Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
DARIAN" PEL CYFRWNG I HYSBYSU EISTEDDFOBAU. YR ydym wedi derbyn Llythyrau yn ddiweddar oddiwrth Ysgrifn. yidion Eisteddfodau a roddasent Kyabysiad yn y Darian eleni, am y tJoo cyntaf, yn tystio eu bod yn synnu At y gwahaniaeth a wnaeth yr Hysbys- iild ym mhoblogrwydd a llwyddiant eu Heisteddfodau.
CWRS Y RHYFEL.
CWRS Y RHYFEL. ADOLYGIAD YR WYTHNOS. GORCHESTWAITH RWSIA. EI EGLURO YNG NGHYMRU. El WERSI YN Y GORLLEWIN. BRWYDR ETO AR Y MOR. ABERTHU I MOLOCH YN VERDUN. PAHAM Y GWNEIR. GAN BERIAH. Pan yn ysgrifennu yr erthygl am yr wythnos ddiweddaf dywedais fod ym- ,osodiad mawr Rwsia wedi dechreu, ac wedi dechreu yn addawol iawn, yn gymaint a bod 60,000 o'r Awstriaid wedi cael eu cymeryd yn garcharorion. Awgrymais hefyd y ceid gweled fod 'buddugoliaeth fawr Llynges Prydain .ym Mor y Gogledd yn debig o ddylan- wadu yn amlycach "th Gwrs y Rhyfel. Dengys hanes yr wythnos ddiweddaf fod yr olwg a gylnerwyd ar y safle yn yr -erthygl honno yn hollol gywir. Par- hau i fyned rhagddynt yn eu llwyddiant digyffelyb y mae y. Itwsiaid. Erbyn hyn maent wedi cymeryd DROS 120,000 0 GARCHARORION, ac wedi gyrru.yr Awstriaid ar ffo, ar Germaniaid i fraw a dychryn. Er mwyn i'r darllenydd ddeall yr am- gylchiadau ceisiaf darluno y safle mewn cyffelybia-th ^ng Kg^yraru. Yr ydys! wedi egluro di-olon yu yr .,erthyglau hyn fod y Germaniaid a'r Awstriaid yn wynebu y Rwsiaid ar hyd llinell hir yn ymestyn am o 700 i 800 milltir o For y Baltic i gyffiniau Rwmania. Mewn cyffelybiaeth nid yw ,y llinell hon yn anhebyg i linell y rheil- ffordd o Gaer (Chester) i Gaerdydd, ond fod yr Amwythig (Shrewsbury) amryw filltiroedd yr ochr draw i'r rheil- ffordd, a bod y pellteroedd lawer yn fwy nag ydynt ar y llinell ymddangosiadol yng Nghymru. Yn awr meddylier mai Cymru yw Rwsia, ac mai Canolbarth Lloegr yw Awstria, a Gogledd Lloegr yw Ger- mani, tra Siroedd Morgannwg, a Myn- yy, a Chaerloew (Gloster) yw Rwman- la. 0 ran lleoliad y naill i'r llall o'r gwledydd mae y darlun yn ddigon cywir 1 alluogi'r darllenydd i ddeall yr am- gylchiadau. Wele eto dabl o enwau Ueoedd ddont yn bwysig yn hanes y brwydro presennol a dyfodol yn ym- Syrch mawr Rwsia: Rusk yw Lerpwl. Brest Litovsk yw Manchester. Kolki yw Corwen. Lutsk yw Ruabon. Dubno yw Croesoswallt (Oswes- try). Lemberg yw'r Amwythig (Shrews- bury) Przemysl yw Stafford. Stanislaw yw Craven Arms. Potok Sloty yw Knighton. Tchernowits yw Henffordd (Here- ford). Mae y mannau hyn oil yn Gyffyrdd Junctions) pwysig ar y rheilffyrdd-ac i'r sawl sydd wedi dilyn yr erthyglau hyn mae pwysigrwydd rheilffyrdd a chYffyrdd yn y Rhyfel presennol yn ddigon arnlwg. Diwedd Mai a dechreu Mehefin, h.y., ar yr adeg y cymerodd y Frwydr Fawr ar Y Mor le, rhedai llinell Byddinoedd germani ac Awstria o Rusk (Lerpwl) hexbio Kolki (Corwen), Dubno (Croes- oswallt), Potok Sloty .