Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

fo Big y "Lleifiad.

News
Cite
Share

fo Big y Lleifiad. LLAWR DYRNU ANFIELD ROAD.-Dyma raglen Undeb Cymdeithasol Anfield," fel y gelwir cyfres y cyfarfodydd i nithio'r gau oddiwrth y gwir ar lawr dyrnu'r eglwys honno: Hyd. 17, Ymgom- west. Hyd. 24, Debate, Should Deacons be elected for life ? Hyd. 31, Address by Rev. O. S. Symond. B.A., The Problem of the Child in our Churches. Tach. 7, Noson yr Aelodau Ieuengaf. Tach. 14, Address by a Member of "The League of Nations Union. Tach. 21, Drama, Owain Gwynedd, yn Crane Hall. Tach. 28, Noson Lawen. Rhag. 5, Ymgomwest. Rhag. 12, Darlith gan Dr. Moelwyn Hughes, Y Dychymyg. Rhag. 19, Darlith, Canewon Gwerin Cymru, Mr. a Mrs. Gwyneddon Davies. Ion. 16, Dramatic Entertainment, The Call, Rev. W. F. Phillips. Ion. 23, Anerchiad gan y Parch. D. D. Williams, M.A. Ion. 30, Address by Miss J. E. McCrindell, The Leisure of the People. Chwef. 6, Lecture by Dr. Smeath Thomas, The growth and decay of Worlds. Chwef. 13, Noson yr Aelodau Ieuengaf. Chwef. 20, Debate, Sbould there be elual pay for equal work between the sexes ? Chwef.27, St. David's Eve Celebration. Mawrth 5, Noson Amrywiaethol. Mawrth 12, Musical Evening. Mawrt 19, Debate, Is the time ripe for mi Universal Church ? Mawrth 26, Soiree. Dyma swyddogion yr Undeb :-Llywydd, Mr. Humphrey Roberts, B.A.; trys., Mrs. H. Griffith; ysg., Miss Edith G. Venmore, Mr. R. Oswald Jones. GWYNN JONES DAN ARDDELIAD.-Darlith odidog oedd darlith yr Athro T. Gwynn Jones, M.A., Prifysgol Aberystwyth, ar Lenyddiaeth a Bywyd, wrth agor ail dymor Cymdeithas Gymraeg Bootle a'r cylch yn Ysgoldy Capel Stanley Road nos Sadwrn ddiweddaf. Wrth lywyddu, talodd Mr. Hugh Evans wrogaeth i- lafur ac athrylith yr Athro yn dringo'n awdurdod mor dra uchl a;r bopeth lien Cymru, ac yn llawenhau fod y Brifysgol wedi gweld ei werth a chydnabod ei allu -Diolchwyd amdani 'ar y diwedd gan y Parchn. W. Davies, M.A., a W. Thomas-y cyntaf o'r ddau yn sylwi ei bod hi'n un o'r darlithoedd llawnaf o feddwl a glywsai erioed, a'i bod hi'n gyfuniad o ddau beth nas ceid ond yn bur anfyriych, yn yr un gwr--praffter meddwl ac angerdd teimlad.—Diolchwyd i'r Cadeirydd gan y darlithydd ac Ap Lleyn. Gofidiai'r llywydd fod y Parch. Albert Jones, B.D., ysg. ariannol y Gymdeithas, yn gado'r cylch am y Deheudir, a datganodd y golled fawr a fyddai honny i'r Gymdeithas am wr a fuasai mor selog a gweithgar gyda phopeth cenedl- aethol a chrefyddol er pan ddeuthai i'r Glannau.- Cydnabu Mr. Jones deimladau'r cyfarfod tuag ato a dywedai y byddai arno hiraeth gwirioneddol am y Gymdeithas a'r rhai oedd ynglyn a hi.—Wedi i Mr. E. M. Evans, ysg. y Gymdeithas, gyhoeddi rhag- len. y tymor, ac annog pawb i lynu wrth eu cariad cyntaf, terfynwyd a Hen Wladfy Nhadau, Mr. Robt. Jones yn arwain.