Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
Tn LIVERPOOL OLD pOST OFPICE PLATP. (0. cu"o.srø&) LARGEST SaECTaON LOWEST PRICES TELEPHONE 3075 ROYAL
Ffetan y Gol.I
Ffetan y Gol. I Cofied pawb fo'n OM/OM t'y Ffetan j mai dyma'r gair sydd ar ei genau:— NlTHIO R UAU A NYTHU R UWIB. i John Jones. Treffynon wrth fyw acwrthfarw. At Olygydd Y BRYTHON. SY.-Er y byddaf yn bwrw trwydcP dipyn weithiau oherwydd rhyw bethau y credaf ein bod yn euog txhonynt, credaf yn gryf na fa i un wlad, o'i maint beth bynnag, gael y fraint o godi cynifer o Seintiau a'n gwlad annwyl ni, a byddaf yn rhyw led- feddwl mai math ar deyrnged ar ran y Nef i'r cymeriadau santaidd hyn ydyw y fiaith mai un o'n gwaed ni a ddewiswyd i fod yn ben dyn yr yr ymdrech fawr yn erbyn yr Anghrist. Rhyw ddiwrnod neu ddau yn oJ, pan wedi laru ar ddarllen un or papurau yma (nid Y Brython cofiwch !) estynnais gyfrol o'r Traethadydd am y flwyddyn 1853 oddiar y shilff ac agorais ef ar gyfer ysgrif faith dan y teitI" John Jones o Dreffynnon." Yr oeddwn wedi clywed am amryw John Jonesiaid cynt—John Jones o Dalysarn, ond wir, erbyn darllen yr ysgrif hon meddyl- iaf mai dyma, ar amryw gyfrifon, y John Jones rhyfeddaf o'r cwbl. A phe buaswn wedi gwybod amdano pan yn ymdrin dipyn & Sir Fflint," o'r braidd na fuaswn wedi dweyd, Wei wir, dyma Sir John Jones." Gan mai amcanion Y Brython yw £ hv- Horddi" ac adeiladu" yn ogystal a diddori," tybiais nad peth o'i Ie fyddai eodi tameidiau o hanes yr hen? weinidog duwiol a wnaeth gymaint aberth yn ei ddydd er dyrchafu ein gwlad, ae i'r hwn ac i eraill cyffelyb yr ydym i gyd dan gymaint dyled hyd y dydd heddyw. Diddorol fyddai adrodd ei hanes o'i enedigaeth, yng Nghaer- gwrle yn 1763, hyd ei droedigaeth o dan bregeth Mr. Richard Tibbott o Lanbryn- Hiair ar y clwt glas," ac wedyn hyd at ei alw i fod yn weinidog gyda'rMethodistiaid. I¡, Ond gwn nad oes mb'r gofod i hynny, er y gallaf eich sicrhau fod yr hanes yn un rhyfedd dros ben. Sylwais ar yr aberth I a wnaeth er mwyn pregeth1.1,fdiSgrifia"ef! <ei hun ei sefyllfa yn y ninellau oynhyrnot a ganlyn :— !? p- Am fy sefyllfa, yr wyf yn byw mewn ty ers blynyddoedd sydd heb fan diddo's arno a hyny yn gwneyd ei fod yn afiachus i mi breswylio ynddo ac er hyny byddaf y rhan amlaf yn foddlawn iawn ynddo wrth gael presenoldeb Duw ynddo. Y mae gwaelder fy sefyllfa, ynghyda fy ymarferiadau crefyddol, yn perijfyj^mod yn amddifad o gyfeillion ie, mor amddifad, fel na chefais neb o'm cymyd- ogion i gyduno a mi mewn gweddi ddydd yii y flwyddyn, nac i ymddiddan am bethiu crefydd na phethau digrefydd un haner awr yn fy nhy mwy na, phe bawn yn byw yn ardaloedd' pellenig America! Hyn, ynghyda phethau eraill, ar ol colli anwyl gymhares fy mywyd, a fu yn achos na chefais nemawr gysur er ys blynydd- oedd ond a gefais o'r nefoedd, ond rhyw ddisgwyl gwan sydd genyf o gael cyfeillion cyn bo hir i gyduno mewn mawl i Dduw a'r Oen yn oes oesodd Amen ac Amen. Caergwrle 1804." Ei ddull o bregethu- Mwynheid ei weinidogaeth ddiaddurn ond blaenllym gan ddiwinyddion mwyaf y cyfundeb. Mae hanes am y Parch. Thomas Charles yn ei wrandaw yn pregethu yn y Bala ar y geiriau "Titha1.1 a gesglir at dy bobl, fel y casglwyd Aaron dy frawd." Sylwai yn ei bregeth fod angeu yn hynod o onest a threfnus yn ei waith, mai nid chwareu ciprip yr ydoedd, ond casglu pawb yn rheolaidd at eu pobl. Wei, angeu," medd efe, "beth sydd ^enyt yn dy gwch heddyw yn croesi a V afon ?" Cychaid o feddwon. I il ble'r ai di a nhw ? "At eu pobl." Beth yw y cychaid yna sydd genyt ? "Halogwyr Saboth.' "I ble y mae nhw yn myned?""At eu pobl." "Pwy sydd genyt heddyw Angeu ?" "0!' gweddiwyr Duw teulu y ffydd, pobl yr hunan-ymwadiad, a chodi y groes a dilyn Crist." "I ble yrwytti y. myned a nhw 1" "I ble lief yd ond at eu pobl." Ar ol darfod yr oedfa dywedodd Mr. Charles wrtho yn ei ddull hynaws ef, "fA wyddoch chwi beth, John Jones ? Os oeddyehjfchwi yn dweyd y gwir heno yr wyf yn meddwl yn siwr fy mod yn dduwiol." "Beth oedd hynny, Mr. Charles ?" meddai yntau. "Am iy mod yn siwr pwy yw fy mhobl, ac os caf fy nghasglu atynt byddaf yn ddedwydcj byth." Yr oedd ganddo feddwl uchel iawn o'i swydd wrth sylwi ar y gair hwnnw Yr wyf yn mawrhau fy swydd," dywedai, Swydd yn wir, Paul y eyflog nii wrantaf. Nage Swydd dim gair am y cyflog. Swydd, swydd ac achub rhai ohonynt, dyna oedd gan Paul. Byddai llai o ysgafnder a thorri cyhoeddiadau pe byddai pawb ohonom fel hyn. Hw! cawod o wlaw a geidw rai pregethwyr gartref. Na Na! dylai dyn Jyned i'w gyhoeddiad pe bai hi yn gwlawio dannedd ogau. Cadw peth mawr yw eadw! cadw Bobol pe buasai y capel yma wedi ei wneuthur o aur a pher lau a dim ond un enaid yn cael ei gadw yma mewn can mlynedd buasai yn fwild- ing digon rhad. Byddai weithiau yn dra thywyll a chaled arno wrth bregethu. Yn gyffredin, os na ddeuai hi, rhoddai i fyny yn dra swta. Cofir amdano unwaith yn Nghapel y Bwlch, Llangelynin, sir Feirionydd, pryd nad oedd y bregeth yn cerdded yn hwylus "W el, 1 ebe efe, Bwlch yw enw y fan yma, onite ? a bwlch yw hi ar fy mhregeth innau heddyw. Gweddlwn." Buasai'n dda gennyf gael ymhelaethu ar ei ddull o fedyddio, a hanes ei waredigaeth wyrthiol ar y mynydd. etc. Fel gweddiwr dywedwyd amdano gan un a'i hadwaenai: Byddwn yn edrych arno ef ac Evan Foulk, a David Cadwalader fel tri esgob mewn gweddiau. Eu cyffelyb mewn gweddi ni ehlywais byth. Rhaid dweyd, cyn terfynu, sut y bu farw :-Yr oedd y Parch. John Elias wedi dywedyd amdano nil tro Y mae John Jones yn ddigrif yn ei fywyd, a marciwch chwi fe fydd yn ddigrif hefyd wrth farw." Ac felly y bu. Pan yn wael iawn gofynnodd ei ferch iddo, "Pa fodd yr ydych yn awr, fy nhad ?" "Sal, Mary, ac yri iach liefyd. JJyrna, dyma i ti farw y mae dy dad yn cael marw dan garni Ar Galfaria fe dynnwyd colyn Angeu. Diolch byth am y gwaith a wnaethpwyd ar Galfaria Calfaria i fyw, Calfaria i farw, Calfaria FOR EVER Gwynfyd, Mr. Gol., na chynhyrfid rhai Gwytif i ddilyn ei ffydd gan ystyried di- wedd ei ymarweddiad. DANIEL O. JONES. Sefton Square, Lerpwl. Lerpwl ddeugain mlynedd yn 01, I -1 hYE,—JN i bydd dim yn em buno yn twy, Mr. Golygydd. na chlywed