Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
THE PROSPECTIVE HOUSEHOLDER who does not first of all consult OUR GUIDE on HOW to FURNISH at Lowest Cash Prices either for SPOT CASH or upon the most unique OUT OF INCOME system is like unto the motorist who goes touring without road map or lamp. {; DON'T miss the opportunity of creating a most artistic home in the very latest STYLE embodying your individual taste and discretion. M PENEER BOLD STREET. L- ▼ LIVERPOOL f
wesieaiti Leipwi it ..GUIGQ.i
wesieaiti Leipwi it GUIGQ. Eu Cymanfa a'u Cyfeillach. Y Deng Utgorn. Y Parchn. Owen Evans, Llaurwst; Join Felix, Manchester; W. O. Evans, Porth- madog; O. Madoc Roberts, Bangor; Philip Price,Coedpoeth; D. Cwynfryn Jones. Fflint; J. Maelor Hughes, Abergele; R. Vaughan Owen, Tre Geiriog; Lewis Edwardii, Llan- gefni. Cynhaliwyd y Gymanfa uchod nos Wener, nos Sadwrn, a'r Sul, Mawrth 9,10, a 11. Pregethwyd mewn pum capel nos Wener, ac yn y deg capel deirgwaith y SuI. Effeith- iodd yr eira a'r oerni ar y cynulliadau nos Wener, ond gyda thywydd gwell cafwyd cynulleidfaoedd rhagorol y Sul. Ceir tyst. iolaeth o'r gwahanol eglwysi fod gan y cenhadon genadwri tra chyfaddas i'r cyfnod a'u bod yn ei thraddodi yn eglurhad yr Ysbryd a chyda north. SeiatY Deyrnas." Cynhaliwyd hon ym Mynydd Seion nos Sadwrn; a chymryd i ystyriaeth y glaw mawr a ddisgynnai ar y pryd, yr oedd y cynhulliad yn un tra chalonogol. Dechreu- wyd yn fyr ao i'r pwrpas gan y Pareh. R. Vaughan Owen. