Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Dewisol weDster Rd.I

News
Cite
Share

Dewisol weDster Rd. I Y Parch Daniel Davies. I Mabon yn cwyno'i golled. I DAETH cynhulliad cryf o aelodau eglwys Webster Road, ynghyda brithiad o aelodau eglwysi eraill y cylch, i'r addoldy hwnnw nos Fercher ddiweddaf, i groesawu'r gweinidog newydd, y Parch. Daniel Davies, brodor o Sir Aberteifi, a gafodd ei addysg yn athrofau Trefecca ac Aberystwyth a fugeiliodd eglwys Cwmafon ddwy blynodd, ac a ddaw i Lerpwl o'r Pentre, Morgannwg, wedi bugeilio eglwys Nazareth ddeng mlynedd. Disgwylid dau gynrychiolydd oddiyno i'r ewrdd croeso heno, Mr. Edwards a Mr. W. Abraham, A.S. (-IIabon) ond methodd y ddau ddod, y cyntaf oblegid gwaeledd, a Mabon oherwydd yr hyn a welir yn y llythyr tirion nodweddiadol a ganlyn a ddarllenwyd oddiwrtho :— Bryn y bedw, Pentre, Glam-, Ebrill 9, 1917. Blin anarferol yw gennyf fod cyfarfod- ydd Pwyllgor Gweithredol Mwnwyr Pryd- ain Fawr a gynhelir yn Llundain yr lleg, 12fed, a'r 13eg,-yforu-trennydd a thradwy, yn ei gwneud yn amhosibl i mi fod yn bresennol yng nghwrdd sefydlu y cyfaill annwyl a'r gweinidog parchus, Mr. Daniel Davies, yn Webster Road, Liverpool, nos Fercher, canys eu iawn yw Mr. Davies gennyf fi.. Gwn y bydd fy absenoldeb yn siomiant iddo ef fel i a mirman. Mr. :fÎDa+. gydani yn Nazareth, Pentre, am vychydig fisoedd tros ddeng mlynedd-deng mlynedd hapus odiaeth iddo ef ac i ninnau. Yn y cyfnod hwn euthom ein dau drwy rai pethau, allanol, chwerwon iawn, ac ynddo profwyd o olud grawnsypiau Gwlad yr Addewid, ac yfwyd yn helaeth o ffynhbnnau yr lachawdwriaeth—cyfnod a argraffodd ei hun yn annileadwy ar femrwn ymwybydd- iaeth yr holl Eglwys yn Nazareth oedd hwnnw. Daeth Mr. Davies atom i Nazareth, yn wir wasanaethwr lesu Grist. Ni fynnai, tra yma, "ymryson a neb, ond yn dirion wrth bawb yn athrawaidd, yn ddioddefgar; mewn addfwynder yn dysgu y rhai gwrthwynebus, ac yn wir ddysgawdr ein rhai bach,—llu y rhai hyn, yn yr Ysgol Sul, yn ei ddosbarthiadau wythnosol, ac yn Seiat y Plant, a g tint golled anarferol,—o'r braidd na ddywedwn anadferadwy. Gyda chymeriad fel hyn ni fu'n hir cyn ennill iddo'i hun le cynnes yng nghalon yr holl Eglwys. Nid fel gwas mwy, ond fel cyfaill gwasanaethgar, ac er ei toci-neu am ei too, awn i actim prun, nid gormod oedd ganddo ddweyd a gwneud yn ol esiampl yr lesu, yr hwn a ddywedodd, Yr wyf fi yn eich plifch fel un yn gwasanaethu." Fel dvn Duw, cawsom ef wedi ymwadu & phob rhith ac anghyfiawndor, wedi ymlanhau yn llestr i barch, wedi ei neilltuo ac yn gymwys i'r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweith-e red dda. Yr oedd yn ein plith ac yn e" le, yn geryddwr lIym, heb fod yn gas;1 yn rhagweledydd clir, heb fod yn broffwyd; yn bregethwr inni heb ei fath ac eto yn ddyn cymharol ieuanc, a'i fywyd o'i flaen. Er nad y'm yn petruso dim am ei ddyfodol, ac y gwyddom y bydd ein colled ni yn anuill i chwi, eto" yr ydym yn ei gyflwyno yn un annwyl i chwi yn Webster Road, ac yn hyderus gredu y gwnewch yn fawr ohono, ac y perchwch ef a'i annwyl briod, a'i blant bach.