Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
W. Williams & Co. i JEWELLERS, &c.. 2 P? -?t a s 1 S Swa?ea ,v {Jf,> \)""01; t,r,IK(1.IIt4 I i.i J .?p?c'???'?s' J I Set. GOLD DIAMOND, RIJEY AND SAPPlHRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KbKPERS, GOLD AND SILVER WA rCHSS. Gymry boff, (feweli at y Ovmro Os &m he-iftltl (o-lrwj'ftu a<»r. Oriaduron ho awrieiaian, Geinan a ohmiwvnau cliter Yspectol geify,i(i, i,iti-f-. Cwmptw) m6r Geir gan WiSiifuas, Heoi y 1 ft-^eil f Trowch i me«n t weiM «•} H<dr.
Y RHYFEL.
Y RHYFEL. GAN EIN GOHEBYDD AR- BENNIG. Peth creulon a barbaraidd yw rhyfel ar y gore, ond pan ddygir hi ymlaen yn fwriadol ddifater o bob deddf a rheol foesol a rhvngwladol, nid oes dim ond uffern i'w gymharu iddi. Dygir tystiolaeth feunyddiol yn ein newyddiaduron i farbareiddiweh eithafol y Germaniaid tuag at y Bel- giaid. Nid oes orchwyl yn rhy ddu a bwystfilaidd, na dyfnder yn rhy isel i'n gelynion pan fynnant dywallt eu Hid ar y diniwed diymadferth sydd yn eu dwylo. Un o nodau y niilwr Pryd- einig yw bod yn anrhydeddus. Ni fyn daro ar y 11awr. Ni fyn ychwaith ymosod ar wragedd a phlant. Gwrthun fyddai meddwl am dano yn ymosod ar un clwyfedig. Ysywaeth, cyhuddir y milwr Germanaidd o'r pethau uchod a ffieidd-dra llawer mwy. Ond un peth yw cyhuddiad gelyn, peth arall yw profi gwirionedd y cvhuddiad. Arferem feddwl mor uchei o'n cymdogion Germanaidd, ac anodd oedd gennym gredu y drwg a draethid am danynt. Ar y cyntaf tadogid y straeon i ormodiaith gohebwyr ein newyddiaduron ac i gasineb yn erbyn • eia gelynion. Ar h; • yoigymeT- odd dirprwyaeth ymddiriedol a phwysig a'r gwaith o chwilio i fewn i bethau, a phrofir y pethau gwaethaf a draethid hyd y earn. Erbyn hyn, nid oes eisieu myrted y tuallan i'r Germanaid eu hunain am brofion ter- fynol o'r ymddygiad creulonaf posibl o'r eiddynt. Geilw cyfraith Germani ar i bob milwr gadw dyddiadur, ac i osod yn y cyfryw ddigwyddiadau y diwrnod. Bellach condemnir cyflawn- iad yr anfadwaith o'u genau eu hun- ain. Daeth y gwrthryfelwyr yn Neheu Affrica i ddiwedd digon gwaradwydd- us. Arferai De Wet fod yn uchel iawn ei barch, ond yn y wrthryfel collodd ei fab a daliwyd yntau fel Uygoden mewn trap. Y mae yn awr yn garcharor gyda Wessels ac ereill. Dyn cymharol ieuanc oedd y Cadfrid- og Beers, prif swyddog milwrol y Dalaeth, ac addawai yn dda. Syrth- iodd yntau oddiar gefn ei geffyl ynghanol afon, wedi ei saethu gan filwyr y Llywodraeth a boddodd. Yn ol pob tebyg y mae y bradwr dwbl Maritz yn gorff erbyn hyn. Bradychodd ei wlad ac aeth a mintai drosodd at y Germanaidd, ac arwein- iodd hwy i ymosod ar ein milwyr ni. Pan welodd fod gallu Germani yn pallu cynhygiodd ddod drosodd atom ni drachefn, a hefyd osod nifer o Germaniaid yn ein dwylo. Cafodd y gwyr hynny wynt ar y stori, a saeth- asant ef yn ddiymdroi. Symud ar raddfa eang iawn y mae y gweithrediadau yn y Dwyrain ar hyd Uinell o yn agos i fil o filldiroedd, sef o derfynau