Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

O'r Gadair Dderw.

I' " 11 m j ? Y Naill Beth…

Colofn y Celt. I

IAtgofion Hywel o'r Glyn.…

News
Cite
Share

Atgofion Hywel o'r Glyn. I Flair y Bont. 1 Dyma Evan Bevan i mewn i'r ty 11 chwys mawr, wedi clywed fod Jennet wedi mynd i Ffair Pontneddfechan. "Wn i fydda nhw, y blaenoriaid yna, yn cadw llawer o fwstwr a ni pe aem i'r ffair, bachan, medda fe. Ac mae Ned y Gnoll a Ned y Wrangon ar ben y rhiw yn dy weitan. Dere, bachan, efallai na fydda nhw ddim yn arw wrtho ni." Heb gonsylto a mam na'r blaenor- iaid, na'r nefoedd, dyma ni off i Ffair y Bont-yr oreu yn y byd. (Cofiaf ryw dro gael arian poced i fynd i hon gan Tomos o'r Comin, a James Thomas a minnau yn mynd a phishin o ginger- bread i Miss Thomas, y Teacher!) Yn y ffair gwelodd Evan' un o'i hen gariadon annwyl, a chan fod Jennet a'i llygaid ar ei ol—"Da ti," medda fe wrthyf fi, "cymer at Gwen am heno; cerdda rownd i'r standing, a phryn dipyn o sweets a ginger-bread iddi hi, a hebrwng hi tua thre. Mae hi yn ladi o ferch." Ac yr oedd honno yn byw yn Y stradfellte-wyth milltir o gartref, 16 milltir yn ol a blaen. Erbyn cael bara, llaeth, a chusan yr oedd y ceiliogod yn canu pan ddvch- welais, a'r ferch oeddwn innau yn ei charu ar y pryd yn mynd i odro! Cofiaf byth y bore. Mi a'i cefais hi up and down, ac fe fu y ddau Ned yn ffarxio'r tan am' wythnosau, ond ni losgodd neb y tro hyn. "Yr wyf wedi clywed fod eisieu arweinydd canu arnoch chwi ym Methel," meddai Dafydd Rhys Jones, ac yr oeddwn yn gweithio yn ei ymyl ef a GwiIym Alaw ar y pryd, ac yr oedd tipyn o ddileit ganddo mewn canu. I "Ffurfia barti, Dai; cei fenthyg y capel, 'dwyn siwr," meddwn i. Ac fe wnaeth, a chafwyd cor ardderchog, a son am dano ymhell. Ond Cor Richard Rhys a ddaliodd ati, ac a wnaeth waith mewn cyfarfodydd llenyddol, ac y mae son am danynt hyd y dydd hwn. Da fyddai gennyf gael hamdden ac vmgom gyda Gwilym Alaw, mab yr Awen Wir, a John a Dafydd ei frawd tri brawd sy'n anrhydedd i gym- dogaeth ac i grcfydd yr Arglwydd Iesu. Yr oedd Tipyn o Steilyn Dafydd, I wedi bod yn yw yn Llundain, ac yr oedd ol y polish arno hyd y bedd. Dyma fachgen. tlawd a glymodd y coesau tools yng ngwaith Penrhiw un prynhawn Sadwrn, ac a ddywedodd wrthynt: Ni fodloni fy nelfryd wrth aros gyda chwi. Ffarwel am byth, a gobeithio y cewch gryfach corff i'ch handlo na mi i dorri y gfaig ac i chwilio am v mwnau." Ac ni ddychwelodd byth atynt. Bu farw mewn oedran teg ym Merthyr Tydfil, wedi hod yn dal y swydd o gof- restrydd, yn fawr ei barch gan y dref, ac hefyd, mi gredaf, gan y nef. Cefnodd John Thomas Morgan I ar v gwaith glo, ac agorodd faelfa gig I bb yn Nhreharris. Llwvddodd yn ei antur- iaeth bu farw wedi mynd dros, oedran yr addewid, a thystiai dydd ei angladd fod gwr mawr yn Israel yn mynd i'w fedd v dydd hwnnw. Darllenais bapur am y gwr mwyn hwn i Gym- rod orion Aberdar ac Aberpennar. Ond ) Gwilym Alaw t 1 oedd y barcld" a'r teiynegwr. Arhosodd eg gartref hyd y cariwyd ef i fynwent f Penderyn tua blwyddyn yn ol. Efe oedd gannwyll yn llosgi ac yn goleuo yn y plwyf. Yr oedd un o gyfarwydd- wyr mwyaf diogel yr ardal. Efe oedd clerc y He. Elai y rhan fwyaf ato am gyfarwyddyd i ysgrifennu llythyron drostynt. Efe oedd yr aelod ar y gwahanol fyrddau, ysgrifennydd y capel, a'r Gymdeithas Ddyngarol am dros ddeugain mlvnedd. Ni feithrin- odd gymaint ar yr awen ar ol priodi, a mynd i fyw i'r castell gyda'i annwyl Faggie. Paham, ni wn. Cafodd ddigon o fantais wrth yrru yn ei gerbyd llaeth yn ol a blaen dros, Gomin Hirwaun. Bum ar ymweliad ag ef ryw mis cyn ci farw, a gofvnnais iddo yn ei wendid, paham na fyddai wedi canu mwy, ni chefais atebiad. Credaf mai gwerthu llyfrau ac nid gwerthu llaeth a ddylasai cylch ei wasanaeth fod. Yr wyf yn siwr nad oedd yn ffermwr, ond bydd ei gymeriad glan a'i rodiad addas yn berarogl yn y gymdogaeth am flyn- yddai, am ei fod yn ddyn Duw o'r gwraidd. Byddaf yn edrych am danat, gyfaill, os caf ddod i Fryniau Caer- salem.

Advertising

[No title]