Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
[No title]
LLTTND.AIN.-Rhag. 10 a'r 11, cynhaliodd Undeb Ysgolion Sabothol y M.C. eu Heisteddfod flynyddol, oedd ar raddfa eang, a throdd allan yn llwyddiant mawr. Y Cad- eirydd, J. D. James, Ysw. Yr Arweinydd, D. R. Hughes, Ysw. Beirniad y Canu, yr Athro T. J. Morgan, L.R.A.M., F. T.S.C. (Pencerdd Cynon), Cwmbach, Aberdar. Ad- rodd, Dr. Maurice Jones, D.D., ficar Henley on Thames. Lien, y Parch. J. E. Davies, M.A. (Rhuddivaivr), gweinidog Jewin gynt Cyfeilyddion, Miss J. Lucretia Jones (Jewin), Madame Myfanwy Griffiths, L.R.A.M. (Shir- land Rd.), a Mr. Haydn Matthews (o'r Coleg Cerddorol Brenhinol). Cystadleuwyr yn llu mawr, amryw'n efrydwyr yn y Royal Acadamy of Music a'r Royal College of Music, a'r safon yn uchel. Y Cor buddugol yn y brif gystadleuaeth oedd Shirland Road, dan arweiniad Madame M. Griffiths. Y mae llawer o glod am lwydd yr Eisteddfod i'r ysgrifehyddion, Mri. Rhys Arthur a Ben Jones.-D.E.
[No title]
YR HEDIAD £lO,OOO.-Wedi rhoi pob clod (fyladwy i'r peilot a'r crefftyddion ynglyn a'r hediad diangol hwn, dylid dweyd gair hefyd am y ger glanio a barodd fod y fath beth yn ddichonadwy, a hithau'n golygu sefyll ac aros draw ac yma rhwng Llundain ac Awstralia. Yr oedd y Vickers-Vimv wedi ei ffitio a phedwar 900 m /m x 200 m 1m o olwynion glanio Palmer, sef yw hynny yn iaith dyn yr heol 'roedd y pedair olwyn wedi eu pedoli a Palmer Cord Tyres dair troedfedd o uchter ac wyth modfedd draws adran. Glaniwyd ym mhobman ar hyd yr hediad hir heb gymaint ag un anghaffael, a hynny i'r eiliad o ran amser a phopeth. Y mae o Hounslow i Melbourne yn llinell hir ar y map, ac edrychwn ymlaen am weld cylchu'r byd cyn bod yn hir ar beiriant Prvdeinig ac ymhob glanio a fo'n angen- rheidiol, y mae gennym bob hyder y chwery Olwynion a Tyres Palmer ran yr un mor lwyddiannus.
[No title]
Y mae Mr. Evan Abbott, Caernarfon, wedi ei ddewis yn ysgrifennydd cyffredinol Undeb Argraffwyr Gogledd Cymru a Siroedd y Goror. Yn swyddfa'r Herald Gymraeg y byddai.
Advertising
4thrrifo Abervstwvt^ (TTN O'B COLEGATI TM MHEIFYSOOL CTMRP), Prifathraw- JOHN HUMPHREYS DAVIES,M.A. [Oxen] DECHREUA'R Tymor ne?af ym mis nvdref Paratoir afry?wyr ar gyfp' Arholiadau Prifysgisl Oymm Cyuygir amryw 0 ysgoloriaetb.au famryw 0 honynt yn gyfyngedigi Gymry) v,flwyddyn hoB. Cymer yr arholiad le yn Aberystwyth str y, I Sftic 0 As Medi. 1919. Am fanylion pellafh, ymofyner 6 Cefrtttrydd f Christmas Shopping I AT EDWARD WILLIAMS. HERE is where yoMW!!s??do?e OUiFjiRllP j of the prettiest selections jij-*u ii-iiii of Useful Christmas Presents in Liverpool. NOW can be seen a large ?"