Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Colofn y Celt.

News
Cite
Share

Colofn y Celt. Gan DDYFNALLT. YMHOLI. Mae amryw 01 garedigion yr achos Celtaidd yn ymholi a oes modd sicrhau copiau o Adroddiad y Gynhadledd Gelt- 1 aidd ym Mirkenhead. Yr wyf yn cael ar ddeall mai rhyw dri chant o gopiau a brintiwyd, a bod y copiau hynny, gan I mwyaf, ar grwydr yn barod trwy'r gwledydd Celtaidd. Yn naturiol, mae hyrwyddwyr yr achos yn awchus 1 ddeffro1 diddordeb yn nhynged y Celt ymhob bro lie preswylia'i garedigion. Drwg gennyf gael ar deall nad oes yr un copi ar werth ar hyn 0' bryd, ond na ddigaloned ffryndiau'r achos, canys pwy a wyr na cheir argraffiad arall o hono. drwy ryw ragluniaeth dda. Can- mol mawr sydd ar yr Adroddiad ar bob Haw; mae'r ddiwyg, y drefn a'r print yn rhoi gair da i'r Golygydd, ac yn sicr, ni bu er ys tro olwg mwy graenus ar ieddwl a dyhead y Celt pwy bynnag y bo, na pha helynt bynnag a fo arno. CYNHADLEDD GELTAIDD I CASTELLNEDD. Worchest yw cael y Celtiaid at eu gilydd ar hyn o bryd. Mae'r amgylch- iadau'r lath fel nad oes modd iddynt ddod tros y mor nac o'r parthau pell. Anallu'r Iwerddon a'r; Alban sy'n cy- frif y rhaid cynnal y Gynhadledd eleni etc yng Nghymru. A chan gadw rnewngolwg na ddylai'r Gynhadledd a'r Eisteddfod wrthdaro, bwriedir cynnal y Gynhadledd Flynyddol yng Nghastellnedd y Gwener a'r Sadwrn cyn yr Eisteddfod. Disgynna baich y parotoi felly ar ysgwyddau'r aelodau Cymreig o'r Pwyllgor, a chredwn y ceir cymorth caredig y Cymdeithasau Cymraeg i wneud y gwaith yn effeithiol Yr ydym yn nyled Mr E. T. John, A.S. a Mr. D. Rhys Phillips yn fwy na allwn ddirnad am eu llafur cariad a'u Hydd ddiffuant. Dylai'r Gynhadledd yng Nghastellnedd roi tan yn y gwer- syli. Os ydym ar fin cael ymreolaeth i Gymru gadawer i Gymry twymgalon lais yn y gweithrediadau, ac na ormes- ed cipolwg pobi sy'n fwy o Saeson na dim arall ar ein dyheadau. LLAIS CYMRU. I Cwyna'r Aelodau Cymreig na wa- hoddwyd mohonynt i Gynhadledd Llan drindod y Mawrthgwyn. Onid yw hyn yn vvir am y Cymdeithasau Cymraeg y mrodorion, &c? Ofer i ni ehwyrnu na chwerwi wedi dydd barn. Nid diddordeb llenyddol yn unig ddylai ein diddordeb fod. Mae'r gwyn ar gyn- nydd fod rheolaeth ei bro yn mynd i ddwylo pobl sy'n estronol eu cipdrem, neu yn unochrog eu cydymdcimlad, a thybia'r math yma ar Gymry honedig na, ddylid croesawu'r Cymro penboeth, na'r lienor na'r bardd. Hwyrach na wyr yr hiliogaeth hyn mai Gwyddel o enaid mawr, o olygfaoedd eangfrydig ac o anianawd gyfrin yw achubwr a diwygwr mwyaf yr Iwerddon yn yr oes hon. Caiff bardd a lienor a cherddor gadw Eisteddfod i fynd, a chynnal ealon y genedl trwy anwylo'i hiaith, ond pan ddel gobaith gwan am ly vvod- raeth i Gymru, heidia carwyr swyddi at ei gilydd tan ddadleu a chynnyg pen- derfyniadau mewn Saesneg, a'u cip- olwg mor bell a'r dyn yn y lleuad oddi- wrth wir eisieu'r genedl. CWYMP Y WYDDELEG. I Yn ei bapur galluog ar ddirywiad y W yddeleg yn y isfed ganrif cyfeiria yr Athro MacEnri at brif achosion y dir- ywiad. Llaciodd gafael y cyfreithiau estronol yn yr Iwerddon yn gymaint nes galluogi Pabyddion i gael o addysg uchaf y wlad ac ymgymryd a'r galwed- igaethau mwyaf dysgedig, ond i wneud hyn, rhaid oedd dysgu Saesneg. Daeth balchder i galon y dosbarth breintiedig, a daeth ysgorn at yr hen iaith yn beth cyffredin. Nid oedd dyrch- afiad yn bosibl, ond i'r sawl a ym- wadai a'i hen draddodiadau. Aeth gwladgarwyr fel Grattan ac ereill i'r fagl hon yn ddiniwed iawn. Yr ergyd ,all i'r iaith oedd sefydlu Coleg May- nooth yn 1798. Yr unig ieithoedd ? Invys yn y cwrs oedd Lladin a Saesneg Rhoddwyd hergwd i iaith y werin. Coltodd yr offeiriaid ieuainc eu pen wedi meistroli'r Saesneg, a bu cymaint os nad mwy bri, ar yr iaith. honno nag ar yr Efengyl. Mae. Maynooth er ys chwarter canrif wrthi yn dadwneud. yr ynfydrwyd hwnnw. Y cam nesaf oedd helynt yr Undeb rhwng Iwerddon a Lloegr a'r frwydr am ryddid y Pabydd- ion. Er i Daniel O'Connell wybod yn unig y Wyddeleg pan yn fachgen, tyb- iodd fel llawer un ar ei ol mai drwy ledaenu y Saesneg yr oedd yr unig fodd i ennill nerth politicaidd, ac esgyn i swyddi yn y wladwriaeth. Denwyd plaid Iwerddon ieuanc i'w ddilyn, a chefnodd y rhan fwyaf o'r aelodau ar I' iaith eu bro. Yr unig weledydd mawr yn eu plith oedd Thomas Davis. Gwybu ef werth sanctaidd yr iaith yn iachawdwriaeth yr Iwerddon. Yn dilyn hyn oil, bu gan yr Eglwys Brotestanaidd law gymaint, os nad mwy na'r un i ddibrisio'n angharedig iaith yr hen drigolion. Apwyntid yr esgobion gan y Llywodraeth Seisnig, a chedwid mewn golwg ymhob apwyntiad y neb a fai ganddo dalent i ddflorni a lladd. Ni wyddai'r offeiriaid mo iaith y bobl, ac ni fynnent ychwaith. Wedi nodi'r dylanwadau hyn, nid ydym eto wedi'u cyfrif bob yn un ac un, canys y mae dy- lanwadau ereill yn nes atom. Sut byn- nag. ni all y cyfarwydd yn hanes Cymru lai na gweled mor debig ein helynt ninnau ar hyd y blynyddoedd. Daeth y dydd i gyfrif ein colliadau, a dal ein hunain wyneb yn wyneb a gofynion yr oes wrth y drws.

Y Stori. I

0 Lan Mor y Gogledd. I

Aberdar.

[No title]

Advertising