Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Beirniadaethau.

News
Cite
Share

Beirniadaethau. EISTEDDFOD C'ORONOC BANCFFOS. 'FELEN. Y BRYDDEST: "PA LE MAE DY FRAWD?" (Parhad.) Gweithiwr.—An English poem in blank verse was sent in by this com- petitor. It has a very promising beginning, and this lends one to ex- pect a graphic description of that far- off scene in Eden, but after about fifteen lines the scene is changed, and- "Earth has older grown Since that sad day, and long has grown inured To scenes of blood and shame." Then like most of the other com- petitors, he lays stress on Universal Brotherhood, Freedom and Social Equality. We find no fault with his teaching, which is mainly Socialistic in tendency. His strictness on cer- classes of persons are very severe. Witness the following :— "Seek ye the Christ? Search not amid the aisles Of dim, cathedrals, where the organ's swell Blends with the chanting of a gorgeous throng Of worshippers who prize their worn- out creed More than the living Christ." And also— "Ye theologians, who in slippered ease Within your cosy study's booklined walls Sit, weaving tedious webs of evidence To prove—or disprove-tedious theories Of Man's eternal bliss, or endless woe, Heedless of how the wild winds wail without Where shivering wretches wrap their reeking rags Closer against the cold and biting blast. What 'vail vour theories of a 'Future Bliss" To those -?" These quotations are characteristic of the whole poem. Salmydd y Glyn.—Y mae ganddo ef gerdd dipyn yn hen ffasiwn, petae waeth am hynny. Can yn deg ar y V testun yng Nghaniadau I. a II. Yr euog ytn mhangfeydd cydwybod sydd yma'n crynu yn wyneb y cwestiwn, "Pa le mae dy frawd?" Dipyn yn ddi-farddoniaeth ydyw'r trydydd caniad, ond eto y mae yma'r un ym- deimlad o euogrwydd yn wyneb y cwestiwn cyhuddol. Y mae'r ped- wervdd caniad yn well, ac yn glo '<4 iawn ar yr holl bryddest. Dvma'n sicr yr ymgeisydd sydd wedi canu decaf ar y testun; ni chollodd olwg arno o gwbl o'r dechreu i'r diwedd; ni chamddeallodd ef ychwaith, ac ni cheisiodd wasgu syniad arall yn lle'r hwn sydd yn ghr ar yr wyneb. Nid aeth yn rhy gyffredinol a dansoddol. Nid yw ei arddull, hwyrach, yn rhyw glasurol iawn, na' i frawddegau yn seinbcr bob amser. Ni cheir yn ei gerdd y graen llenyddol sydd ar bryddestau'r lleill. Tueddai fynd yn farddonllyd hefyd weithiau. Ond daeth a'i destun i'r ddaear i ymgod- ymu ag Ef. Tant Hiraeth.—Dyma gawr grym- us a hyderus. N id oes yn ei gerdd gymaint o ol ymdrech mewn ieith- wedd ac arddull a rhai o'r lleill. Eto y mae'n gymysglyd ei ymadroddion weithiau, a cheir geiriau fel "asgte" a "namn" yn rhy ami ganddo i fed yn naturiol. Rhanna'r bryddest yn bedair elian;( i) Teimla gyftifoldeb yn wyneb y cwestiwn, "Pa le mae dy fraud," a hwnnw yn "uffern trachwant' a "chrafangau cythreul- iaid." A i chwilio am dano Dyna gychwyn eithaf teg. (2) Chwilia am y brawd hyd lwybrau gormes a gorthrwm. Tuedda'r ymgeisydd i ganu'n gyifredinol tua diwedd yr adran. (3) Dechreua'r rhan hon yn deg, ond eto llithra i son am frawdol- laeth gyffredinol neu ddvn yn frawd i ddyn lie bynnag y bo. (4) Gellir dywedyd yr un peth am yr adran hon eto. Eto ceir yn hon ddisgrifiad o deimladau un ag y mae'r cwestiwn., "Pa le mae dy frawd ?" yn peri poen iddo. Gwelir mae yr un gwnln- sydd yn erbyn hwn eto, sef ei fod yn tueddu i ganu'n gyffredinol fel petae'r cwestiwn yw "Pwy yw dy frawd?" yn lie "Pa le mae dy frawd?" Eto y mae i'r ymgeisydd hwn gryn allu i farddoni'n ogleisiol a chynnes. Y mae ei bryddest yn hawdd ei darllen, er nad yw'r rhan olaf mor deilwng o'r lleill. Gwelir nad oes ganddo gynllun i'w ddatblygu, ac y mae hyn yn gryn ddiffyg ar y gerdd fel cyfanwaith. Nid yw bob amser yn sicr o'i Gym- raeg. Y Lluman Werdd.