am ymddygiad oeraidd swyddogion ac, aelodau eglwysig Llundain, Lerpwl, a Manchester, etc., tuag- at fechgyn, a genethod ieuainc Cyniru ar eu dyfodiad atynt. Mao'r sylw'n un hoIloI annheg. Cawsom ni 'brofiad gwahanol iawn, yn Lerpwl. Yr oedd dau o,'n cyfeillion pennaf wedi ein rhagflaenu yna er's rhai misoedd—hwynt-hwy oedd i fod ein hym- geleddwyr dros dymor ein prentisiaeth fel trefwr. Yn yr hwyr, mynnent inni fynd gyda hwy i gyfarfod gweddi'r bobl ieuainc, a gynhelid yn Chatham Street, dan lywydd- iaeth gwr ieuane o'r enw Mr. John Evans (Beaconsfield Street bellach). Trculid rhan gyntaf y cyfarfod i weddio, wedi hynny ceid math ar seiat, a disgwylid i bob un ddweyd gair o'i brofiad. Yr oedd Mr. Evans wedi ei raglunio i waith o'r fath. Ystyriem mai braint fawr fyddai cael mynychu'r cyfarfod- ydd hyn fisoedd y gaeaf, Buasemf yn ymhelaethu ar y gwr annwyl hwn pe buasai v (di mynd y tuhwnt i'r Hen. 'Ddowch chwi gyda ni i'r oedfa bore fory ?" oedd cwestuvn olaf ein cyfeillion cyn ein gadael nos Sadwrn. Wn i ddim, a phasio Princes Road ?" meddwn. "Mae eglwys Chatham Street yn llai, ae y mae ynddi amryw gyfoedion i chwi, chwi deimlwch yn fwy cartrefoi yno nag yn Princes Road. Ufudd- hawyd i'r cais. A rhaid oedd ufuddhau i gais arall, sef mynd gyda hwy i ddosbarth Mr. Pritchard, Vine Street, yn yr Ysgol y prydnawn. Yr oedd yr Arolygwr yn wr llyfn-dew a golwg bodlon arno. Gwisgai od wen ac albert chain. Ni fuom ond ychydig eiliadau nad oeddym wedi ffurfip barn am ei dras ai gymeriad. Gwr wedi ei fagu yn Lerpwl, ac yn ormod o foneddwr i sylwi ar fachgen o'r wlad oedd yn bresennol am y tro cyntaf. Yr oedd ein liathro "vntau'n gwisgo gwasgod wen, ond telinlem y byddai ef o dan rwymau i siarad a mi, fel un o'i ddisgyblion. Wedi i frawd fynd drwy y rhannau dechreuol, ac i'r Arolygwr fwrw golwg dros y dosbarthiadau —a oedd yr athrawon oil yn bresennol, etc.— wele ef, sef yr Arolygwr, yn anelii i ddos- barth Mr. Pritchard. "Mae gennych wr ieuanc dieithr i mi yn eich dosbarth heddyw, Mr. Pritchard." "Oes." "A ydych chwi wedi dyfod yma i aros, 'machgen i ?" Ydwyf, Syr." "0, da iawn. 0 ba ran o Gymru'r ydych chwi'n dyfod ?" HO LI-, Syr." 0, felly wir yr ydych yn dyfod o'r un Sir a minnau. Ydych chwi'n adnabod J.J., N— Ydwyf, ac yr oeddwn yn adnabod ei dad hefyd." Wei, mae'r presennol yn frawd i mi. A gaf fi'ch address os gwelwch yn dda ?" Cewch, Syr. "Thänk you, mi alwaf gyda chwi rai o'r dydiall nesaf," Yr oeddym wedi mynd drwy arholiad cyffelyb o eiddo'r athro cyn i Mr. Edward Jones, yr Arolygwr, ddyfod i'r dosbarth. Wrth fynd i oifhvys y noson honno, meddyliem fod ein henw nid wedi ei gymryd yn ofer, ond wedi ei ysgrifennu ar bedwar o lyfrau—Llyfr yr Eglwys, Llyfr yr Ysgol, IJyfr yr Arolygwr, a Llyfr yr Athro, ac ar y cwbl i'r un amcan a sibrydai rhywbeth ynom, "A wyddost ti i sicrwydd fod dy enw wedi ei ysgrifennu ar Lyfr na fydd i dy symudiadau di ddim ychwanegu ato—nac ychwaith dynnu oddi- wrth rif yr enwau sy'n ysgrifenedig arno ?'" Cyd-letyem a'r diweddar Llew o'r Wern." Yr oedd ef, er yn aelod