Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
LLfRAU CYMRAEC. Os am gyflawnder o Lyfrau Cymraeg add. i'w rhoi'n Anrhegion i Blant YSGOLION SUJ A GOBEITHLUOEDD, anfoner at— Mr. JOHN EVANS, 14 Wharton Strait, CARDIFF. t en galwer gydag ef tiaill ai yn v cyfeiriad achod neu yn Nhy Marchnad, Pontypridd. ATHROFA ABERYSTWYTH (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol CymruX Prif-athraw: T. F. ROBERTS, M.A. LI D DECHREUA'R Tymor nesaf ym mis IJ Hydref. Paratoir yr efrydwyr at gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru Cynygir amryw o Ysgoloriaethau (amryw o honynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. Cymer yr arholiad le yv Aberystwyth ym mis Medi nesaf. Am fanilion pellach ymofynir a— J. H. DAVIES, M.A., Oofrestrydd.
Gwaith i Ferched.
Gwaith i Ferched. ADDEWID Y PRIF WEINIDOG. GAN WAS CYFLOG. Newidiwyd cryn lawer ar reolau gwaith mewn amryw o'n diwyd- iannau yn ystod y rhyfel. Daeth y rheolau hyn i fod drwy ymdrechion diflino undebau Ilafur yng nghorff y blynyddoedd a aeth heibio, a'u ham- can oedd gwella byd y gweithiwr a'i ddiogelu rhag i'r cyflogwyr fan- teisio'n annheg ar ei lafur. I Gan fod yn y rheolau duedd i lei- hau cynnyrch y ffatrioedd, gwnaed cais gan y Llywodraeth am newid rhai ohonynt er mwyn galluogi'r gweithwyr i droi mwy o waith allan. Teimlid bod hyn o bwys i'r wlad yng nghyfnod y rhyfel, ac addawyd dodi'r rheolau mewn grym drachefn ar ddiwedd y rhyfel. Ymgais i gyflawni'r addewid honno yw'r "Restoration of Pre-War Practices Bill. Bu pwyllgor o Undebwyr Llafur yn ystyried y mesur cyn ei gvfiwyno i'r Senedd, ac mae'n debyg y rhoddir cymeradwyaeth pur unol iddo gan y gwahanol undebau. Teimlir er hynny gan fod amgylch- iadau llafur wedi newid cymaint yng nghorff y pum mlynedd diweddaf, na ddylid mabwysiadu'r hen reolau yn eu crynswth. Yn un peth mae merched wedi dod yn elfen bwysig ym mhob diwydiant bron, a buasai'r hen reolau'n gofyn am eu troi hwynt allan o'u lleoedd wrth y miloedd. Gofelir am achos y merched gan Gymdeithas a lywyddir gan Lady Rhondda, sef y "Women's Industrial League." Nid yw'r gymdeithas yn gwrthwynebu'r Mesur. Cydnabyddir y dylai'r Llywodraeth gyflawni ei h addewid i'r undebau llafur, ond bernir ar yr un prvd fod yr amgylch- iadau presennol yn gofyn am wneud un neu ddau o welliantau ynddo, a hynny ar sail addewid arall a wnaed; gan y Prif Weinidog i Gynghrair y Merched. Os pesir y Mseur fel y mae, fe droir y merched allan o'r, holl weith- feydd peiriannol a llawer o'r diwydiannau newyddion a sefydlwyd yng nghyfnod y rhyfel. A chan fod y rhain, gan mwyaf, yn ddiwydiannau a gychwynwyd drwy lafur y merched, buasai'n golled ac yn annhegwch o'r mwyaf eu troi hynt allan yn awr. Ym mis Rhagfyr diweddaf rhoes y Prif Weinidog addewid ar ran y Llywodraeth i Gynghrair, y Merched mewn atebiad i gais a wnaed gan Lady Rhondda. Dywedodd nad oedd y Llywodraeth wedi addo dodi'r hen reolau mewn grym yn y diwyd- iannau newyddion, ac y gofalai ef y cai'r merched ryddid a phob chwarae- teg i aros yn eu gwaith presennol. Yn y diwydiannau hyn a'r rhai oedd yn agored iddynt cyn y rhyfel, cai'r merched bob mantais i ddilyn eu J gwahanol alwedigaethau. Yn ddiweddar anfonodd Cynghrair y Merched deligram at y Prif Weinidog yn ei adgoffa am ei addewid iddynt, ac yn mynegi bod adran gyntaf y Mesur yn hollol groes i'r hyn a addawsai Mr. Lloyd George gyda golwg ar ddiwydiannau newydd- ion. Dywedasant eu bod yn disgwyl iddo sefyll at ei air a gofalu na j •• ,chaff o'r merched mo'u hamddifadu o'u lleoedd yn y diwydiannau a gychwynwyd ganddynt hwy eu hun- ain yn ystod y rhyfel. Mae Cynghrair y Merched yn ddigon parod i gydnabod hawliau'r dynion fu'n ymladd dros eu gwlad, a'i bod yn ddyledswydd ar y Llyw- ¡ odraeth ofalu am waith iddynt. Er hynny ni ddylid anghofio bod miloedd lawer o ferched allan o waith. Yn eu ivsg mae Ilawer o wragedd gweddwon gyda phlant a llawer o wragedd priod na allai gynnal eu teuluoedd heb gael gwaith o ryw j fath. Heblaw'r rhai hyn mae nifet- fawr o ferched ieuainc sy'n cynnal eu hunain. Pe troid y rhain allan o'u: safleoedd presennol, dyn a wyr beth fyddaieudiwedd. j Rhwng popeth a'i gilydd, mae'r dyfodol yn eithaf tywyll. Camgym- eriad dybryd fyddai ceisio troi'r merched allan o'u lleoedd. Mae digon ohonynt allan o waith eisoes heb I ychwanegu miloedd eto at eu nifer. Ac nid oes sicrwydd ychwaith y ceid dynion i lanw eu Ileoedd pe gwneid fel yr awgrymir yn y Mesur Seneddol.
IICenedlaetholi y Glofeydd.
IICenedlaetholi y Glofeydd. I BETH A WNA'R PRIF- WEINIDOG? GAN E. P. JONES, PONTAR- DAWE. I Fel gwyr pawb mae adroddiad Syr John Sankey wedi ei roddi yn llaw y Llywodraeth. Y drwg yw mai dynion [ sydd wedi pesgi yn fras, lawer o honynt ar gefn y gweithwyr a'r milwyr yn ystod y pum mlynedd di- weddaf, yw y rhan fwyaf o aelodau presennol Ty'r Cyffredin. Ymhlith y llu, yn ychwanegol at dirfeddianwyi, ceir perchnogion glo, rheilffyrdd, ac arianwyr mawr. Mae rhai ohonynt nid yn unig yn Nhy'r Cyffredin, ond yn y Llywodraeth hefyd, a'r rhan fwyaf o honynt yn Geidwadwyr o'r iawn lyw. Felly os symuda'r Llyw- odraeth i ddcddfu ar adroddiad y Barnwr Sankey, tebig nad bychan fydd tnvst y rhai hyn. Ymddi- swyddant yn ddiau, ac felly o angen- rheidrwydd bydd Etholiad Cyffredinol. Bydd yr etholiad hwnnw ar gwestiwn cenedlaetholi'r glofeydd, fel y bu dau etholiad 1910 ar y Gyllideb a Thy'r Arglwyddi, a'r etholiad diweddaf ar heddwch. Gan fod y Cyfalafwyr yn paratoi'r frwydr, dylai y gweithwyr wneud yr un modd. Priodol a fyddai i wyr y rheilffyrdd ddod a'i cais o genedlaetholi y rheilffyrdd o flaen yr etholwyr ynglyn a'r glowyr. Peth pwysig—os pwysig hefyd—yw ar ba ochr y bydd y Prif Weinidog. Mae efe wedi llwyddo yn hynod iawn i farchog dau geffyl yn ystod y pum mlynedd diweddaf. Gormeswyr o'r iawn ryw yw rhai o'r Llywodraeth bresennol, ond tystia ef ei fod yn "gyfaill i'r gweithwyr." Bydd prawf ar ei onestrwydd gwleidyddol yn yr etholiad nesaf. Os ymlyna wrth y pleidiau y mae yn cydweithio a hwy heddyw, daw'r gyfrinach— sydd wedi peri i lawer ameu yn ystod y blynyddoedd diweddaf—i'r golwg- Ar yr ochr arall os bydd yn "gyfaill i'r gweithiwr," rhaid fydd iddo ymuno a Phlaid Llafur, ac mae Mr. Pemberton Billing-pe buasai rhyw bwys ar ddywediadau hwnnw-—wedi proffwydo y bydd Mr. Lloyd George yh fuan yn arweinydd Llafur. Mae y blaid hon yn ddigon eangfrydig ei syniadau, ac yn ddigon croesawgar i dderbyn pawb feI y mae wedi dangos eisoes yn ystod y misoedd diweddaf, ond dylai fod yn fwy gwyliadwrus. Y muna rhai a'r Blaid er mwyn mantais i email poblogrwydd iddynt ei hunain, gan mai y blaid hon yw plaid ddyfodol y Senedd a'r wlad. Bu gennym Lywodraeth dro yn ol-am ddileu pob gormes, a rhoddi rhyddid i Gymru a'r Iwerddon, etc. Yr oedd ei hareithiau'n eiriasu'r wlad, a Thy v Cyffredin fel pe'n cael ei danbelennu; ond dyma'r Cymro a'r Gwyddel heddyw, ar ol naw mlynedd o ddadleu yn yr un man yn union. Pahiam Gwerthodd y Prif-Weinidog y blaid y perthynai iddi, ac os gwnaeth hyn unwaith bh sydd yn ei rwystro i wneud eto. Drachefn y dywedaf y ¡ dylai Plaid LJafur fod yn wyliadwrus wrth dderbyn rhai nad ydynt weith- wyr i mewn iddi. Os bydd Etholiad Cyffredinol yn fuan, oc os bydd Llafur wrth y llyw, bydd rhagolygon y wlad unwaith eto yn ddisglaer am rydd- had i'r bobl, a chyflawniad o addew- idion a wnaethpwyd.
YR YDLAN. I
YR YDLAN. I (Buddugol). Diogel gronfa digon,—yw'r ydlan. j Cyfreidle anghenion; Gwair aroglns tan goron, A'r grawn a in a geir yn hon. Aberaeron. E. 0. James, M.A. LLYGAD Y DYDD. I Deg, agored, gawg ai,ian-i ddal dydd; I Waelod aur l'yd bychan; Eiddil a glwys ddeial glan Sydd groesawydd gwres huan. Glyn Myfyr. I
Advertising
BEES BILIOUS BEANS. Y Feddiginiaeth oreu at yr Afu a'r Cylla. I Anfonwch am lion, 1/3: drwy'r post, 1/5. Don't complain your liver is wrong. You will feel ten years younger after a few doses. Hundreds testify to the value of this medicine. Agent for South Wales: J. Harris, Ph.Ch., M.P.S., Major Pharmacist, Ystradgynlais. Cures Headaches, Constipation, Indiges tion, Dizziness, Piles, Sallow Complexion Female Weaknesses, Pains in the Back, Pimples, Loss of Appetits knd gives wat to the whole ayst.em
Aelwyd y Beirdd.