-Cerdd yn y mesur diodl fer Gweithiwr sydd gan- ddo ef, ond dipyn yn gloff ydyw. Ni thriniodd yntau ychwaith ei destun yn rhy ddansoddol, ond y mae'r gormod ymdrech sydd yn y bryddest yn ei gwneuthur braidd yn annaturiol ac anystwyth i'w darllen. Nid yw ei threigliad yn rhyw lyfn iawn. Cymerer, en enghraifft, linell fel-- "Ow'r grechwen addig a ofnya'i frisg. Ar ffurf breuddwyd y mae'r bryddest, ac yn y breuddwyd y mae'r bardd yn gweled :—(a) Gwrthwynebwr rhyfel yn ei ing yn holi pa le y ceir brawd. (b) Y gweithiwr, "Gwron y ffustiau garw yng "nghlai y maes neu fwrllwch glofa ddofn," wedi byw mewn awyrgylch heb ynddo son am frawd; a niynych wr yn codi ar "fedd ffiwdaliaeth," ac yn galw'r gweithiwr i "ororau'r wawr :— Ond ow 1 ni rydd a arwain werin flin Mo'i law yn Jlaw y Galilead gynt, Roes waed ei fron yn dal am hawliau dyn Wrth enwi'i frodyr, ni fyn enwi brawd. Oherwydd hyn a'r cwbl yn ofer. (c) Proffwyd ag y mae'n:— rhaid i deyrn A phrelad oddef min ei gerydd trwm Am drochi dwylo, 'ngwaed Brawd hyna'r hiI." Yna can am Frawdgarwch. Cartref yr hwsmon syml neu'r tyddynwr sy'n credu fod "Haul Brawdgarwch" wedi codi "ar ein tud" a Christion- ogaeth hefyd. Wedi'r gweledigaeth- au hyn mewn breuddwyd, deffry'r bardd a gofyn- "Pa bryd daw'r Brawd i'w oed, fy Nghrist, pa bryd?" Y mae'r bryddest hon eto'n fwy o gerdd ar Frawdgarwch neu Frawdol- iaeth Gyffredinol. Fel yng Ngherdd Eco'r Ddrycin, ceir yma lawer o allu, a chelfyddyd, er ei fod vn wahanol. Hwyrach, wrth geisio bod yn dar- awiadol a newydd, iddo fynd yn an- ystwyth ac annaturiol ei gan, fel yr awgrymwyd eisoes. Eto, y mae ganddo rym a gallu disgrifio, ac y mae graen da ar ei bryddest, ond y mae eisieu iddo fod dipyn yn gynnil. I grynhoi tipyn ar y sylwadau hyn, gellir dywedyd fod y rhan fwyaf o'r ymgeiswyr wedi canu'n rhy yffredin- ol ar Frawd, neu Frawdgarwch, neu Frawdoliaeth Gyffredinol. Yn sicr, ar yr hanes yn Llyfr Genesis y seiliwyd y testun, ac nid oes ond un, sef Salmydd y Glyn, wedi canu'n deg arno yn y goleu hwnnw. Y mae yn y gystadleuaeth rai fel Eco'r Ddrycin a'r Lluman Werdd, a gallu ^anddynt i ysgrifennu Cymraeg cryf a chroyw, a chryn fedr i drin yr iaith a thynnu miwsig ohoni. Y mae Cymraeg rhai o'r lleill yn garpiog. a charbwl. Nid wyf wedi son yn y nodiadau hyn am wallau iaith buasai eu nodi i gyd yn ormod o drafferth, ac nid oes le i lawer o beth felly mewn beirniadaeth pryddest, oherwydd dylai'r cystadleu- wyr i gyd allu ysgrifennu Cymraeg symol a didramgwydd beth bynnag. Hoffwn arddull y Lluman Werdd, Eco'r Ddrycin, a Thant Hiraeth, ac y mae Gweithiwr ac Awen Alun yr Holi wedi ymgeisio'n bur ganmoladwy. Aeth Bwrt, hwyrach, i athronyddu gormod. Tuedd Salmydd y Glyn ydyw edrych ar yr ochr eglwysig a chadw'i olwg yn ormod ar y pwlpud. Ond ag ystyried popeth, aeth yn nes i galon ei destun na neb. Eto y mae llawer o waith caboli ar y gerdd hon, a dylai wneuthur hynny ar bob cyfrif. Gresyn na chawsid gwell cyst adleu- aeth ar destun a chymaint o gyfle ynddo, a rhywun ynddi ymhell tu hwnt i'r lleill, neu ddau neu dri o rai at-dderchog yn tynnu torch. Fel arall y mae y tro hwn. ,¡ Wrth geisio beirniadu'r cyfansodd- iadau hyn, celsiais fy ngoreu beidio î bod yn erwin ac yn ddirmygus, n

[No title]

Tarian Fach y Plant. Iwwwww—wwww—^

NANT PENSTAR.

Beirniadaethau.