Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Ymreolaeth i Gymru. I

News
Cite
Share

Ymreolaeth i Gymru. I CYNHADLEDI) LLANDRINDOD. I Yr oedd yn ddiwrnod poeth lawn a tharanau lond yr awyr ddydd Mawrth diweddaf pan ymgynhullodd tyrfa o. Gymry yn Llandrindod i gychwyn mudiad er cael Y mreolaeth i Gymru. Hwvrach fod y tywydd, wedi'r cyfan, yn bwnc mwy pwysig nag y tybiwyd. Gall delfryd fawr cenedl fod yn ddi- bynnol arno i ryw raddau am ei llwydd- iant neu ei haflwyddiant. Mae Llandrindod yn fan digon can- olog, a daeth tyrfa go Jew ynghyd;— nid hanner y nifer a wahoddesid, er hynny, a llawer mwy o'r De nag o'r Gogledd. Llywyddwyd gan yr Hen- adur S. N. Jones, Casnewydd.. Yn ei anerchiad agoriadol dywed- j odd y Cadeirydd nad Cynhadledd oedd hon, ond rhyw gyfarfod rhag-barato- awl. Gwahoddasai ef nifer o gyfeillion ynghyd i rydd-ymddiddan a cheisio trefnu pa beth i wneud er mwyn cychwyn y mudiad. Gwahoddasai rai gwragedd. Llongyfarchai hwy am eu buddugoliaeth ddiweddar. Gyfarfod hollol anenwadol oedd. Ni wahoddas- ai neb o'r Aelodau Seneddol-nid o amharch tuag atynt, ond bcrnid y byddai cyfarfod dechreuol fel hwn yn fwy rhydd hebddynt. Ni chynrychiolid Llafur yno chwaith. Yr oedd pwnc Ymreolaeth ar y pryd dan ystyriaeth Llafur. Yn y dyfodol agos gobeithiai gael Cynhadledd gyffredinol ac unol. Vmysg y llythyrau a ddarllenwyd ar y dechreu, yr oedd un oddiwrth Mrs. Peter Hughes Griffith, a dywedai ynddo y teimlai yn sicr y byddai ys- bryd Tom Elis yno yn eu plith. Ymhellach ymlaen, soniodd un o'r siaradwyr-Mr. J. E. Powell, Gwrec- sam, am gyfarfod y buasai ef ynddo yn y Drefnewydd yn 1888,—y Gyfar- fod Cenedlaethol cyntaf, a'r prif siaradwr yn hwnnw oedd Tom Elis. Rywfodd, o hynny i ddiwedd y cyfar- fod yn Llandrindod, methem ollwng Tom Elis o'n meddwl. Dychmygem ei weld a'i glywed yn y cyfarfod pell hwnnw ddeng mlynedd ar hugain yn bl, mor glir ei welediad, mor gryf ei argyhoeddiadau, mor bur ei amcanion. A oedd canlynwr iddo o gyffelyb ys- bryd yraa? Prin yr adwaenem ei lais yn un )'r areithiau, ond gallai ei fod yn eistedd yn ddista W rywIe yn ymyl y drws. Ar y cyfan, ofnwn mai siom- edig, wedi deng mlynedd ar hugain, yr hedai ysbryd Tom Elis o'r Gyn- hadledd hon. "Rhag-baratoawl" yn wir (gyda phwyslais ar "rhag ") oedd y cyfarfod hwn. Wn i ai trymder yr awyr a barai fod llawer o'r siaradwyr yn methu meddwl yn drefnus am fynud? Siarad plentynaidd am y Germaniaid, a chanmoliaethau bas i Mr. Llovd George oedd yr oil a gaed gan amryw 0 honynt. Y penderfyniad cyntaf oedd: "Fod y Gynhadledd hon yn llawenhau yn yr atebiad ardderchog wnaed ac a wneir gan Gymru i alwad yr Ym- erodraeth, yn sylweddoli fod bodoi- aeth pob cenedl fechan mewn perigi yn yr ymgyrch bresennol, ac yn ym- rwymo i wneud ei goreu i gynorth- wyo'r Prif-Weinidog