—Ydwyf, yr eiddoch, drosof fy hun a, llais y llu,—Eich brawd MABON. Mr. W. Morris Owen, un o flaenoriaid Webster Road, a lywyddai ac heblaw llythyr Mabon, darllenodd rai oddiwrth y Parchedigion W. Henry (Waterloo) a W. 0. Jones (Wbodchurch Road) yn gofidio am fethu bod yn y cyfarfod oddiwrth y Parch. Wm. Owen, cyn-fugail yr eglwys o Ffraine, oddiwrth Mr. J. R. Jones, un o wyr icuane yr eglwys sydd yn y rhyfel, oedd yn aelod o'r Pwyllgor Dewis, a rhyw dine ysbrydol hyfryd ym mroddegau'i lythyr oddiwrth Mr. Jenkins, ysgrifennydd eglwys Nazareth ac oddiwrth y Parchn. Robt. Griffiths (B) a L. Idris Davies (A.), Pentre, a Ilythyrau'r ddau yn dangos gwlwm mor eithriadol oedd rhwng Mr. Davies a'i frodyr o enwadau eraill. Wedi darllen y rhain, a dweyd hanes yr alwad yn glir a digwmpas, galwodd y eadeirydd ar y siaradwyr penodedig, a dyma ergyd yr hyn a ddywedwyd Dod heb utganu o'i flaen. I Da gennyf i Mr. Davies ddod yma mor ddi-drwst, heb utganu o'i flaen; dim cymaint a pharagraff yn y papurau i ddweyd ei fod yn dod a'r dynion a ddaw fel hyn, y rhain sy'n debygol o fod yn dod dan orweiniad Ysbryd Duw. Y mae'n dod i eglwys y gellir disgwyl Uawef oddiwrthi. Yn dda ganddo feddwl hefyd fod Mr. Davies yn dod ar adeg wan, galed ar grefydd; yn haws adnabod pobl ar adeg felly nag ar adeg Diwygiad. Fe addaw pobl bob dim ichwi yng ngwres Diwygiad, ond druan o'r cyflawni ar ol yr oeri. Os oedd yma rai ohonoch yn anffafriol iddo, ystwythwch i gredu mai Mr. Davies yw anfonedig y Nef i'r eglwys, a buan y cewch fendith drwyddo. Peidiwn am ein bywyd a bod yn garreg ar fiordd cerbyd y Brenin,oblegid rhaid i hwnnw fynd yn ei flaen, beth bynnag a ddaw o'r garreg. Dowch i'r moddion yn gyson, gan wneud yr eglwys yn fwy byw hyd yn oed nag ydyw, a meithrinwch y gras hwnnw sydd wedi prinhau rhagor y byddai, sef y gras o groesawu'r gweinidog yn garuaidd ar eich aelwydydd. Y mae'n dod i gylch diddorol, i gylch enwog, ac i fysg cyd-weinidogion a bair iddo deimlo'n gartrefol rhag blaen. Chwitha.u Mr. Davies, bodlonwch ar bregethu Crist a'i Groes, canys clywsom lawn gormod bellach am y Caiser a'r hen hanesion rhyfel o'r Hen Destament. Gobeithio y ceweh chwi lawer iawn o lwyddiant yn Ler- PWI.