Aelwyd y Beirdd. Anfoned y Beirdd eu cynhyrchion i Ap Hefin, 11 Seymour Street, Aberdar. E. 0. James, M.E.-Anrhydedd ar yr Aelwyd yw caei y gwyr teilwng i mewn iddi. b I::> Alaw Sylen.-Doniol yw'r Alaw yn peri i'r adar ganu caneuon Cymraeg. d. Jones.—Anghywir oedd y llinell—• "Ryd fory byddai ofal." Clyn Myfyr,—Dvma waelod y celwrn. llhagor, os gwelwch vn dda Evan Jenkins. Cywrain yw'r llinell gyntaf, ond mwy dymunol a fuasai pe bai y gair "llesg" yn disgyn ar acen ysgafll, megis, "Temig lie bo fflam ddigllon." D. P hill ips.-Taiiiaid pwrpasol. Clan Tecwyn.—Cyfres ragorol, yn aros eu tro er's amser. Talnant.-—Gwyeh a i'uoch i gael naw gair gwahanol i odli a "phen star. LludcJfab.—Odlau cymeradwy. J.R.J.-Aniserot, gan un a fu yn sefyll i fyny dros ei wlad. Merthyrfab.—Llawn cleciadau cyngan- eddol, fel y dylai fod ar y mesur hwn. Colfa da am y gwrt-hrychau annwyl a ddarlunir mor gywir ynw. Elizabeth Jenkins, Sylwed. v dis- gyblion ar odlau cywrain E J Ceir dwy oell yn y llinell gyntaf a'r drydedd drwy y gan. B. Morgan. -Acli tib ii,yd cymaint a hyn o'r baich rhag gwanc y fasged a gwres y fflam. Dwys yw diweddiad y gan. E. Proser Rhys.-Ci-oeso bob amser. Harding Rees,-Haptis iawn. BRYNMAFONWY"DD," TON PENTRE (Neu, Esboniad Serch). Brynmafonwydd Beth yw ei ystyr?" Holais i Decwyn fardd. Gwyddoch," ebr ef "be' 'dy' mafon coch— Ffrwythau melysaf yr ardd." Ond ni welais argoel am fafon Ar y bryn, dim ond aethnen a phin; Ni thyfai yn unman y melys ffrwyth Sydd a'i liw a'i flas fel gwin. "Brynmafonwydd:—Beth yw ei ystyr?" Holais i lane o'r lie, Ond cyn rhoi ei ateb daeth gwrid i'w ruiJd- "Beth y.w mafon, i ddechreu?" medd e'; Meddwn t "Y melysaf o'r ffrwythau; Ac yn wridog deg fel y rhos." 0, wel," oedd ei ateb, "mae'r ystyr yn glir— Yno tyfws fy Enid dlos!" Llungwyn, 1919. Wil If an. AWRLAIS Y DIAFOL. I Canfyddir yr awrlais gan bawb ar eu taith, Mae ganddo dclan wyneb, fel hwnnw a'i gwnaeth; A'r ddau wyneb hynny a'u hamcan yr un Sef twyllo a damnio eneidiau pob dyn. Ceir un wyneb iddo yn araf bob pryd, A'r llall yn rhv gyflym, a hynny o hyd; A'r ddau yn cydweithio fel pe baent yn iawn, D'wed un bod hi'n fore, a'r llall yn bryn- hawn. I'r dyn canol oedran a'r ieuanc fe dry Y wyneb sydd araf, a dystia yn hy' Rhy gynnar yw eto i godi eich croes, Cewch ddigon o gyfle cyn nawnddydd eich oes. I'r hen a'r inethedig, ar derfyn y daith, Fe dry'r wyneb cyflym, a dd'wed yn ei iaith: Rhy hwyr i chwi fyned i'r winllan yn awr; Mae'ch einioes ar ddarfod, a'ch nerth nid yw fawr. Ha ddyn, paid a gwrando ar awrlais y