a'r Llywodraeth i gario'r rhyfel ymlaen hyd nes y gosodir hawliau cenedloedd bychain ar sylfaen safadwy, ac y ceir sicrwydd pendant y sefydlir cyngrair o'r Cen- hedloedd. Cynhygiwyd hwn, yn absenoldeb Henadwr Hopkin Morgan, Castell- nedd, gan Captain Williams, Cas- newydd. Siaradodd ef yn bur effeith- iol ar "Gyngrair y Cenhedloedd." Syhvai mai'r hen syniad oedd "Cyng- rair Llywodraethwyr, er diogelu gallu. Bellach, rhaid cael Cyngrair Cenhedloedd er diogelu cyfiawnder. Eiliwyd gan Dr. Morris, Tylors- town, a dilynwyd gan Mr. Ifor (jwyn n 6, Abe rtawe. Apeliai yr Henadur Morgan Thomas am undeb ar ran yr Aelodau Seneddol. Cododd Mrs. Marlow, o Ddinbych, i crfyn am chwarae teg i Mr. Asquith. Dr. Morris Jones, CQlwyn Bay, a sylwai ar y chwvldroad ym meddwl y Cymro drwy'r rhyfel. Pasiwyd y penderfyniad yn un- frydol. Yr ail bnderfyniad ar y rhaglen oedd—"Fod y Gynhadledd hon yn galw i gof gyda diolchgarwch y gwaith enfawr a gyflawnwyd gan gychwynwyr y mudiad cenedlaethol yng Nghymru, ac yn penderfynu bod yr adeg wedi dyfod pan mae'n rhaid i'r Senedd Brydeinig gydnabod hawl- iau y Genedl Gymreig i Ivvyr ymreol- aeth." Lleddfwyd ychydig ar y pender- fyniad hwn drwy roi yn y rhan olaf "mesur eang o hunan-lywodraeth ar linellau cynghreiriol yn Ile "lwyr ymreolaeth, ac ychwanegwyd "ein bod yn galw ar ein cynrychiolwyr yn y Senedd i wneud eu goreu i sicrhau sylweddoliad o'r gofynion hyn." Siaradwyd ar hwn gan y Parch. H. M. Hughes, Caerdydd. Dywedai ef fod gan Gymru ddawn arbennig. Dros gadw hon yr ydym yn ymladd. Gofynnai Mr. W. Edwards, Gaer- wen, yn arwvddocaol iawn—" Pa les- had i ddyn os ennill efe yr holl fyd a cholli ei enaid ei hun," a hynny oedd perigl Cymru. Dywedai'r Parch. Gwilym Davies, Y Fenni: Gydag arweiniad doeth a llonydd oddiwrth feirniadaeth lesteiriol gallai Cymru ddod yn weriniaeth heb ei hail fod rhywbeth gennym nad oes gan unrhyw genedl arall. Anffodus yn ein cynrychiolaeth Seneddol yw medd- wl mwy am anrhydeddau i Gymry oddiwrth y Brenin nag am wir les y wlad. Diffyg gweledigaeth yn ein hawdurdodau lleol eto. Er engraifft, yn yr Iwerddon, y dechreuodd y di- wygiad cymdeithasol. Yn Hudders- field y cychwynwyd y mudiad ynglyn a diogelu bywyd babanod. 0 Bir- mingham y daeth y syniad am buro lleoedd o adloniant. Daeth problem y bachgen o Manchester. Pe buasai gan Gymru Ymreolaeth, hi fuasai wedi arwain yn y pethau hyn. Roedd drws agored i hynyma heddyw. Rhaid cael tri pheth (1) Ein Haelodau Sen- eddol i gyd-dynnu, wedi cyd-ym- rwymo i Gymru (2) awdurdodau Ileol effro; (3) Cynhadledd Genedlaethol yn cynnwys cynrychiolaeth gyffredinol teihvng o urddas y genedl. Yn hytrach na gwrando ar y rhai a ddywed "ewch ymlaen a'r rhyfel o hyd, gwnawn fel yr Eidalwyr gynt. Pan oedd yr Eidal ar ei heithaf yn ymladd a'r Hwniaid dan