Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Colofn y Celt.

News
Cite
Share

Colofn y Celt. GAN DDYFNALLT. Y Golen Newydd. Honnir gan feirniaid y gellir rhoi ,coel ar eu gair mai llwydwelw. a fuasai lliw lien Seisnig heddyw, ac yn wir yr ugain mlynedd hyn onibae am y newydd-deb, yr ysbrydiaeth, a'r dieithrwch a ddaeth iddi o gyfeiriad Iwerddon. Hyd yn hyn, nid oes ball ar y ffrwd honno i fyrlymu'n gyson. Pen a chalon y symudiad yma yw'r amryddawn A. E. Mae A. E. yn fardd, vn arlnnydd, yn lienor, yn gyfrinydd, yn ddiwygiwr cymdeithas- '01, yn wir, prin y baidd neb ameu mai efe vw'r enaid mwyaf yn Iwerddon i gyd. Allan o'i drysorau y daw yn .awr ac eilwaith bethau newydd a hen. Ei ddisgyblion ef yw W. B. Yeats, Padraic Colum, James Stephens, ac eraill. Awyrgylch yw cynefin Yeats; bywyd syml Iwerddon yw maes awen Colum rebel yw Stephens, ond y mae A. E. yn gyfuniad rhyfeddol o bob agwedd ar y meddwl Gwyddelig. Ac oni achubir Iwerddon ar lwybr enaid mawr fel A. E., prin y mae ei hiach- awdwriaeth yn bosibl. Lien Gweledigaeth a Greddf. Perthyn i len gweledigaeth a greddf y mae ei gyfrol ddiweddaf, "Cannwyll Gweledigaeth." Teimlwn I fod ysbryd yr awdur wedi ymolchi yn Hynnoedd llyfrau cysegredig yr oes- oedd. Hoff ganddo lyfr cysegredig pob gwlad, Groeg, yr Aifft, a'r India. Ar gyffiniau paradwys beirdd a •ehyfrinwyr y traddodiad cysegredig y mae ei drigfod. A daw yn ol o'i fordeithiau pell gvda meddyliau hen y byd at feddyliau hen y chwedlau ■ Gaelig, a gwei ynddynt hwy beth na welir drwy dcl oet' welir drwy ddoethincb y philoso- ffyddion. Yn ol A.E. gwyddai'r cyndadau Celtaidd am y daearolion- leoedd a'r nefolion leoedd megis wrth reddf. Pan aeth Cormac i'r byd nefol dyma a glywodd oddiar wefusau trigolion y Gwynfyd, "Pryd bynnag y •dychmygwn fod y caeau wedi'u hau, y maent wedi'u hau, a phryd bynnag y dychmygwn eu bod -wedi eu medi y maent wedi eirr.medi." Ysbryd dyn, yw'r creawdwr mawr. Un yw llinach y gweledyddion, a dylai'r gweledydd heddyw gynawnhau gweledydd y ddoe ac erioed. Anodd yw dod o hyd i enw I delfrydwyr heddyw yn ol yr achau; nid f yw delw yr hen weledyddion arnynt. Dyhead mawr A. E. yw cyfiawnhau eywirdeb a neges hen weledyddion Iwerddon drwy ddangos y gyfath- rach hudolus sydd rhwng yr eiddo ef ag eiddo yr hen broffwydi. Yr oedd gan yr hen drigolion y reddf-y ddawn i weld i galon pethau, a rhaid wrth ddarlleniad yn ol gwyddor heddyw o hyn cyn y gall y meddwl diweddar 'fyfyrio ar bethau dwyfol. Torrwyd ar yr hen fyfyr-dymer hamddenol gan ddigwyddiadau yn hanes y genedl. Mae llenyddiaeth, yn 01 A. E., yn gogwyddo i gynhyrchu Ilyfr cysegred- ig drwy ddatblygiad meddwl y gwyr goreu yn adeiladu y naill ar y Ilall. Dylasai lien Gaelig fod wedi cyn- Jhyrchu'n barod deip o lyfr dychmygol, prydferth, yn llawn gweledigaeth, a diau y buasai hynnv'n ffaith onibae am helyntion ystormus y genedl. Mae I arwyddion, ebe'r gweledydd ffyddiog yma, fod yr hen ddawn. o fyfyr Iles- tneiriol yn dod yn ol i'r deyrnas eto ym mhrofiad rhai gweledyddion, a Hwytliau yn tystio fod yn eu bryd i wasanaethu'r duwiau. Apel at ddychymyg. Cymer ni yn ei law; rhodiwn gydag ef yn ostyngedig wrth agoshau at y tir sanctaidd-Gweledigaeth N efoedd .-a Daear. Gellir darganfod fod gwir- tonedd drwy reddf lawn cymaint, os •nad mwy, na thrwy reswm. Nid yw deall yn briodoledd ostyngedig mae gormod o swn concwcst yn ei fuddugoliaeth, ac nid yw concwest hyd yn oed at natur ei hun yn peri i .ddyn ei charu, nac i'r gyfathrach agos hono gael ei selio rhwng dyn a natur. Daw mwy i'r Celt drwy fyfyr na thrwy ymresymu. Myfyr sy'n ei wneud yn addolwr ac yn synnwr. Dyma neges y Celt o hyd, ail-ennyn y ddawn hon, ail-ddeffro'r byd o'i fateroldeb a'i ynfydrwydd i brisio popeth yn ol eu gwerth masnachol. ¡ Oni chwynir .fod ton areithiau un a ystyrrid unwaith yn weledydd yn •colli'r fflam a'r fflach honno oedd yn agor y rios yn y canol a'i lIosgïn mlw o flaen y miloedd ?

! - Yr Ifsgol Gymraeg.

AI DISTAW HEDDYW YDYWR NEFP…

i Llythyrau Agored. i-

Y WREICHIONEN. I

I Undeb y Cymdeithasau Cymraeg.

Advertising

[No title]