei waith yn ennill yr anrhydedd sydd yn rhoddi hawl iddo wisgo y llythrenau uchod ar ol ei enw. Cafodd anrheg gan yr Eglwys, a siaradwyd yn uchel am ei wasan- aeth gan ei weinidog, y Parch. H. Seiriol W illiams, a llu ereill. Gohiriwyd Cynhadledd Chwarterol Enwad yr Lndodiaid oedd i fod yr wythnos ddiweddaf yng Nghapel y Graig, Trebanos, hyd ddechreu'r Gwanwyn. Un o effeithiau'r Streic eto.—Y GOCH GAM.
[No title]
Penrhiwceitw. I Agorwyd ein Cym- deithas Lenyddol nos Wener diweddaf gan y Parch. John Phillips, Mountain Ash. El clostun oedd "Fy laith, fy ngwla-d, ty llghencdl." Heb os nac oni bai, dyma. un o'r darlithiau goreu a wrandawsom erioed. Caweom olwg newydd ar drysorau cyfoethog ein llen- yddiaetli--yd enwedig barddoniaeth ein cened! Dyfynnai Mr. PhiUips awdlau ac englyruon wrth at ugeiniau a.r ei gof. Hyderwn y manteisja Cymdeithasau ereill 1 fynnu dywed y ddarlith hon, gan ex ,bod o ran cynnwys a thraddodiad- yn orcbestwaitli.Goh.
.TELYNEC: "WEDI'R CAWOD."
TELYNEC: "WEDI'R CAWOD." (Buddugol allan o 17 yng Ngoginan.) Glas ydyw'r wybren eto, A disglair yw'r heulwen fry,- Aeth heibio'r gawod.,—O dyred fy mun, Rhag dadwrdd y bobloedd hy, I'r meysydd. hudolus draw, A chasglu'r blodeuos cam, A chlywed "trydar min-adar Mai Ar gangau'r helyg a'r drain. Dyred, Myfanwy dirion, 0 dyred, bydd wyn em byd! "Cawn felys oedi'n y tirfdra si r hedd, A'n geiriau'n garu i gyd: A gwrando'r aberoedd pell A'u suon tynera rioed7- Dyred, fe basiodd y gawod drorn, A gwyrddach na chynt yw'r coed. Dyred, mae persawr miwail Ar frig pob awelig wan,- A'r dolydd, hwythau, yng nguem.a u tw Tan glyswaith o berlan cann. Dychwelwn yng nghwmni'r nos Yn ol a'n serch yn fwy tynn, A dyfnlliw gwridog y gorwel draw Vn Ailn vforv gwyn. Ebrdll 28, 1919. v É. PROSER RHYH. I
. Yr "Vsgel Gymraeg.
Yr "Vsgel Gymraeg. "AI" AC "AU." Caiff llawer o ysgrifenwyr ifeinc .anhawster ynglyn a'r terfymadau "ai" ac "au," ac y maent mewn am- ryfusedd yn ami pa un ohonynt a ddylent ei ddefnyddio, a sonia Ap Hefin yn ei feirniadaeth, ar gyfan- soddiadau Eisteddfod Crymych fod rhywun a'i geilw ei hun yn "Sankey" yn rhoi "methau" am "methai." Ni ddylai fod un anhawster o gwbl i roi au" ac ai" yn eu lleoedd priodol ob- legid y mae'r rheol ynglyn a hwy yn ddigon eglur. Rhoddir "ai" yn der- fyniad i ferfau (verbs) yn y trydydd person unigol Amser Amherffaith a Thragorffennol, megis, carai, dywed- ai, clywai, carasai, dywedasai, clyw- sai. Ebr Dafydd Ap Gwilym.:— | Fy Nuw, pei cawn fy newis, Ni byddai fyw o'm bodd fis. Mwyalchen i'n bedwen her A'n doniai a chin dyner. Nid byw edn glan a ganai, Nid balch ceiliog mwyalch Mai. Dywed Wm. Llyn — Y coed irwydd cadeiriawg, Ni ddylai'r rhain ddeilio'r hawg. Pe canwn tra fyddwn fyw I rai a'i haeddai heddyw. Ac ebr Tudur Aled:- I Mawr yw pwys Duw, marw post 141, 1. Methai rhyfyg Mathrafal. Wele, enghreifftiau o'r Tragorffen rnol: Pe buasit ti yma, ni buasai fy vtnrawd farw.-loan n, 32. Oni allasai hwn, a agorodd lygaid y dall, beri na buasai hwn farw chwaith?—loan 11, 37. Eithr rhai ohonynt a aeth ymaith at y Phariseaid, ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu.