Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
I Rhamant y Rhos I (MOELONA), Yn awr yn barod. Pris 10c,Drwy'r post lljg, j Anfoner yr archebion i Swyddfa'r I DARIAN. ||
PICION Y COLOFNAU.
PICION Y COLOFNAU. Colofn y Celt. 2 Ateb Miss E. P. Hughes i'r Gwyliedydd 2 Tarian Fach y Plant 2 Byd y Bardd a'r Lienor. 3 O'r De 3 Atgofion Hywel o'r Clyn 3 Llith y Gol 4 SenetSd a Seneddwyr A ddylid dileu'r Senedd 5 Achos y Merched 6 O'r Gogledd 6 Aelwyd y Beirdd 7 Seirniadaethau 7 Heddwch 8 Y Clawyr etc 8
YN HEDD YR HWYR.
YN HEDD YR HWYR. igwelais ymachlud liwyrnos Mehefin, A'i lewyreh yn dlws ar dawel donnau; A theimlais yn liedd y swyn cynhefin Beraidd gyfaredd til* y pellterau. 'Roedd euraid oleu ar orwel tan Hi, A suad yr hwyr yn ffrydiau'r mynydd; A minnau'n syllu tros ddisglair held Ar fro gyfrimol dan liw-iau'r nawnddyd_d. 'Yno mae afiaith calon awenydd, A thwf a cheinder y gwanwyn avian; r Draw dros y ton nan yng ngwlad yr haf- ddydd. faie caa tdynau yr hud anniflan. A thybiwn, glywed miwsig ei hawel Yn dod a'r sibrwclyper dros y lasdon— Tyneraf sibrwd muv'sig yr anwel, es-n, vytli lifo yn falm i 'nghalon. n Ymsuddai'r haul i'r eangfor euraid Ac oedai'r rlruddne'n yr hwyr gymylau Ar fryniau tawel, teimlwn fy enaid Yn mvnd i dangnef hyfrytach glannau. Blaenpennal. B. T. HOPKINS.
[No title]
Dydd Mawrtli diweddai claddwyd .gweddillion Mrs. Lloyd, priod Ap Heftn, ym Mynwent Gyhoeddus Aber- dar. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parch. J. Lloyd (W.), a chymer- wyd rhan gan y Parchn. T. Ellis, Moun- tain Ash; J. Sulgwyn Davies, a, W. R. Jones, Pelidros. Clywsom lawer gan yr olaf ar Ian y bedd am gymeriad .hardd Mrs. Lloyd, ac ni ddywedodd ddim yn ormod. Rocdd hi'n briod ac yn fam ddelfrydol. Ni welsom erioed wg ar ei hwyneb, a thrwm i'r teulu oedd ei cholli'n 50 oed. Daeth llu o bregethwyr a beirdd i'w hangladd a llythyrau oddiwrth lawer eraill na, all- ent fod yno. Cydymdeimlwn o galon l1/n cyfaill a'i ddwy ferch yn eu trallod. Gwyddom fod y byd heddyw'n ddieithr iddynt, ond cynefinant ag ef yn y man a daw bendith o'r profiad. Fe welodd Mr. Stanton ei wynfyd ar ei wrthwynebwyr yn fuan iawn. Ni welsom olygfa mor resynus erioed ag a fu yn Neuadd y Farchnad ac yn yr ys- trydoedd yn Aberdar neithiwr. Cyfar- fod a, alwesid yno i ystyried Ymyriad y Cynghreirwyr yn Rwsia a gwledydd -eraill, ond wedi cryn ymdrech o'r deutu, cliriwyd y siaradwyr oddiar y llwyfan, drylliwyd llawer ar y lie, a bu'n Fedlam wyllt yn y Neuadd, ac wedi hynny yn yr ystrydoedd. Tybed na allai Eglwysi Aberdar ddyfod ynghyd a gwneud rhywbeth i leddfu'r tonnau cynddeiriog sy'n codi o bob tu. Mae'r bobl fel defaid heb ganddynt fugail- Cofied y rhai a garai ymberffeithio yn y Gymraeg am yr Ysgol Wyliau yn Llanwrtyd Awst 11-22. Ofer yw aw- grym rhai nad oes fudd o'r ysgolion hyn. Buom yn Llanwrtyd y llynedd a gwelsom dri ugairf neu ragor yn myn- ychu dau neu dri dosbarth bob dydd am bythefnos. Pan fyddo bechgyn yn awyddus am wybodaetb. ac yn cael athrawon medrus am bythefnos, nid ychydig yw'r budd a ddeillia i'r Gym- raeg yn yr ysgolion yn ol llaw. An- foner ar unwaith am y rhaglen at Mr. Roland Thomas, Rhestr y Delyn, Aber Honddu. Deallwn y bydd Ysgol Haf Cymdeithas yr laith Gymraeg hefyd yn cyfarfod yn Aberystwyth yn ystod Awst. Pob llwydd hefyd i'r ysgol honno—yr ysgol y mae Mr. 1). James (Defynnog), Treherbert, yn ysgrifen- nydd iddi.