Roumania hyd Ogledd- barth eithaf Dwyrain Prwsia. Rhed maes y frwydr gyda therfyn gogleddol Germani i lawr trwy ganol Poland ac un or Carpathiaid trwy ganol Hungari. Yn y Gogledd y mae Rwsia wedi gorfod encilio yn gyflym am fod y Germaniaid wedi dod a thua phedwar-can-mil o wyr o'r newydd 1 r cyffiniau hyn. Yn y canolbarth i'r Gorlfewin o Warsaw deil Rwsia er gwaethaf yr ymosodiadau ffyrnicaf a mwyaf costus o du y gelyn. Dywedir fod y Germaniaid wedi gadael deu- gain mil o laddedigion ar y maes yn y parthau hyn. Yn y De deil Rwsia i withio yn y blaen yn raddol ymhob man ac eithrio cyrion isaf Bukowina. Fel y canlyn y disgrifia un goheb- ydd arswydion yr hyn a ddigwydd yn Poland "Yn-iddengys fod atalfa wedi ei gosod ar yr ymosodiadau Germanaidd mawrion diweddar. Dywedir fod y Rwsiaid wedi peri colledion i'w gwrthwynebwyr nas gellir ffurfio unrhyw syniad am danynt oddiwrth unrhyw gyfrifon blaenorol a'i bod yn cyrraedd 40,000 o feirwon Cyfrifir mai dau brif achos y colled- ion anaele hyn yw yr oerfel sydd yn y nos saith neu wyth o raddau islaw "zero," a'r ffaith mai milwyr newydd sydd gan Germani ac nad ydynt yn abl i ymladd mewn llinell estynedig. Rhaid felly yw eu gosod yn rhengoedd yn dew ar ol eu gilydd. Medir rhengoedd trwchus y gelyn i lawr gan ein "mitrailleuses ni fel pe gwneud a llafn o ddur. Pan oedd y frwydr drosodd yr oedd o'n blaen fynyddoedd o wyr syrthiedig, ac ys- grecheydd o ing yn codi oddiwrthynt. Gyda disgvnad y nos, wrth oleu y 'searchlights,' gwelem y mynydd- oedd hyn yn codi ac yn syrthio gydag ymdrechion y clwyfcdigion i godi. Tua dau o'r gloch y bore ni welid yno symudiadau pellach." Dal i ddod y mae newyddion o'r ffosydd yn Ffrainc, a hynny yn fan friwsion. Nid ydym wedi cael gohebiaeth swyddogol oddiwrth Syr John French er diwedd mis Tach- wedd, a chwynir yn erwin ar hyn trwy y wlad. Y sgrifenna "Llygad- dyst yn weddol fynych ac yn swyddogol, ond daw ei hanes yn hwyr iawn. Ca Llywodraeth Ffrainc } neges bob deuddeg awr oddiwrth y Maes-lywydd J off re. Dichon nad oes gan French lawer i'w ddweud, er hynny ni ddylid gadael tri mis i redeg heb air oddiwrtho, yn neilltuol gan fod ein milwyr yn brwydro yn barhaus. Cawn lawer o'r hanes gan filwyr clwyfedig, y rhai ddychwelasant adref. Ceir y rhan fwyaf o'r' cyfryw yn hynod ddywedwst am yr hyn a welsant ar faes y gwaed. O'r tu arall ceir ereill yn fwy parod i adrodd eu hanes au profiad. Clywsom ddis- grifiad ofnadwy o'r gwaith a wneir a'r bidogau. Yn ddiddadl gwaith i ellyllon ac nid i ddynion yw y "bayonet charge." Yn ol yr hanes, tra yn paratoi, cymer cryndod fedd- iant o'r milwyr, ond gyda'r gair "charge," cila pob ofn; y maent oil fel pe wedi eu gwefreiddio drwy- ddynt neu wedi gwallgofi. Rhuthrant, trywanant, lladdant, ac os yn fuddu- goliaethus dychwelant yn waed i gyd ac yn chwys ac fel pethau cyn- ddeiriog! Dyna yw rhyfel! Rhyfel wareiddiedig, cofier, os gellir def- nyddio iaith o'r fath. Hysbyswyd yn Nhy y Cyffredin