Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Yt SYTHO'R SENEOD
Yt SYTHO'R SENEOD Ac i ddod Bob Wythnos. [ AN EIN GOHEBYltD ARBENNIG). Liundain, Nos Sadwrn. 20 jxiiJ1919 Bustachu a Gwegian. Cymylog iawn yw'r awyrgylch Seneddol ar hyn o bryd, ac y mae adar y ddrycin yn gwyllt-hedeg ac yn crawcian pob math ar ddarogan. Rhaid addef nad yw'r Wein- yddiaeth wedi bod mor lwcus gyda'i mesurau ag y disgwylid. Fel y crybwyllwyd wythnos yn ol, taflwyd yr Anti-Dumping Bill dros y bwrdd am ei fod yn cynnwys hadau gwrth- wynebiad i Fasnach Rydd. Erbyn hyn ceir rheswm ychwanegol dros ei wrthod, yn nyfarniad Syr John Sankey yn achos y Twrnai Cyffredinol yn erbyn Brown. Cnewyllyn yr achos oedd hawl y Goron i warafun, drwy broclamasiwn, atgludiad nwyddau. Dibynnid ar eiriau yn y Customs Act (1876) yn datgan fel hyn The importation of arms or any other goods may be prohibited by Proclamation or Order in Council." lurai'r Attorney General (Syr Gordon ewart) yr adran fel yn cynysgaeddu'r Goron a hawl i atal dyfodiad unrhyw awyddau" i'r wlad, ar wahan i awdurdod a chydsyniad y Senedd. Fe welir ar un- waith fod esboniad Syr Gordon Hewart n cynnwys yr egwyddor o gaethiwo rhyddid masnach yn ol dymuniad neu fympwy unrhyw Weinyddiaeth a ddigwyddo' fod mewn swydd. Ond nid felly y barnodd Mr. Justice Sankey ac os saif ei ddyfarniad -y mae'n agored i gael ei ystyried ymhellach yn Llys Apêl-aiff yr atalfeydd ar atgludiad mathau neilltuol o nwyddau a bwydydd yr un fiordd a'r Anti-Dumping Bill. Ac nid y mesur dan sylw yw'r unig graig rwystr sy'n wynebu'r Weinyddiaeth. Ar Fesur y Glo, Mesur y Trydan, a Mesur y Tai, y mae'r machinery wedi torri i lawr tra y mae Mesur oll-bwysig Ymreolaeth Gwyddelig wedi ei ohirio hyd y Senedd-dymor nesaf. Nid gerfydd ei glust y ceir y Mochyn hwn i'r Ffair. Diau fod rhesymau cryfion dros yr oedi ynglyn a. chyflwyno Mesur Ymreolaeth i'r Iwerddon i Dy'r Cyffredin, ond y mae'r oedi, a dweyd y lleiaf, yn hYJlod o anffodus. Gobeithiai'r Prif Weinidog fedru gosod y mater gerbron yr wythnos hon, ond bu raid gohirio am wythnos ymhellach, gydag awgrym mai nid y Mesur a geir yr adeg hwnnw, ond Datganiad gyda golwg arno. Yn y cyfamser y mae sefyllfa'r Iwerddon yn annioddefol o ddrwg. Tramwya Mwr. drad yn uchel ei ben liw dydd goleu Ileddir gwyr diniwed yn ddiachos ysbeilir a phoenir eroill yn ddirdynnpl, er gwaethaf a ieva-fesurau'r Weinyddiaeth Wyddelig. Un o ddyfeisiau diweddaraf y Castell yn Nulyn yw mygu'r Freeman, newyddiadur yr Adran GenSdlaethol. Gan nad beth oedd trosedd y Freeman, fe wyr pawb mai tro ffol yw ceisio cau genau newyddiadur. Rhoddodd yr ymgais i wneuthur hynny i'r Freeman gyfleustra ar unwaith i Mr. T. P. O'Connor a Mr. Devlin a'u cyfeillion godi'r achos i sylw yn Nhy'r Cyffredin. Nid yw nifer yr aelodau Gwyddelig yn Westminster end byehan y dyddiau hyn. 0 ganlyniad y mae'n anodd iddynt gario tactics yr amser gynt ymlaen yn llwyddiannus. Ond os nad wyt gryf bydd gyfrwys yw arwyddair y Gwyddel. Y mae plaid Llafur yn gref, o ymuno a hi byddwn ninnau (y blaid Wyddelig) yn Iluosocach. Trwy gymorth uniad fel a nodwyd cafwyd y caniatad angen- Theidiol i droi nos Fawrth yn Irish Night. Condemniwyd y LIywodraeth am fygu'r Freeman, a dywedwyd pethau chwerw am Mr. Macpherson, yr Ysgrifennydd Gwyddelig, ond yr oedd y mwyafrtf mawr gyda'r Llyw- odraeth, a diweddodd y cwbl—am y tro- mewn siarad. Yn y cyfamser parha'r Iwerddon i gerdded y Ffordd Rudd, a arwain i ddistryw. Dyna Ffrindiau yw'r ddau I -1 Ddafydd! Oddi wrth yr hyn a ddywedwyd yn barod bydd yn hawdd deall bwysau'r cyfrifoldeb a orwedd ar ysgwyddau'r Prif Weinidog. Mewn gwleidyddiaeth, fel ymhob busnes arall, y mae'n rhaid i'r pen ddibynnu i fesur helaeth ar ei wasanaethyddion. Nid yw Mr. Lloyd George bob amser yn cael gwas- anaeth goreu, neu o'r hyn lleiaf wasanaeth effeithiol, y rhai a elwir i gydweithio ag ef. Dro ar ol tro, fe'i siomirgan hwn ac arall yn ol slang y dydd, fe'i gollyngir i lawr ganddynt Hwy biau'r methiant--ef gaiff y bai. Cymeradwywn y sylw hwn i ystyr- iaeth y bobl sydd mor barod i'w ddifryo. Ond os oes ganddo'i ddifrïwyr y mae ganddo hefyd ei gyfeillion, a'r rhai hynny ymhlith y mwyaf urddasol-un o'r rhai sydd wedi jcymryd ato'n awr yw Tywysog Cymru. Nos Fercher daeth Dafydd Dywysog" (Seisnigaeth a'i geilw'n Edward) at Ddafydd Weinidog i fwyta gydag ef yn Downing Street, ac i gyfarfod eraill o Weinidogion y Goron. Yr oedd y cyfarfyddiad yn un nodedig o ddiddorol pan ystyrir yr amgylch. iadau. Cacwn y Clybiau'n swnian o gwmpas Mr. Lloyd George, dan fwyta'i fel. Parodd ymweliad y Prif Weinidog a'r Brenin ddydd Mercher gynnwrf yng ngwersyll y proffwydi. Gwelent yn y digwyddiad arwyddion sicr fod Etholiad Cyffredinol arall yn dynesu Wel, y mae'n sicr ei bod yn nes nag y bu, ond a ddaw hi yn nechreu'r flwyddyn, pwy all ddweyd ? Fel hyn yr ymresymir Y mae'r wlad mewn cyflwr anesmwyth ac ansefydlog nid yw'r Weinyddiaeth yn gallu trefnu ei mesurau cymdeithasol fel y dymunai; cynhydda anfodlonrwydd ac ychwanegir gofynion ymhob cylch dywedir fod yr Iwerddon ar fin gwrthryfel gwaedlyd a chredir fod arweinwyr Llafur wedi penderfynu gosod eu bwriadau gyda golwg ar genediae-tholdeb y mwnwyr to the test gyda direct action strike fel eu prif offeryn. Yn wyneb y pethau hyn syniad dosbarth Iluosog o wleid- yddion yw yr apelia Mr. Lloyd George at yr etholwyr, i'w gadai-nhau yn ei swydd ac yn ei amcanion. Tybia rhai y gelwir etholiad yrr/Chwefrol; barn a eraill y bydd yn rhaid aros nes y cwblheir y Register newydd, oddeutu mis Mai. Pan drefnir yr ornest fawr cymerir nifer o bethau i ystyriaeth, ond llawr y frwydr" fydd Nationalisation! Fel yna, meddwn, yr ym,. resymir. Hwyrach y gellid gofyn un cwest- iwn i'r ymresymwyr a'r proffwydi, sef yw hwnnw Paham y mae'n rhaid i Mr. Lloyd George alw am etholiad pan y mae ei fwy- afrif yn Nhy'r Cyffredin yn lluosog ac yn sicr ? jfc A I- 'I 'Does dim fel Seiat wyneb I yn wyneb. I Bu'r Blaid Gymreig yn y Senedd, o dan lywyddiaeth Mr. Vaughan Davies, yn cynnal cyfarfod ac yn cynadleddu gyda Dr. Addison ddechreu'r wythnos. Daeth y Dr. fel Gweinidog Swyddfa lechyd, a Syr Robert Morant gydag ef, i wrando barn ein haelod- au ar drefniadau'r Mesur lechyd fel y mae a fynno &'n rhan ni o'r byd. Cafodd ar ddeall nad oeddynt yn cymeradwyo rhai o'i syniadau ef, a'u bod yn fyw i'w beryglon ynglyn a'r penodiadau i swyddi dan y Mesur. Ni fynnant, er enghraifit, weled trosglwyddo swyddogion Dirprwyaeth Ys- vvirio-yr hen Insurance Commission sy'n I darfod dan y mesur newydd-ar wahan i deilyngdod ac effeithiolrwydd. Teimlai Syr I Edgar Jones yn ddyletswydd arno sefyll I i fyny dros y Swyddfa, ond ychydig o wrandawiad a gafodd gan ei gyd-aelodau Y mae lie i ddisgwyl y bydd y trefniadau yng Nghymru ar eu mantais o'r siarad hwn wyneb yn wyneb a'r Minister of Health. Gobeithiwn hefyd i Syr Robert Morant I ddysgu gwers, ond nid.yw ef yn wr hawdd i'w berswadio na'i blygu. Na wyr yr un dewin pwy I a'u penododd. Bu ein cynrychiolwyr yr un pryd yn cyd-siarad gyda chryn eglurder ar gwestiwn Devolution. Nid oedd y mwyafrif ohonynt mewn un modd yn cymeradwyo cynhadledd answyddogol Mr. John Hugh Edwards fel ei gelwir, a bu Mr. Edwards o dan yr anghenrheidrwydd o egluro pa fodd a phaham y buwyd yn cynadleddu ar fater mor bwysig heb gydymgynghori. Con- demniwyd feirf y drafodaeth (ar wahan i'r many lion) gan Syr Robert Thomas, Syr Evan Jones, Major Breese ac eraill a phenderfynwyd gosod golygiadau'r Blaid Gymreig o flaen Pwyllgor y Llefarydd yn uniongyrchol, ac nid trwy gyfrwng y cyn- rychiolwyr Cymreig a nodwyd ar y Pwyllgor hwnnw gan na wyr neb pwy. f Beth a feddyliwch o hyn ? I Y gwirionedd ydyw fod cwestiwn Ym- reolaeth i Gymru yn gwestiwn Hawn o an- hawsterau ac yn gofyn am ystyriaeth fan- ylaf pob gwleidydd Cymreig. Wrth gwrs, y mae sentiment, pob gwladgarwr o'i blaid, ond nid drwy sentiment y bydd byw cenedl. Rhaid wynebu'r cwestiwn o safle ymarferol cyn penderfynu ar ei linellau. Fel mater perthynasol mae'n deg ystyried yr amlin- elliad o Fesur i sefydlu Swyddfa Gymreig, a bartowyd gan Is-Bwyllgor o'r aelodau o dan lywyddiaeth Syr Robert Thomas, ac a gyflwynwyd i gyfarfod y BIaid ddydd Llun. Amcan y Mesur ydyw sefydlu swydd- fa i edrych ar ol buddiannau Cymru yn y Senedd, gydag Ysgrifennydd swyddogol yn gyfrifol i'r Senedd yn cael cyflog o E2,000 y flwyddyn, a staff i'w gynorthwyo. Y syn iad ynglyn a hyn ydyw trosglwyddo i'r Swyddfa yr holl ddyletswyddau sy'n awr yn nwylo'r Home Office, Bwrdd Addysg, Bwrdd Amaethyddiaeth, Swyddfa lechyd, yr Office of Works, a swyddfau eraill sy'n bresennol yn ymwneuthur a materion Cym- reig. Ni wyddom beth a ddaw o'r cynllun a awgrymir. Caiff ein cynrychiolwyr amser i fyfyrio uwch ei ben yn ystod amser y gohiriad, ac i ystyried ei berthynas a'r cwestiwn ehangach sydd mewn golwg.