- loan 11, 46. Y mae'r terfyniad "au" fel rheol -yn perthyn i ffurf luosog enwau, megis, calonnau, ochrau, esgidiau, -e.e., A blodau llwynau yn lien, Ac elor o wyth gwialen. D. Ap G. Amodau, rhwymau oedd rhom, Eithr angau a aeth rhyngom. Fy neigr aeth o fewn y gro Ar erchwynau'r arch honno. Tudur Aled. Gwell doniau na gwyllt ennyn, Gwell yw Duw na gallu dyn. Wm. Lln. lach yw'r galon a'r fron frau, Achos un o'i chusanau. Llawdden. Y mae'n wir y ceir ffurfiau ar y ferf ag "au" ynddynt ac ar y Haw arall ceir enwau ag "ai" ynddynt. Berfau, e,e., dyfrhau, coffau, glanhau, cryf- hau, gwastatu, trugarhau, cyfiawn- hau, cadarnhau, parhau, lleihau, casau, nacau, &c. Y mae gwin im o'i genau, Y mae gwên hon i'm gwanhau. D. Ab Edmwnd. 0 gwyl g-wr gael y gorau, Oed i'r gwr hwn drugarhau. Ni bu er hyn i barhau Air di-weniaith ar d'enau. Ni chan dyn na chan dannau Nac a phen heb ei goffau. Tudur Aled. Dyrcha ael fain, d'orchwyl fu Dristau gwyr dros dy garu D. Ap G. Y corff a fyn, heb nacau, Gael iddo win a gwleddau. Lewis Glyn Cothi. Enwau, e.e., lifrai, tai, osai, siwrnai, bai, nai, gwestai, llatai, &c. Danfonaf, o byddaf byv, ■ f h.y'wi i .rital fen; I Llawdden. Pan ddel Mai a'i lifrai las Ar irddail i roi'r urddas. D. Ap G. Pe bae'r ddaear yn fara Neu flas dwr fal osai da. Dafydd Nanmor. Os march cryf os merchyg rhai, Nid oes arno ond siwrnai. Tudur Aled. A doldir yn llawn deildai, A thrydar man-adar Mai. Tesog fore, gwna'r lle'n lion Ac annerch y tai gwynion. D. Ap G. Bydd gennyf chwaneg i'w ddy- wedyd am "au" ac "ai" yr wythnos nesaf. Gadawyd y gair "amherson- ol" allan yn y wers ddiwethaf. Dyma'r frawddeg yn gyflawn Wele'r ffurfiau Amhersonol yn y Modd Mynegol 0 "canu." Yr eiddoch, I SAM YR HALIER.
I 0 Faes y Gad.i
I 0 Faes y Gad. PETHAU A GOFIAF. GAN D.D.J. I ¡ I I ix. ¡ Bu dydd neu ddau cyntaf brwydr y Marne yn ddigon cyffrous i'm catrawd i, am ein bod, fel y gwelwyd, mewn cysylltiad agos a'r gelyn. Ond wedi hynny teithiasom ddydd a nos ar ol y Germaniaid am dri diwmod heb braidd eu gweled. Yr oeddent hwy yn awr yn encilio mor frysiog'a ni pan gefnaaom ar Mons. Gadawsant lawer o'u clwyf- edigion ar ol. Yma ac acw yr oedd eu cerbydau ar ochr yr heol, wedi torri lawr, ao ambell geffyl wedi ei orweithio nes iddo eyrthio. Tua channol nos y 13eg, cyhaeddasom bentref St. Mard, gerllaw yr afon Aisne. Yn fore, trannoeth, dyma ni yn cychwyn eto ao yn croesi yr afon. Yr oedd y pontydd wedi eu dinystrio gan y gelyn, ond bu ein pontwyr ni yn brysur drwy y nos flaenorol yn gosod pontoons dros yr afon. Rhestr o fadau yw pontoon, wedi eu gosod ochr yn ochr o un lan i'r Hall, ac estyll cryf wedi eu sicrhau wrth eu gilydd o fad i fad, er ffurfio pont. Gwelir felly fod y bont wedi'i sylfaeni ar wyneb y dwr, ac mai sigledig iawn yw, ar y goreu, am fod pob bad, yn ei dro, yn suddo ryw gymaint yn y dwr pan el pwysau drosto. Pan groesodd fy nghatrawd i yr afon Aisne, gorchymynwyd fi i beidio dilyn ac i gadw y cerbydau yr ochr arall i'r cwm. Yr oedd dau reswm am hynny. Yng nghyntaf, rhaid i'r holl wyr traed groesi y pontoons cyn