—Fel hen gydnabod a chydweithiwr a'r darlithydd yn swyddfa'r Cymro y dyddiau gynt a fvi, yr oedd yn llawen iawn gennyf feddwl heno am droeon ei yrfa ddisglair ar i fyny o hynny hyd heddyw -1n enwedig am y naws a'r swn argyhoeddiad crefyddol dwfn a digamsyriiol oedd fel gwythen, aur drwy'r ddarlith i gyd. Gwyr pawb cyfarwydd a'i farddoniaeth mor galed yr ymladdodd yr Athro ag amheuon a phesimistiaeth, ac ymddengys oddi- wrth T Gennad-ei gan i Arthur ap Gwynn, ei febyn dvryflwydd oed-mai clywed y mebyn hwnnw'n gwaeddi "Nhad a gododd yr Athro o'r Gors i'r Graig, cans dyma'i gan :— Collais fy ffordd wrth grwyaro Yjnhell o'm cynefin dir; Collai,, fy ffydd wrth fraydro a'r gau sydd yn cuddio'r gwir. 0 waelod anobaith llefais Am oleu ar dynged dyn, A'r unig ateb a gefais Oedd adsain fy lief fy hun. Dywedais yn flin nad ýdoedd Bywyd yn werth ei fvw, Mai damwain oedd bod a bydoedd, Mai breuddwyd dyn ydoedd Duw. Chwerddais rhag gorfod wylo, Melltitliiais y byd a'i frad Teimlais law fach i'm hanwylo, A llais bach yn galw Fy Nhad Gwelais rhyw wawr o'r hyn ydoedd Mor wiryn fy more iach :— Os mud ydyw'r nef a'r bydoedd, Mae Duw ym mhob plentyn bach A dyma un o frawddegau'r ddarlith heno :— Gan yr Iddew y mae Ilenyddia-eth odidoca'r byd; ac y mae'r Testament Newydd a rhannau o'r Hen Dest- ament—yn werth holl glasuron Groeg a Rhufain gyda'i gilydd, er cystled y rheini." T SEIAT DDEUNAW AR OL.—Heblaw bod y cynulliad a ddaeth i wrando Syr Henry Jones, yn Seiat Groeso'rnos o'r blaen, yr un liuosocaf a gafodd y Gymdeithas Genedlaethol erioed, dyma'r Seiat lle'r arhosodd fwyaf ar ol o'r un er dydd sefydlu'r achos bymtheng- mlynedd ar hugain yn ol, canys ymunodd deunaw o aelodau newyddion a r Gym- deithas y noson honno, a hynny heb na pherswad na phwt gan neb ond.gan eiriau byw y gwr mawr a hawddgar a gorddodd y gynulleidfa. Gyda Dr. a Mrs. O. Herbert Williams, Rodney Street, yr arhosai Syr Henry a dyna beth tlws a nodweddtadol ohono a wnaeth yn ystafell gefn y Sun Hall nos Sadwrn y Gymanfa. Un o'r rhai oedd yno yn estyn album iddo, gan daer erfyn arno ysgrifennu ei enw ynddi. Yr oedd yno lu o enwau prifon Lien, AwenflChân Prydain yn y llyfr; ac heb son gair am na'i Syr na'i M.A., D.D., na'i D.Litt., na'i F.B.A.,na'i Gadair Athroniaeth ym Mhrifysgol Glasgow na dim, ysgrifennodd Henry Jones, Y Cwm, Llangernyw," set enw'i hen gartre bach ar ffriddoedd Hiraethog. CYCHWYNNWR DA.-Un da am gychwyn pob mudiad ydyw Mr. David Jones, pennaeth y Gymdeithas Genedlaethol, canys y mae newydd I estyn pum punt ar hugain tuag at y gofadail sydd i'w dodi toe ar fedd Mr. Harry Evans ym mynwent Smithdown Road. Yr oeddwn yn y pwyllgor trefnu yn y Royal Institution,Colquitt Street, noslau ddi- f weddaf, lle y clywais swn cyfraniadau yn dechreu dylifo i fewn. Mr. R. Wynne Jones yw cadeirydd y pwyllgor; Mr. E. H. Edwards, 45 Ivernia Rd., r Walton, yr ysgrifenydd a Mr. H. Humphreys-Jones, F.I.C., 7 Blackburne Place, Hope Street, y trysor- ydd. Dyna chwi'n gwybod pie i anfon, a faint i'w anfon, er fod cymaint croeso, cofiwch, i'r rhodd leiaf ag oedd i'r pum punt ar hugain, canys teg i bawb gael cyfle i dalu rhyw gymaint yn ol i Harry Evans am yr hyfrydwch diwylliedig a roes iddynt lawer tro wrth fynd a hwy a'i g6r drwyGlasuronCefdd y Byd. AGOR DORAU lIEN GARCHARAU.