[No title]
Cafodd mil a saith gant o blant Caernarfon wledd de a danteithion ddydd Llun diweddaf gan y maer newydd-Mr. Owen Jones, Glan Beuno. I
I DAU TU'R AFON.
I DAU TU'R AFON. CYMDEITHAS LENYDDOL MYNYDD SEION.-Nos Sadwrn ddiweddaf, dan lywyddiaeth y P irch. John Felix, caed profiad dau filwr ieuanc arall fu'n y fyddin. Siaradwyd ar Bethau Dymunol ac Annymunol ym mywyd Milwr," gan Mr. Tom Pritchard ,(ieu. ),—un a ymunodd tra'r oedd eto dan oed, yn nechreu'r rhyfel, ac a glwyfwyd yn dost yn ei ben. Siaradodd yn ddifyr iawn ar y ddwy ochr i'w destyn, a chyfyngodd y cwbl i'w broiad personol ei hun. Testyn Mr. D. Idris Jones- sydd ar staff olygyddol y Liverpool Courier-oedd O'r Aifft i Ganan gyda'r Fyddin," a chaed papur coeth a thra diddorol ganddo yn disgrifio'r daith trwy anialwch, brwydrau Gaza, a'i ymweliad a Jerusalem, Mynydd yr Olfwydd, a lleoedd Beiblaidd eraill. Caed sicrwydd ganddo nad yw Canan yn awr beth bynnag, yn llifo 0 laeth a mêll" Noson ddiddorol iawn. I GARSTON.—Nos Ferclier, Rhag. 17, cynhaliwyd Sosial arbennig yn ysgoldy Capel M.C. o drefniant I y bobl ieuanc i ganu'n iach a dymuno'n dda i Mr. D. Basil Evans, mab hynaf ein parchus weinidog, ar ei ymadawiad i ymsdydlu yn Awstralia. Hwylia'r Hong o Glasgow ar yr 28am o'r mis hwn. Caed cyf- arfod difyr tan iywyddiaeth deheuig Scrgt. J. W. Jones. Caed unawdau, pianoforte solos, cystadl- euaeth mewn dweyd stori, ac enghraifft o gampau taflullais a sletgbt of band. Yn ystod y cyfarfod cyflwynwyd Beibl i Mr. Basil Evans ar ran yr Ysgol Sul, ac oriawr aur a silver matchbox gan aeiodau'r eglwys fel arwydd o barch ac edmygedd, a chyda'r dymuniadau goreu am ei lwydd yn y dyfodo!. Gwnaeth y chwiorydd eu rhan yn ardderchog trwy .bartoi arlwy gyfoethog o ddantcithion. Er mai noson lawen oedd mewn un ystyr, anodd peidio a theimlo'n brudd wrth ollwng y cyfaill ieuanc talent- og a gobeithiol hwn mor bell, oblegid edrychem am ei wasanaeth mewn amryw gyfeiriadau, yn neilltuol ynglyn a cherddoriaeth, sy'n llond ei enaid. Mae hefyd yn Gymro twym, ac yn cymryd mawr ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg. Eiddunwniddo bob llwyddiantyn ei gylch newydd. CYNGERDD "PWYS" ig.—Cynhaliwyd hwn yn ysgoidy Parkfield, B'head, nos Iau, Rhag. 13, ar ran Cenhadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd. 