Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Aelwyd y Beirdd. I
Aelwyd y Beirdd. I Anfoned y Beirdd eu oynhyrchion i I Ap Hefin, 11 Seymour Street, Aberdar. At Mr. Johni Watts.—Y dreth ar ddarn- au coffa yw swllt am boh wyth llinell. E. 0. James, M.A.-Beth yn fwy pwr- pasol P WH Shon.-Hen gymydog i mi yn y Gogledd sydd u edi gadael am gylch y Gwynfyd. Mae Mr. Owen Owen, Dre- gerrig, yn casglu gwaith Wil Shon at ei gilydd i'w gyhoeddi. Owen Owen.—Ni welais mo'm hen gyfaill hyd yr nythnos o'r blaen er's tua 30 mlvnedd, ac yr oeddwn wedi colli ad- nabyddiaeth oliono yn y wa&g, am mai fel 0. E. Owen yr adwaenwn ef gynt. Clan Cleddau.—Mae'r gan hefyd mewn ilaw, ac yn aros ei thro. Ataw Sylen—Rhaid i'r alaw gaol cynganeddix popeth. philos Hefin.—Cywydd tlWrS. M'urmur Aman.-Boglwiii teilwng ar fodd yr anfarwol. Meiriona.—"Amen" fo i'eli dymuniad. Evan Morgan..—Gwnae hwn adroddiad i'r plant erbyn y cwrdd ysgol. Lewis Thomas.—Emyn bycban eymer- adwy. I)wohlyn.-I)a 1.11 a gafael arno. J. D. Richards.—Paentio'r lili fyddai dweyd dim am y rhai'n. RHAGLUNIAETH. I I Esbojinir dyrus bennod—Rhagiuniaeth, Gwawr goleuni Dmydod Ddaw ami ryw ddiwrnod A'r d'w'llaf/ wydnaf adnod Gear yn glir, pob gair yn glod. AP HEFIN. Y "LINK." I (Cylchgrawn Ysgol Ganolradd Aberaeron). Rhai ar wasgar o'r ysgol—gu uuir A'r genedl bresennol Cforeu gadwyn gre' gydxol Ddaw i ni a ddoe yn ol. Aberaeron. E. O. 'JAMES, M.A. YR ARGAE. I Tra saif ar letraws afoii,yi- argae Wlla arwrgamp eon; Er gwaetha'r dwr, gwt-hia'r don Irwydd weini ar ddynion. Dolgellau. WTT, SHON. Y BEIBL. I Golud pennaf y galon,—a, cholofn U chelaf y Cristion; Hwn yw twr enaid tirion, A chyntxwvs wych hanes Ion. Resolfen. GLAN CLEDDAU. DEIGRYN. I (Buddugol yn Lerpwl.) Dwys glir berl ddsglair a byw—yw deigryn, r Mud awgrvm diledryw Teimladol, hndol ydyw, A nod o iaith enaid yw. OWEN OWEN. Dregerrig, Dolgellau. FY NHRIGFAN. I Yn Byron Street 'rwy'n eael bara—a cliaws, A chig, a, glan di-igfa A di-ddwl ddioed Adda; Rhaid yw dweyd, maent radau da. ALAW SYLEN. DISTAWRWYDD YR ENCIL. I Yina", awr, mewn distawrwydd, Sy'n iach o ru masnach rwydd, Ymlonnaf yn nheml. anian, I Ie daw myrr hlodau man. Y telaid goedydd talion ( Ydyw r 11 vk i adar lion, A llys cell i awen, Ac i'r llu sy'n cam Hen. Yma yn ddiddan canaf Yn swynion rhydd hirddydd haf. Canaf mewn 11*111?.Yl(l I (l liirddy-cld liif. Yn yr hedd, emyn i'r Ion: Lluniwr tegwch y llynnau, A llenni clws meillion clan. E gaf ran o gyfrinach, Donian byw blodeuyn bach Ymesgyn ar ehwiÍm asgeJl Ervr balch i oror bell Y llu hyfawl mewn lleufer, I weld heb gwyn, swyn y ser, Gemau mawrJOl1 digymar-y Duwdod, Yn eu lIe uchod a'u gwenau llachar. PHILOS HEFIN. UN