Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

, Undeb y Cymdeithasau J Cymraeg.…

Llith y Tramp.I

i Brynaman.

Llythyr Agored at Dafydd y…

Glannau Afan.

Advertising

Beirniadaethau.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Beirniadaethau. GOSEN, BLAENCLYDACH Y GROGLITH. GAN PELIDROS. Testyn y Gadair: "Angylion Mons. 1 (Parhad.) (5) "Eliseus yr 2il"—Sy'n dechreu fel hyn—"Angylion Mons eich pres- enoldeb gwyrthiol, etc. Pryddest gref, lanwaith yw hon, ond fod gormod o'r pregethwr ynddi. 1(6) "Emrys."—A poem of consid- erable merit, with a great amount of "go" and intensity. But it is sung in rather too lofty a strain, with too much of the "Psalm of Praise style, and does not catch the strangeness and mystery of the vision. The triumphant note throughout, and es- pecially towards the end, seems to be at variance with the circumstances of the vision at Mons. (7) "Swn y Grug." Disgrifia y weledigaeth yn lied dda, eithr posibl ei fod yn oedi gormod gyda'r am- gylchiadau o flaen y weledigaeth, ac yn ail-adrodd gormod ar yr "Ym- laen," a'r "Yn ol," "Yn ol" yn y dechreu. Pryddest swynol ac ynddi ol crebwyll byw. Gresyn na fuasai'n fwy gofalus gyda'i sillebiaeth mewn man neu ddau. (8) "M.B."—Ni fu yntau'n hollol lAn gyda'i ysgrifen. Eithr am gre- bwyll a dychymyg; am allu i farddoni'r weledigaeth yn swynol a gafaelgar, y mae hwn wedi llwyddo'n dda. Hoff- wn gyfluniad ei gan yn fawr. Ynddi ceir "milwr clwyfedig yn adrodd y weledigaeth wrth feddyg ddaeth i'r maes i drin ei glwyf, ac yna wedi adrodd ei ystori yn marw'n nwylaw'r meddyg. Darn mwy byw, wedi ei lunio'n fwy meistrolgar, ni ddarllen- asom er's tro. Daw "Eliseus yr ail," "Emrys," a "Suon y Grug" yn uwch na'r lleill yn y dosbarth blaenaf. Saif "Suon y Grug ychydig yn nes i'r gamp na'r ddau arall, ond nid oes yr un o'r tri wedi dod i fyny ag "M. B. Llawen gennyf felly gyhoeddi "M.B." yn oreu yn y gystadleuaeth, ac yn wir deilwng i eistedd yng Nghadair Eis- teddfod Gosen, Blaenclydach, Gwener y Groglith, Ebrill 2iain, 1916. (I barhau.) EISTEDDFOD GADEIRIOL PEN- TRE ESTYLL, ABERTAWE. BEIRNIADAETH PENAR. Y Traethawd ar "Eglwys Crist a Dychweliad y Milwyr." Derbyniwyd pum traethawd ar y testyn da ac amserol hwn. Arwydd dda yw fod pwyllgorau Eisteddfodau yn ymdeimlo a mater pwysig fel hwn, a gobeithiwn y daw'r ymdeimlad hwn yn gyffredinol drwy eglwysi ein gwlad. Gwnawn nodiadau ar y traethodau fel y digwyddont ddod i'n llaw. "Gwladgarwr." Ysgrifenna hwn yn lied gywir, ac ysgrifenna lawer, a hynny mewn naws a thymer hyfryd. Gyda golwg ar ei Gymraeg, gresyn na ddysgodd y ffordd i frawddegu- nid i ddweyd ei feddwl yn eglur a feddyliwn, ond i lunio'i frawddeg ar bapur gydag atalnodiad priodol (punctuation). Anaml y ca' llygad darllenydd unrhyw gymorth i wybod symudiad meddwl yr awdur hwn oddiwrth unrhyw nodi a wnaeth ef. Mae ganddo ragwahannod ddegau o weithiau, lie y dylai diweddnod fod ("semi-colon" lie y dylai "full-stop" fod). Dylai arfer ei hun i hyn, a dysgu gwybod sut i ffinio a phwys- leisio ei feddyliau. Y mae ganddo ambell gyffyrddiad nad yw yn Gym- raeg, megis "Am fydd y byd," yn lie "Am y bydd y byd. Eto, Am rwysg eu hallanolion y cafodd," yn lie "0 herwydd rhwysg- "Pan gofynnwyd" yn lie "pan