-Mr. Joh-i?,. Hughes, o eglwys Princes Road. B»irniadwch, ond nid yn fustlaidd I nac yng ngwydd i:,I;.tnt. Beirniadweh, on nid yn fustlaidd nac yng ngwydd plant. Y mae Mr. Hughes a minnau yma ar ran y Cyfarfod Misol, ac felly'n cynrychioli'r holl eglwysi am y tro. Daw Mr. Davies yma o'r De, a chan ei fod yn ieuanc, dichon y bydd dod i'r Gogledd yn fantais iddo. Mawr yw'n dyled i'r De, yn Fethodistiaid ac yn Anghydffurfwyr. O'r De y cawsom Bant y Celyn, amhrisiadwy ei werth. Aeth Carlyle ati i ofyn iddo'i hun beth oedd gwerth Shakespeare mewn tir. A roisech yr India amdano ? Yr India, wir A faint a roisai Cymru am ei Phant y Celyn Ac o'r De y cawsom Dr. Saunders, un o'r pregethwyr gereu a gafodd Cymru erioed. Diau y bydd yn chwith gan Mr. Davies am Forgannwg a'r hen gylch, ond ni fydd yn debyg o son beunydd a byth wrthych chwi yma am hynny na, fe'i ceidw iddo'i hun, ac ni ad i chwi weld deigryn ei hiraeth am y De. Y fo yw'r ail wenidog ar yr eglwys hon ac rwy'n sicr na throwch chwi ddim i edliw rhagoriaethau'r gweinidog cyntaf iddo megis y darfu'r ail wraig honno, y dy- wedwyd wrthi na chaed neb perffaith yn y byd yma. "Do, mi gafwyd," ebr y hi. Pwy ?" ebe'r llall. Gwraig gynta'r gwr acw," ebr hithau. Peidiweh A, bod yn rhy brysur i bwyso Mr. Davies. Rhaid i'r Cymry gael beirniadu eu pregethwyr; nid oes dim yn erbyn hynny ynddo'i hun— y mae'n brawf da eu bod yn meddwl cryn lawer amdanynt. Beirniadai Dr. Johnson Garrick yn barhaus, gwnai,—ond ni fedrai oddef i neb arall wneuthur hynny., Ac os beirniadu'ch bugail gwnewch hynny yn yr ysbryd iawn ac yn y lie iawn byth yng ngwydd plant. Gwn am enghraifft o fugail yr andwywyd ei yrfa a'i ddefnydd- ioldeb gan frasjfeirniadu anghariadus ac an- noeth. Cofier mai shepherd yw gweinidog, ac nid sheep dog. Y mae ambell fugail yn llwyddo dros amser am ei fod yn ddyn rhywiog, cyfrwys, melfedaidd ei fin, yn feistr ar ddefpdau cymdeithasol, a phobl a phapurau'n canu ei glod eto i gyd, pan ymadawodd, nid oedd fawr o 61 llwyddiant ar ei weinidogaeth yn yr ardal. Ond y mae gwyrddlesni hyd heddyw mewn ambell le am y bu gweinidog distaw,, diymhongar ond difrifol, yno'n pregethu ac yno'n byw ei bregeth. Dylanwad ysbryd ar ysbryd yw'r dylanwad mawr a lie bo gweinidog yn byw beunydd ei hun dan argraff y Groes, y mae hwnnw'n gosod ei ddelw-ei stamp-ar bawb a ddaw i gyffyrddiad a fo. Ond i beri hyn, rhaid iddo wrth hamdden, wrth dawelwch a llonydd. Peidiweh a disgwyl i'ch gweinidog, wneud pob manion. Rhowch gyfle iddo fyfyrio'n ddwys, canys 'does dim dylanwad ar weinidogaeth neb na chafio ymdreulio &'r gwirionedd. Yn ol popeth a wn ac a glywais amdano, 'rwy'n dirgel gredu mai cennad Duw yw y gwr hwn yng ngwir ystyr y gair i Eglwys Webster Road.