Attila, aeth yr hen a'r methedig oedd gartref ati i adeiladu dinas. Bob yn ychydig adeil- adwyd ar laid a llaca ddinas hardd- ddisglaer Venice. Cynorthvvyo i ad- eiladu dinas deg Cyngrair Cen- hedlbedd oedd eisiau heddyw. Cafodd araith Mr. Davies gymeradwyaeth arbennig. Wedi cynnyg a thaflu allan welliant San Dr. Lloyd Owen, Cricieth, pasi- wyd y penderfyniad. Y trydydd penderfyniad oedd fod y Gynhadledd yn ethol pwyllgor gweithiol yn cynnwys ugain o aelodau gyda hawl i ychwanegu deg at eu 1:">- b b nifer i dynnu allan raglen genedlaeth- ol (iymreig ac i drefnu ar gyfer galw cynhadledd arall yn fuan. Cynygiwyd hwn gan yr Henadur y Parch. D. H. Williams, Barri. Dywedai Mr. Wil- Iiams fod ganddo ugain o enwau yn barod j'w cynnyg i sylw'r gynhadledd. -k,-edai. Dywedai y cadeirydd fod enw Mr. Williams ei hun i ychwanegu atynt, gan nad oedd yn debyg v rhoddai ef ei enw ei hun i fewn. Eiliwyd gan yr Athro Joseph Jones. Dywedai ef mai syniad o'u cyfrifoldeb mawr a ddylai feddiannu pawb yn y cyfarfod hwn. Eisiau undeb oedd. Na fnrner llwjddianf tebygol Ym- reolaeth. oddiwrth lwvddiant neu aflwyddiant sefydliadau eraill yng \ghymru, megis Dirprwyaeth Ys- wiriant. Os nad oedd llwyddiant, nid Cymru a etholodd y Dirprwywyr, ond y Llywodraeth. Pasiwyd y penderfyniad. Darllenodd Mr. Williams yr ugain enw. Yn ein byw ni fedrem lai na meddwl am fam yn dod adref o'r ffair a melysion a chnau i'w rhannu rhwng y pJant-trfysg mawr yn y gegin, un yn cael mwy a'r llall lai na haeddai, un yn treio peidio edrych yn rhy foddlon, un arall yn awgrymu ffafri- aeth ar du i fam, un arall bron a chrio, rhai hyn a cliallach yn mynd allan gan edrych yn ddirmygus ar yr holl ym- afaelion, a'r faiii di-uai-i wrth fethu boddloni pawb yn edrych yn dra hel- bulus. Dyma'r tri-ar-hugain sy'n mynd i dynnu allan gynllun Ymreolaeth :— Major C. E. Breeze, Lady Boston, yr Henadur C. H. Bird, Caerdydd; Mr. Wm. Edwards, Gaerwen; Mr. W. (ieorge, Cricieth; Mr. Ifor Gwvnne, Abertawe; Parch. H. M. Hughes, Caerdydd; Henadur D. W, Jones, Merthyr; Henadur Ben Jones, Maer Abertawe; Mr. Richard ones, Caersws; Henadur S. N. Jones, Cas- newydd; Mrs. Herbert Lewis, Mr. W. S. Miller, Aberhonddu Henadur Hopkin Morgan, Castell Nedd; Cyngh. Evan Owen, Caerdydd; Mr. J. Powell, Gwrecsam Cadfridog Sandbach, Trefaldwyn; Mr. D. C. Roberts, Aberystwyth; Mrs. Coombe- Tennant, Llangatwg, Castell Nedd; Mr. JL. Forrestier-Walker; Mr. James James, Rhondda; Dr. Lloyd Owen, a'r Henadur D. H. Williams. Pa ysbryd neu ysbrydion a etholodd rai o'r gwyr hyn? Nid ydym yn tybied mai ysbryd Tom Elis. I Mae'n ddiau fod gwg enbyd ar ei wyneb ef pan glywodd enwi rhai o'r etholedigion. Beth bynnag mae'r cerbyd wedi ei gychwyn, gyrrer ef bellach yn ei flaen. MOELONA.

Llythyrau at y Golygydd. i

I Mountain Ash. tl

Advertising