Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Beth yw hi ar y Gloch ?

News
Cite
Share

Beth yw hi ar y Gloch ? Y MAE gennyf y gorchwyl prudd o hysbysu fod cloc wyth diwrnod Mr. Jones y Shop wedi sefyll, neu'n fanylach beth bynnag0 wedi gwrthod dangos ei fod yn mynd. Gwnaeth Jones, a'i annwyl 'Bora, ar hogyn Sam, bopeth o fewn eu gallu am ddyddiau i geisio'i argyhoeddi o gyfeiliomi ei ffordd,, ond ofer pob perswad, o'r blaenor heibio 'Bora i lawr at ddull y byd hwn a gynrych- iolid gah yr hogyn Sam. A dyma'n fyr yr fielynt«—Y tnae'r peiriant oddimewn a'r pendil yn deall ei gilydd i drwch y blewyn ae yri mynd cystal a dim a welwyd erioed, ond y mae'r bysedd wedi sefyll yn stond-un ar dri a'r llall ar saith, a mark time yw hi yno ers wythnos. Disgwylir Jiams Dafis y clociau yno drennydd, a lwc, a gobeithir yr ufuddha'r hen wyth i "quick march y dywededig Jiams. Ni ddyclimygais erioed o'r blaen fod cloc it bysedd llonydd yn beth mor ddiwerth, a rhaid i Jones ddod i'n ty ni i gael gwybod pa awr ar y dydd yw hi. Serch hynny y mae un peth anrhydeddus yn yr lien gloc—y raae'ti ddigon boneddig- aidd i beidio a na tharo na warnio. A gweled yr hen law fel,hyn a wnaeth imi, fel aelod o'r un capel a'i feistr, athronyddu'n ysgafn yn fy ffordd fy hun fel hyn :— Y mae llawer o bethau yn y byd a wrthyd ddangoa eu bod yn mynd,ac oherwydd hyny'n ddiwerth i ddywedyd beth yw hi ar y gloch. I ddechreu & mi fy hun, rhaid imi gyfaddef mai felly y mae hi yn fy mywyd yn ami. Clywais yr hen gloc yn tipian yn fy nghalon ugeiniau o weithiau, a stori go dda yn ei dipian weithiau hefyd. Ond 'waeth prun am hynny, llonydd oedd y bysedd, ac ni chafodd neb wybod y teimladau hynny. Llawer mwy, liniongred ynof yw'r dyn a deimla na'r dyn a sieryd. Adeg hapus yw honno pan ddargenfydd dyn fod rhywun arall wedi bod yn meddwl yr un fath ag ef ond fod yr un hwnnw wedi magu digon o wroldeb i ddatgan ei feddwl, neu, yn iaith y cloc, i beri i'w fysedd symud. Pe men. trasai Dei y Gamfa front ddywedyd wrth Gwen y Llety sut y teimlai ei galon yn Hosgi ddeuddydd cyn i'r Mr. Spinks o'r gwaith arllwys ei enaid o'i blaen, etc.—ie Dei a fuasai ei gwr heddyw, ac nid y Sais parod ei dafod. Cwyd diffyg datgan teimlad y galon un ai o anallu i'w gyfleu neu ynteu o brinder gwroldeb. Da i ddyn bob amser yw mynegi teimladau a meddyliau ei galon. Y maenti hwyv yn uniongred. at ei gilydd. Dyna'r unig ffordd y medr d £ n ddywedyd wrth ei oes beth yw hi ar y gloch. Yn yr ail le meddylier am y Parch. J. Spena Thomas, M.A., B.D., ein gweinidog, [rr parchus yn ein plith. Digwyddais alw yn ei dy y diwrnod o'r blaen ar fymryn o neges, ac arweiniodd Mrs. Thomas fi. i'r stydi at ei hanwylaf John. A dyna olwg oedd yno-silff ar ol silff yn ]lawn o'r Ilyfrail diweddaraf, ac ar y pryd darllenai'r gair olaf a ddaethai o'r wasg ar feirniadaeth Feiblaidd, mpddai ef. Peth braf yw gweld arabell stydi heb ol llwydni ami. Clywais rywdro gan rywun mai pethau afiach iawn mewn ty yw hen lyfrau, yn enwedig pan ddechreuant gasglu llwch. Os gwir hynny rhaid gadael y broblem o hirhoedledd llawer lienor yng Nghymru tan yr oes nosaf heb