fod Prydain eisoes wedi colli 102,000 o wyr trwy ladd, clwyfo, a charcharu, a hynny heb gofio am y colledigion ar y mor, nac ychwaith yn Affrica, yr Aifft a Tsing-Tao yn China. Y mae Gymdeithas y Groes Goch yn awr 705 o ysbytai a thros 19,000 o welyau ynddynt i filwyr Prydeinig. A beth yw hyn at y nifer sydd gan wledydd ereill? Erbyn hyn y mae cynhadledd arianol Paris drosodd am y tro, a dealltwriaeth lawn wedi ei threfnu rhwng Rwsia, Ffrainc, a'r wlad hon. Un o ffrwythau anuniongyrchol cyfar- fyddiad y tri Canghellor yw y ca y byd ei argyhoeddi fod y tair gwlad yn bwriadu glynu ochr-yn-ochr hyd y diwedd. Cadarnheir felly y cyfamod a wnaed cydrhyngddynt i wrthod gwneud heddwch a'r gelynion ond gyda'u gilydd. Penderfynwyd fod y tair gwlad yn myned yn feichiau unol am bob arian fydd yn eisieu ar Servia neu Belgium. Digon tebig hefyd eu bod wedi trefnu ar gyfer gofynion Bwlgaria a Roumania hefyd pe digwyddai y cyfryw uno yn y rhyfel. Ymwelodd M. Bark, Canghellor Rwsia, a'r wlad hon cvn troi adref, a chafodd gohebydd y "Daily Chron- icle ymgom gydag ef. Fel y can- lyn y traethodd am ein cyd-wladwr enwog, Mr. Lloyd George:Ar- ddengys gyflymder meddwl synfawr | a gallu ymarferol sydd i'w edmygu. Medda ar reddf gydia ar unwaith yn y pwynt hanfodol ac arferiad meddyl- iol 'business-like a esyd bopeth amherthynasol o'r neilltu." Holwyd y boneddwr hefyd parthed dylanwad atal y vodkha meddwol yn Rwsia, ac atebodd "Vr oedd yn y Bane Cynilo yn 1913 gyfanswm o 34,000,000 roubles, a mwy na 84,000,000 roubles yn 1914. Daeth bywyd yr aelwyd yn fwyd prydferth a diogel, fel mae- y merched a'r gwragedd o leiaf wedi cael mwy o ddedwyddwch. Creodd ffvnonellau newyddion o iechyd, a tlÍrwv holl Rwsia lleihaodd troseddau bron hyd ddiflaniad. Y mae y ffeith- iau hyn yn amlwg i'r bobt eu hunain, a siaredir am danynt ymhob pentref. Mater a grea gryn gyffro y dyddiau hvn yw bygythiad Germani i suddo pob Hong ddaw i ddyfroedd yr Ynys- oedd Prydeinig. 0 gwrs unig gyfrwng y gelyn i wneud hyn yw y "submarine. Ond yr anhawster iddo yw sut y gall wahaniaethu rhwng ein llongau ni ac eiddo gwledydd heddychol? Dywed cyfraith rhyfel, y fath ag ydyw, fod yn rhaid arbed bywydau fyddo ar fwrdd Hong fasnachol os suddir hi, er iddi fod yn eiddo y gelyn. Dyna ail graig-rwystr ar ffordd y bygythiwr. Yn ddiddadl ei amcan oedd dychrynu gwledydd ercill a chadw eu llongau draw. Y mae neges o'r Unol Dalaethau er hynny. wedi newid ton gweision y Kaiser. Er pan ymwelodd y llong dan-suddol hono a chyffiniau Lerpwl, nid ydym wedi bod heb bryderu ynghylch ein llongau. Yr wythnos ddiweddaf moriai yr ager-long Lusi- tania b New York i'r wlad, ac yn unol a chyfarwyddyd y Llywodraeth mor- todd gan chwifio baner yr Unol Dal- aethau. Ceir stori gwerth ei hadrodd am un o'n milwyr Cymreig sydd yn garchar- or yn Germani. Awvddai ddanfon adref ychydig o'i hanes, ond ni feidd- iai ddweyd yn agored y driniaeth a'r bwydydd a geid. Gwyddai fod pob llythyr