'Roedd hi'n noson o bwys ("' pound day, chwedl ein cyfyrdryd Seising), a'r chwiorydd a ganlyn yn hwylio a sha,dymu pawb a phopeth :—Mrs. Moelwyn Hughes, Mrs. Wm. Jones (Elm House), Mrs. Mc Donald, Mrs. Simon Roberts, Mrs. Philip Jones, Mrs. Holland, Mrs. J. O. Roberts, Mrs. Wyn Edwards, Mrs. J. Williams, Mrs. R. J. Jones, Miss Hughes, ac eraill. Yn y prynhawn, am dri, y dechreuodd hyn, ac yn yr hwyr, cafwyd cyngerdd blasus, i'r hwn yr oedd Mr. R. J. Jones yn ysgrifennydd, a Mrs. Gough Williams yn ei gynorthwyo ac yn awgrymu a gwylio cael popeth i fyny a'i safon gerddorol dethol a chyfarwydd hi. Dyna'r datgeiniaid :—! Soprano, Miss Hannah Lloyd Contralto, Miss Dorothy Reid Tenor, Mr. T. R. Pugh, a roes fodd- had diledryw i bawb—bobol! mi ganodd yn dda Baritone, Mr. Pi R. Jones, âï swyn hysbys a nod- weddiadol; Mr. J. R. Salisbury, ysmaliwr lltisiol doniol iawn Crytlvor, Mr. Tom Hxlcy; Cyfcilydd, Miss Edith Darbyshire, L.R.A.M. Mr. Gomer D. Roberts oedd ynygadair; cyfrannoddyn dda, y n ol ti aner a diolchwyd i bawb am cu gwus- anacth campus, a roddwyd yn rhad.
Goreu t V n-I r o: y iI- y…
Goreu t V n-I r o: y iI- y m I- () Oddicortref. WARRINGTON.—Nos Fawrth cyn y ddiweddat, cynhaliwyd ail gyfarfod y'tymor yngiyn a'r Gym- deithas Genedlaethol Gymreig yn ysgoidy Capel y Bedyddwyr Seisnig, dan lywyddiaeth Dr.. W. R. Williams. Cafwyd darlith ddiddorcl dros ben gan y Parch. T. ldwal Jones, Rhos, ar T Tair Telyn. Cyfeiriodd at nifer o rai iu'n snvyno ein gwlad A'ii hathrylith ond tri anvr ei ddarlith oedd Mynyddog, —" y delyn bres ";Talhaiarn-" y delyn arian a Cheiriog—y delyn aur." Dilynodd eu hancs yn ei ddull ffraeth a doniol ei hun, gan ddangos pril nodweddion y naiil a'r Hall, ynghyda neilltuoi- ion. Difynnodd hefyd yn helaeth o'u cynhyrchion, rhai a barhant yn eu bias a'u gwerth am oesau lawer, fel y canodd Clwydfardd am eiddo Ceiriog :— Deil ei waith am genedlaethau,—a'i ddawn I ddiddanu'r oesau A cha'r byd hyfryd fwynhau Soniarus sain ei eiriau. Diolchwyd yn gynnes iddo gan y Parchn. Robert Jones, Hill Cliffe, ac R. Parry Jones. Diolchodd y darlithydd i'r cadeirydd am ei lywyddiaeth fedrus a'i anerchiad rhagorol, mewn Cymraeg mor ddi- frychau a phe wedi ei fagu ar lechweddau Eryri. Y mae gwleddoedd eto i ddilyn, sef Ion. 13, Can- euon Gwerin y Cymry Chwef. 11, Enwau Lleoedd Cymreig, y Parch. D. D. Williams, M.A. Mawrth i, gwasnnaeth Cymraeg yn Eglwys St. Ann. Wedi'cael gair gan Mri. Emanuel Jones, J. Griffith, ac E. Lloyd Jones, terfynwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nbadau.-R.P.). EBENEZER (A.), PRESCOT.Saboth, Rhagfyr 14, Cyfarfodydd yr Ysgol Sul, dan arweiniad yr Arolygwr Robt. Owen. Cym- erodd y rhain ran Adrodd, Isaac Wil- liams a'i fab, Ed. Elwyn Williams, Idris Roberts, Gwyneth Williams, Alf. Blackwell canu pedwarawdau, Mrs. Foulkes, Einwen Ames, Annie Roberts, Gwladys Williams; hefyd pedwar o fechgyn yn swynol dros ben, Hywel Williams, Ogwen Roberts, Alf. Blackwell a; T. E. Whitley deuawdau, Ben