BYCHAN YDWYF FI. I Un bycban ydwyf fi, Yn cychwyn ar fy nhaith, Am hwvneb lieddyw sy' Ar dragwyddolfyd maith Mae m siwrnai 'mhell a minnau'n wan, Ni ildiaf ddim-fe wnaf fy rhan. Dywedodd lesu mwyn Pan rodiai ddaear lawr Y gwnai i'r nef fy nWYll 0 wlad y cystudd raawr; Bu Ef yn blentyn bach Ei Hun xm Methlem gynt—a theg Ei lun. Ma« gennyf dyner fa rn, By n siarad yn fy nghlyw, Am Un ddioddefodd gam Er mWYl1 i mi gael byw diolcli aih fy rhiaint gwiw I m dysgu n ffyrdd sancteiddrwydd Duw. ,jzwy,n penderfynu rhoi f y mywyd ar t<i hvd It lesu glan, a ffoi Wnaiff boll drallodion byd: 0 dan Ei aclen'r wyf am fod Tra byddwyf yma is y rhod. EVAN MORGAN. 40 Duffiyn Str., Mountain Ash. CYFARCH DUW. ] Dy gyfarch Di, fy Nuw, Yw'm hoff ddyledswydd i; Ac erbyn Dy faddeuant rhad O'm gwael oochodau du. Dy gyfarch Di, fy Nuw, Sy'n bleser rhyfedd i'm; Waith toimlo giaf Dy gariad Di .A'th ysbryd yn ei rym. Bendithion rif y gwlith Trwy lesu Mhrynwr gaf; A'i ddilyn Ef holl ddyddiau foes I ben Calfaraa wnaf. Waredwi- mawr y byd, Dy gyniorth rho i mil Er llethrau geirwon serth At Ahet-th Calfari. LEWIS THOMAS. Unloii Ammanford. LLONGYFARCHIAD I I Mr. a Mis. Grififth Phillips, Aberteifi, gynt o'r Maeixly, ar eu priodas. Cysyllt wyd dau gariad wrth hen allor Hymen. I fod i)eltzi(..Ii Nlyi iin, t!-a viiia'n y byd; Mewn eariad tryclanol dwy galon ym- doddai Serchiadau a fflamiodd—rhedasant yngliyd. Y tafod roes gwlwm—y tynnaf mewn by wyd Rhwng <!riff a'i anwylyd, y deg eneth Ian Ei ddatod nis. gellir a'r dannedd miniocaf, Ond bysedd main angeu a'i dryllia yn fan. Wel, clir fyddo'ch awyr, heb gwmwl du gofid. Yn nofio ar wyneb ffurfafen eich oes; Tywynned haul llwyddiant o'ch amgylch yn wast ad N a ddeued un anhap byth i chwi na chroes. Tra'r ddaear yn rhoddi ei chamrau bras brysiog, A'r ser bach yn britho y wybr uwchben, Parhaed y Llvw nefol i wylio eich annedd, A'ch dwyn yn ddiogel i'r hen Wynfa wen. MEIRIONA. ADGOF AM TELYNOG. I Telynog enwog annwyl—a brofwyd Yn brifardd. y gylchwyl; Gwr o ddawn a, garodd wyl Brysiodd i'r nefol breswyl. "Telynog tawel ei anian"—gurodd Hen gewri ar lwyfan; Un fu'n gtl yn fwyn ei gan A brwd oodd y brawd diddan. Diliau a ddaeth o'i delyn-a seiniau Mor s\\ vnol a'r gwanwyn; Os yw o dan glo v glyn Ni ddaw aiigladd i'w englyn. Siriol oedd ef fel scren-yn oleu Yn niwloedd daearen; Gwron hardd fel bardd yn ben, Oar yd oedd i Ceridwen. Tawel huna Telynog—yn ei fedd Un a fu'n flodeuog; Ei fawl gan sydd fel y gog, A'i gynghanedd ganghennog. Mwyn y cwsg ef mewn cysgod—a'r ooed- ydd Ir cedyrn yn gwarchod Mewn hedd, y bedd lie mae'n bod Yn dawel yn ei dywod. MURMUR AMAN. Owmaman, Aberdar. DIM OND DEILEN! I Dim ond deilen, dyma hi! Rhwng