yn cael ei ddarllen yn fanwl gan yr awdurdodau, a gwae fyddai iddo os cynhygiai anfon gwybodaeth anny- munol allan o'r wlad. Ysgrifennodd felly fel y canlvn "You will glad to hear news of old friends. Mr. Bwyd is very bad here. Mr. Bara is very much darker than when you saw him and is quite hard. I never see Mr. Cig, and Mr. Ymenyn but sel- dom; he was very bad indeed the last few times I met him, but he has not been here now for some time." Cam- syniodd yr archwiliwr Germanaidd enwau y bwydydd uchod gan dybio mai enwau rhai o'r carcharorion ereill oeddynt. 4 Dydd Gwener cyflawnodd awyrwyr Prydain orchestgamp hynod eto. Aeth 34 o "aeroplanes" o Dover dros y culfor, ac ymwelsant gyda'u gilydd a rhai o wersylloedd y Germaniaid yn Belgium gan daflu tan-belenau ar- nvnt. Llosgwyd gorsaf Ostend; drylliwyd gorsaf Blankenberg, a thorrwyd y rheilffordd i fyny mewn ami i le. Gollyngwyd "bombs" hefyd ar safle y gynnau yn Middelkerke; ar orsaf drydanol a'r llongau yn mhorth- ladd Zeebrugge. Yn ystod y wib- daith bu raid iddynt hedeg trwy gym- ylau o eira, ond dychwelasant oil yn ddiogel. Syrthiodd un o honynt, Mr. Gahame-White, i'r dwfr, ond achub- wyd ef. Anafwyd dau o'r peiriannau ereill hefyd. Bu llawer o danio ar- nynt gan y gelyn. Dyna'r fintai fwyaf gynhygiodd waith o'r fath erioed. Onid yw yn syn y camrau sydd wedi eu gwnaed yn y gelfyddyd o hedeg?
I Y SENEDD. i
I Y SENEDD. GAN EIN GOHEBYDD AIIBENNIG. Y prif fater a fu o flaen y Senedd yn ystod yr wythnos oedd y cynnydd ym mhris y bwydydd. Mewn araith fanol danghos- odd y Prif Weinidog fod cynydd ma wr wedi bod ym mhrisoedd y pum nwydd pwysicaf i bob teulu, sef: gwenith, blawd, cig, siwgr a glo. Cymharodd y prisoedd presennol a'r hyn oeddynt cyn y rhyfel, ac a'r hyn oeddynt yn Chwefror, 1914, a'r cyfartaledd am y tair blynedd diweddaf. Rhwng Chwefror eleni a llynedd y maent yn awr yn uwch, sef: gwenith, 7 z y cant; blawd, 75 y cant; cig, 6 y cant; siwgr, 72; a gloj 15 y cant. Ceisiodd Mr Asquith ddangos fod y cynnydd yn fwy yn ystod rhyfel Ffrhinc a Prwsia yn 1870: Olrhein- iodd hefyd yr achosion, a thadogai-hivy i gyfiwr cynhaeaf Belgium a Gogledd Ffrainc. Arferai Ffraine allforio ydau, yn awr rhaid iddi brynu. Am resymau penodol y mae cnydau yr Argentine dair wythnos yn ddiweddarach eleni nag arfer yn dod i'r farchnad. Mae cnydau Aws- tralia hefyd yn fethiant hollol. Ar ben hyn oll-, wele v DardaneHes wedi eu cau yn erbyn cnydau Rwsih, ac yn ol pob tebig ddeng miliwn o chwarteri o wenith yn aros am longau ym mhorthladdoedd Rwsia. Caf- wyd ymdriniad gwerthfawr ar y mater, a honnai y Llywodraeth ei bod mewn cydym- deimlad a'r bobl. Dipyn yn siomedig er hynny oedd araith Mr. Asquith, ac nid oedd y Llywodraeth yn barod i wneud llawer o wrhydri i gadw prisoedd i lawr. Prof odd araith Mr dynes, yr aelod Llafbr, yn hynod werthfawr. Dadleuai ef y dylai y Llywodraeth osod gorfodaeth ar "y gwyr canol" fel nas gallont godi crogbris am eu nwyddau.