I Llith y Tramp.
Llith y Tramp. Mishtir Golycydd,-Fe ddala i na wetwch chi ddim acha tri chynnyg-ar- hucan i ble'r etho i o'r Barri, blecid braidd y galla i gretu mhunan mod i weti bod yno. Ond ma'r ffact yn ffaith, fe fuo i yno. Yn ble? Yn Undeb yr Indipendied yn Ponty- pridd! Fe wn i'n gwmws beth wetwch chi pan glywch chi, "Saul gita'r proffwydi." O'r gora. Fe fysa'n well i'r gwalch hwnnw ta fa weti aros gita'r proffwydi; a w inna weti pendrafynu cal mwy o'u cwmpni^ nhw o hyn i mas. Shwd etho i Undeb yr Indipendied a finna'n \Vesla? Fe weta wrthoch chi. Sown n ffordd sha T-- ond, dyna, weta i ddim nawr i ble, blecid w i am ddish- gyn i'r lie mor sytan a huddug i gawl Shir Bemro. Pan own i'n mynd j miwn i'r Bont pwy gwrddas i ond Mr. Tegryn Phillips, Hebron, Shir Bemro. "Halo," myntwn i, "beth ych chi'n neud ffor hyn, otych chi yma ar ych hynimwn? A phwy odd y ledi welas i yn troi odd wrthoch chi cyn i chi ddod ymlan ata i; Mrs. Tegryn Phillips, sbo? Wel, llongyfarchiata, old boy. 'Tis never too late to mend.' "Nage, wir," mynta ynta, "worst lyc, nid Mrs. Phillips, ond Mrs. Tywi Jones (Moelona) oedd y ledi. Ma Undeb yr Annibynwyr yn dechre'r prynhawn yma, a ma Moelona yn annerch y plant am 5,30. Ta ble ych chi'n mynd, torrwch ych shwrne a rhoswch i'r Undeb. Ma'r dynon piwr ble'r w i'n aros weti gweid wrtho i os lica i ddod a rhwun i gysgu da fi, fod pob croeso. Mafonwy oddi i gysgu da fi, ond ma fe wedi mynd i Landrindod i weld beth wel e. Fe gewch gysgu da fi, ond i chi bido cico na dwgyd y dillad. Fe fynna i dicadon bwyd i chi. Dewch i glwed Moelona heno." "Otych chi'n meddwl fod croeso i fi?" "Wes, croeso, wes." "Wel, shwd ma Moelona yn sharad yn yr Undeb a hitha weti prioti gwnitog Baptis?" "Pam lai? Wrth brioti'r Parch. Tywi Jones, dodd hi ddim yn priodi enwad y Bedyddwyr, nac wrth briodi Gol. y DARIAN yn priodi pob hen lane sy'n i derbyn hi." Ac os ych chi yn y fan na fe etho i'r Undeb, a fe glywas Moelona yn annarch y plant yn gampus. Dos dim isha i fi fynd dros y program, blecid ma darllenwrs y DARIAN ishws weti cal yr hanas yn gyrno yr wsnoth dwetha. Fe liewn neud sylwata ar yr areithia, papura, a phregetha glwas i yno, ond do's dim amsar gita fi, na lie gita chitha. Fe fuas yn Iwcus i gwrddid acha gwr bynheddig, actws yn "guide, philosopher, and friend" i fi gany mod i'n ddiarth i'r Undeb. Fe ath Ffrwdwen a finna'n bartnars mawr y dwthwn hwnnw, blecid w i yn i enwi a heb na blan-ddod na ol-ddod. Dos dim isha "Parch. "Mr. na "Lewis," ond Ffrwdwen, a ma pawb yn gwpod pw sy gita chi. Y mae pob ychwanegiad at Ffrwdwen yn tynnu oddiwrtho. "Nawr, Ffrwdwen," myntwn i, "w i'n gwpod beth yw Synod y Wes- lead, Confocashiwn yr Eclws, a Hen- durieth y Methodus, ond beth yw Undeb yr Annibynwrs?" "Wel, yco, nawr, be ma fe'n boddran i ben gyda chwestiwn fel hwn, ac