dalennau'r gyfrol, Chwnliem ni y dyddiau gynt Dan y pren criafol Adnod cyfrol goffa serch Ydyw'r ddeilen unig; Dychwel gyda 'i gweld bob tro Wen y dlos, garedig. Dim ond deilen, dyma hi! Hil yr hen a fallen, Ddaliai gyntaf ar ei brig Delyn y fwyalclien; Niiinau'n dau wrth gamfa,'r coecl Bron anghofio'r cyfan! Boddai rhyfedd angerdd serch Gan y cantor arian. Dim ond deilen. dyma hi! Dan yr yw henafol Oipiodd cadau'r gaeaf cas Dlysau'r pren criafol: Bythwyrdd glog a, wisg y llu Wylia'r fynwent dinon. Gwisg fy nghariad innau mwy Hud y coed bythwyrddion. Dim ond deilen. dyma hi'n Wen ar frpn yr angel! Ddeil y dalaith deca'i llun Dros y beddrod tawel: Os rriai oer yw offrwm drud Llaw yr angel ffyddlon; Oera'r bedd 'mo angerdd Haw Gariad cynta'r galon. Bedlinog. J. D. RICHARDS. YFORY'R DYN IEUANC. Mae heddyw'n mvird i'r cysgodion Yn gymysg ei gri a'i graith, Cilio mae'r teg obeithion, Fu'n ysbrycT ei fyw a'i waith: Ond yfory daw bore tecach Dros feddrod yr encil prudd, I'r ieuanc yn gyfle purach I dyfu yng ngoleu'r dydd. Yfory, bydd beichiau by wyd Yn drwm ar dy ysgwydd di, Yfory, bydd clwyf a gwvnfyd Yfoi-y, brofiad dy galon gu; Yfory, bydd nerth a chryfder Yng ngewyn dy ieuanc fraich Cyfod yng ngrym dy ddewrder, Nac ofna rwystrau'r daith. Cydgan— Gafael yn ei gynhygion, Ysbryd ieuanc cain, Cerdd i gwrdd a'i ofynion, Eiddot ti yw'r rhain; Deffro? maB'r wawr yn torri, Tro gwynfan y byd yn gan, Cei Dduw wrth raid i'th helpu, Ymdrech y galon lan. Merthyr E. UWCHLYN JOENS. MerH?yr Tyd&L
.. - j Beirmadaethau. !
j Beirmadaethau. EISTEDDFOD LIBANUS, CWMBWRLA. Pryddest y Gadair: "Y Proffwyd." Macwy'r Anial.Y mae'r bardd hwn yn medru canu, ond v tro hwn I rhoddodd orrnod o ffnvvn i'w awen i ganrnol a chanmol, nes blinwn ar bethau. Cymharir y proffwyd i bopeth ymron, a dyna'r diffyg. Carem fwy o reality bywyd y proffwyd a llai o beth fel hwn a' i debyg dro a thro— "Mae fel y Bydded daeth dros wefus Duw ) Yn creu hael fydoedd." "Erioed ei lewyrch ef sydd megis gem Yn pefru'n siriol." Syrth i gyffredinedd hefyd yn ami yn y rhan delvnegol o'i gerdd, e.g.: "Cadw'n ymlaen yw'r gamp er, hynny. I "Mawr yw'r gallu sy'n ei feddiant." I Nid yw llinellau fel hyn yn deilwng o gorff y bryddest, a buasai'r cyfan yn j well pe bai llai o ganmol a mwy o wir I fywyd y proffwyd. Pryddest o gryn deilyngdod er hynny. I Y Cawg Aur. Rhannodd ei gerdd I yn chwe rhan: Cyfrinach, Crud, Oed, Eneiniad, L!ef, Dyrchafael. Dengys hyn ei rhediad. Teimlwn ¡ fod ychydig niwl yma a thraw, ond nid oes le i ameu awen a gallu'r bardd hwn. "Gwyn fyd a alwyd i'r frenhinol urdd! Ba waeth os gwr llawgaled yw mewn j gwaith Wrth ddenu cnwd i ar y tyndir draw." Can yn gynnil a choeth o'r dechreu i'r diwedd, er fod yma berygl def- nyddio geiriau diarffordd. Gallasai ambell linell fod yn fwy ystwyth hefyd. Ond y mae bias llenyddiaeth loyw ar yr holl gerdd, a hi yw'r oreu o nid ychydig o'r ddwy a dderbyniwyd. Darn Adroddiadol i Blant. Y Milwr Bach.