Du, Ond gwrando ar lesu a'th garodd mor gu, Sydd heddyw yn d'wedyd: Nac oeda yn hwy, Derbyniaf bob oedran, yn rhinwedd fy < nghlwy. Dowlais. <' Ap Gwilym. CYWYDD: Y BORE." I 0! bured yw y Bore,— Difai o hyd yw efe 0 law Duw yn loew del Drwy ein daear yn da wel. Egyr liwgar olygon Uwch traethau iach tir a thon. Draw o dyrau y Dwyrain Y lliwia'r gwyll a'i wawr gain, A'r nos yrr a'i hoenus wen 0 heirdd diroedd daearen; Ac 0! hardded y cerdda Ei lenfer hael fore Ha' Rhaid i'r Lloer o hyd roi lie I wen burwen y Bore. I Ser y nos ar hyn a ant Yn eu gwyn i ogoniant. Drwy y wlad ei wawr ledodd, A phwy o'r wig na ddeffrodd? Telynorion gwylltion gant O'r dail ir a delorant. Ei wenau cain ym mhob cwr Heria mwy yr 'Amhenwr, II A dall enaid hy]I annuw' ? Mwya' n dysg, i ameu Duw Ond i fvd 'dvw'r -olud fedd Ond addewid o'i ddiwedd. Ei wen ddistaen, diystwr Lonna galon y gwyliwr; Chwaon ei awelon iach A fydd nefoedd un afiach; Ac er ingon loesion lu, I'w ogonedd myn ganu. Yn ber ei gan heibio'r gwydd I Bywiog hwylia'r bugeilydd. A'i enaid yn ymlonni Yn ei buraf, loewaf Ii' Ei fri o hyd a fawrlia, A'i fyw ddylif addola.' Y Bore ddaw heibio'r ddol Yn ei fawredd arferol, A'i wawl a eilw Olwen I gadw 'stwr gyda'i sten. A daw ar frys drwy y fro Drwy ddiwydrwydd i odro, A iechyd o hyd i hon Fwria ddedwydd freuddwydion. Fun hudol! 'rwy'n addoli Rheffynau aur ei phen hi. Fore annwyl, cyfrenni Dy falm i fod fel myfi, A rho'i i bawb drwy y byd Ynni buan a bywyd. Er dy holl drysorau di Fe lonna£ pan ddiflenni. Caf oleuni cyflawnach Pw fawrhau, 0! Fore iach! Yn dy ddilyn, Dydd welaf, Er hyn oil dy garu wnaf. I Addewid Dydd o hyd wyt,-— Mynedol, ond mwyn ydwyt. Milwyn. I LLAW FY NHAD. Liaw fy Nhad yw llyw fy nerth,—ynddi hi Ni ddaw oin na thrafferth; Mwy o wybod am Aberth Ei law gu a wel ei gwerth. Yn llaw fy Nhad ni chyll fy nerth,—deil hwn Adail oes yn gydnerth; Byw i'w rodfa yn bydferth A ddaw a'i nawdd iddo'n nerth. Llaw fy Nhad, cariad mwyn cu—weinyddir Yn addas fel gallu; Ac yr ydym yn credu- Deil ein Tad Ei law o'n tu. Llaw fy Nhad yw llwyfan hedd,—ac ar hon Y ceir hwyl gorfoledd; Agoi'iad fawr trugaredd, Nawdd i fyd viiddi a fedd. Llaw fy Nhad, pwy all fy nwyn,—o honi Ond i'm henaid ymddwyn; Yma i serch y mae swyn Yn neddfau yr Oen addfwyn. Ni ddaw nos i dduo nen,—y didwyll Gredadyn—inae'i wybren Oil yn hardd a'i lliw yn wen, Ac yn oleu gan heulwen. Gall enaid golli'i hunan,—yn y byd Oni bae am lydan Law fwyn Duw—yn golofn dan Nes hyllio ei nos allan. Duwioldeb ydyw heulclwr-yr enaid Sydd ar enw'i Brynwr; Cariad enaid