Roberts a D. J. Foulkes, Phyllis a Lilian Jones; unawdau, D. J. Foulkes, Ben Roberts, Annie Roberts, Ann Evans, Blodwen Tre- heame, Tryphena Williams a Robt. Owen; darnau gan y plant dan arweiniad D. J. Foulkes. Holwyd y plant gan Sarah Jones; holi ac ateb da fel arfer. Holwyd y rhai mewn oed gan T. Foulkes bu lie difyr a hwyl dda. Anerchwyd gan Harry Will- iams a R. Jones, a chaed detholion ar yr organ gan John Williams a J. W. Whitley. Gweddiwyd gan Edw. Williams, J. Williams, R. Jones, Henry Williams, W. Whitley, a J. Jones. Cyfarfodydd da a bendithiol. -Prescotyn. PRESCOT.-Rhag. 18, cynhaliodd Cymdeithas Ddiwylliadol Ebenezer gyfarfod amrywiaethol. Mr. John Jones, Church Street, yn llywyddu; Mr. John Williams yn arwain; a Mr. J. W. Whitley yn cyfeilio. Yn canu, Miss Annie Evans, Mri. Ben Roberts a D. J. Foulkes: yn adrodd, Miss Sarah Jones, Alf. Blackwell •, Tryphena Williams a Hywel Williams yn oreu mewn dwy gystadleuaeth boeth Miss Gwladys Williams yn rhagori am gyfieithu; Mr. Edward Jones yn cael y wobr am araith fyrfyfyr ar r Nadolig. Diweddwyd cyfar- fod hwyliog iawn trwy ganu HenWlad jy Nhadau, Ben Roberts yn canu'r unawd.-E.W. CREWE.—Yn yr Eglwys Annibynnol, nos Iau, Rhag. I, cynhaliwyd y trydydd o gyfarfodydd y gaeaf-un o rai goreu'r tymor, a phawb yn dymuno am ei gyffelyb yn fuan. Llywyddid gan Mr. Griffith (Dolgellau), a chymerwyd rhan gan y rhain :— Yn adrodd, Mr. T. Richard Jones (Bodorgan) ? Master P. Davies, R. Lloyd a Jos. Lewis cystadl euaethau, Llythyr serch a Dau bennill i Crewe, T. R Jones (Bodorgan); pedwarawd, y don Wbitforb Trevor Owen a'i harti; Can, Mrs. Jones dcuawd, Hen Aelwyd Cymru, Miss G. Jones a M. J. Jones detholiad ar y phonograff, Mr. Williams; can, Miss Jones (Bangor); Rhangan, Sleighing Glee, T. H. Owen a'i barti; deuawd, 0 no, John, Miss F. Jones a Mr. J. Jones; can, Miss Williams; cAn, Miss F. Jones. Gwasanaethwyd wrth yr offeryn I gan Miss Pierce-chwaer a 'haeddai ganmoliaeth am ei ffyddlondeb a'i pharodrwydd gwastadol. Dibennwyd 3 Hen Wladfy Nhadau, Madame Molly j Williams yn arwain.—R.L ASHT ON-IN-MA KERF I ELD.—Rhag. 15, dan arweiniad y Parch. Enoch Rogers, perfformiwyd drama dan nawdd Cymdeithas Poblleuanc Carmcl- y ddraina gyntaf gafwyd dan nawdd y Gymdeithas. Cynulliad da, a thystiolaeth pawb oedd fod ein cyf- eillion ieuainc yn bur fedrus gyda'r gwaith. Dyma'r actwyr:—Mr. Joseph Evans, Mrs. R. Williams, Miss M. E. Thomas a Miss A. Hughes. Cafwyd un- awdau gan. Miss M. Evans, Miss G. Davies, Mr. W. Robert?, Mr. Tudor Jones a Llew Arfon. Adroddiad gan Mr. Willie Griffiths. Cyfeiiiwyd gan Mr. Arthur Jones. Llawenydd gan bawb wcled Arthur eto'n ol wedi amser maith gyda'r milwyr ac yn ail gydio yn ei waith fel organydd yr egiwy-s, y Gymdeithas a'r Band of Hope. Diolchwyd bawb am eu gwasanaeth gan y Parch. E. Rogers. Chwith gennym mai dyma'r cyfarfod oiaf y cawn ef yn ein plith, gan ei fod yn ein gadael ddiwedd y flwyddyn. Cyn trei adre- cydganwyd Hen Wladfy Nhadau.—H. J. -:0:-