yn Chatham St., yn wr blaenllaw gyda'r gangen yn Smith- down Lane. Yr oedd mab i'r diweddar Mr: W. Parry, Parliament St., wedi ei alw adref ychydig wythnosau cyn hynny," yr hwn a adawai fwlch ar ei ol yn yr ysgol, ae yr oedd y Cyfa,rfod A.thrawon yn llygadu am ddi lynydd iddo. Hysbysodd Llew y cyfarfod fod bachgen ieuanc newydd ddyfod o'r wlad yn aros gydag ef, ac y buasai, os dymunent, yn ceisio dylanwadu arno i ddyfod yno, cyn iddo fiurfio cysylltiadau yn Chatham. Ni chafodd y Llew waith dylanwadu o gwbl, yr oeddym yn faleb o'r cyfle, o herwydd tybiem y teimlem yn fwy cartrefol mewn Ysgol o'r fath, ac y gallem fod o rhyw ychydig bach o help iddi, ac y byddai hynny yn foddion i'n cadw rhag mynd ar gyfeiliom. Ond yn hollol annheilwng o'r croeso a gawsom gan ein hathro a'r Arolygwr, gwnaethom y symudiad heb eu hysbysu. A welsoch chwi 'rioed fel yr oeddynt yn ein hela yr wythnosau clilynoL. Blaenoriaid Chatham St. ar y pryd oedd Mri Rich. Jones, Rdbt. Jones (Tennyson St ), Eleazer Pugh, Dr. Gee, Tho. Jones (Parlia- ment St.) A bu'n agos inni ddweyd, Miss Davies (Bedford St.), oblegid byddai'n wastad yn y festri pan fyddem yn talu. ein Casgliad Mis. Fel y cyfeiriwyd dewiswyd yn fuan y Mri. Jones a Pritchard atynt; ao yn ddiweddarach Mri. Edwards; Huskin- son Street, a D. Jones, Bentley Road. Tipyn yn dawedog oedd Mr. Pugh, ond yn wr annwyl ryfeddol. Felly Mr. T. Jones Eisteddai Dr. Gee yn agos i'r drws, yn ystod y bregeth-oherwydd ei alwedigaeth mae'n debyg. Wedi'r bregeth, gwelid ef yn cyf- eirio tua'r Set Fawr, a cheid yn wastad anerchiad ganddo. Fel rheol, y bobl ieuainc a anerchai, a hynny i bwrpas. Yr unig gwyn fyddai gennym ni yn ei erbyn oedd mai yn Saesneg yr cyfarchai ni. Am y ddau gyntaf a enwyd perthynent hwy i'r hen oruchwyliaeth, pan oedd blaenoriaid yn medru "cadw seiat." Fel rheol, os byddai y bugail yn absennol o'r Seiat nos Fercher, llenwid y bwlch gan un o'r gweinidogion eraill. Yn achlysurol, fodd bynnag, deuai i ran y ddau Jones i arwain, ac, O f seiadau bendigedig fyddai y rhai hynny. Yr oedd y gweinidog yn nodedig am ei ddawn i gadw seiat," yr oedd yn hawdd dynesu ato, a gwnai ddefnydd da o'r hiwmor oedd ynddo, yr hwn, yn ol ein tyb ni, a ffrwyn- ai'n ormodol yn y pulpud. Ond er inni roddi i Mr. Jones y credit o fod yn gampwr am arwain seiat.byddai caeJ y ddau henBiwritan i'w harwain yn awr ac eilwaith yn treat o'r fath oreu. Yr oedd yn ddigon naturiol i ni yn bersonol deimlo felly, gan ein bod wedi ein magu ar fwyd cartref hen flaenor- iaid Cymru. Ond pan glywem y lliaws yn dweyd ar eu ffordd adref-" Onid oedd y ddau hen frawd yn dda heno ?" byddem yn gorfod credu mai nid rhyw sentiment o'n heiddo ni fyddai. Disgynnodd ir rhan ni ddwey d ein profi ad y waith gyntaf yn Chatham St. wrth y Parch. D. Williams, ac mor gartrefol y teimlem. Ydych chwi'n deall ei dricia fo'n o lew, 'machgen i ?" gofynnai, gan gyfeirio at yr Un Drwg. Os ydyw Duw yn arweinydd i chwi, 'dall y diafol ddim gosod yr un fagl ar eich llwybr chwi na bydd Hwn yn ei weld o, mi dyffeiai o.' HIRAETHLYD.