—"Y Milwr Ieuanc" sydd ganddo ef. Ni lwyddodd i wneyd darn adroddiadol fel y cyfryw. Y mae'n darllen yn burion fel can, ond nid yw yn benthyca'i hun i adroddwr fel darnau ereill yn y gystadleuaeth. Gwladgarwr.—Dyma gan dda ar "Cymru," ond nid yw'n digon o ddarn adroddiadol, ac am hwnnw y gofynnir y tro hwn. loan.—Dyma well cynnyg, "Y Castell ar y Draeth. Ceir ambell dwyll odl a llinellau rhyddiaithol; ond y mae hwn yn ddarn adroddiadol er nad cystal ag eraill. ddarn Tant Boreddydd. — Dyma ddarn pwrpasol, a gallesid ei adrodd yn dda. Ei destyn yw "A glywaist ti'r gog eleni." Cymro Bach.—Tebig i Tant Bore- ddydd, ond "Robin" sydd ganddo ef. Dymunol iawn. Min yr Hwyr.—"Ymson Plentyri Amddifad sydd ganddo ef, ac y mae yn dyner a phwrpasol. Nid oes amheuaeth nad y tri olaf yw'r goteuon, ac y maent mor debig i'w gilydd o ran syniadau ac awen fel anodd yw penderfynu. rhyngddynt. Synnwn i ddim nad ydynt yn gwybod rhywbeth oddiwrth ei gilydd; a chan bod y wobr yn sylweddol, y peth tecaf yw ei rhannu'n gyfartal rhwng y tri. LLYNFI DAVIES. EISTEDDFOD FFYNON TAF. Mawrthgwyn, 1919. I GAN ELFRYN. Testyn y Gadair: "Hiraeth." Daeth i. law bymtheg o gyfan- soddiadau. Teimlwn wrth ddarllen nifer o'r cynhyrchion hyn fod yma or- awydd am ganu'n dywyll, a chanu yn amhendant. Fod tebygolrwydd mawr ym meddyliau, ac hyd yn oed yn Ilinellau, y gwahanol awduron, fel pe baent wedi darllen cynhyrchion ei gilydd. Fod yma ormod o awydd am ddefnyddio hen eiriau, yn arbennig hen ansoddeiriau, pryd y gwnelai enwau ac ansoddeiriau agosach a symlaeh y tro. Eu bod yn methu cyrraedd calon y testyn. Tueddir i ganu ar bopeth ond ar y testyn. Defnyddir y gair "Hiraeth" mewn pennill yn unig er mwyn y gair, yn lie bod y pennill ohono ei hun yn torri allan i lefain ac i hiraethu. Cymaint a hyn ar y cyfansoddiadau yn gyffre- dinol. Sylwir arnynt yn ol y drefn y darllenais hwynt, heb eu trefnu yn ol eu teilyngdod. Mab y Mynydd.—Yn cychwyn yn swynol a naturiol, ond wrth fvned rhagddo try "Hiraeth" yn "Atgof. Nid yw yn feistr ar atalnodi, a blinir ni gan ambell gorfau cloff. Simeon. Pryddest ardderchog, Rhannodd hi yn dair rhan-Hiraeth Encil; Hiraeth y Crwydryn; Hiraeth y Sant. Can yn esmwyth a dirodres, a Hiraethyn llefain. Mae yn canu o gan i gan. Pryddest wir awenyddol. Telyn Atgof.