? a??s?rtmentofthe newest •■■■nj0iniirnin Goods in BLOUSES, GLOVES, HOSIERY, LADIES' UNDERCLOTHING, CHILDRENS' FROCKS & PINAFORES, & FANCY LINENS. Blankets and Down Quilts are accept- able Xmas Gifts of which we have a large selection. =========== TO DAY you should commence ehoos!n? your presents, for stock of the popular articles soon become exhausted. THE ftPCT selection is secured by liilj OIJJ31 ea?By shopping at CHRISTMAS & NEW YEAR HOLIDAYS, 1919-1920. This Establishment will be closed from WEDNESDAY NIGHT, DE< EMBER 24th, until MONDAY MOrrNlillGQ DEC. 29th. Also on THURSDAY, JANUARY 1 vt, 1920. EDWARD WILLIAMS, PARIS HOUSE, 195, 197, 1 9 London Road, LIVERPOOL Phone, 1822 Royal. Cloae 1 o'clock Wednesdays. Tne. J e w OLD ûFfCE PLACI ARST .r.lé' n U'\ .I" <<t,1 UffJ ibUHÇÄ,}i ,'h v¡;,q TELEPHONE 3075 ROYAL. 1i'II!iíl1l' I illU UMi HHilMi ||, HHIIIB-1 RhiStf I*SlV. au r II f) t ,{r JJf Ii G' ¡of .h Eiste ofou Genpdiae.ho! BiHRi, 0. YN AWR YN BAROD. I'w cael gan y Llyfrwerthwyr Pris 9c. Trwy y post, 1 /-» BLAEN DAL. neu oddiwrth HUGH EVANS & SONS, Swyddfa'r 'Brythen,s' 358 Star ley Roed, l ivcrpoos. T& ?nr'W?C'?M ??T??N t f PATERSON a THOMAS, ESTATE AttF/ TH, PRISWYR A KWRRTHWYR EIOMO, 16 COOK feTRKKT, LIVERPOOL. YSTADAU TIROL; PRBSWYLFAU MBWX TRBF A GWLAD, ETDDO MEWN TAI A RTOPAII, A BUDDIANNATJ DYCHWELIAOOL. PRYNNIR NEU GWBRTHIR YR UCHOD DRWY GYTU.1; DEB C'VYEINA(IHOL. GOROHWYLTR YSTADAU A PHCB MATH AR ED DO. A CHESGLIRYR ARDRETHOROD. TREPNIR MORTGAGES GWERTHIR REAL ESTATESAR OOSIWN YN LERPWL A GOGL VDD CYMRU. Oblegid lluosowgrrwydd anferth ein cwsineriaid ymy-g pobl ariannnj?, y mae Pa'er'80!i a Thomas yn abl i ymrtrafod 1\'1' eiddo mwyaf neu lleiaf Os ess gennych eidd" i'w werthu yn Lerpwl neu Ogledd Cymru. anfonweh y rnanylioti inni; neu n« ydych yn ymehwil rhyw eiddo, anfonwch pa beth a ddymunech ei ga 1. PATFRSON a THOMA. ESTATE AGENTS. 16 COOK ST., TJYBRPOOL. O U JM A- i i M E. SOUTHAMPTON & CHERBOURG to rysw YORK. JMPERATOR Sat Jan. 16 SOUTMftMPTON to NEW YORK *RO YAL GEORGE Thurs. Dec. 30 *Via Halifax LIVERPOOL to KRW YORK. ANGLO-CHILEAN [freight only] Sat. Dfec.20 *CARMANIA *via Halifax Wed., Jan. 7 LIVERPOOL, LONDON BRIST L. ROTTERDAM ants AFsJTWERP to NEW YORK, BOinCJN. PHILADELPHIA, and BALTIMORE. CUARO LINE to CANADA LONOOW to PORTLAND ME. WTLLASTON (freight only) Wed., Jan, 7 RSSTOL to PORTLAND M £ For Rates of passage and further particulars apply Cunard Line, Liverpool 51 Bishops- gate, London, E.C. 2; 29-31 Cockspur St., London, S.W. 1 98 Mosley St., Manchester; 24 Charles St., Bradford; 65 Baldwin Street, Bristol 18a High St., Cardiff; 117 New St., Birmingham: Maritime Chambers, Southamp- ton 1 Millbay Rd., Plymouth, or to Local Agents. C.P .O.S. to Canada UNITED STATES and the ORIENT LIVERPOOL TO ST. JOHN N.B. SCANDINAVIAN Dec. 17 METAGAMA Dec. 27 EMPRESS OF FRANCE Jn. 3 GLASGOW TO ST. JOHN N.B. PRETORIAN De- SO I SICILIAN.. Jan. 17 LONDON TO ST, JOHN R.B. fGRAMPIAN Jan. 6 IfGRAMPlAN Feh. 12: BRISTOL TO ST. JOHN N.B. a = ANTWERP TO ST. JOHN N.B. d- TUNISIAN Dee] I I SCOTIAN Dec. 18 1 SOUTHAMPTON TO ST. J'IHN N.B TUNISIAN Dee 13 I ^OOTIAN Dec,20:i t-vja HAVRE. QUI0KE.ST TIME AOBOSS THE PACIFIC. VANCOUVER TO TAPAN. 