Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

SIACED FRAITH,i

News
Cite
Share

SIACED FRAITH, CYFIAWNION TREFFYNNON. i Dyma un o destynau eystadlu sydd ar Raglen Eisteddfod Cymrodorfa Treffynnon fis Hydref nesaf,— Am y darlun goreu mewn iuc 11") o Dy Abel Hughes, Wil Bryan yn ti-oi'r cloc, Miss Hughes yn cysgu yn y gadair "a Rhys yn gwylio. (Gwel Drama Rhys Lewis)." 1 Ar y fan yma, mae rhyw gorun go wreidd- iol y i Nhre'r Ffynnon. Arogl earia-d croyw l at ein hiaith a'i lien ar y rhaglen d'rwyddi a hwy yw'r dyrnaid cyfiawnion gwlatgar sy'n cadw'r dre honno rhag mynd dan ddfrr y Pab a chyda llif Lloegr. Daliwch .at eich arfaeth er cryfed y eenlli. TWT !—Y mae eglwys Annibynllol Aber- clâr-all o rai lluosoeaf y Deheudir, ebe'r paragraffwr newyddiadurol sy'n cael mel ar ei fysedd wrth neidió, i gyhoeddi'r peth yn y papurau—wedi ponderfynu peidio a gwneud oi ehasgliad arferol at Athrofa Bala-Bangor eleni, a hynny am fod y Penn- aeth-y Prifathro T. Rees, M.A., yn traethu ei argyhoeddiadau heddyehol-pasiffistaidd yw en gair hwy !—draw ac yma drwy'r wlad. Cutting your nose off to spite your face y galwasai'r Sais beth felly; a dial ar Dduw am ymddygiad un o'i weision-a gwas diamheuol Iddo hefyd. A boed Ymladdwr neu ynteu Heddychwr, y gair goreu sy gan berchen tipyn o synnwyr ys- brydol am rhyw gau dwrn cyfrannu fel hwn ydyw Twt UN O'R HEN GYFOEDION.—Y mae'r Parch. A. F. Evans, rheithor Castell Nedd, wedi marw ym Margate, yn bymtheg a deugain oed. Trediodd ran go hir o fore'i oes yng Nghricieth ac yr oedd o a Mr. Lioyd George yn gyfeillion mynwesol iawn, na chlawdd uchel Llan a Chapel yn tywyllu dim ar ffenestri'r ddau. Y mae'r Prif Weinidog yn ethriadol o gofus a pharchus o'i hen gyfoedion, yn enwedig y rhai fyddai'n dringo coed gydag o, am oreu neidio ffos, "sbondio," chwaie mig ymguddiad, a rhoi blewyn ar gledr ei law er mwyn torri cansen y "se W 1. YR HWSMON A'R ESGOB.-Y mae Llundain yn disgwyl ar flaenau'i thraed am yr oedfa fawr sydd i fod ym Mynachlog Westminster ar yr eilfed ar hugain o'r mis nesaf-Dydd Dathlu'r Coroni, pryd y daw dau-a fyddai mor bell oddiwrth ei gilydd adeg eu hymryson crasineb parth Dad- gysylltu a Dadwaddoli'r Eglwys—mor agos y naill at y Hall, canys yn yr oedfa fawr honno y mae'r Prif Weinidog i darllen y llithoedd a'r Esgob Owen, Ty Ddewi. i bregethu. Mr. Lloyd George sy'n dewis yr emynau a hyfrydlais fydd clywed acenion Cymraeg y ddau'n iasu mor gynnes drwy'r fynachlog hen a hardd. Gwyddom bregethwr mor dda yw'r Esgob i ond sut dclarllenwr, tybed, ydyw Mr. Lloyd George ? Naturiol, gobeithio, heb ddim o'r gwrnad gwneud a gosod sy mor gas gan y ghlSt anoffeiriadol. Wrth feddwl am y rhai sy'n poeri eu cas tuagat yr Hwsmon, hyfryd fuasai ei giywed yn darle i yr adnod o feibl yr he,) Gymry, mewn gosief fwyn, faddeugar Ni omedd yr Haul ei des i'r ynfyd a boero'n ei wyneb." HEBREWR O'R HEBREAID.—Y mae Lieut. Reuben Levy, B.A.—brodor o "Fangor a gafodd anrhydedd y dosbarth cyntaf ar ddysgu'r ieithoedd Sernitaidd-yn awr yn gyfieithydd Arabaeg a Phersiaeg dros Bryd- ain yn Rhyfel y Dwyrain. A chan gofio, Cymro o Ruddlan, Evans wth ei enw,. oedd y cyfieithydd gyda byddin y diweddar Gadfridog Roberts yn Rhyfel Affghanistan flynyddoedd yn ol y fo'n hyddysg mewn lliaws mawr o ieithoedd y Dwyrain ac wedi bod yn gyiVyngwr gwerthfawr iawn rhwng y Cadfridog a mynyddwyr dewrion os dichellddrwg y Dwyrain. Y mae yna garreg goffa i Evans ym mynwent Rhuddlan. G WRON Y BERMO.—Nos Fercher yr wythnos ddiwedclaf, bu trigolion yr Aber- maw'n anrhegu Gunner Rowland Rowlands —mab i ringyJl heddgeidwadol—a phyrsaid o aur a A:20 o war bonds am ei wrhydri yn ymgyrch ddewr ddihafa Zeebrugge, lie ei clwyfwyd yn ei ben. Y mae wedi bwrw un mlynedd ar bymtheg yn y Llynges a daeth drwy frwydr fawr Jutland yn ddianaf. MRS. MADYN A'I CHENAWON.— Ddydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf, cafodcl David Roberts, Nant, yn agos i Lanrwst, o hyd i wal llwynog, ac ynddi lwynoges a'i phum cenaw, ac o'u hanigylclx lu o ieir a hwyaid a phob math ar giam ar ganol eu bwyta. 'D oedd Mr. Madyn ddim gartre ac ys gwn i pa beth a ddwedodd o wrtno 'i hun pan ddaeth i'r wal a gweld Dafydd Roberts wedi mynd a'i gywely a'i genawon ? Pam galw llwynog yn fadyn, pwy a ddy- wed ? Ni chlyw madyn ei ddrygsawr ei lrun," ebe un o eiriau'n henafiaid; a "nuil y cadno yn naear y byrhwch" ebe hen air arall. DRUAN O'R CREIGIWR.-Lladdvvyd Rd. Roberts, Cae Glas, Nefyn, yn chwarel gwnig Bodfean, ddydd Mercher yr wythnos ddiweddaf. Dyn trigain oed, a chreigiwr yng ngwasanaeth Cyngor Sir Gaeniarfcn, Y FOW OWYMPO, HIPHA U'N TORRI EI CHAI-O.N.-Fe gyhoeddir rhyw lun o restr o'r Uadd a'r clwyfo a ddigwydd i'a bechgyn ar faes y rhyfel, ond pwy a fedr byth vstadegu'r marw o dor calon a dihoeni sy'n digwydd gaitre ymysg rhieni a pherthyn- sau'n bechgyn druain. Mor wir y pennill hwnnw allan o'rgyfres oedd gan Pedrog yn Nrych Y Brython bythefnos yn ol :— Os llawer dewr, yn wael ei lun, Ym medd y cadfaes roed, Yn Ffrainc fe laddwyd llawer un Na fu yn Ffrainc erioed." I GANU A GODRO.-Y mae Mr. R. J. Thomas, Yswain y Garreg Lwyd, Caer Gybi, wedi taro ar gynllun diguro i godi arian at Drysorfa Glewion y Gogiedd, 'of cynogrr dihefelyddion a ganlyn i fynd drwy Gymru a Lloegr i gyngherdda Madam Evans Laura Williams, Llundain, soprano Miss Annie Davies, Penrhyn a Manceinion, contralto Mr. Ivor Foster, baritone; Mr. David Ellis, Cefn Mawr, tenor; a Mr. Purcell Jones gyda'i grwth. Dyna bump iawn i'w gyrru allan i ganu a godro. TR YCHINEB PONT BLYDDYN.-Di- gwyddodd peth alaethus ttihwnt ym Mhon- Blyddyn, ar ffiniau'r Wyddgrug, brynhawn dydd Mercher yr wythnos ddiweddaf. Aeth dau frawd—bechgyn Mr. Meredith Davies, Coed Llai—Stanley Davies (16eg oed) a Thos. John Davies (20)—i yindrochi i'r afon Alun. Yn gweld yr ieuehgaf mewn helbul aeth yr hynaf ato i geisio'i acliub yn lie hynny, suddodd a boddodd y ddau. Caed eu cyrff i'r lan ymhen yr awr. TR Y CHI NEB CON II^F.—A dydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf lladdwyd John Jones, dyn deg a thrigain oed, ar y ffordd fawr yn ymyl Conwy. Gyrru yn ei gerbyd yr ydoedd dyma motor bus yn dod, a'i ferlen yntau'n riiusio a thro i'r cerbyd yn sydyn nes taflu'r hynafgwr druan dan y motor. Porter ydoedd tuallan i orsaf y fiordd liaearn ac yn y trengholiad dran- noeth, amlygwyd cydymdeimlad a'r weddw. PAN FO UENETH AR Y GORIWAljJR- ED.