—Cyfansoddiad cryf, hytrach yn athronyddol ond teimlwn nad yw barn bob amser wedi aedd- fedu ynddo. Can yn helaeth, ond nid bob amser i bwrpas. Y Tant Ysig (i)—sy'n dechreu- "Pererin wyf rhwng deufyd." Cynllun digon hapus—Edrych yn ol; Edrych ymlaen. Cyll ei gyfle wrth ymdrin. Mae yn y gerdd hon lawer o bethau da, a llawer o bethau cyffredin. Cwyn y Gwynt.—Son am hiraeth heb ei ganu a'i deimlo. Hefyd ceir llawer darn moel yma a thraw. Nid oes yma ymgais at atalnodi. Daffodil.-An English poem con- taining some rather good ideas, but an ill-expressed composition as a whole. The author has no definite plan of treatment, and there is much irrelevancy. Daffodil says too much and suggests too little. He is often prosaic, and many lines are marred by breaches of syntax and scansion. Y Tant Ysig (2).—Can yn y mesur diodl, ond nid yw yn feistr arno. Mae'n feddyliwr cryf a chanddo Gymraeg cyfoethog, ond tueddir i labyddio y gerdd yn ormodol a hen eiriau. Hefyd, nid yw yn llwyddo i'n dwyn i enaid y testyn. Y Milwr Siomedig.—Pryddest awenyddol, wedi ei rhannu yn chwe chaniad. Llwyddodd y bardd i ganu yn lan a naturiol. Hoffwn yn fawr yr ail ganiad, a swyn telynegol y L bryddest. Mynach y Llain.—Pryddest gref a meddylgar yn cynnwys llawer o swyn. Mae'r arddull, hefyd, yn glir a di- rodres, ond teimlwn fod mwy o hir- aeth y pen na'r galon ynddi. Ar y Traeth.—Llawer i gyffyrddiad hapus a byw, ac ambell darawiad go gyffredin. Hoffwn y cynllun, a hoffwn ganu'r bardd. Ychydig mwy 0 gynhildeb a wnelai ganwr peryglus ohono. Elmur.—Cerdd lan, wedi ei chyn- llunio yn hapus. CAn yn ddidrafferth ac yn afiaeth yr awen. Ei berygl ydyw bod yn rhy flodeuog, a chanu gor- mod am "Hiraeth," yn lie gadael i "Hiraeth" ganu ei hunan. Cainc y Cysgod.—Pryddest wir awenyddol, a'i hawyrgylch yn dyner. Hoffwn ei chwmni yn fawr, ond teimlwn, er hynny, fod y meddyliau yn cael eu llethu gan ormod o eiriau anarfaredig. Y mae gormod o eiriau ffansiol yn dinystrio canu da. Trallodus,—Awdl sydd gan yr awdur hwn. Ceir ynddi gyfoeth o feddwl a chyfoeth o gynghanedd. Deuir ar draws llu o hen darawiadau, ac ambell wall--slips of the pen, yn ddiau. Ceir hefyd ambell gypled tywyll, ond awdl dda yw hon. Crwydryn.—Cywydd da ac ergyd- iol, ond yn anorffenedig. Ceir y cywydd hwn yn yr awdl uchod. Llawnach a mwy gorffenedig yr awdl na'r cywydd. Twmpath Gwyrddlas. Pryddest ragorol. Ceir ynddi chwe chaniad, a phob caniad yn ymgnawdoliad o hir- aeth. Syrthiodd ambell wall ynddi drwy law anghyfarwydd y typist, ond teimlwn fod yma fardd yn canu ei galon a'i enaid. Tybiwn mai goreuon y gystadleu- i aeth gampus hon yw eiddo Simeon, Cainc y Cysgod, Trallodus, a Twm- path Gwyrddlas, ond y gerdd lanaf, y dlysaf, a'r drymaf o angerdd "Hiraeth" ydyw eiddo y Twmpath Gwyrddlas. Efe bia'r gadair a'r anrhydedd.
"Sweet 'Berdar."