10 n.»rs,t,, CHINA, 14 tiay»' For P118:1ge or Freight apnly to LIVFIP.POOL-Pier Head (Tel. 8690 Bank) 1 OND ON -14 C-ock,pur St.. S.W. 1 [Tel. S332.Gerrard], 103 Leadenhall St. B.C. 3 fTcl. 4707 Avenue], BRISTOL—18 St. Augustine's Parade, [T '118361, GLASGOW- 25 Botiwll St., (Te!60' l Centrai] DUNDEE-88 Commercial St., [Tel. Dundee] LONDODERRY-50 FoyleSt, or LOCAL AGENTS. CANADIAN PACIFIC OCKAN SERVICES, LTD i
Advertising
-.tau ddydd er gerwined yr hin, a llwyddwyd i gael £ 408, Amhosibl fuasai cwblhau'r gwaifch a'r fath lwyddiant heb gydweith- radiad unol a chalonnog aelodau'r eglwys. Nid oedd ball ar haelioni a ffyddlondeb pob teulu perthynol i'r eglwys. Teimlir fod y llwyddiant eithriadol yn ddyledus i ffydd- londeb a thact arweinwyr y mudiad a llywyddiou y gwahanol stalls. Amhosibl fyddai i ni nodi'r ewbl. Goddefer i ni enwi Mrs. Adams (llywydd y mudiad), Mr. Alun Denman (yr ysg. cyffredinol), Mrs. Simon (llywydd y Plain Sewing Stall), Mr. W. Jones (Uywydd y Men's Stall), Mrs. Adams (llywydd v. Fancy Wark Stall), Miss Sallie Danman (a ofalai am y 1 Fruit and Flower Stall), ac yn olaf a phennaf o lawer Mrs. Charles Owens (trefnydd y Refreshment Stall). Bu Mr. Davies, Huskisson St., yn ffvddlon i ofalu am yr adran gerddorol ac adloniadol ynglyn a'r cvngherddau ac i hysbysabu'r Sale of Work. Nos Lun cafwyd oyfarfod i werthu'r ychydig nwyddau oedd yn waddill ac i gydyfed to a dioloh i'n gilydd. Pan ymddangosodd Mr. R. Simon, trysorydd y mudiad, ar y llwyfan i hysbysu'r manylion am lafur a chynnyrch ariannol pob stall yr oedd y llawenyddVn fawr, a'r ouro dwylo'n fyddarol. Pa ryfedd, gan fod y awm gy- miint uwchlaw disgwyliadau y mwyaf go- It 3ithiol yn ein plith ?—CyfaiQ, CYFARFOD MISOL LERPWL, RHAG. 3.— Oydymdeimlad a rhai prpfedigaethus: y Parch. J. Talog Davies wedi colli ei fam Mr. Thos. Davies (Huyton Quarry),wedi colli ei briod. Mater gohiriedig, sef Cofeb y Milwyr, vn cael ei gyflwyno i'r C.M. gan y Parch. R. R. Hughes, B.A. Wedi siarad maifch. nH-iwvl ein bod yn mabwysiadu awgrym y pwyllgor, sef fo& y Gofeb i w chysylltu a'r Cartref i'r Amddifaid yn y Bontnewydd. Etholwyd yn llywyddion am 1920, y Parch. R. R. Hughes, B.A., a Mr. Wm. Pritchard (Douglas Road). Rhoi llythyr cyfiwyniad i'r Parch. Enoch Rogers i G.M. a'r Parch. D. D. Williams, M.A., a Mr. J. Williams (Wigan i gynrychioli'r C.M. yn ei gyfarfod sefydlu. Darllen llythyr cyfiwyniad Mr. T. O. Ellis o G.M. F flint Mr. Ellis, oblegid cysylltiadau teuluaidd, wedi ymuno £ L'r eglwys yn Catharine St., ond yn