--.I Nodion Talnant..I
Nodion Talnant. Mae y Bonesau Dilys M. Davies a Linda G. Davies, Abertawe, wedi ennill gwobrau o 6 gini yr un yn Arholiad lleol Coleg* Crddorol Trinity (Llundain), 1914. Bu trengholiad ar faban deg mis oed dvdd Mercher, a'i enw yn Charles Aisne Jones. Enwyd ef er cofio brwydr fawr yr Aisne. Dydd Mercher priodwyd nnig fab y Parch. T. Sinclair Evans, gweinidog Eg- hvys Annibynnol Sant Helen, Abertawe, a'r Fonesig Millicent Howells, unig blen- tyn Mr a Mrs Howells, 'i'vesty'r Jios- venor. Gwasanaethwyd gan dad v priod- rab. Codi mae pris glo yn Abertawe. ,Y mae'r radd oreu o 30s. i 32s. y dunnell; ail radd, 27s. i 28s. Dywedir yr a yn uwch eto cyn diwedd y mis. Cynhaliwyd cyd-bwyllgor o Gyngor Trefol Aoortawe a Chymdeithas Bwyd- werthwyr y dref dydd Mawrth, Chwef. 9fed, i ystyried prisoedd ymborth. Dad- leua'r masnachwyr mai bychan yw'r elw geir ar y bwydydd. Pasiwyd penderfyn- iad, wedi llawer o ddadleu, yn galw ar y Llywodraeth i reoli'r prisoedd yn y dy- fodol. Cyst yr ymchwiliad parthed estyn cor- tynau Bwrdeisdref Abei-tawe i'r trigolion £ 1,000 y dydd. Mae'r gwrthwynebiadau i'r mudiad 1 gyd wedi eu tynnu'n 011 Dywedir y bydd codihd o dair ceiniog y bunt yn nhrethi Abertawe.
COLOFN LLAFUR.
COLOFN LLAFUR. GAN BEREDUR. Tywyll a chaddugawl yw y ffurfafen wladwriaethol rhwng popeth, a'r weithgar sydd yn gorfod dioddef mwyaf o bryder a gofid o herwydd hynny. Son sydd am godiad ym mhris popeth, ond cyflog y gweithiwr. Rhwydded y gall perchenogion gael y prisoedd a'r telerau mwyaf manteis- 101 iddynt eu hunain heb fawr o gri a phro- test yn eu herbyn. Ond pan geisia'r gweithwvr ychydig o'r cynnyrch lIwyddian- nus, condemnir hwynt, fel pobl annheyrn- gar. Diogelu Perchnogion Ariandai. Pan dorrodd y rhyfel allan, a pherigl i'r cwmnioedd ariannol fethu a chyfarfod a gofynion eu cwsmeriaid gwyllt ac of nus, ni fu'r Llywodraeth, f. Mr. Lloyd George fel ei phennaeth ariannol, ond vchydig o oriau cyn dyfod a gwaredigaeth drwy orchymyn cau yr ariandai am ychydig ddiwrnodau, a phar&toi miliynau o nodau papur, fel ag i sicrhau cyfrifoldeb yr ariandai a'u diogelu rhag dinystr. Y canlyniad yw fod y mwy- afrif o'r ariandai ar ddiwedd y chwe mis olaf o'r flwyddyn yn gallu ymffrostio mewn cynnydd sylweddol yn y dividend i'w rhanddalwyr. Ond beth am y gweithwyr? Ffurfiodd y Llywodraeth hefyd bwyllgor cyfrifol i reoli prisoedd y bwydydd. Gwnaeth y pwyllgor hwn ei waith yn gymharol dda. Betn sydd wedi dyfod o hono yn awr? Cawn fod y hwydydd, a'r glo, a holl angenrheidiau bywyd, yn ystod y mis diweddaf, wedi codi yn aruthrol yn en prisoedd. Beth yw ym- ddygiad y LIywodraeth? 0, rhaid aros i gael ymdriniaet; • jt >■'rater yn y ty. Nis gellir bod mor iciddgar ar ran y tlodion gwerinol ag ar ran y dosbarth ariannog.