ynta'n 'Vesla? Fe allwn siarad fel rhaeadr am hanner awr ar natur cyfansoddiad yr Undeb, ond beth fydda fe well, Wesle yw e, ac Undeb yr Annibynwyr yn Annibynol y bernir ef. Rhaid iddo fe ddod yn Annibyn- wr i ddeall Undeb yr Annibynwyr, a dw i ddim yn rhoi ngair y dealla fe yr Undeb wedyn. Ma yma gannodd lalver o gynrychiolwyr rheolaidd, ac ambell un afreolaidd, ond nid y nhw yw'r Undeb. Ma Cynhadledd a Chynghor, ond nid y nhw yw'r Undeb. Ma crosdynnu a jelosi yn y Gyn- hadledd a'r Cynghor, ond nid yw hviiiiv yn effeithio dim ar undeb yr Undeb. Ma canfaso a wire-pulling, ond nid yw hynny yn tycio dim ar yr Undeb. Odi e'n deall yn awr?" "Os mai sha fi ych chi'n whilia, ma'n rhaid i fi weid nag w i'n diall dim o be chi'n gisho weid." "Wel, yco, gronded e yto te. Ma Undeb yr Annibynwyr yn beth cyfrin dvchrynllyd. Ma fe fel ufelai yr awyr, do's neb yn i weld e, ond yma, pawb yn i deimlo. Ysbryd ac nid trefniant yw'r Undeb. Odi e'n deall, nawr?" "Dim rhithyn myn hyfryd i." "\Vel, gronded yto te. 'Dos dim ishe lodgin ar yr Undeb, er fod rhai beirniaid yn gweyd ma yn Llandrindod ma fe'n byw, a 'dos dim ishe ticadon bwyd ar yr Undeb run shwt a chi a fi; odich chi'n diall nawr?" "Diall, nagw. Ac os nag ych chi'n pyrgethu yn blaenach nag ych chi'n cisho sbonio'r Undeb i fi, sdim o fi'n gwpod shwd ma dynon yn ych diall chi. Ble ma'r Undeb, a beth yw a, dyna w i isha wpod." z yn wir i, os nad yw e'n dwp, { ma fe'n hwyrfrydig o galon! Ble ma'r Undeb? Beth yw'r Undeb? Ma rhai yn gweid mai yn carpet bag O.L. ma fe; a ma rhai o'r farn taw D.M.D. yw'r Undeb. Y cwbwl wed a i wrthoch chi yw 'bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun.' "Thanciw fawr, Ffrwdwen, er nad w i darned callach o beth vch chi weti weid." Dw i ddim weti gweid hanner y pethach sy yn y meddwl i geso i yn yr Undeb, enwa'r bobol gwrddas i yndo fa, na'r decs geso i. Falla gna i'r tro nesa. Ond y ma Undeb yr Annibynwrs, ta beth yw a, isht a Conffrens y Wesleas, Undeb j Baptis, a Cymanfa'r Methadus, a Ccn- focashiwn yr Eclws, yn allu rnowr, a ma dynon weid awec yndo fa, hed. Pob hvc iddo fa. TRAMP, O. B. E.
DYDD SADWRN HEDDWCH.
DYDD SADWRN HEDDWCH. Diwrnod mawr oedd y Sadwrn di- weddaf trwy'r holl wlad a'r Iluoedd yn llawenychu. Diau nad yw popeth fel y dymunwn ef, ond ni allwn ddychmygu am neb ystyriol na all lawenychu am hynny o dawelwch a llonyddwch oddi- wrth ddifrod ag a gafwyd. Y mae ar law gwerinoedd byd i beri bod Sabath o hedd yn dilyn nos Sadwrn rhyfel. Teyrnasa lesu Mawr!
[No title]
Y mae "pobol dierth" yn dylifo i mewn i drefi Ceredigion yn ystod yr wythnosau hyn, ac yn ol pob tebyg fe fydd y tymor haf hwn yn un eithriadol yma o ran rhif helaeth yr ymwelwyr a gawn. Dily's yw nad anghofia'r .gwrag- edd llety "ddal mantais" ar cyfleus- terau hyn i "bluo'r" pleserwyr
I Chwaon o. Geredigion. I-..