dymuno cael pregethu yn Gymraeg a chael ei le yn y C.M. hwn. Adroddiad blynyddol pwyllgor Undeb Ysgolion Sab- othol gan Mr. Lloyd Phillips a Mr. R. T. Williams. Yr ysgolion heb fod mor ffyddlon ag y gellid disgwyl i dderbyn y Cyfarfod Ysgol y llynedd; ni chynhaliwyd ond tri chyfarfod ond mae'r Undeb wedi llwyddo i wneuthur gwaith arhosol. Y C.M. nesaf i'w gynnal Ion. 2. DIGON AC ANGEN YN PARK ROAD. Digon," dyna oedd profiad pob un o'r hanner cant neu ragor o blant Gobeithlu'r eglwys ar ol codi oddiwrth y byrddau a huliwyd mor hael drwy garedigrwydd Mrs. Salmon Evans, nos Ferchar cyn y ddiweddaf. Wedi eu gwala a'u gweddill, caed cyf- arfod amrywiaethol, dan lywyddiaeth Mr. Jos. Roberts. Wedyn aed 'fel hyn:— Unawd ar y piano gan Miss Blodwen Davies caneuon gan Miss Mary Davies, Miss Enid Williams (Tennyson St.), Miss Enid Williams (Wesley St.), Miss Lily Roberts, Florrie Morris, Mri. Cecil Williams, D. E. Jones, r- Tom Jones adroddiadau gan Miss Mair Jones, Phillis Brodie, Katherine Hughes, Hannah Evans, Miss Gwennie Gillespie, a Master Robin Jones. Ychydig amser yn ol rhoddwyd darn i'w adrodd i'r plant i'w ddysgu gogyfer a'r C'yfarfod (Yr Oen du), ymgeisioddtma dwsin, a'r goreu oedd Miss Mair Jones 2, Miss Katie Jones 3, Miss Enid Williams. Araith byrfyfyr ar F Oath; hwyl anarferol, a'r goreuon oedd Mri. D. J. Pierce, Robin Jones a Miss Mair Jones. Gofalwyd am y' canu gan Mr. R. J. Jones, a gwasanaethwyd fel beirniaid gan Mri. Christmas Davies ac E. E. Jones. Diolchwyd i btwb gan Mri, T. C. Jones a Jeremiah Jones. Rhoddwyd orang i bob un o'r plant. Mae clod mawr yn ddyledus i'r ysgrifenyddion medrus—Miss Jennie Roberts a Miss Maggie Roberts Angen." y nos Tau dilynol, i'r Gymdeithas Lenyddol, traddododd Pedrog ddarlith benigamp ar Ddyn a'i Angen. Daeth cynulliad lluosog,, a'r darlithydd yn euhwyliau goreu. Diolch- wyd yn gynnes iddo gan Mr. J. T-1. Jones (Rosebery St.), a Mr. Bowen. (ar ymweliad o Goleg Caerdydd). Cyfarfod gwir addysg- iadol a bendithiol, a Mr. Salmon Evans yn gadeirydd doeth a dilol.—Llygad y dydd. WATERLOO.—Cynhaliwyd cyfarfod arbpnnig nos Sadwrn cyn y ddiweddaf i groesawu asloclau'r eg] wys fu Yn y fyddin. O'rnifer a ymunodd-41,-daeth 25 i fwynhau'r dant- eithion. Bu'r boneddigesau yn ddiwyd yn addurno'r ystafelloedd ac yn dilyn y wledd, caed cyfarfod cyhoeddus o dan lywyddiaeth Mr. D. Parry. Daeth llu o aelodau'r eglwys i estyn deheulaw i'r dewrion. Gwnaeth y cadeirydd sylwadau pwrpasol wrth fwrw trem dros gysylltiad y milwyr A'r eglwys, ac wedi cyfeirio'n dyner at bedwar a gollwyd, galwodd ar y Parch. Wm. Henry, Port Talbot (cyn-weinidog yr eglwys), i annerch. Cafwyd araith gref ac addysgiadol ganddo. Ni fuasai y cyf- arfod yn gyflawn heb sain cAn, a sicrhawyd gwasanaeth Mrs. Herbert Jones, a ganodd Goblin, Ffarwel