[No title]
Y mae'r Parch. J. Christmas Jones, Dre- newydd, wedi ei benodi'n fugail eglwys M.C. Saesneg Aberrhiw, sir Drefaldwyn. Byddai'n Gaplan yn y Fyddin cyn mynd at orchwyl arall i'r Drenewydd. Bu Mr. John Williams, Riverslea, Fflint, farw'n frawychus o sydyn yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn flaenor gyda'r Methodistiaid yn amhvg dros Ddirwest; yn ddevms w a devgain oed yn gyfrifydd Corfforaeth y dre ?a?gedy weddw a mab ,gedv -weddxv a rtiab a merch. ? „
Advertising
Camuh owes her greatness to tillers of the soil. Prosperity follows the plough. Put În your claim for 160 fertile aores. Canada gives her land freely to every son under the UDion Flag. For free maps, pamphlets and the Canadian Govern- ment Emigration Agent, Mr. F. W. Kerr, 48, Street, Liv3rpool, or to the Supenntendent of Ei-tiigratioii, 11-13, Charing Cross, London,  ?icense B;.)o iny Agen t.  ..?' ? -M! .? ? j? J 0, t h FINGER SIZE CARD j I B r n y t e POST FREE PtU) 0ttCe. Best is good enough B right! Ball's I Lucky Wedding Rings s Ball's Engagement Rings j (OVER 500 TO CHOOSE FROM) are famed for Honest Value and Lasting Quality  WATCHES  large and ?r?d stock ?? A iLAROtf 'WA*ttHES of the finest  ? .?.??? TO SUIT JeweItery SELECTION OF ALL POCKETS     ? SOLID SILVER and ELECTROPLATE THE SIGN A 4. Balls Luc)(?(}?? Np6t  LONDON ROAD, LIVERPOOL. A M 33 LONDON ROAD, LIVERPOOL. LUCK n: L,_ Tne. LIVf. R POOL f; W P-" t R'.$ OLD pOr rH'7iC£ PLACI I ARt' .oh,-t.ft_Oi I"t. nf: f 1 :)!J; Hifi) -1.bUi'i;}, Ií ITHJt;.) TELEPHONE 3075 ROYAL. Rfiistr Testynau Eisteifdfad Genedlaethol BARRI, 1^20. YN AWR YN:BAROD. I'w cael gan yLlyfrwerthwyr Pris Ge. Trwy y post, BLAEN DAL. neu oddiwrth HUGH EVANS & SONS, Swyddfa'r 'Brython,' 358 Star-ley Road, Liverpool EVERY WOMAN Should send 2 stamps for our tl2 page IUustr&ted Bock containing valuable information how all Irregularities and Suppressions rony be entirely avoided cr removed by simple means. Recommended by eminent Physicians 8-' the or-Iv Sale, Sure &ud Gei-uine Remedy. Sever fails. Thousands?ol Testimonial?. Established 1862. Mr. PAUL BLANCHARD, Behilllllt Mouse, n.¡,:t! t «ne, l.