Ifin Genedl ym Manceinion.
fin Genedl ym Manceinion. Dyddtadur Mawvth 31—Cyngerdd Lord Duncan Street Bbrill 21—Oymauia y Gcbeitbhioedd Cenhadoni y Sul Nsaah Y METHODISTIAID CALFINAIDD Moss SIDE—10.80 a 6, W W IJoyd, Gwremam Pendleton—10.30 R Williams, 6 HEYWOOD 8T.-10.30, Eiiimind Griffith, 6, M WiUiams VICTORIA PK-IO.80, 6. Edmund Griffith FA its WORTH—10.30 aft, G Jones, Li-rpw, LEIGH—10.30 a 6, WARRINGTON-] 0.30 a.$, EIRLESTOWN—10.45 a 5.30, ASHTOS-CSBEK-LyNE—10.45 » «.30, YR AJfJflBYWWY.Tl CHORtTON Jll)~10.30. M Lleweijn, 6. Onfoh Davta BOOTH Sr—lO.SO, T C 'Davies, «.15, M Lleweh n QUEJl:N'S RO.m-10.30 a 6.15. J, If,. Jon e, LD. DUNCAN STREET-10.80 a IU 5, J. Morris HOLIINWOOD—^10.30 a 6.15 W G Jones Y WESLHAIT). DEWT S VNT—10.30, J Felix. 6 J D Owen HOREIS-10 30, E R Evacs, 4 JE Williams SEIOV—50.30, J T Ellis, a. John Felix Br,uLAFt-2.30, a 6-30, TC R Evans GAWABIA—10.30, J E WilUaw. 6, Cvfitfiod YsgoJ WrAS19-10.30, ,6.30, Y BED YDDWY lis Up. Mkblook Sr.—10.30 a fli-J H LONQBiaUT—10.30. 6.30, BoBwr's LANK SVTTON-IQ.3Q a 5.30, OAJfRE ADDYSG} GAN UN A'U G If YR.—Nos Wener cafodd y Gymdeithas Genedlaethol y fraint o wrando darlith Mr J. C. Da vies, M.A., Ilhutliyn, ar Ddatblygiad addysg yng Nghymru yn ei gysylltiad aH ddylanwad ar y cymeriad cenedlaethol. Mae Mr. Da vies, yn rhinwedd ei swyddau a'i allu, yn un o'r ychydig Gymry a wyr bron bopeth am addysg. Gellir dibynnu ar gywirdeb hollol yr hyn a ddywed. Gaii fod Cymru wedi brasgamumorllwyddiannus ym myd addysg yn ddiweddar, mae gosod- iadau ac anogaetjhau gwr o'i safle ef o'r pwys mwyaf i'r wlad eu gwybod. Yn yr ystyriaeth yna gohiriaf hanes Canmlwydd- iant capel y Weslea,id a phethau ereill hyd y rhifyn nesaf, er mwyn cael lie lied helaeth i'r ddarlith. Mr. L. C. Evans, o Neuadd Dre Salford,oedd y cadeirydd, a chaed ychyd- ig eiriau ganddo ef a'r Parch. E. Wyn Roberts. Eglurodd y darlithydd ei destyn gan ddangos nad yw addysg yn bwnc arbermig i ysgolion a cholegau, ond fod ei ganol- bwynt yn y cartref, yh yr ysgol, a,c mewn cymdeithas. Y pwysicaf a'r grymusftf ytf y cartref, ac angen y dyddiau hyn yw cydna byddiaeth ymarferol o hyn gau rieni ac ereill sy'n gofalu am blant. Amrywia cymeriad addysg yn ei gynllun a'i nod yn ol amrywiol agweddau gwareiddiad. Yn yr hen amser addysgwyd yr unigol er mwyn y wladwriaeth yn y Canol Oesau, er mwyn yr eglwys ond yn yr. amser presennol, er ei fwyn ei hun. Ffurf cyffredin oedd i addysg yn ei boll hanfod- ion trwy Ewrop ym mhymtheg cat-ii-if ey-ntaf y cyfnod Cristnogol, ac nid-oedd cynnydd addysg yng Nghymru yn gwahan iaethu oddiwrth addysg LIpegr a gwledydd ereill Ewrop. Mae caholbwynt hanes addysg Ewropeaidd o amgylcjh dau sefydliad.Vr ysgol a'r brif ysgol, Dechreuasant yn y gorffennol pell a pharhaig, yn neilltuol o ffyddlon i'w nodweddion