crediniwr Wna foli Duw fel ei dT. Mae olion y cymylau—a lliw ing Ambell waith yn rhwystrau; A gwelir fod rhigolau Glynnau erch heb eu glanhau. Er hynny mae yr enaid-yn treiddio Trwyddynt i fyd cannaid O'i dywydd blin-dydd o'i blaid Rydd lawenydd ei lonaid. Yn llaw fy Nhad gall fy nerth-yn addas Gynhyddu yn brydferth; Mae arnom eisiau mawrwerth Ar risiau ing yr oes serth. Dringom raeadrau ingol—a llethrau Llithrig annherfynol; 0 gaddug du'r tragwyddol Ni ddaw wyneb neb yn ol. Yn llaw fy Nhad gallaf yn hyf-wynebu Anobaith yn dalgryf; Beiddiaf groes a byddaf gryf Ei law wyrthiol ddeil wrthyf. Ingoedd diweddaf angau-wynebaf Dan obaith a gwenau; 0 tanaf yn y tonnau Yn bur o hyd gwna barliali. Arhoswn gyda'r lesu—a byddwn Yn beiddio pob gallu Cariadus ydyw credu Deil ein Tad Ei law o'n tu. Gogledd Cymru. Glan Tecwyn. ATGOFION I Am Ymadawedigion amlwg o Gymreigydd- ion Merthyr Tydfil. Gwyl Dewi Sant, 1919. Atgofion cymysg ddwg y dydd, Atgofion prudd a Uawen, A mynnu lie mae lleddfol dant Caredig blant Ceridwen; Eu doniau iach fu'n denu hwyl— Y cwmni annwyl cymen. Shon o Ferthyr difyr dant Oedd un o'n plant ffyddlona; Bu iddo awen iach ei thonc Ddiguro, sionc, hawddgara', A mynodd roi yn wir Amen I Ben 'n ei emyn ola'. Y Parch. John Thomas, per ei ddawn, A'i nwyfiant, llawn o nefoedd; Hwn fu drwy'n gwlad o fan i fan Yn fywyd Cymanfaoedd; Ac onid oedd ei wen a'i rin Yn asbri i'n hysbrydoedd? Mae Cynog, yntau wedi mynd, Wrhydrol ffrynd dirodres, A'i galon hylon fel yr ha', Diwenwyn, da ei hanes; Yr oedd ei awen yn ddi-frych, A chanai'n wych a chynnes. Alaw Tydfil, awen ffraeth, A'i englyn chwaethus parod; O'i golli cafwyd ergyd trwm— Yn llwm gwnaed pob cpyfarfod. Barddonai ef yn bur ei ddawn, A difyr iawn ei dafod. Hen arweinydd plant y gan, A'i sel ar dan yn cynghan, Enillodd lawer 'sgarmes lew- Y Cymro, Lewis Morgan; Ei weddill,ond ei geyddgar nwyd- A gronnwyd yn graian. Sydyn syrthiodd pabell hardd Gornwyfus fardd, Gwernyfed, Y diwylliedig feirmad pur, Ac eglur ei amgyffred; Olrhain hen hanesion lu Ac achau fu ei syched. Coeth fit cynnyrch a pharhad Awenfraint fad Gwyddonfryn, Yr awen lifai fel y nant, I A mwyniant yn ei emyn; Barddona eto uwch pob clwy', A di-loes mwy ei delyn. Hollol chwith o--dd colliyii chwai Ein difai leuan Dyfed, Cyfarwyddwr beirdd ein bro, To ar ol tô, i gerdded; i wyliau haf cadd ef ei ddwyn, Ln hyfwyn i dangnefedd. I Broffwydi, hoff gyfoedion, i g\yyiio wnewch hen deulu da 11: erw yma'r awrhon? A rhoi ysbrydiaeth gyd a gwen I wella hen gyfeillion. Merthyrfab, CYMRU. Gymru h3 wddgar, Gymru ddengar, Mae dy enw'n annwyl inil Gymru dirion, Gymru'r dewrion. 