(hND0f 'M YN BAROD YN FUAN. COFIANT Y DIWEDDAR D. EMLYN EVANS, GAN ei FRAWD Y Parch. E. KERI EVANS, M A, ac yn cynnwys ysgiifavi gan Dr. Protheroe, Mr. Owen Jones, Mus.Bac., a Mr. Tom Price. Rheolir y nifer argreffir gan nifer y Tanysgrifwyr. Pris, 4/6, mewn Llian hardd. Trwy'r Post, 4/10. Telir cludiad hanner dwsin ac uchod. Anfoned pawb sydd eisio copi o'r Cofiant diddorol hwn, a phawb sydd yn casglu enwau yn ddioed at y Parch. E. KERI EVANS, M.A., Priordy, Caerfyrddin. CUNARD LINE. J? A?f .JK? o SOUTHAMPTON & CHERBOURG to NEW YORK. IMPERATQR Sat. Jan. 10 SOUTHAMPTON to NEW YORK. *ROYALGEORGE Thurs. Dec. 30 *Via Halifax LIVERPOOL to NEW YORK. ANGLO-CHILEAN [freight only] Sot. Dec. 20 ♦CARMANIA *via Halifax Wed., Jan. 7 LIVERPOOL, LONDON. BRIST, L, ROTTERDAM arid ANTWERP to NEW YORK, BOSTON. PHILADELPHIA, and BALTIMORE. CUNARD LINE to CANADA. LONDON to PORTLAND ME. WILLASTON (freight only) Wed., Jan. 7 BRISTOL to PORTLAND ME. For Rates of passage and further particulars apply Cunard Line, Liverpool 51 Bishops- gate, London, E.C. 2; 29-31 Cockspur St,, London, S.W. 1 98 Mosley St., Manchester; 24 Charles St., Bradford; 65 Baldwin Street, Bristol 18a High St., Cardiff; 117 New St. Birmingham; Maritime Chambers, Southamp- ton 1 Millbay Rd., Plymouth, or to Local Agents. "e, .r C.P.O.S. to Canada UNITED STATES and the ORIENT. LIVERPOOL TO ST. JOBN N.B. SCANDINAVIAN TGAMA Dee. 27 SCANDINAVIAN ?- RJANCH j?. 3 EMPRESS OF f RAJVCE Jan. 3 GLASGOW TO ST. JOHN N,B. PRETOBIAN SICILIAN Jan. 17 LONDON TO ST. JOHN N B. tGRAMPIAN Jan. 6 ItGRAKPlAN Feb. 12 BRISTOL TO ST. JOHN N.B. ANTWERP TO ST. JOHN N.B. TUNISIAN Dec 11 8COTIAN Dec.13 SOUTHAMPTON TO ST. JOHN N.B TUNISIAN Dee, 13 f OOTIAN Dec. 20 t viii HAVRE. QTJTCKTiST TIME ACROSS THE PAOIFTO. VANCOUVER TO JAPAN, lOd^ys,^ CHINA, 14 day* For PaSssige or Freight apply to LIVERPOOL-Pier Head (Tel. 8690 Bank) LONDON-14 Cockspur St.. S.W. 1 [Tel. 8332.Geffard], 103 Leadenhall St. E,0. 8 [Tel. 4707 Avenue], BRISTOL—18 St.Augustine's Parade, [TpI. 1838- GLASGOW— 25 Bothwell St., (Telfi8«n Ceu^raU DUNDEE-88 Commercial St.,[Tel.38 Dundee) LONDON DERIR.Y-50 Foyle St,or LOCAL AGENTS. CANADIAN PACIFIC OCRAN SERVICES, LTD
TREM III.
lawni'r wyrth foesol arno. Dyma Wyl yr Ymgnawoliad yn ymyl unwaith eto. Go* leuir y Nef gan wisgoeddlgwynion yr angylion, a llenwir yr awyr a'u can. Ond gadawant ar eu hoi genadwri sydd i dreiddio holl fywyd y ddynoliaeth, bob amser, ymhob man, ymhob amgylchiadau. Pe'i der- bynnid hi gan yr holl fyd, fe'i toddid mewn cariad, fe'i cynghaneddid mewn tangnefedd. Y genadwri honno yw'r egwyddor a ganfu Paul yn ymweithio tu cefn a thrwy Ymgnawd- oliad Crist Iesu.—" Bydded YNOCH Y MEDDWL YMA." [Ynglyn a'r englyn yn y Drych diweddaf —" Byw, yn wir, ar ben y wal," &c., dylasai fod enw'i awdur, sef y diweddar Drebor Mai.]