ofynnwyd." Mae yr "g" yma yn meddalu ar ol yr arddodiad "pan —"pan ddaeth, nid "pan daeth"; "pan gahodd, nid "pan canodd," "pan welodd," nid "pan gwelodd." Drachefn, ys- grifenna "'ond waeth," yn lie "ond ni waeth." Eto, "Ymha ffurf ddylasai y croesaw gael ei ddangos," yn lie "Ymha ffurf y dylasai," etc. Ceir hefyd "Ymdrech eu hennill,' yn lie "ymdrech i'w hennill" idd eu hennill. Ar y cyfan y mae yn bur Gymreig, gyda'r eithriadau a nodwyd. Mae ganddo, rai gwallau ieithyddol, megis—"parotoadau yn lIe "para- toadau." "Paratoi" ddylid ei ys- grifennu, nid "parotor." Nid digon yw dweyd mai "parottoi" a geir yn y Beibl. Cofier mai "paratoi sydd yn yr hen Feiblau. Daethpwyd i ys- grifennu "parotoi yn ddiau, am mai "o" sydd yn "parod," ond nid yw yn dal. Ysgrifenna "gyddis yn Tie "gwyddys "—"is" yn lie "ys"—"it is known" yw'r meddwl. Ysgrifenna "dilifo yn lie "dylifo," "gwrhydr- au yn lie "gwrhydri. Enw dan- soddol yw gwrhydri, ac nid ei ffurf liosog yw "gwrhydrau." Nid oes air fel hwn yn yr iaith. Nid yw yn treiglo'r "c" ar ol yr arddodiad "a" yn y frawddeg, "Daw ambell un adref A coflaid." "Adref A choflaid" sydd gywir. "Ff' ac nid "ph" a ddylai fod yn y gair "gorffwys." Llythyren galed ddaw ar ol yr s" yn "cyfleustra t nid "d." Yr un fath yn "cymhwysterau ar yr un tudalen. "Y mneilltuaeth eto, ac nid "Ymneillduaeth. Ar ol 11, ch, ff, s, ysgrifenner t, b, g. Ar ol th-d, p, g. Er ei fod yn bur gywir gyda dyblu'r cydseiniaid, eto da fyddai iddo ym- berffeithio yn hyn, am fod lie i hynny. Un "n" ddylai fod yn y gair "denu," nid dwy, am fod y llafariad "e" yn y gair yn agored—"open vowel. Ac un "n" yn "llanw" am yr un rheswm, "denu a lIânw" a ddywed- ir, ac nid "denu" a "llanw." Felly hefyd "baner "—un "n." Eithr dylid rhoi dwy "n" yn y geiriau hyn- dibynnu, gorffennol, presennol, el- fennau, synnwyr, arbennig, bynnag, trai mai un sydd gan yr awdur hwn. Hyll o beth yw dodi dau "m" yn "cymaint," ac nid oes eisiau dau "m" yn y gair "amharod," oblegid nis gellir gwneuthur defnydd o honynt wrth arfer y gair ar dafod yn rhwydd. Am yr un rheswm ni ddylid ysgrifennu "cyrhaedd ond "cyrraedd "—dau r. Pan ychwanegir sill at y gair arferer yr "h" megis "cyrhaeddodd," a daw yn "accented" "h" felly. Yr un fath am "h" yn y gair "diamheu," p. 5. Ysgrifenner hefyd—"cenhad- aeth," .ac nid "cenadaeth," p. 6. Er na chyfyrddasom a phob math ar wall a geir yng ngwaith yr awdur hwn, eto buom helaethach yn ein sylwadau ieithyddol ynglyn ag ef nag a fyddwn gyda'r lleill, am mai efe a ddaw gyntaf, ac y gallwn ym- gadw rhag cyfeirio at yr un gwallau yn eraill, ond yn fyr a'u nodi ar eu llawysgrifau. Am fater y traethawd y mae yn lied gyfoethog, ac yn gynnes o ran tymer; ond ni cheir y drefn a'r olyniaeth meddyliau a allem ei ddymuno. 0 ran trefn dylasai rhan olaf ei draeth- awd ddod yn gyntaf, oblegid yn y rhan honno sonia am y pethau ddylai nodweddu'r eglwysi ar ddychweliad y milwyr, ac yn y rhan gyntaf ym- drinia a'r rhesymau dros ymber- Heithio yn y pethau y gweddai i'r Eglwys eu meddu ar y dychweliad; felly, dylai'r drefn fod yn y gwrthol. Nid yw ei ymdriniaeth i'r ail ran cyn gryfed chwaith a'i ymdriniad i'r rhan gyntaf; er hynny, traethawd go dda yw hwn mewn cystadleuaeth fel hon. ho,n. (I barhau).