(Knighton) a chenowitz (Henffordd). Os marciwch y Uinell yna ar y map gwelwch ei bod Yn rhoi yn llaw y gelyn ddarn helaeth o RWsla (Cymru). ??yw, fel canlyniad buddugol- i ^.u Rwsia yn y pythefnos diweddaf .eeir Rolki (Corwen), Lutsk (Ruabon), I)Ubno ^roesoswallt), a Potok Sloty (K nStoQ) wedi cael eu hennill yn ol ° diar y gelyn o fewn y pythefnos. Y BYLCHAU MAWR A DORRWYD. C'I- I -6 SYlwÍr eto'n fanylach ar y ddwy linell gwelir fod Rwsia wedi torri dau ? ? mawr yn UineU Awstria: S.bonXa LUtBk (sef 0 ?o?wen  Ru-b..), a 2. Y bwlch yn nes i'r deheu o Potok Sloty (Knighton) i Koropets (y Cnwc Glas-Knucklas). Sylwer eto ymhellach fod yr ergyd mawr o Gorwen i Ruabon yn gwneud dau beth., sef:- (a) Agor y ffordd tua Chaer (Kovel) tua'r gogledd, a (b) Dechreu agor y ffordd tua'r Amwythig (Lemberg) tua'r deheu. Drwy dorri'r bwlch hwn hefyd tor- rwyd y cysylltiad rhwng Byddin .Ger- mani ar y gogledd a byddin Awstria ar y dde. Yn y bwlch hwn hefyd yr amgylchwyd ac y daliwyd y rhan fwyaf o'r 122,000 carcharorion Awstriaidd y soniwyd am danynt uchod. Edrycher eto ar YR AIL FWLCH MAWR. sef o Knighton (Potok Sloty) i gyfeir- iad Craven Arms (Stanislaw). Gwelir fod y bwlch hwn eto yn gwneud dau beth neu dri, sef (a) Bygwth Craven Arms (Stanis- law). (b) Torri tua'r deheu i'r Amwythig (Lemberg). (c) Torri'r llinell tua'r gogledd o Henffordd (Tchernowitz), Cofier eto ymhellach:— (1) Mae Tchernowitz (a ysgrifennir weithiau Czernowitz ) yw prif ddinas Talaeth fawr Bukowina sydd yn eiddo Awstria. (2) Fod Awstria wedi cynnull yno Fyddin gref a chyfarpar rhyfel difesur. (3) Nas gall y Fyddin Awstriaidd yn Czernowitz gilio yn ol ond yn unig i gyf- piriad y gr^U^ y Rwsiaid yn eu hwynebu ar y ddwyrain a'r gog- ledd, a bod tiriogaeth Rwmania (Sir- oedd Morgannwg a Mynwy a Chaer- loew) yn yr ymyl tua'r deheu. Pe croesai'r Awstriaid y terfyn i Rwmania, wrth ffoi rhag y Rwsiaid, rhaid a fyddai iddynt ildio eu hunain yn garcharorion i Rwmania hyd ddiwedd y Rhyfel-yn hollol yr un modd ag y carcharwyd yn Holland y Belgiaid a'r Prydeinwyr a ffoisant yno pan gwympodd Antwerp. Heddyw daw'r hanes fod Byddin Rwsia gan adael Stanislaw ar hyn o bryd yn llonydd, yn troi tua'r dehau, i gyfeiriad Tchernowits, (Henffordd) gyda'r bwriad o geisio meddiannu y rheilffordd y tu ol i Tchernowitz ar hyd yr -hon y rhaid i'r Awstriaid ffoi os ffoi a wnant. l Os llwyddir yn yr amcan hwn cymerir mwy o garcharorion ac o gyfarpar rhyfel gan y Rwsiaid ym mrwydr Tchernowitz nag a gymerwyd ganddynt ym mrwydr fawr Lutsk ei hun. A heddyw daw'r hanes fod brwydr Tchernowits wedi dechreu; y Rwsiaid wedi cyrraedd hyd yno, a brwydro cledd ynghledd a bidog ymidog yn cymeryd lie yn ystrydoedd y dref. Y tebyg yw y bydd y ddinas wedi syrthio i ddwylaw'r Rwsiaid cyn y daw y rhifyn hwn o'r Darian" i ddwylaw'r darllenydd. Os, yn y cyfamser, y geill y Rwsiaid, fel yr awgrymwyd uchod, weithio eu ffordd i lawr y tu ol i'r ddinas, hynny yw,\ rhyngddi ag Awstria, rhaid i sefyllfa'r Awstriaid yn yr holl amgylch- oedd hyn fyned yn un cyfyng iawn. Dywedir hefyd heddyw fod y Rwsiaid yn gwthio ymlaen yn gyflym o Lutsk (Ruabon) tua Kovel (Chester), a'u'bod