Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Ein Senedd a'n Seneddwyr.

News
Cite
Share

Ein Senedd a'n Seneddwyr. GAN Y GWYLIWR. Er pan beidiodd y brwydro ym mis Tachwedd diweddaf, ni chafodd y wlad ergyd mwy cyffrous na'r hon a gafodd dydd Mercher diweddaf, pryd yr hysbysodd Syr Auckland Geddes (Llywydd Bwrdd Masnach) y bwriedid codi pris y glo chwe swllt y dunell o ddydd Iau nesaf (Gorff. 16). Gwnawd yr hysbysiad mewn ateb i ofyniad o eiddo Mr. Sturrock (Montrose), er hynny i gyd disgynnodd fel taranfollt ar y wlad. Beth sydd yn cyfrif am y fath godiad mawr a sydyn? Yn ol Syr Auckland, achosir ef gan godiad cyflogau a gostyngiad oriau gwaith y glowr a'r lleihad yn swm y glo a godir mewn canlyniad. Tadogir ef gan ereill i ystryw y Llywodraeth yn wyneb v ffaith bod etholiadau yn digwydd yn Abertawe ac yn Bothwell (Scotland), ac mai cwestiwn cen- edlaetholi y glofeydd sydd yn uchaf peth yn y gornestau hyn. Gwyddis fod pethau wedi mynd yn erbyn y Llywodraeth yn drwm yn yr ethol- iadau yn ddiweddar, a chyfleus hollol felly oedd cael moddion i droi'r gelynion yn ol. Gwasgodd Mri. Vernon Hartshorn, Tom Richards, Adamson, ac ereill yn bur drwm ar wynt .Llywvdd Bwrdd Masnaeh, ond cefnogodd Mr. C. Stanton ef yn aiddgar, gan daflu ensyniadau cas at Gynghrair y Glowyr a'u harweinwyr. Cvfeiriodd at gyn- rychiolwyr y glowyr ar Ddirprwyaeth Glo fel Bolshefiaid a Gwrth- Brydeinwyr, ac anodd fyddai i elyn pennaf glowyr siarad yn fwy diys- tyrllvd o'u hawliau. Apeliodd Mr. Hartshon at y Llywodraeth ar iddynt beidio codi pris glo hyd nes cael trafodaeth ar y pwnc yn y Ty, ond gwrthododd Mr. Bonar Law gydsynio a'r cais, a dywedodd fod y mater wedi cael ystyriaeth faith a gofalus ganddynt. Beth bynnag sydd tu ol i'r fusnes, amlwg yw bod dydd yr ornest rhwng y Llywodraeth a gweithwyr Prydain Fawr yn agoshau. Hyd yn hyn, gohirio dydd y prawf ydym wedi wneud. Rhoddodd y Llywodraeth ffordd i wyr y rheilffyrdd ac yna i'r glowyr, a'r dybiaeth, oedd mai'r gweithwyr gai'r fantais. Ond bron yn union wele bris y bwydydd a phopeth arall yn codi, nes yn y diwedd yr oedd yn waeth arnom nag ar y dechreu. Cvfrifir heddyw bod sofren yn gyfwerth ag wyth swllt cyn y rhyfel. Pe bai gweithiwr yn ennilt pum punt yr wythnos yn bresennol, byddai yn yr un fan a phan oedd yn en- nill dwy bunt yr wythnos cyn y rhyfel. Deil lVfri. Robert Smillie a Frank Hodges, llywydd ac ysgrifennydd Cynghrair y Glowyr, nad oedd galw o gwbl am godi y pris ar hyn o bryd. Nid yw Smillie a'i gyfeillion yn gwneud eel na chwnsel o'r ffaith mat eu nod yw cenedlaetholi y glofeydd, y rheilffyrdd, y porthladdoedd, y tir, a phopeth o'r fath, ac ar hyn yr ym- osodwyd yn etholiad Abertawe ac yr vmosodir yn Bothwell. Ddeng mlyn- edd yn ol nid oedd sicrhau yr eiddo, uchod yn eiddo'r genedl yn ddim ond byrdwn rhyw ddyrnaid bychain o Sosialiaid a gyfrifid yn wyllt os nad yn hanner gorffwyllog. Heddyw hawlir hyn gan fwyafrif gweithwyr y wlad, a gosododd y Barnwr Sankey ei sel ar dynged rheolaeth a pherch- nogaeth ein glofeydd yn ol y cynllun presennol. Ac onid yw y Llyw- odraeth ei hun wedi addo deddfu ar linellau cymeradwyaeth y Barnwr Sankey ? Dydd Gwener darllenwyd y Mesur Tir newydd y drydecVi waith. Amcan proffesedig hwn yw hwyluso'r ffordd i gael tiroedd i adeiladu, ond ei -effaith fydd galluogi tirfeddiannwTyr i sicr- hau prisoedd uchel am eu tir. Cododd pris y tir, fel popeth arall, yn ystod dyddiau y rhyfel, ond yr oedd C-yllideb- Lloyd George yn 1909 wedi creu chwyldroad yn y wlad, ac anodd oedd i berchnogion gael yr hyn a fynnent am eu tir. Rhaid felly oedd cael ffordd i daflu hon o'r neilldu, ac y& dywedodd Syr Richard Winfrey, a fu yn Ysgrifennydd i Fwrdd Amaeth- yddiaeth dan y Prif-Weinidog,, "Chwery'r llygod pan byddo'r gath i ffwrdd." Ychydig neu ddim sylw i waith y Senedd a allodd y Prif-, Weinidog roi ers tua wyth neu naw mis. Y canlyniad yw: dadwneir ei waith, a dygir i fewn fesurau hollol drahaus a Thoriaidd. Ceisiodd Syr Donald Maclean ac ychydig eraill wrthwynebu y Mesur uchod, ond yn hollol ofer. Pan rannodd y Ty ar y try dydd ddarlleniad, eawd fod 166, dros a dim ond 17 yn erbyn. Y peth mawr nesaf i edrych ymlaen. ato yw prawf William, cyn-Ym- herawdur Germani. Dydd Llun hol- wyd y Llywodraeth ynghylch parod- rwydd Holland i'w ollwng o'i gofal. Ateb Mr. Bonar Law oedd nad oes gais wedi ei ddanfon i'r wlad honno hyd yn hyn. Dywedir mai ar: gais Mr. Lloyd George y trefnwyd i'r prawf fod yn Llundain, ac na chododd' Wilson, Clemenceau, na chynrychiol- ydd Itali yr un gwrthwynebiad. Gwnaeth Arweinydd Ty y Cyffredin fynegiad pwysig dydd Llun ynghylch- Deddf Ymreolaeth i'r Iwerddon a Deddf Datgysylltiad i Gymru. Gofynnodd y Capten Ormsby Gore- iddo pa bryd y bwriedid dwyn mesur i mewn yn delio a'r Ddeddf Gymreig. Yr ateb oedd fod Deddf Ymreolaeth i fod mewn grym chwe mis wedi ter- fyniad y rhyfel, a bod Deddf Dat- gysylltiad mewn grym gyda bod' Heddwch wedi ei arwvddo, ond y rhaid cofio na ellir cyhoeddi heddwch yn iawn nes byddo Awstria, Twrci, a Bwlgaria wedi arwyddo'r cytundeb. Tybiem fod -cytuno a Germani yn golygu gosod terfyn ar y rhyfel, ond pa bryd yr arwydda'r lleill Yn ol yr argoelion gallwn aros am chwe mis arall. Ac eto proffwyda Syr Douglas.

Advertising

Llith y Gol.I