cyntefig. Olrhein- ir yr ysgol yn ol i ddechreuad ein gwar eiddiad ac i ddeall ei natur, rhaid inni. o ran meddwl, fynd i'r dyddiau bore pan blannwyd croes Crist gan y cenhadon eyntaf yn nyffrynoedd Somerset a thraet,h North- umberland. Daethant hwy at bobl ar ffiniau anwareidd-dra, heb iaith wedi ei fiurfio gan lenyddiaeth. ond gyda chrefydd na roddai unrhyw arllsw o oleuni ar ddir- gelion eu bywyd gort-hrymus. Daethant at y bobl hyn yn. Hawn o frwdfrydedd efengyl- aidd, nid fel dysgawdron crefydd ac apos- tolion gwareiddiad uwch, oherwydd fod yr enw Rhufain y tu ol iddyrit. Eu dyletswydd gyntaf, pie bynnag yr aent, oedd. sefydlu ysgolion: a'n prif amcan o wneud athrawon a gweision i"r eglwys a sylwedd yr addysg ym rahobman yr un ffunud, sef y Beibl, gwasanaeth yr eglwys, ae ysgrifeniadau y Tadau. Ar y yr eglwys, a'r Liadin, y sylfaenwyd addysg gorllewin Ewrop. Creadigaeth yr eglwys hefyd oedd y Brif Ysgol. Ar-graffwyd ar y bobl seiliau Crist- ionogaeth ein gwareiddiad presennol, a thra pery Ewrop ni anghofir ac ni ddileir hyn. Ni all eenetl ddiystyru ei gorffennol. Daliodd y darlithydd yn lied fanwl ar y cyfnewidiadau a ddaeth trwy y Diwygiad Protestanaidd a chvfnod y Dadeni yn eu heffeitbiau ar addysg. Daeth hyn yn ynni diwygiad ysgolheigol am y tair canrif dilyn- ol. Nid symudiad lleol neu genedlaethol ydoedd i dd chreu ond Ewropeaidd, ac yn ei ffurf gyntefig nid oedd yn wrthwyneb i gynhaliaeth undeb eglwysig gorUewin Ewrop. Yn yr 16 ganrif gwnaed i ffwrdd a'r Lladin fel iaith gyffredinol dysgeidiaeth, a dasth yr Eidaleg, y Ffrangeg, yr Ysbaeneg j a'r Saesneg i fewn i iaith yr ysgolion. Ni roed cefnogaeth i'r Gymraeg yn y mynach- logydd ond gwnaed hynny gan y beirdd. Ynglyn a chyfodiad cenedlaetholdeb rhoes y darlithydd fynegiant am yr amrywiol ddylanwadau yng ngwahanol rannau Ewrop oedd yn ffurfio cymeriad arbennig i grefydd y wlad, yr hyn oedd wrth wraidd addysg yn yr ysgolion. Daeth y gyfundrefn grefyddol oedd yn unoli, yn beiriannydd nerthol ymraniadau. Tyfodd llenyddiaeth genedl- aethol gyda'r un pwysigrwydd a thwf cenedlaetholdeb. Gweithiodd y lenyddiaeth newydd ei hun o angenrheidrwydd i fewn i'r ysgolion a'r prifysgolion. Ond cyn i j hynny ddigwydd daeth dylanwad newydd ei J chrefydd i'r amlwg. Dyma'r pryd y da nh I democrat iaeth, wedi ei sylfaenu ar egwydd- orion cenedlaetholdeb, a chafodd afael ar yr ysgol. Ni phryderodd llywodraethwyr y ddeunawfed ganrif ynghylch materion mor fychain ag ieithoedd, meddwl a llafar eu deiliaid, ond cyfnewidiwyd. hyn yn gyfan- gwbl gan y Chwyldroad Ffrengig a Napol- eon oedd y cyntaf a gyfnewidiodd, yn fwr- iadol. holl gyfundrefn ysgolion Ffrainc i fod yn offeryn twf yr yrnherodraetli. Wedi hynny,nid oes odid i lywodraeth na ddilynodd ei lwybr ef. Wrth droi at Gymru yn arbennig daeth cyfnod newydd i