-Dyna wnaeth Mr. E. Stanton Roberts, M.A., Pentre Llyn Cymer, wrth agor tymor newydd Cymdeithas Sir Feirionydd yn y Common Hall, Hackins Hey, nos Wener ddiweddaf, ag anerchiad ar Enwau Lleoedd y Sir. Dangosodd lafur mawr, gwybodaeth helaeth, a gwyleidd-dra a gochelgarwch y gwir ysgolhaig. Cafodd wrandawiad astud ar hyd y ddarlith gorfu iddo adael lliaws o enghreifftiau heb eu crybwyll y tro hwn, a gobeithir cael y gweddill ganddo ymhell- ach ymlaen. Diolchwyd iddo gan Mri. J. H. Jones, W. D. Owen a R. H. Jones yn gynnes iawn, megis y gwnaeth y darlithydd a'r Parch. Evan Robe rts-hefyd i Dr. Moelwyn Hughes am gymryd Ile'r Parch. D. D. Williams, M.A., fel cadeirydd—Mr. Williams draw'n darlithio yng Ngholwyn Bay y noson honno. Profodd y Dr. ei hun yn gadeirydd tan gamp, sef ag anerchiad gloyw ar y dechreu ac a stori neu ddwy i'r dim o addas a chyrhaeddgar eu pwynt, megis hon Hen frawd yn Ffestiniog a'i hogyn yn mynd i'r afon o hyd, i beryglu ei einioes. Wei di;" ebe'i dad, rhaid iti gadw draw o'r d wr yna; ddim diben iti ddangos dy wyneb yma wedi boddi. Y mae'n rhaid iti ddewis un o dri pheth boddi, neu ynteu nofio neu ynteu yfed y dwr i gyd." Ac felly, ebe'r Doctor ireiddfin Dyna'r darlithydd, er iddo fynd i ddwr dwfn-y pwnc, wedi cael y lan heb foddi, heb yfed y dwr i gyd, ond wedi nofio. EISTEDDFODA TN SAESNEG.-Dymunir ar- naf ddweyd gair fel hyn;—Y mae rhywun a llygad yn ei ben a gras yn ei galon wedi torri brigyn o bren Eisteddfod y Cymry i'w blanu yn naear y Saeson; hwnnw'n dod o'r ddaear yn dra addawol, ac i flag- uro'n Eisteddfod Saesneg ddydd Sadwrn nesaf, yn y Byrom Hall, Byrom Street, dan nawdd y Liverpool City Mission. Cystadlu fydd yn y prynhawn; Cymanfa Ganu'r nos; wyth o gorau plant o wahanol ystafelloedd y Genhadaeth i giprys am y darian, a Ilu maWr ar y pethau eraill.Dowch yno i weld plant Alise yn dysgu sut i gadw Eisteddfod a Chymanfa Ganu, ac yn planu brigyn mor ffrwythlon oddiar goeden yr hen Gymry. AM EI GAEL I'R GADAIR.—Yng nghyfarfod chwarter Undeb Annibynwyr Dwyrain. Sir Ddin- bych a Sir Fflint, a gynhelid yn y Rhos ddydd Mercher diweddaf, enwyd y Pareh. O. L. Roberts, y Tabern- acl, fel is-lywyad Undeb Cyffredinol Annibynwyr Cymro| EFENGTLES CAER LTR—Yr oedd Mrs Penn- Lewis, Caer Lyr (Leicester), yn Lerpwl yr wvthnos ddiweddaf, yn siarad mewn cynhadledd a alwesid ynghyd gan ficer Eglwys St. Simon. Yr oedd grym ysbrydol mawr a dibetru s i'w deimlo yn ei chen- adwri. Ar ei haelwyd hi y mae Mr. Evan Roberts yDiwygiwr ers blynyddoedd, sef ar ei liniau'n ddi- baid ei weddi am iechydwriaeth y byd. Bydd The Overcomer, a ballodd yn ystod y rhyfel, yn ail ym- ddangos ddechreu'r flwvddyn. DYMA WEDD WYNEB MR. W. 0. THOMAS, sef y Cymro sy 'napelio am gefnogaeth ei gydwladwyr j yn Anfield gyda golwg ar ei ethol yn aelod o Gyngor y Ddinas. lie y mae nifer mor fach o Gymry rhagor a ddylai fod. Gwelwch yr apêl mewn colofn arall. UN 0 BRIFON EIN DINAS.-Hyderwn nad anghsfia Cymry Ward Granby bleidleisio i MI. J. Harrison Jones, U.H., a gwneuthur eu goreu drosto vn y rEt, oliad, ddydd Sadwrn nesaf, Nid oes neb wedi rhoi mwy o swasanaeth rhad i'r cyhoedd nad ef. Mae yn anrhydedd f ni fei cenedl, a gresyn nad oes i ni gynrychielaeth mwy ar y Cynghor.

I DAU TU'R AFON.

?i Basgedaid o'r I Basgedaid…

[No title]

Bore Heddyw 1

BARA BRITH. I

Advertising