eisoes o fewn llai nag ugain milltir i'r lie. Os gwir hyn gellir gobeithio gweled Kovel hefyd yn syrthio yn fuan. Mae Kovel yn lie mor bwysig i'r ddwy blaid ag a fyddai, dyweder Crewe pe bae ymladd yn y wlad hon. Edrycher ar fap y rheilffordd, a gweler bwysigrwydd Crewe. Pe'r Saeson yn ymosod ar Gymru, gallasent o Crewe yrru cyfarpar rhyfel ac adgyf- nerthion ar hyd y rheilffyrdd i Gaer, a Rhyl, a Dinbych, a Ruabon, a Chorwen. Pe'r Cymry yn ymosod ar Loegr, gall- asent ar ol meddiannu Crewe, yrru ad- gyfnerthion a chyfarpar tua Lerpwl, a Manchester, a Stafford. Rhywbeth tebig i'r uchod ydyw medd- iant Kovel i'r Germaniaid, ac a fyddai ei hennill yn awr i'r Rwsiaid. Kovel oedd ystordy milwrol > mawr y gelyn i gyflenwi Rusk (Lerpwl), Kolki (Cor- wen), Lutsk (Ruabon), a Dubno (Croesoswallt). Cyffelyb iddi mewn pwysigrwydd yn Bukowina yw Stanis- law (Craven Arms) a phwysicach na'r ddau yw Lemberg (Shrewsbury). Os enillir Kovel (Chester) yn y gogledd, a Stanislaw (Craven Arms) yn y deheu, bydd yn gyfyng iawn ar Lemberg (Shrewsbury) GWERSI LLWYDDIANT RWSIA I NI. Ceir gwersi gwerthfawr ini a'n Byddin yn Ffrainc yn llwyddiant mawr Rwsia yn torri y ddau fwlch mawr a nodwyd yn rhengoedd y gelyn. Yr oedd llawer, hyd yn oed o'r awdurdodau milwrol, wedi dechreu credu fod rhes ar ol rhes o warch-ffos- ydd yn ei gwneud yn amhosibl i ymos- odydd, boed y gryfed ag y bo, i dorri trwodd. Gwelid mai felly y mae tua Verdun, lie mae'r Germaniaid yn curo wrth y porth ddydd a nos er's pedwar mis. Gwelsom ninnau yr un peth llyn- edd yn y Capel Newydd (Neuve Chap- pelle) a Loos. Llwyddasom ar draul colledion anferth, i dorri trwy reng gyntaf, ac ail reng y gelyn yn y ddau le, ond methwyd gwthio ymlaen drwy'r drydedd reng,—ac ail ffurfiwyd llinell y gelyn yn gadarnach nag ydoedd cyn yr ymosodiad. Felly tybiai llawer mai gwarchae am gyfnod diddiwedd a fyddai raid wneud yn Ffrainc gan nad oedd obaith llwyddo i dorri trwodd. Am yr un rheswm hefyd ychydig yn -wir y nesaf peth i ddim a wnaeth y Gwyr Meirch yn y Rhyfel yn Ffrainc er's dros flwyddyn. Mae Catrodau y Gwyr Meirch wedi cael eu troi yn wyr traed i ymladd yn y gwarchffosydd fel Infantry. Ond mae'r Rwsiaid wedi dangos mai camgymeriad yw'r ddau. Profasant ddau beth gwerthfawr. sef 1. Ei bod yn bosibl torri drwy reng- oedd cadarnaf y gelyn, i ddyfnder nid o filltir, neu ddwy, ueu dair, fèl a w/iaed yn Loos a Neuve Chappelle, ond am ddeg, ugain, neu ychwaneg o filltiroedd. 2. Fod gwasanaeth Gwyr Meirch mor bwysig yn y Rhyfel presennol ag a fu erioed. Amddiffyiiid llinell Byddin Awstria gan o bymtheg i ddeunaw rhes o ffos- ydd, gyda dyrysni gwifrau cryf rhyng- ddynt. Ond torrodd y Rwsiaid drwy- ddynt oil. Wedi torri drwy yr am- ddiffynfeydd hyn, rhuthrodd y Cosac- iaid—Gwyr Meirch Rwsia-i mewn, gan wthio ymlaen ar eu hunion nes myned o'r tu cefn i'r Awstriaid oedd yn am- ddiffyn y llinellau. Dyna'r modd y daliwyd cynifer o garcharorion. Heb gymorth Gwyr Meirch amhosibl fuasai dal chwarter y carcharorion a ddaliwyd