addysg Cymreig ar ddechreu yr 16eg ganrif. Bu cynnydd y Diwygiad yn arafach yng Nghymru nag yn Lloegr. Cafodd well croeso gan fori add yr eglwys a'r wladwriaeth na chan y werin glynodd y werin wrth ffurfiau eyntefig eu cred, am fod delw gorehfygiad estronol ar y Diwygiad. Yn y ganrif cydrhwng goreh- fygiad Gogledd Cymru a gwrthryfel Glyn Dwr, aeth nifer helaeth o Gymry i Rydychen, ond ataliwyd hynny wedi llethiad y gwrth ryfel. GwellModd sefyllfa addysg yng Nghymru yn ddirfawr o dan y Tuduriaid, a gwelodd y Cymry. eu bod yn ab] i fan- teisio yn hawdd ar sefydliadau addysgol Lloegr; a daeth prifysgolion Rhydvchen a Chaergrawnt, a'r ysgolion a sefydlwyd dan y Tuduriaid, yn agored i feibion bonedd Cymru, ac mewn rhai achosion i lafurwyr y tir. Sefydlwyd amryw ysgolion gram. adeg yng Nghyrnru yn y 15fed a'r 19eg ganrif, a mynychwyd hwy gan nifer helaeth o efrydwyr arbennig. Ond rhaid cofio un ffaith, fod gwahaniaeth eithriadol cydrhwng trigolion y dref a phobl y rhanbarthau gwledig o ddyddiau Edward 1 hyd y Diwyg- iad. Yr oedd y trefi yn fwy Seisnig, onci yz- ra,ddol daethant hwythau yn Gymreig ar ol esgyniad Harri'r VII i'r orsedd. Ond er gogwydd ffafriol y Tuduriaid i Gymru, nid oedd ond meibion y man-dirfeddiannwyi a phobl y trefi yn mynd i'r ysgolion gramadeg; esgeuluswyd y rhanbarthau gwledig yn hollol, ac hyd ddiwygiad crefyddol y ddeu- nawfed ganrif nid oedd unrhyw gyfleusteraa i fwyafrif y Cymry uniaith roi addysg i'w plant. Meddyliodd Olifer Cromwell a R„ Baxter am addysg Gymreig uchraddol, ond ni wnaed dim. Gwnaed gwaith rhagorol: gan y Parch. Thomas Gouge a'r Archesgob Tiliotson, a thrachefn gan Griffith Jones, Llanddowror. Llwyddiant mwyaf ei ysgol- ion ef oedd fod ei addysg yn Gymraeg. Rhwng 1846 a 1848 ffurtiwyd PwyHgor Addysg Cymreig a'r Gymdeithas Gymreig, a thyfodd. y National Schools o'r naill, a'r British Schools o'r Ilall. Yji raddol, ar oR Deddf 1870, daeth addysg yn rhad ac yn orfodol. Yn bresennol mae addysg gyhoeddus yng Nghymru yn gyfartal i unrhyw gyfundrefn arall yn yr Ymherodr- aeth, a'i Iwyddiant a'i drylwyredd yn ddy- ledus i'r awyddfryd am addysg yn y Cymry eu hunain. Dechreuwyd y symudiad addysg presennol gan y Cymry a sieryd yr iaith, fel effaith anuniongyrchol y diwygiad crefyddol a'r deffroad llenyddoL Tair agwedd nodedig addysg Cymru yn y gorffennol yw :—1, Ei fod yn dwf allan c awyddfryd y bobl eu hunain am addysg. 2, Fod iddo ddechreuad crefyddol. 