"Sweet 'Berdar." Cvflwynedig i'r Yswain Dafydd Risiard Llewelyn, Aberdar. "Sweet Berdar," mae gwerth dy glod Heb ddarfod yn dy ddilyn, A llawer un o'th feibion lu Yn aliu vi-i dy Ddyffryn; A heddyw pennaf fri dy ddydd V w Dafydd R. Llewelyn. Daeth Rhys Llewelyn gyd a'r gwir I dir Cwmdar yn grotyn, Ac yno mae a'i barch yn drwm 0 odrau'r cwm i'w goryn; Ond jawch, mae'r mab yn fwy bob dydd, Set Dafydd R. Llewelyn. 0 lawr Cwm Nedd i Bencaedrain Mae Yswain Plas-y-felin, Yn cadw'i glod a'i enw da Fel hindda dros y Dyffryn, A son trwy Hirwaun sydd bob dydd Am Dafydd R. Llewelyn. Bu son am deulu Sguborwen A Phont Llys Wen a'i rhedyn, A gwyr Brycheiniog a fu'n falch Am gerrig calch Penderyn, Ond glo hen (iomin Hirwaun sydd Gan Dafydd R. Llewelyn. Mae Twr hen Grawshay ar y twyn Heb swyn dros lawer blwyddyn; A gwyr y Brocs yn fud heb dro I ddawnsio gyd a'r delyn; Ond daw'r hen Fabsant nol ryw ddydd Gan Dafydd R. Llewelyn. 0 Benrhiwllech i Graigyllyn Mae diwrnod gwyn i ddilyn, A miloedd welir yn troi mas O'u Villas ar y Comin; Myn jawch, mi gana gan bob dydd Am Dafydd R. Llewelyn. Bu Rhys ap Tewdwr ar Bryn Gwyn A lestyn yn ei ddilyn, A chwympodd miloedd o dan draed A'u gwaed ar dir y Gamlyn; Ond heddwch mawr i'r gweithiwr fydd Gan Dafydd R. Llewelyn. Aed eto'n uwch i binacl bri A'i fiwyddi fel y gwanwyn, A chysgod Duw, fel gynt y bu, I'w deulu yn ddidderfyn; A hir boed son gan Gymru Fydd Am Dafydd R. Llewelyn. IFAK SIENCYN RHYS. Rodringallt.
Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau…
Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg. Cyfle Gwynedd yng Nghorwen. Cynhelir cyfarfod fore dydd y Gymanfa, Awst 8, yng Nghorwen, yng Nghapel y Bedyddwyr er deffro'r Gogledd i sefydlu adran o'r Undeb uchod cvlfelvb i amrywiol adrannau'r De. Croesawir Cymry o bob man i'r wyl. Clywir Ilais yr Athro E. Ernest Hughes, M.A. llais yr Athro W. J. Gruffydd, M.A. llais yr Uch- Gapten Goronwy Owen, M.A., D.S.O., ac eiddo Dyfnallt, a W. J. Evans, Vsw., Abergele, ac eraill o blaid y mudiad. Da fydd gennym weld hen wynebau cvfeillion yr Undeb yn y De ymysg eiddo lluoedd y Gogledd. Dyma gyfle braf i ni gario'r fflam i ben brymau Eryri ac ar hyd dyffryn Edeyrnion a glannau Dyfrdwy hyd yng Nghaer. Trefnwyd apel arbennig at Gymry i'w svmbylu i sefydlu Cymdeithasau yn y lleoedd nad oes y cyfryw yn- ddynt. Bydd yr apel ar wasgar yng ng hw rdd Corwen. D. ARTHEN EVANS, Barri. Y sg. Cyffredinol.
Advertising
LLrAAU CYMRAEC. Oa am gyflawnder o Lyfrau Cymraeg addip i'w rhoPn Artrhegion i Blant YSGOLION SuI A GOBEITHLUOEDD anfoner a t,- Mr. JOHN EVANS, 14 Wharton Street. CAR 01 FF. Neu galwer gydag ef naili ai yn y cyfeinad ucliod.neu vn Nhy Marchnad, Poniyprlrti. LLYFRAU CYMRAEC Ceir stoc dda o Lyfrau Cymraeg yn y Brjwnan* House, Tonypandy. at wasanaeth Ysgoi Sul, Dosbarthiadau Gymraeg. GELWCH I FEWN. J. HOWELLS.