y pythefnos diweddaf. PA FODD Y TORRWYD TRWODD. Dengys hanes ymgyrch mawr y Rws- iaid fod eu llwyddiant i'w briodoli i ddaia beth, sef :— 1. Cyfienwad digonol o gyflegrau trymion, gydag ystor ddihysbydd o shels nerthol; a 2. Torri'r bwlch yn ddigon llydan fel na allai'r Fyddin ail ymuno yr ochr draw i'r bwlch cyn i'r gwyr meirch ruthro drwy'r bwlch llydan. A chyda hyn, fod digon o adgyfnerth- ion yn barod wrth law i ruthro ymlaen i gynorthwyo bob tro, ac ymhob man y bo galw. Dywedir na bu. erioed, oddigerth o amgylch Verdun, y fath uffern o dan ag a daflwyd gan y Rwsiaid i linellau yr Awstriaid. Chwalwyd yr holl warch- gloddiau yn gydwastad a'r llawr; llan- wyd yr holl warchffosydd gan y ffrwydr- iadau nerthol; ysgubwyd yr holl ddyrys- ni gwifrau ac amddiffynfeydd eraill o flaen y corwynt tan-a hynny ar ffrynt o ddeugain i driugain milltir. Yna. trwy y drws mawr agored hyn y rhuthrodd gwyr traed a gwyr meirch Rwsia i mewn. Pan ganiateir cyhoeddi y gwirionedd am y Rhyfel yn Ffrainc ceir gweled fod ein methiant ni yn Loos a Neuve Chap- elle i'w briodoli i ddau ddiffyg neu dri, sef: 1. Nad oedd y bwlch a dorrwyd yn ddigon llydan, a'i fod felly wedi can drachefn fel trap ar y sawl a ruthodd i mewn. 2. Ddarfod i'r gwyr meirch, am yr un rheswm, fethu cyrraedd i'r tu ol i'r gelyn; a 3. Mor bwysig a'r ddau nad oedd yr adgyfnerthion a ddisgwylid wedi cyr- raedd y lleoedd a benodwyd iddynt ar yr amser apwyntiedig. I'r tri pheth hyn y rhaid priodoli ein colledion ofnadwy yno, a'n methiant I truenus. Ceir gweled eto a gospwyd y sawl oedd gyfrifol am y methiant. COLLEDION AWSTRIA. Cyfrifa'r Germaniaid eu hun fod Aws- tria wedi colli yn ystod y pythefnos di- weddaf ddim llai na 400,000 o wyr yn y brwydro a'r Rwsiaid. Mor ddifrifol yr ystyrrir y safle fel y gelwid catrodau yn ol ar frys o Mesopotamia, o Gaer Cys- tenyn, ac o'r Trentino. Mae buddug- oliaeth odidog Rwsia wedi rhoi iddi ys- pail rhyfel digon i arfogi yn 11 awn fyddin newydd eto o 250,000. 30,000 ARALL 0 GARCHARORION. Wedi ysgrifennu yr uchod daeth gair fod y Rwsiaid wedi cymeryd 30,000 arall o garcharorion. Mae y cyfanrif am y pythefnos diweddaf felly dros 150,000, neu ar gyfartaledd 11,000 bob dydd. Y mhlith y carcharorion ceir un Maes- lywydd, tri Chadfridog, 2,500 o swydd- ogion milwrol. Ymhlith yr yspail mewn cyfarpar rhyfel yn unig ceir 163 o gyflegrau, 266 o machine guns, 130 o beiriannau at daflu bombs, a 32 o beir- iannau at daflu mines, heblaw digon o reifflau i arfogi byddin o drds 250,000. Cymerwyd hefyd amryw beiriannau a cherbydresi rheilffordd, gyda'u holl lwythi o fwyd, dodrefn, a chyfarpar; nifer o beiriannau chwil-oleu (search- lights) glo, concrete at gryfhau'r gwarchffosydd, cannoedd o dunelli o wifrau pigog, a phethau eraill sy'n profi llwyredd y fuddugoliaeth a syndyn- rwydd anisgwyliadwy yr ymosodiad. BRWYDR ARALL AR Y MOR. Dangoswyd yr wythnos ddiweddaf mai un o ganlyniadau buddugoliaeth Llynges Prydain ym Mrwydr Fawr Jutland fuasai gwanyeLu yn allu ymosodol Germani