-Y Parch. John Owen. Anfield. I Y mae pregethwr mor hunan a neb I bhonoch I Wedi i Miss Phyllis Davies ganu Arglwydd, arwain trwy'r anialwch Fi bererin gwael ei wedd," galwyd ar y Parch., H. H. Hughes, B.A., B.D. ac ebe fo :— Y mae'n dda iawn gennyf gael bod yma i gydlawenhau a chwi. Cefais gyfle i adnabod Mr. Davies; bum yn cyd-bregethu ag o a choeliweh fi, chwi a'i cewch yn wir wr Duw, yn weinidog da i Iesu Grist. D)'n ydyw sy'n byw ar lefel uchel, a pherarogl Crist ar ei bregethu ac ar ei holl fywyd. Tlws anghyffredin oedd y dystiolaeth a gaed iddo yn llythyrau y ddau frawd o enwadau eraill; yr oedd y fath dystiolaeth gu yn beth mawr i Mr. Davies ei hun, ac yn beth mawr i eglwys Webster Road. Na fyddwch ymysg y saint hynny sy'n camdybio ei fod yn weddus iddynt ddyfynnu sylw o bregeth pawb yn y seiat ond o bregeth eu gweinidog hwy eu hunain. Y mae pob pregethwr sydd o ddifrif yn amcanu dweyd rhywbeth a fyddo'n lies a, chodiad i'w bobl, ac nid er mwyn dangos ei hun ac os caffoch rywbeth ganddo i'ch adeiladu a'ch cadarnhau, na fyddwch yn fyr o ddweyd wrtho, canys bydd gweld arwydd fod yr had a heuodd yn cael dyfnder daear ac yn egino yn foddion i godi ei galon, i roi mwy o ysbryd a hyder ynddo, nes ei wneud yn well pregethwr nag erioed. Gyfeillion ieuainc, gwnewch yn fawr o'ch gweinidog. Y mae'n wr hawdd mynd ato, a pho fwyaf a wnewch ohono, mwyaf yn y byd a gewch ganddo. Peidiwch ag edrych arno fel d^n ar wahan-fel yn perthyn i urdd a dosbarth sy'n ei wneud yn wahanol i ddynion eraill. Na dyw'r brethyn—y cloth yma—-yn gwneud dim gwahaniaeth ynom. Credwch fi, y mae pregethwr mor human a neb ohonooh chwi bobl y gwaith a'r swyddfa, a chanddo'i demtasiynau, ei flinderau, a'i dreialon lawn cymaint a chwithau bobl y seti a choeliwch fi, ni fydd dim yn rhoi mwy o fwynhad i mi na gweld llanc neu lodes yn dod ataf am gyngor neu help gyda rhyw anhawster neu bwnc a barai benbleth iddynt., Y mae plant Webster Road yn sefyll uchel eu clod eisoes ymysg eglwysi'r cylch; byddant yn fwy fyth bellach wedieael gwr mor garuaidd ao ymroddedig a Mr. Davies ntynt, i Enghraifft o ddawn Morgannwg, I Ac ebe'r Parch. D. Adams, B.A. :—Y mae'r llythyrau a ddarllenwyd o'r De yn ernes o'i lwyddiant yn Lerpwl. Yr wyf fi yn ein llongyfarch ni fel gwahanol enwadau- fod gr mor ryddfrydig wedi dod i'n mysg. Y mae Undeb Gweinidogion Cymreig Lerpwl a'r Cylch yn fwy brawdol a rhyddfrydig nag odid yr un y gwyddai ef amdano, a mwy o deimlad da a llai o eiddigedd cul yn flynnu rhyngom yma nag yn unman. Y mae'r cynulleidfaoedd yn gwybod beth yw pregeth dda, ac yn sermon-tasters bob un, Mr. Davies. Cefais gyfle i wrando eich bugail yn pregethu yn y De, ac wedi clywed pregeth mor alluog a Ilithrig ei thraddod- iad a