ei setlo. Na, nid oedd na llwch na llwydni'n agos i lyfrau'r Parch Spens Thomas. Dy- wedaf eto mai dyn da ac unplyg yw Mr. Thomas, ac ni chlywais ddim amdano erioed ond Mr. Thomas.. Ond rhaid imi ddywedyd hyn, set nad yw ei bregethau mor glir o lwydni a'i lyfrau, ac y mae natur difiastod ar ei ddull o drafod ac esbonio ambell bwnc ac adnod. Er ei fod yn hyddysg yn symud- iadau meddwl yr oes dyry'r argrafi ei fod yn credu'n llythrennol yr adiiod "Gwell yw yr hen." a'r cloo gan dipian yn hyfryd ar hyd yr wythnos, ond distaw lonydd yw'r bysedd. Er ei holl ymdrech i ddilyn meddwl ei oes, ni fedr ef, druan wr, ddywedyd wrth undyn beth yw hi ar y gloch ac yntau wedi'i ordeinio i hynuy. Y mae'n wir fod Jones y Shop ac eraill yn dra cheidwadol o ran eu ayniadau. Er enghraifft, dywedodd pregeth wr y Sul o'r blaen mai nid Moses a sgrifen- nodd hariea ei gynhebrwng ei hun a thyrmwyd enw'r pregethwr hwnnw allan o Lyfr y bywyd,"—sef y Dyddiadur—yn ein capel ni. Gwyr y dociau a ddaw yma i ddywedyd pa awr ar y dydd yw hi ym myd crefydd, os ynt i adael i'w bysedd symud, fod yn rhaid warnio hefyd, a chanlyniad y warnio yw taro. Gwaetha'r modd, a llawer cloc o bregethwr, ond ni symuda'i fysedd am ryw reswm neu'i gilydd. Na feirniadery pregeth- wr yn rhy llym ycliwaith, ond cofier mai ar fara y mae byw dyn. Ac nid peth anghyftrediri yw gweld doc yn mynd a'i fysedd' yn llonydd yn hanes bywyd cymdeithasol a chrefyddol Cymru. Er enghraifft, clywsom dipian prysur cloc uno'r eiwadau dro'n ol ar ol ir Parchpi Tecwyn Evans a John Williams roi hwb i'r hen bendil. Ond ni chlywais i neb byw bedyddiol weled bys yn symud, ac atolwg, beth yw hi ar y dydcl ? Er cryfed fy awydd 1 weled bysedd y cloc hwn yn symud, rhaid imi gredu na fedr ei gyfeillion wneuthur dim llawer mwy na dal i ddywedyd wrtlio, "If you will not move, mark timet will you —y gorchymyn yn Saesneg er mWYll cyf- eiilibn yr Inglis Cos. I Ac y mae' r hen gloc a ddywed y dylid cfikel gwell tai a gwell amodau byw i werin Cymru yn mynd yn dalog ers blynyddoedd, a phob Cyngor Tref a gwlad yn eithaf iach yn y ffydd, ond diymadferth yw'r bysedd. Rhoes y tadau y peiriant ar fynd ers tro. Bellach, ein gwaith ni yw gyrru'r bysedd. Ac wrth edx-ych ar yr hen elach disymud ar wal cegin Jones y Siop, daeth i'm meddwl hefyd hynt Cristnogaeth yn y byd. Llawer iachach yw teimlad crefyddol Cymru na'i gweithredoedd. a llawer cloc yn burion, ond prin ywei allu i ddangos beth yw hi ar y gloch yri ysbryd Crist yn erbyn pechod a llygredigaeth y byd. A phwy na theimla fod y rhyfel mawr hwn yn codi llawer cwesfciwn anodd ei ateb ynglYll â'n Crist- nogaeth. Y mae bysedd cloc yr eglwys yn ei pherthynas a materion gwleidyddol a rhwng-genedlaethol wedi sefyll, os aethant rywdro, a rhaid plygu'r Ysgrythyr, fel y plygir helygen ystwyth,i brofi dipyn o bopeth. Mor anodd yw i'r byd drwg heddyw wybod ar gloc yr eglwysi beth yw hi ar y gloch yn nbeymas rhad ras. Rhaid myn,d at bobl y drws nesaf, 'rwy'n ofni, i holi ynghylch yr amser er nad ydynt hwy yn perthyn i'r Be&t. J | AELO& JONES, I

fSlAFELL Y BEIRDDI

RHIWMATIC AC ANHWYLDEB Y KIDNEY.

Advertising