ym Mor y Bal- tic. Cafwyd yr wythnos ddiweddaf brawf amlwg o hyn. Yr oedd tua dwsin o longau masnach, a hanner dwsin o longau rhyfel bychain a dwy criwser ryfel o eiddo Germani yn eu gwarchod, yn croesi Mor y Baltic tua Libau, gan gludo milwyr a chyfarpar i Fyddin Ger- mani yn Libau, pan ymosodwyd arnynt gan ran'o Lynges Rwsia, yn cael pi chynorthwyo gan nifer o suddlongau Prydeinig. Byr fu parhad y frwydr. Suddwyd deg o'r llongau masnach, a'r ddwy criwser, a ffodd y lleill am nodded i un o borthladdoedd Sweden gerllaw. Dengys hyn beryglon Llynges Germani hyd yn oed yn y Baltic. ABERTHU I MOLOCH YN V .> Un o bechodau ysgeler yr Israeliaid gynt, am yr hwn drosedd llabyddio yn farw oedd y gosp, oedd gyrru eu plant drw'r tan i Moloch. A chyfrifa'r dy- I fodol ymhlith pechodau mawr Germani yn y Rhyfel presennol yr aberthu di- ddiwedd yn Verdun, lie ddydd ar ol dydd y gyrrir ganddi oreuon ei phI ant drwy uffern o dan er boddio uchelgais gwallgof y Caiser. Mewn erthygl yn y "Darian" yn ddi- weddar rhoddais amcangyfrii colledion y Germaniaid wrth geisio ennill Verdun yn hanner miliwn. Tybiai rhai y ffigiwv yn llawer rhy uchel,—ond yr wythnos ddiweddaf cafwyd ar gorff swyddog uchel ym Myddin Germani ar faes Ver- dun ddyddiadur yn yr hwn yr oedd cyfrif swyddogol (otJ-d cyfrinachol) aw- durdodau milwrol Germani yn gosod colledion y Germaniaid o gwmpas Ver- dun hyd ddiwedd Ebrill yn 450,000. PAHAM YR ABERTHIR CYMAINT. Parhau wna'r brwydro ddydd a nos o amgylch Verdun, a'r colledion yn dal yn fawr. Paham ynte y par heir yr ym- drech wallgof sy'n costio mor ddrud ? Ceir allwedd i'r dirgelwch mewn dwy neu dair o ffeithiau sydd erbyn hyn yn hysbys, set: 1. Mae'r awdurdodau milwrol yn sicrhau'r bobl sydd gartref mai ennill mae Germani bob dydd. Cyhoeddas- ant eu bod wedi ennill Bryn y Meirw, ac Amddiffynfa Vaux, dri mis cyn eu hennill. Er mwyn gwneud i'w gair ym- | ddangos yn wir i'r bobl parhaent yr ym- drech am y ddau le er tywallt ohonynt afonydd o waed wrth wneud. Ofnant yn awr y tyrr gwrthryfel allan gartref os daw'r wlad i wybod mai methiant yw'r ymdreclr i ennill Verdun. Byddai eu gwaith yn rhoi heibio'r ymosod ar Verdun yn gyfystyr a chydnabod eu bod wedi cael eu gorchfygu yno,—a byddai'r canlyniadau gartref yn alaethus. Un- j waith yr enillant Verdun, er na fyddai ei hennill mwyach o unrhyw werth mil- wrol iddynt, eto gallent hawlio eu bod wedi ennill buddugoliaeth fawr. 2. Yn y rhagolwg am ymgais am wneud heddwch mae yn bwysig i'r gelyn fod yn meddiannu cymaint ag sydd yn bosibl o dir ei wrthwynebydd. Mae wedi colli ei drefedigaethau tramor yn ymarferol oil. Tra bo yn dal tir yn Ffrainc, a Belgium, a Serbia, a Rwsia, gall fargeinio am eu cael yn ol yn gyf- newid am y tir a gymerodd yntau yn Ewrop, a pho fwyaf o dir gwledydd eraill fydd yn ei law, mwyaf oil ei fan- tais yn y bargeinio. Gwelir hyn yn amlwg iawn yn areithiau diweddar yr awdurdodau uchaf yn Seneddau Aws- tria a Germani, pan gyfeiriai y ddau Ganghellor dro ar ol tro at y sefyllfa filwrol f el y mae ar hyn o bryd fel sylfaen hanfodol unrhyw ymdriniaeth am heddweh. Yn y goleuni hwn ych- wanegir yn ddirfawr at bwysigrwydd rhuthr mawr Rwsia ar dir Awstria a ddesgrifiwyd uchod. 