Chwaon o. Geredigion. GAN EUROSWYDD. Yn Angladd Geneth. Ym more'i hoes cadd groesl,-draw i wlad Araul hwnt i'r llenni; Anodd son drwy bruddaidd si Dlysed oedd bywyd Lisi! E. Proser Rhys. Moriah, ger Llanrhystyd. Dyma i chwi siarad plaen gan y Dr. A. T. Evans, a ddigwyddodd yn ei adroddiad blynyddol fel Swyddog lechyd, o flaen Cyngor Dosbarth Llan- dysul "Y mae i Geredigion ddau hynodrwydd, y naill am ei chyfraniad helaeth tuag at Fenthycion Rhyfel, a'r llall am amlder ei thrigolion sy'n ebyrth i'r darfodedigaeth. Byddai'n well i'r dalaith o lawer pe rhoddasai arian y Benthycion Rhyfel yn fwyd yn ystumogau'r plant." Drwg gennyf bod gwaeledd y Parch. D. L. Jones, gweinidog y Wesleyaid yn Aberaeron, yn ei orfodi i roddi ei ofal- aeth eglwysig i fyny. Credaf mai i Gaerdydd yr a ef am ysbaid bellach. Miss Jones, o amaethty'r Meillionen, Llanddeiniol, a ddewiswyd yn feistres Ysbyty Aberaeron. Deallaf bod fonesig adnabyddus hon ar fin cael ei hanrhydeddu ar gyfrif y gwasanaeth a wnaeth i glwyfedigion y rhyfel mawr. Pob lwc iddi. Y mae tenantiaid ystad Gogerddan wedi cael teimlo erbyn hyn, nad y di- weddar Syr Edward Pryse yw eu meistr [ tir mwyach. Syr Lewis Loveden Pryse biau'r awdurdod weithian, a'r 'canlyn- iad yw, bod y rhenti i'w talu'n llawn, ac nid gyda 15 y cant o ostyngiad fel cynt. Pan wnaethpwyd yr arfaeth i newid yn hysbys i'r tenantiaid, hwy a | anfonasant betishwn i'w meistr newydd a cheisio ganddo ail ystyried y peth, ond hynny ni thyciodd ddim. Daliai Syr Lewes nad allai ef, am fod am- gylchiadau wedi newid, osod yr eiddo. gyda. 15 y cant o ostyngiad yn y rhenti fel yn nydd ei frawd, a'i dad o'i fiaen. j Diwedd y stori yw i'r codiad gael ei dalu gan y tenantiaid bob un ar y dydd penodedig i dalu rhenti'r ystad. Bodlonodd y Parch. J. Ellis Williams, Llansawel, ddod i fugeilio diadell Fethodistaidd Llanddewi Brefi. Bod- lonodd gwehyddion gwaith gwlan Celwendeg, ger Henllan, fynd yn ol at eu gwaith yr wythnos ddiweddaf wedi'r streic den honno o'u heiddo. Am Eisteddfod fawr Aberaeron y sonia pob cerddor, ac adroddwr, pob bardd a lienor, drwy'r sir i gyd y dydd- iau hyn. Diolch yn fawr i'r Athro E. O. James, M.A., un o'r ysgrifenyddion, am anfon imi brogram,—ac am ei lythyr caredig hefyd, a'r englyn hwnnw! Peidied ef a gofyn mwy pwy yw Euroswydd. Rhaid inni oil gael Eisteddfod Canolbarth Ceredigion ar ei hyd, ond rhaid e fechgyn 1 Y mae'r gwair ar lawr yma ar bob tu weithion; ac 0 1 y mae'r llysiau duon bach yn ddu ar y cloddiau. Dwg arogl per y naill, a bias melys y lleill imi lu o hen atgofion am wynfyd didor dydd- iau maboed. Eithr, lie heddyw y mae'r plant a gydroliai a mi yn y gwair ar lawer i hafddydd tesog gynt, ac a gydgasglai lus a mi ar bennau cloddiau yn hyfrydwch ami hwyrnos dawel? G wnaeth amryw o amaethwyr Cere- digion enw da iddynt eu hunain yn yr Arddangosfa Frenhinol Amaethyddol yng Nghaerdydd yr wythnos o'r blaen. Llongyfarchiadau i chwi bob un, heb eich enwi, ac i fyny eto y byddo'ch nod. Dewiswyd Mr. John Rowlands, O.B.E., M.V.O., yn un o'r tri aelod cyntaf ar y Bwrdd lechyd i Gymru dan y Weinyddiaeth lechyd newj»dd. Nid 1- [ yw ryfedd bod dringo fyth yn ei hanes ef, onid un o'r Tregaroniaid dawnus ydyw? A gawn ni ei weled yn cynrych ioli