i Langyfelach lan, ac Ym Mhontypridd mae 'nghariad, yn ei dull digymar Mr. Griff. Jones a ganodd The Great North Sea a Shipmate o' Mine; Miss Ethel Taylor a Mr. Geo. W. Taylor, y ddea- awd The Spider and the Fly; Mr. Geo. W. Mr. Geo. W. Taylor, The Sergeant Major. Hefyd ad- roddodd Mr. Tom Parry Y Recruit a Stesion Lime Street mewn llawn hwyl. Galwyd y nul, yr i'r llwyfan, a chyflwynwyd anrheg iddynt ar ran yr eglwys gan Mr. Jonathan Jones. Caed hanes eu helynt gan Mri. D. S. Roberts, Alf. T. Howells, a D. Henry a geiriau o ddiolch i'r eglwys am ei hymdrech ar ran y milwyr gan Mri. E. Llwyd Parry, J. Eaton Lloyd, Morris J. Parry a C. Will- iams. Llongyfarchwn y pwyllgor am drefnu noson a erys yng nghof pawb oedd yno. Wedi diolch i'r llywydd ac eraill, ymwahan- wydyn sWn Hen Wladfy Nhadau. CYMDEITHAS LENYDDOL PRINCES ROAD.-Mae'r pwyllgor wedi trefnu cyfarfpdydd yn y rhai y rhoddir sylw arbennig i byncian cymdeithasol, ac wedi sicrhau dynion sy a rhan flaenllaw ym myd llafur i draddodi anerchiadau; at yna, ymhen pythefnos wedi r anerchiad gan yr ymwelydd, ceir trafodaeth ymhlith aelodau'r gymdeithas ar bwynt- lau ranerchlad. Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf caed y cyntaf o'r cyfarfodydd hyn, a thraddododd Mr. Eaves anerchiad diddorol: iawn mewn dull a I brofai ei fod yn wr sylwgar a chraff. Er nad oedd y cynhulliad yn un mawr yr oedd yn gyfryw ag a • roddai galendid i barhau gyda'r cyfarfodydd neill- tuol hyn. Llywyddai Mr. O. W. Owen, M.A., a diolchwyd i'r ymwelydd gan Mr. J. Freeman Will- iams a Mr. John Williams, B.A,-E.,I.W. YSGOL SUL CHATHAM STREET.—Cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol Rhagfyr 2, o dan lywyddiaeth ddeheuig a diymhongor Dr. Herbert Williams. Buddugwyr yn adran gystadleuol y cyfarfod :— Arholiad Ysgrythyrol, I, Masters Ivie Griffiths; 2, T. Lloyd Jones 3, David Roberts; 4, Miss Gwyneth Thomas 5, Master Ivor Jones. Adrodd- iad (dan 13), 1, Miss Ethel Roberts; 2, Miss G. Thomas; 3, Master Tommy Jones. Unawd (dan 16), i, Miss Ethel Roberts; 2, Miss Nina Hughes; Llythyr Disgrifiadol, cydradd 1, Mr. J. S. Pritchard a Ceiliog y Gwynt." Codi ton a yr olwg gyntaf, cydradd 1, Masters D. Roberts ac Ivie Griffiths. Arholiad yr Iaith Gymraeg (dan 16), i. Masters 1. Griffiths 2, D. E. Roberts; 3, T. Lloyd Jones. Eto (dan 13.), 1, Miss B. Thomas; 2, Miss M. Row- lands. Adrodd (dan 16), 1, Miss, Menai Jones; 2, Miss G. Thomas; 3, Miss E. Roberts. Canu (dan 13), I, Miss Ethel Roberts; 2, Master Osborne Hughes. Arholiad Llafaredig Cymraeg, 1, Miss Dilys Thomas. Adrodd tair stori fer, I, Mr. G. Pritchard. Pedwarawd, codi ton ar yr olwg gyntaf, i, parti Mr, R. H. Williams. Cafwyd gwasanaeth unawdwyr adnabyddus, sef Miss Rowlands, Dol- gellau, a Mr. Simon, Abermaw, a chawsant gymer- adwyaeth