3. Y trydydd rheswm pwysig yw yr awydd angerddol i roi dyrnod angeuol i un o'r prif elynion. Methodd daro Rwsia i'r llawr llynedd. Methodd daro Prydain a'i Llynges. Tybia y medr lethu Ffrainc yn Verdun-ac ar ol llethu Ffrainc y bydd yn rhwyddach gan Brydain a Rwsia wneud heddwch rhag digwydd iddynt hwythau gyffelyb an- ffawd. Dilys yw cydnabod fod colledion Ffrainc o amgylch Verdun yn ofnadwy o fawr, er nad llawn cymaint ag eiddo Germani. Ond yr oedd gan Germani gynifer mwy o filwyr nag oedd gan Ffrainc fel y gallai fforddio colli mwy i Eiralnc. Nid oes gan Mraiw wdù- ill o nerth nac adgyfnerthion i alw ar- nynt. Hysbyswyd hynny yn yr ysgrif- au hyn amryw wythnosau yn ol. Yn hynny y mae gobaith Germani i ennill y fuddugoliaeth yn Verdun. I rwystro hynny y danfonwyd adgyfnerthion 0 Rwsia i Verdun, ac mae eraill ar y ffordd tuag yno. Mae Rwsia a Ffrainc wedi colli llawer mwy na ni yn y Rhyfel. Am bob un milwr Prydeinig a laddwyd neu a glwyfwyd er dechreu y Rhyfel, ym- ddengys fod o leiaf ddeg Ffrancwr a Rwsiad wedi eu lladd a'u clwyfo. Geill Rwsia fforddio, gan fod ganddi filiynau eto yn barod i'w gyrru i'r Fyddin, eithr ni eill Ffrainc fforddio. Ac os na enilla Germani Verdun yn fuan bellach, rhaid iddi roi fyny bob gobaith am ennill y lie—ac 0 ganlyn- iad wynebu galanas ofnadwy7 ei .hun pan y'i gorfodir i gilio yn ol tua'i gwlad ei hun. Mae rhesymau politieaidd yn Ger- mani ei hun hefyd yn galw am iddi fynnu ennill Verdun costied a gostio. Cofier mai cyngrair o amryw wledydd yw Germani, a phob gwlad yno yn meddu ei llywodraeth gartrefol, a'i brenin ei hun, er yn ddarostyngedig i'r Caisar fel Ymeradwr. Mae i bob gwlad yn Germani ei hamcanion a'i huchel- gais ei hun-ac un o anghenion mawr y Caisar heddyw yw sicrhau iddynt yr amcanion hynny. Yn eu plith un o'r pwysicaf yw ennill Verdun er diogel- wch i Alsass a Lorain a gymerwyd oddiar Ffrainc yn 1S70.
ABERDAR. *
ABERDAR. Bu Mr. Hy. Thomas, Glyn Cottage, Aberdar, farw dydd Llun, Mehefin 12, yn 49 mlwydd oed. Mab ydoedd i'r di- weddar Mr. Wm. Thomas (Morfab) a Mrs. Thomas. Bu yr ymadawedig yn gysodydd yn Swyddfa'r "Darian" am flynyddoedd. Dydd Sadwrn daeth torf ynghyd i'w angladd. Gwasanaethwyd gan y Parchn. T. Thomas, B.A., fnys- lwyd (ei weinidog) a James Griffiths, Calf aria, yn y ty ac ar Ian y bedd. Yr oedd cynrychiolaeth gref o Undeb v Cysodwyr yn y cynhebrwng. Yr oedd y brawd ymadawedig yn fardd ac yn lienor gwych. Bu yn ffyddlon i'r achos yn Ynyslwyd, yn neillduol i'r Ysgol Sul, le yr oedd yn athraw diflino, ac y mae rhai o'r bechgyn fu dan ei ofal ar faes y rhyfel heddyw, a gwn y bydd yn flin ganddynt na chant weled wyneb ei hathraw yr ochr yma. Cafodd y brawd gystudd trwm a chaled, ond ddioddef- odd yn amyneddgar. Taened y Gor- uchaf ei aden dros y fare. oedranus a'i brawd yn eu galar. v