Ceredigion deg yn Senedd-dy ei wlad ryw ddydd a ddaw ? Gyda phedwar ugeinmlwydd o'i ol, hunodd yr ysgolfeistr mawr ei fri John Stewart, o SHian, ger LIanbedr. Heb- law bod yn ysgolfeistr rhagorol, meddai hefyd ar ddawn bardd, a charai'r eglwys yn angherddol. Gedy ar ei ol weddw. tair merch a thri mab—a'r tri mab yn offeiriaid. Y mae Cangen 0 Undeb Cynghrair y Cenhedloedd newydd ei sefydlu yn Aberystwyth, a deallaf bod yr aelodau oil yn llawn asbri a delfryd. Boed gwych eu gwaith. Gweithid yn ffactriau gwlan y Cam- brian, Felindre, Henllan. ddydd a nos yn ddiweddar. Pan ddaeth shifft y dydd am saith o'r gloch fore dydd Gwener, y 11 cyfisol, at eu gwaith caw- sant fod un o'r ffactriau ar dan. ac ni larieiddodd y fflamau, er pob rhyw ym- drec-h, hyd ganol dydd, ac erbyn hynny yr oedd y ddwy ffactri a'i holl gynnwys yn ulw. Gwnaeth y dinistr golled o tua ugain mil o btinnoedd, a heddyw nid erys lie bu ffactriau mawr a phrysur, namyn atgo o'r pruddaf yn nrych llwydaidd y inuriau noethion. Y mae Brenhines Belgium wedi prynu darlun "Y Gaeaf yng Ngheredigion," o waith y Bonwr Valierus De Saadeleer o Rydfelin, ger Aberystwyth, yn ddi- weddar. Dod yrp;; fel ffoadur yng nghyni'r rhyfel mawr 3 wnaeth y Bel- giad hyglod hwn *i ddechren, eithr hoff- odd Gymru,—yn enwedig Ceredigion yn iawr, a'r diwedd a fu iddo bender- fynu cartrefu yma, ac yn Rhydfelin dawel y bu hynny. Y rna-e'n un o arlun- wyr penna'r byd. ac erbyn hyn y mae wedi paentio llu o olygfeydd gwleaig Ceredigion.
[No title]
CiJycwm.—Drwg gennyrn hvsbvsu am farw Mr. Stephen Davies. Brynderi, Cilycwm, yr wythnos ddiweddaf. ar ol misoedd o gystudd. Er mai nev.ydd ddod i'r ardal hon yr oedd efe o Blaen- nantmelyn, Rhandirmwyn, bydd yn chwith gan luaws mawr ar ei ol. Bu yn flaenor yn Eglwys Cwrtycadno (M.C.) am lawer o flynvddoedd, lie yr oedd yn nodedig o ffyddlon er tod gan- ddo dros dair milldir o ffordd arw i fyned yno. Daeth nife i- luosog o'i hen gyfeillion o'r Hhandir a'r Cwrt i'w angladd. Rhoddwyd ef i orffwys ym Mynwent Cilycwrn. GAveinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. T. Phillips. Siloh; J. Davies, TJanwrda (Saron); D. J. Howen. Uanymddyfri Dan Evans, B.A.. Cilyewm. ae F. Jenkins, y Fice"- Nodded y nefoedd fo dros y weddw a'r ferch. Yr oedd yn 11awen gennym n eled y Parch. D. J. HoweHs, Llanymddyfri, wedi gwella cystal ar ol y ddamwain flin a'i cwrddodd. Tarawyd ef i lawr gan fodur oedd heb oleu priodol, rai misoedd yn ol. ger llaw ei gartref. Tor- rwyd ei glin, a ehaethiwyd ef i'w dy am amser maith. Deallwn ei fod bellach wedi ail gymeryd i fyny ei ddyled- swyddau fel atiu-aw Cynnaeg yn Ysgol Ganolraddol y dref. Disgwylir y bydd yn alluog i lanw ei gyhoeddiadau heb fod yn faith, gan fod y glin yn cryfhau yn raddol. Erbyn hyn mae y gwr ieuanc talentog Mr. Dan Evans. B.A., Cilycwm, wedi gorffen ei yrfa yng Ngholeg Aberys- twyth. Rhoddwyd galwad unfrvdol iddo gan Eglwys (M.C.) Siloh, Llan- elli, i ddyfod i'w. bugeilio. Derbyniodd yntau yr alwad. a bydd yn cychwyn ar ei waith tua diwedd Medi. Llongy- farchwn Siloh ar ei dewisiad. Teimla Soar, Cilyewm (ei fam eghvys) ddiddor- deb mawr ynddo. Nid oes ond ychydig er pan ddychwelodd o Fesopotamia, ar ol bod yn y fyddin am tua thair blyn- edd.-Glan Tywi