- Yn llys ynadon Conwy, ddydd Iau diweddaf, dedfrydwyd Doris Thomas, geneth bedair ar bymtheg oed o Bont y Pridd —a geneth barchus lawn ei diwyg allanol- i dri mis o garchar a llafur caled am ladrata gwerth wythbunt a throsodd o ddillad a thaclau o dy Mrs. Lunn, Llan Gwstenin. Eglurodd yr Is-Brif Gwnsfcabl Guest ei bod hi wedi bwrw tair blynedd eisys yn Borstal ac mai dim ond mis oedd er pan ryddhawyd hi o'r fan honno i fynd yn forwyn i Landudno. MAB YNYS GAIN.—Y mae Engineer Lieut. J. Griffith, mab ieuengaf Mr. a Mrs. Griffith, fferrn Ynys Gain, Cucieth, wedi cael y Groes Ryfel (Croix de Guerre) gan Lywodraeth Ffrainc am ddewrder wffch ysgubo mines ar y mor. DYNA ICHWI'R PAM !-Wrth gyfarch cangen Caer Gybi o Gynghrair Rhyddfrydol v Merched vr wythnos ddiweddaf, cvfeiriodd Syr Ellis Jones Griffith, A.S., at ei ddis- tawrwydd yn Nhy'r CyHredin. Y mae'r distawrwydd yma," meddai, yn chwannog iawn o gael ei gamddallt a'i gamfarnu gan fy etholwyr. Oni fo gan aelod Seneddol rywbeth i'w cldweyd fel beirniadaeth a fyddai'n gymorth i'r Llywodraeth gyda'r rhyfel, doetha'n y byd iddo dewi. Nid dirprwy i ddweyd meddwl rhywun arall yn lle'i feddwl ei hun ydyw aelod Seneddol. Nid mynd yno y mae i ddweyd meddyliau ei ethclwyr a chyd ag y cefnogo'r hyn a farno fo'i hun fyddo'n iawn, bydd felly'n cyflawni ei ddyletswydd tuagat y rhai a'i hanfonodd i'r Ty." BARN BODFAN MEWN CYNGHAN. EDD.-Dyna fel yr englyna Bodfan yn Y Tyst i Waharddiad,—gwyddoeh gwaharddiad beth :— Gorffennir llygru ffynrion-rhin a moes, A llygm'n meib dewrion, Y cwrw sych, os ceir Sion I basio Prohibition. DIWRNOD LLADD MOCHYN," ebe'r Parch. Eynon Davies, Llundain, am y diwmod hwnnw yn y Senedd pan gladdodd Mr. Lloyd George y Cadfridog Maurice A'i atebiad ysguboL Mor ilawn o liw ac arogl yw geiriau'r wlad rlxagor geiriau gwydd- onol, utilitaraidd, dwy-droedfedd y dre. CHWYNNU'R CH WECH.-Dyma cliwech o dai diod sir Fflint sydd i golli ei trwyddedau — Voryd, Rhyl Victoria Inn, Bodffari Mariners' Arms, Rhuddian Roper8' Arms a'r King's Head, Wyddgrug Blue Bell Inn, p-ntre New Brighton, yn agos i'r Wyddgrug. Pan chwynnir rhai pethau yn yr ardd a'r eaa, y mae'r gweddill a adewir yn' tyfu'n well ac yn rhwyddach ac wrth chwynnu'r tafarnau yma, rhaid gofalu mai nid rhoi cyfle y byddwn i'r lleill olwa'n fwy ac yn gynt o'r herwydd. COFIANT FFASIWN NEWYDD.—Ni fywgraffwycl neb yn fwy nac JTfi fynychach nag y bywgraffwyd y Prif Weinidog mewn cyfrol ar ol cyfrol; ond y mae i'w gofiannu mewn ffordd bur newydd maes o law, sef ar film y cinema. Rhennir y film yn wyth rhan ac fel yn a'r naill lun ar ol y iiall heibio, daw holl droeon ei yrfa ryfedd i'w golwg. Dywedir fod gwneuthurwyr y film wedi mynnu cael popeth yn fanwl a holiol gywir; bro wledig Llanystumdwy i'r dangos y ty lle'i magwyd, tu fewn a thu faes, a phob dodrefnyn a chelficyn cartrefol i fod yno'n tuiion fel yr ydoedd ar y pryd, heb wychu na Llundaineiddio dim arno; gweithty crydd ei ewythr yr hen 'ft'edog ledr a'r myniawyd a'r cwyr crydd Hun cad\v dyletswydd fore a hwyr llun y capel a'r ysgol; hun chwareon a chyfoedion bore oes gan ofalu dangos lluu yr hen goeden y dringodd gynifer o weithiau i'w phen, heb feddwl mai bwrw'i brentisiaeth yr ydoedd i ddringo'n bennaeth Prydain Fawr yn nydd gofwy mwya'r byd. J-- ,w- -=-

Ein Genedl ym Manceinion.

[No title]

YSTAFELL Y BEIRDD.

Advertising

Advertising

Advertising

Advertising