Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

[No title]

News
Cite
Share

■■ ■r 1 TAWENOG, AWDUR "DAIL Y DOLYDD." t "Dail y Dolydd." AIL LYFR TAWENOG PRIS 1. SWLLT. Dyma lyfr tlws ei ymfldangosiad. Am ei gynnwys ni raid dywedyd ne- mawr ddim. Mae yr awdur a'i weithiau yn ddigon adnabyddus i ddarllenwyr y "Darian. "t Efe yw un o feirdd mwyaf dihysbydd ein gwlad, a'i awen yn llifeirio ei llaeth, a'i mel yn gryfach a chyioethocach fel y mae y bardd yn mynd ymlaen ar ei ail brydles. Nid yw y ffaith ei fod wedi mynd dros derfyn yr "addewid," wedi gwneud un gwahaniaeth yn ei awen, Ra nemor yn ei ysbryd hoew. Afraid fyddai i mi son llawer am y caneuon. sydd yn y llyfr hwn, am fod nifer fawr ohonynt wedi bod trwy fy Haw yn barod, a'm barn am danynt wedi ei sicrhau wrthynt mewn ail argraffiad. Mae yma eiriau Cantawd na welais o'r blaen—"Y Pentrefwyr Gwledig." Mae yn resyn na chymer- ai rhyw gerddor at y geiriau hyn, i'w hieuo a cherddoriaeth. Mae ein CANTAWDAU CYMREIG wedi mynd yn brin, a dichon fod ein cerddorion Cymreig hefyd wedi mynd yn brinach. Yn sicr, mae yma gyfle ardderchog i gerddor ryn y geiriau hyn. A yw yn. bosibl cael adfywiad Cymreig yn y gwersyll cerddorol? Pa angen canu ac ail ganu darnau Seisnig byth ac hefyd. Fe ddywedir ein bod a'u hwynebau ar "Gymrii Newydd." A gawn ni weled EIN CERDDORION A'N CANWYR yn troi ei wynebau tua thoriad gwawr? Maent wedi llercian yn ddigon hir, bellach,- yn y nos es- tronol. Yn "Nail y Dolydd fe geir new- ydd-beth llenyddol. Pwy ond Tawen- og fuasai yn meddwl am osod dar- luniau o lu o feirdd y cylch i addurno ei lyfr? Mae rhai ohonynt wedi ein gadael, ac eraill yn parhau i wasan- aethu eu gwlad ar feysydd yr awen. Bydd y d'arluniau o'r beirdd ym- adawedig sydd yma yn ddiddorol iawn i'r rhai oedd yn gydnabyddus a hwy, ac hefyd i eraill na welsant eu hwynebau pan yn fyw. Dylwn nodi fod Argraffwyr y "Darian" wedi gwneudi eu gwaith yn ardderchog yn nhroad allan y llyfr. Ac am y darluniau maent yma yn fyw ger ein bron. Ni ddaeth eu gwell erioed o un wasg- Seisnig. Mae yr oil yn glod i'r Argraffwyr. Wedi i'r awdur werthu y llyfr i gyd, ac ni fydd hynny yn hir, bwriada ANRHEGU DARLLENWYR Y DARIAN I ar darluniau, ac os bydd modd, fe geir bywgraffiad byr o bob un o honynt. Bydd hynny yn fwy diddorol na'r darluniau wrthynt eu hunain, er cystal ydynt. BRYNFAB. I

Nodion o Abertawe.

INodion o'r Maerdy,

Gemau Gwr o Gwmgarw.

I Barn y Wylan.