"Gwyr y Lein."
"Gwyr y Lein." Llongyfarchwn weithwyr y rheilffyrdd ar eu llwyddiant yn sicrhau ychydig o ych- wanegiad at eu cyflogau. Daeth arwein- wyr y gweithwyr ac awdurdodau y rheil- ffyrdd i gytundeb fod y dynion a dderbyn- lent lai na 30s. yr wythnos i gael 3s. yr wythnos o ychwanegiad, a'r rhai a dder- byniant dros 30s. i gael 2s. Dylasair codiad fod yn fwy o lawer, ond gwell han- ner torth na dim, a bydd y telerau yn agored i'w hail-ystyried ymhen tri mis.
Hwnt ac Yma.
Hwnt ac Yma. Etholwyd Mr. Moses Thomas, U.H., yn Glerc Aberafan. Mab ydyw i Mr. J. A. Thomas, blaenor gyda'r Methodistiaid yng Nghwmafan. Y mae yntau yn aelod gyda'r un enwad yn Aberafan. Drama o waith y Parch. W. F. Phillips, B.A., B.D., B.Litt., yw y "Pererin." Per- fforiwyd hi am y tro cyntaf yr wythnos ddiweddaf yn Ninbych y Pysgod. a'r awdur ei hun yn cymryd y rhan Haenaf. Sefydlwyd olynydd i'r Parch. J. Morgan Jones, M.A., yn Nhabernacl (A.), Aberdar, ddydd Iau diweddaf, sef y Parch. T. M. Jeffreys. Cadeiriwyd y cwrdd croesawi gan y Parch. Silyn Evans, Siloa. Pregeth- wyd gan y Parch. A. M. Anderson, Cas- newydd, yn yr hwyr. Bu Mr. Thomas Lewis, Ynysybwl, dan gwymp am 15 o oriau ym MhwIt y Lady of Windsor yr wythnos ddiweddaf. Dihang- odd yn lied ddianaf trwy godi gyfryngau rhyngddo a'r cwymp. Ddydd Iau diweddaf sefydlwyd y Parch. W. J. Rees, Porth. yn weinidog yr Allt- wen. Y Parch. Ben Davies, Panteg, a gadeiriai yn y cwrdd croesawi. Anfonodd Cyngor Eglwysi Rhydd Tre- cynon barsel o ddillad gwlenyn 1 Mrs. Lloyd George at wasanaeth y milwyr o Gymru yr wythnos ddiweddaf. Anfonodd faich arall yr wythnos cyn hynny i wyr y Carw Coch, sef y Cadben Williams, Rhyl. Wele sylw Mr W. Crooks, A.S., mewn cvfarfod listo yn Aberdar nos Fa wrth, Chwef. 9fed: "Yr oedd pedair miliwn o Sosialiaid ac Undebwyr Masnaehol yn yr Almaen cyn y rhyfel, a dim ond un dyn a gododd ei law yn orbvn y rhvfel. Yr oedd hvn i'w briodoli i ffug ryddid y bobl. Gwell gennyf", ebe, "weled y Prydeinwyr wedi eu difodi na gweled un dyn, menyw, na phlentyn ya-gweitliio dan y C-eisar."