dechreu ar y gorchwyl araf o ddwyn yr anifeiliaid drosodd. Yn ail, yr oedd y gelyn ger- llaw, a rhaid symud y fyddin yn bwyllog. Nid cynt y cyrhaeddodd ein beehgyn yr ucheldir tu draw i'r afon na welsant fod y Germaniaid, o'r^diwedd, yn sefyll. Bu ymladd ffyrnig iawn yno am rai ddyddiau. Ond aros wnaeth y gelyn mewn man oedd fanteisiol iddo ei hun, ac arosodd yno am bedair blynedd. Yma, ar lan yr afon Aisne, y cefais y weledigaeth gliriaf o frwydr yn ystod y rhyfel. Yr oeddwn i ymhlith y coed ar un ochr i'r cwm, yn edrych ar symudiadau ffrynd a gelyn yr ochr arall. Drwy gym- orth gwydrau, medrwn wahaniaethu rhwng y ddwy blaid o herwydd lliwiau eu gwisgoedd. Ni fu llawer cyfle i weled pan- orama fel hwn yn y rhyfel fawr. Yr oedd datblygiad arfau eisioes wedi ei wneud yn beth amhosibl i nifer fawr o filwyr i gas- glu ynghyd yn ystod brwydr. Fel golygfa yr oedd brwydro y dydd neu ddau cyntaf ar lannau yr Aisne yn siomedig. Mae rhwysg ac ysblander rhyfel wedi darfod o'r byd. Os bu erioed y fath bethau, ni welais i, yn ystod pedair blynedd, ond ychydig heblaw trueni a dioddefaint. Gwelwn, y tii draw i'r Aisne, restr deneu o'r celyn,-pob milwr rai llathenni oddiwrth ei gyfaill,—yn brysio i fyny i'r ucheldir. Yn awr ac eilwaith dyna fflachiad o dan ac ychydig o fwg gerllaw iddynt, yn dynodi fod ein magnelwyr ni yn saethn atynt. Ond nid yn ami y gwelwn ddyn yn symud. Gwyddai ein magnelwyr o ba gyfeiriad y deuai sheik a bwledai y gelyn; a gyrrent eu tan i'r mannau mwyaf tebyg i'r gelyn gysgodi ynddynt. Ni fu symudiadau mawr yn bosibl i'r naill ochr na'r llall ar ol y ddau ddiwrnod cyntaf ar yr Aisne, oblegid cloddiwyd ffosydd ar unwaith; a rhyfel ffosvdd fu byth ar ol hynny. Fy nyledswydd i, yn hwyr y dydd, oedd dwyn ymborth dros yr afon. Peth an- hawdd, ar y cyntaf, oedd cael y ceffylau i fyned dros y pontoon. Ymhen dydd neu ddau daeth y gelyn i wybod ble oedd ein pontydd, a chyfeirient eu shells arnynt ddydd a nos. Cefais lawer diangfa gyfyng. Gwelais un bont yn cael ei din- ystrio gan shell gerllaw i mi; a gwelais, bryd arall, gerbyd yn cael ei daro. Gresyn meddwl mai cerbyd llawn o glwyfedigion oedd hwnnw. Y canlyniad oedd fod yna feddau yn lliosogi ar ochr yr heol dros yr hon y teithiwn bob nos. Yn oriau man y bore dychwelwn dros yr afon, a'm cerbyd- au yn Hawn clwyfedigion. Un noson dyg- ais amryw o Germaniaid clwyfedig. Dy- wedodd un o honynt wrthyf iddynt wedd allan ar y maes yn glwyfedig am dridiau. Yr oeddent rhwng eu ffosydd hwy a'r eiddom ninnau; a'n bechgyn ni, yn hytrach na'r Germaniaid, a'u hachub- odd yn y diwedd. Yr oedd yr oediad mawr cyn trin eu clwyfau wedi gwneud eu cyflwr yn druenus iawn. Yr oedd bedd neu ddau yn rhagor, y diwrnod nesaf, yn y berllan gerllaw y fFordd. Derbyniai' y fynwent hon, fel pob un arall, Germaniaid a Phrydeinwyr i'w chol, fel eu gilydd. Ni fuom yn hir gerllaw yr Aisne cyn i bapurau Llundain ein cyrraedd, a. hanes buddugoliaeth y Marne yn Hanw colofnau. Daeth y newydd da a chysur i bob cwr o'n gwlad; ond nid oedd y cysur yn gymaint i ni oedd yn ei ddarllen ger- llaw y shells, ac ymhlith y beddau.