0 dy fewn, nid ofnaf ddim; Goreu fan a gar fy enaid, Eden fy nymuniad gwiw; Nid oes llecyn yn y cread Fel tydi—fv llgwhd-i fyw. Gymru'r tadau, Gymru'r oesau. Adsain buddugoiiaeth ddaw; Gymru'r ffyddlon, Gymru'r meibion. Sydd a'r llawryf yn ei Haw; Deued gelyn o'r lie delo, Rhued Ilewod o bob tu; Rhuthred uffern i'th ddinistrio, Braich dy Dduw a'ch achub di. Gymrxi foesol, Gymru dduwiol, Drosot collwyd gwaed yn Hi; Gymru swynol, Gymru wrol, Llawer arwr fu i ti; Bu Llewelyn ein llywolaf, A llu dewrion mawr o fri; Prif Weinidog Prydain heddyw Yw ein Moses ffyddlon ni* Gymru'r canu, Gymru'r moli Mae'th emynau'n llawn o hedd; Gymru'r capel, Gymru'r dirgel, Duw a'th dal mewn amlwg wedd; Mae'th weddiau a'th bregethau, A'th fawr ddoniau aral M. Oil yn uno i ddvrchafu Angau'r Groes a Chalfari. Elizabeth Jenkins. Birchgrove, Llansamlet. "YR ARDD." Dau atgof bellach gyffry'm henaid i Pan droediwyf Iwybrau'm gardd ym mrig yr hwvr; Un, a'm tristha hyd 'ylo'r dagrau'n lli, A'r Hall a lonna'm calon, Duw a wvr. 7:- A minnau 'nghol fy mam yn febyn cu,— Rwy'n cofio syllu ar ddarlun ar y mur, A chanfod gardd, liw nos, ac arfog hi Yn dwyn ohoni wr oedd flin o gur. A holi mam a wneuthum i, fel f'oed Ynghylch yr ardd, y dyrfa, a'r Un frist '0, Gethsemane yw'r ardd.' eb hi'n ddioed' 'A'r Gwr Gofidiis,dyna lesu Grist.' Tr ddalfa erch fe'i dug v caswyr hyn; A thrannoeth aed ag ef mewn dirmyg rhydd I'w hoelio i fa ny ar Galfaria fryn,— Pan dduodd haul y nef ar ganol dydd!' 'Paharn yr hoeliwyd? Ni wnaeth lesu gam A neb erioed, ac ni fu drwg i'w fryd; A phan y ffynnai i frad mewn gardd?' A mam A'm prudd atebodd: "Dyna ddull y byd." A minnau'n eistedd yn fy ngardd, fy hun, Ymysg y blodeu, un prynhawn o haf;— Pan oedd fy nyenaf traserch ar ddihun, A'm mynwes ifanc, rhag ei bangau'n glaf. Tra yr eisteddwn yno'n ddistaw syn, Mewn gvvylltu daeth fy Ngwen i'm hyml i' Gan blethu'i dwylo am fv ngwddf yn dynn A cholli'r dwr, a Ilefain, "Maddeu i mi "Mi'th gerais er y'th welais gynta erioed O-maddeu i mi'n ffol ddibrisio'th serch" Eb linnau, "Maddeu? Gwnaf, bid pen i d'hoed, A llyma fodrwy' 'r gwrthod g" vnt fy merch." A phersawr trwm yn crwydro'n fud drwv'r ardd, A swn aberoedd pell yn dyner draw, A'r nos yn nesugwelid bun a'i bardd Yn cerdded rhwng y blodau law yn Haw. Dau atgof bellach gyffry'm henaid i, Pan droediwyf Iwybrau'm gardd ym mrig yr hwyr; Un a'm tristha hyd wylo'r dagrau'n IIi, A'r Hall a lonna'm calon, Duw a wyr. 30/4/19. E. Proser Rhys.