ddigamsyniol y gynulleidfa. Cafwyd hefyd wasanaeth dan foneddwr adnabyddus i' Gym- ry'r Glannau yn feirniaid ychwanegol at gyfeillion Ileol, sef Mr. J. W. Jones, David St., i feirniadu'r canu, a Mr. J. R. Morris, Princes Road, yr adrodd a'r Arholi, a rheiant fodlonrwydd i bawb. Diolchwyd i bawb, a'r chwiorydd a ddarparodd de mor ardderchog, gan Mr. J. J. Bebb a'r Parch. R. R. Hughes. Wele englya Mr. J. R. Morris i'r IIywydd :— Cael Ilyw da, ac un call ei d6n,—nid yw hgwdd Mewn dyddiau mor groesion Ond dyma un sy'n union—wrth ein bodd— Ei rym a gadwodd trwy'r Armagedon. KENSINGTON.-Y 3ydd cyf., cafwyd cyfarfod cystadleuol tan gamp o dan nawdd Cymdeithas Ymdrechol y Bobl leuainc. Cynulliad da, a'r cystadleuwyr yn llu. Llywydd, y Parch. J. O. Willi,-AmsM.A,(Pedrog),ac yn ei hwyliau arferol. Clor- iannwyd y cantorion gan Mr, J. R. Jones, Park Road, a gwnaeth ei waith gyda chanmoliaeth uchel. Buddugwyr:—Darllen darn heb atalnodi, Miss Maggie Roberts; Unawd i ferched, Mrs. Wm. Hughes Adroddiad., Miss Sally Roberts Araith ddifyfyr, Miss Lillian Jones Deuawd, cydradd, Mri. Rd. Griffiths a Wm. Hughes Adrodd stori, cydradd, Mri. Jack Roberts a Wm. Hughes Ped- warawd, Newsham Glee Party. Cynhygiodd Pedrog ddiolchgarwch gwresocaf y cyfarfod i Mr. J. R. Jones, gan grybwyll ei waith rhagorol ynglyn a chanu yn y dref yma am flynyddoedd, yn arbennig gyda canu cynulleidfaoi. Cefnogwyd gan Mr. W. R. Job. Terfynwyd trwy ganu un o emynau Ann Griffiths, sef 0 Arglwydd Dduw Rhagluniaeth." —Un oedd ylto. MERCHED DIRWESTOL DAVID STREET.—Traddod- wyd anerchiad gan Mrs. John Williams, Mhidwyn," Wallfisey, yn ysgoldy M.C. David Street, nos Wener ar Dyletswyddau merched yn wyneb y cyfleusterau sy'n awr yn eu meddiant. Dechreuwyd gan y Parch. D. D. Williams, M.A., a chanwyd yn swynol gan Miss Besfeie Jones. Siaradodd amryw o'r chwiorydd, gan ddiolch i Mrs.Williams am ei sylw- adau pwrpasol ac amserol, YMWELIAD Miss ROSINA DAVIES.—Yng Nghapel Kensington, nos Fawrth, cynhelid cyfarfod neill- tuol perthynol i Gangen Lerpwl o Gymdeithas Ddirwestol y Merched. Cymerwyd y gadair gan Mrs. Adams, llywydd y Gangen. Dechreuwyd gan weinidog yr eglwys. Cafwyd anerchiad godidog gan Miss Rosina Davies, sy bellach yn y swydd o Ysgrifennydd Cymdeithas Ddirwestol y Merched yn y De. Dangosodd graffter mawr i weld i sefyllfa bresennol yr Achoe Dirwestol, ac ni raid dywedyd am ei dawn a'i medr anghyflredin i lefaru—i'r deall yn gystal ag i'r galon. Fe gofir ei hanerchiad gan bawb a'i clybu. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan Myfanwy Meirion, Miss Pugh, Mrs. T. Phillips, Mrs. Bismarc Davies, a'r Parch. O. L. Roberts. CÔR Y CYMRTC.