honno, nid wy'n synnu dim at eich dewisiad chwi, bobl Webster Road. Ac fe wnaethoch gymwynas a'r holl gylch drwy fod yn foddion i ddod a dyn mor dda i'r ddinas. Llawer o bobl Men sydd yn Lerpwl yma eithaf peth iddynt hwythau gael un enghraifft arall o ddoniau'r De. Ac nid rhyfedd ei fod yr hyn ydoedd, ac yntau wedi tyfu yn y tir a fwydwyd gan Daniel Row- lands, Llangeitho. Sylwai'r Parch. T. Michael, B.A., B.D., gweinidog eglwys Bedyddwyr Earlsfield Road, fod yn dda ganddo gael llongyfarch yr eglwys ar ei dewisiad. A pha adeg a mwy o raid i eglwys wrth weinidog arni na hon, pan y mae cymaint o eisiau cysuro'r galarus a'r pryderus ymhob ty bron ? Hyderai gael cyfle i ymgydnabyddu & Mr. Davies, a'i gael yn frawd a chydweithiwr dros Dduw yn yr ardal. Yna cafwyd gair gan Mr. Davies ei hui, i a'i agwedd a'i eiriau'n peri i ddyn ei heffi ar yr olwg gyntaf, a dirgel gredu ei fod yn iawn sylweddoli ei swydd, ei fod o ddifiif ac yn gwbl ddiorchest, nac yn ceisio dim o'i ogoniant ei hun. Y mae'n r cydnertb- o bryd tywyll ac Iberaidd ei drem parabla'n rhwydd a hyfryd ei wrando gofela am iaith lan ond syml a dirodres; a swn seilio'i bregeth ar ei brofiad personol o'r Efengyl yn hytrach nag ar ddim damcaniaeth oddi- allan. Fy mhrofiad yw sail fy mhregeth, I Teimlai'i fod yn dod i eglwys ag yndd lawer o adnoddau, a'm penderfyniad yn awr ydyw rhoi'm goreu i blant ac ieuenctid yr eglwys, ond heb esgeuluso porthi a chysuro'r hen. Ceisiaf ymweu'n araf i fewn i fywyd yr eglwys ac os gwelaf rywbeth y tybiaf y gellir gwella arno, hyderaf y caf gyd- weithrediad. 'Rwy'n dod yma heb fawr p honiadau,—dim ond hyn fod gennyf ddeng mlynedd o brofiad mewn eglwjss yn y Rhondda lle'r oedd Iliaws o broblemau mwyaf dyrys bywyd i'w dadrys, a hyderaf y bydd y profiad a gefais yno yn gymorth imi wynebu problemau Lerpwl. Hefyd, y mae gennyf gred ddiysgog yn Efengyl lesugGrist, —cred seiliedig ar fy mhrofiad i fy hun. 'Rwy'n dyst ynof fy hun o werth achubol yr Efengyl, ac oblegid hynny yr wy'n ceisio'i phregethu mor effeithiol byth ag y gallaf. Gwelais hi'n achub glowyr Morgannwg hefyd, ac yn codi ami un a leibid gan ei lygredd. Os oes rhywbeth yr wy'n weddol glir ohono, culni enwadol yw hwnnw. Gwelais ddigon ar Efengyl Mab Duw i'm dysgu mai brodyr imi yw pawb o bob enwad sydd- ynddo Ef a bydd gwybod fod fy mhobl yn gweddio drosof yn gryfhad ac ysbrydiaeth imi ymafael o ddifrif yn fy ngwaith. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. D. D. Williams, ac fe'i dibennwyd gan y Parch. J. Vernon Lewis, M.A., B.D. Rhifai cymunwyr yr eglwys 554 ar ddech- reu'r flwyddyn hon ac yr oedd cyfanswm ei chasgliadau'r llynedd yn f:1,072 18s 10d o

-AM --LYFR.

Advertising