3. Yr oedd bron yn gyfangwbl yn ieithyddoii a llenyddoI. Bai mwyaf y gyfundrefn oedd diffyg llywodraethiad canolog, ac felly daeth yn drefniadau unigol heb gydweithrediad na chysylltiad rhyngddynt. Rhoddodd y Cymro nod ei gymeriad ar ei gyfundrefn ddysg. Tan ddeddf 1889 sefydlwyd wos gant 0 ysgolion canolradd,—gorrtiod lawer. a chollwyd cyfle rhagorol o ddiffyg ftrwemiaci;, awdurdod canolog. Eglurodd y darlithydd gyfeiliomad ywlad hon am Germani, gan dybio mai gwyddon- iaeth sydd yn cael y lie blaenaf yn addysg y wlad honno. Dim o'r fath beth. Cadam- haodd ei sylwadau a. ffigyrau, dyfyniadau. a ffrwyth rhagorol eu trefn addysg. Hyrs ar wahan i'r rhyfel. Cymeradwyodd aan- ryw bethau y rhaid i Gymru eu cael ynglyn ag addysg. Wele rai :-Cangen Dduwinyddoi ym Mhrifysgol Cymru. Adran Amaethyddol wedi ei gwaddoli ddigon i greu cyfnod newydd yn Hanes Cymru Wledig, y rhan Gymreig ei llafur. Adran Decnig i symbylu diwydiannau a llafur y Dywysogaeth, rb4Lg bod y Cymry yn gymaint o hurweisioa i estroniaid. Adran Gyfreithiol. Hefyd ysgol Ddiwinyddol,—mae gan y Cymro allu. a thueddfryd neilltuol i'r cyfeiriad hwnnw,ft byddai ysgol ddiwinyddol yn nerth yn y wlad. Mae hefyd un Brif Ysgol i Gymru o bwys mawr i roddi mynegiant i undeb y bywyd cenedlaethol, a chryfhad yr undeb. Y wedd grefyddol fydd yr ennill mwyaf Gymru, a ddioddefodd yn y gorffennol oddi- wrth raniadau a chenfigen. Mae dyddiar. y manion gwahaniaethol yn darfod, ond na ollyngwn ein gafael o'r cyfarfodyddllenyqd- 01, yr Eisteddfod, y Cymanfaoedd a'r Sasiyn. au, ac yn arbennig yr Ysgol Sul, fel y gellir ddweyd am hen Walia annwyl mai hon YW'!r oreu yn y byd."
Advertising
Palatine Trade Protection Office (L/pool). 35 Exchange Chambers. 2 Bixteth Street, LIVERPOOL, and at LONDON. Subscription ii is, per annum. Includes an UK LIMITED number of collectlont at accounts. Tel. 8365 Ce) If ii (3 lints). 'Telegrains, I Quorua)1 Apply for fur hi particulars- PARKliS S. BOOTH, Central Manage,  o ° D a a a ° D D D D □ □ □ □ 'Jft[[c/f!lJ!/fJ!¡; lS  I o GUINEA GOLD WEDDING RINGS I o from 7i6 b 6011- Li Half-doz best Electro-plated Q Spoons given to each Purchaser of a Ring. 0 C BALL'S LUCKY ENGAGEMENT RINGS at prices to suit all Q ■O -v ————————— Q 0 BALL'S LUCKY WEDDING RING. DEPOT, 0 O v Pinger-Slit Post Fret 33, London Road, LIVERPOOL. Q crce ceo 0 C CD 0 o O P C a a C) 13 E3 C) C) C3 (3 la a u. "ç: -r" '1": -.1_- CYFEIRIAD NEWYDI) (Change of Address) D. R. JONES (Alaw Madog), 25 Radstock Road, Liverpool. Dealer in PIANOS, ORG A NS, and HARMONIUMS, MUSIC PUBLISHER, &e. Catalogues Free on application. Terms Cash, or on easy payments to suit Owtomem, Orders by Post are promptly attended to. Tttniag and Repairing a Speciality. Town and Country visited. Dwy g&n Newydd yn barod, Pris Swllt yr un. Trwy'r Post, 1/1. Saf ifyny dros dy Wlad (Stand for thy Country), W. T. David. Sop. neu Tenoar. Mab y Milwr (The Soldier's Son), D. E. Williams, C.R.A.M. Contralto neu,, Bass. Geiriau Cymraeg a Saesneg. Hefyd, y mae i hon eiriau cysegredig,—" Jerusalem Newydd (The New Jerusalem). For Bedsteads and Bedding. w. WHITTLE SON & STOTT, LTD., LIVERPOOL. II II 0 tO Telephone^ 137 Bcyal.