—Rhag. 9, ymwelodd Cor Meibion y Cymric il thloty Walton, ac o dan arweiniad Mr. R. Vaughan Jones (yr is- arweinydd), rhoddwyd cyngerdd rhagorol i'r preswylwyr adfydus. Heblaw'r c6r, dat- ganwyd hefyd yn dra effeithiol gan Miss Cissie Ablett (soprano), Miss Bertha Lester (contralto), Mr. John James (tenor), Mr. Edgar Barri (baritone), Mr. Tom Taylor (hiwmorydd). Cyfeiliwyd yn fedrus gan Miss Nellie Lewis, A.R.C.M. Mawr werth- fawrogir gwasanaeth caredig cyfeillion nad ydynt yn aelodau o'r c6r ar achlysuron fel hyn, ac yn sicr ni ddibrisir gwasanaeth gwerthfawr aelodau fel Mr. John James a Mr. Edgar Barri—datgeinwyr, fel eraill o'r c6r, sydd yn lleiswyr rhagorol, ac yn gerddorion coeth, diwylliedig. Enw cerdd- orol ydyw Mr. Edgar Barri ar Gymro diled- ryw. EGLWYS M.C. STANLEY ROAD.Cynhal- iodd plant yr eglwys Sale of Work prynhawn ddydd Sadwrn diweddaf dan nawdd pwyllgor cangen y chwiorydd o'r Genhadaeth Dranior, yn cael ei hagor gan Miss Edith Roberts, a Mr. Tom Clay, Yn yr hwyr cafwyd cyngerdd gan y plant o dan arweiniad Miss L. Kyffin Williams a Miss S. Aerona Griffiths. J. W. Jones,' Ysw., Waterloo, yn y gadair; yr ysgoldy'n Ilawn yr holl elw at y Gen- hadaeth Dramor a deellwn ei fod yn syl- weddol iawn. AD-DREFNIAWT oedd testyn anerchiad tra amserol a galluogy Parch. D. Adams, B.A., nos Sadwrn ddiweddaf, yng Nghym- deithas Lenyddol Mynydd Seion, dan lyw- yddiaeth y Parch. J. Felix. I wr amry- ddawn fel Hawen,—a eniHodd y Oobden Prize pan yn y Coleg am ei wybodaeth o Drefnidiaeth Wladol (.Political Economy),- -y mae cwestiwn llosg Ad-drefniad yn meddu swyn, ac yn un hefyd a drinir ganddo a mesur helaeth o awdurdod. Yr oedd yn ddeheig iawn yn trafod Masnach Rydd, perthynas Cyfalaf a Llafur, &c. ,a'i gasgliadau dibetrus ef ynglyn &'r olaf ydyw y rhaid cael cydweit4rediad llawnach ar ran y meistr a'r gweithiwr,—y gweithwyr i gael mwy o lais yn Ilywodraeth masnach,rhannu'r elw'n fwy cyfartal, ac yn bendifaddeu i'r cynnyrch fod yn llawer iawn helaethach a chydwybodol ar ran y gweithwyr. Pan yn trafod Ad-drefniad gwladol a chymdeithasol, sylwodd fod gan wladgarwch ei le a'i der- ,fynau,dylid ei gadw rhag mynd yn wall- gofrwydd moesol, a'i atal rhag gwneuthur y Wladwriaeth yn amcan terfynol. 0 bopeth pwysig yn yr Ad-drefniad, dylai'r eglwys ac egwyddorion Cristionogol gario mwy o ddylanwad ar y person unigol, ar y Gymdeithas, ac ar y Wladwriaeth. Ym- falchiai yng Nghynghrair y Cenhedloedd, a mawr obeithiai y byddai'n llwyddiant trwyadl, er maini yr anhawsterau. Gresyn na chlywid anerchiad fel hwn gan arweinwyr llafur materol, a hyd yn oed gan seneddwyr Ymerodrol eu syniadau a militaraidd eu hysbryd. CYMDEITHAS LLEN A CHERDD CHATHAM ST.Rhag. 9, dadleuwyd A ddylai'r Eg- lwys drefnu chwareon i'r ieuenctyd ? Cad., Mr. Caradog Thomas nac., Mr. A. E. Ellis. Bu'r siarad yn frwd, ac yn y diwedd 'roedd mwyafrif dros y cadarnhaol. Llywyddid gan Mr. T. Lloyd Jones.-R.E.R. Y DIWEDDARCAPTAIN JOHN DAVIES, 251 EDGE LANE.—Rhag. 6, yn y Royal Infirmary, bu farw y gwr annwyl uchod yn 64 mlwydd oed, gan adael priod ae wyth o blant i alaru ar ei ol. Brodor o Fryn Eiiian, Abergele, ydoedd, a daeth ei deulu i Lerpwl wyth mlynedd yn ol. Yr oedd yn gapten yn yr un cwmni am 40 mlynedd— sef gyda Mri. Fisher, Barrow in Furness. Mae'r weddw yn ferch i'r diweddar Capt. R. Jones, Amlwch. Cafodd angladd an- rhydeddus ddydd Iau diweddaf ymMynwent Anfield, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. D. Jones, a chanwyd Bydd myrdd o ryf- eddodau,"—yr emyn olaf a ddywedodd yr ymadawedig cyn marw. Yr oedd yn bres- ennol Mri. J. Davies, W. Davies, Master Bert Davies, Misses Margaret, Mabel, Kate, Edith Davies, Mr. Samuel Davies (Abergele), Capt. Jones, Mri. J. D. Jones, W. B. Jones, Harrop, David Roberts, O. Hughes, Mr. Foulkes. Gorchuddiwyd yr arch gan nifer o wreaths prydferth. Trefniadau'r claddu yn nwylo Mr. R. W. Evans, 155 Kensington. EGLWYS WOODCHURCH ROAD.—Agorwyd y dosbarth gwnio a Social Rhag. 9, a daeth cynhulliad da i fwynhau'r arlwy o ddanteith- ion. Cafwyd cyfarfod amrywiaethol o dan lywyddiaeth y Parch. W. p. Jones. Canwyd Cartref gan Mrs. W. O. Williams deuawd, What are the Wild Waves saying, Miss P. Purnell a Miss C. Hughes adroddiad, Swyddfa'r Glaw, Mr. W. Davies cystadl- euaeth chwibianu Yr Hen Qanfed, Miss Annie Williams yn oreu o 12 2, Major James 3, Mr. T. A. Edwards. Can, I wonder if Love is a dream, Miss Olwen, Wil- liams adroddiad, Trouble in the Amen Corner, Miss Maggie Thomas deuawd, Sympathy, Miss Olwen Williams a Major James can, The Hills of Donegal, Mr. Roberts; adroddiad, Nacw, ac Until, Mr. Humphreys can, Owlad y delyn, T. A. Edwards. Diolchwyd gan M. Hughes (Raffles Rd.), a Mr. Lewis (Westhorne Rd.) Cyfeiliwyd gan Mrs. Major James a Miss Annie Wi.Iliams.-T.A.E. K- • WATERLOQ.—Cynhaliwyd cyfarfod llwydd- iannus o'r Gymdeithas Lenyddol y lOfed, dan lywyddiaeth Mr. W. Parry, y trefniad- au yn nwylo Mrs. Herbert Jones a Miss Gertrude Rowlands, a'r testyn, Hanc.8 Car- olau, yn un swynol. Daeth nifer dda o aelodau'r Gymdeithas ynghyd a threuliwyd- dwyawr adeiladol a buddiol yn swn carolau hen a newydd. Caed papur galluog gan Mrs. Herbert Jones ar hanes carolau, ac enghreifftiau ami mewn cAn ac adrodd. Canwyd Awn ac Addolwn (L. J. Roberts), a chajolau eraill yn berseiniol gan bump o enethod,-Ceri Davies, Myfanwy Roberts, Mena a Neta Roberts, ac Olwen Thomas adroddwyd Luc ii. 8-14, gan Mena Roberts a Exori Infantum (Thompson) gan Olwen Thomas. Canwyd amryw gar- olau gan Mrs. Herbert Jones, Miss Gwen Taylor, a pharti meibion. Diolchwyd gan Mr. J. W. Davies a Mr. J. P. Thomas i I Mrs. Herbert Jones a Miss Rowlands am drefnu noson mor ddymunol. Ymadawyd yn swn Peraidd ganodd ser y bore.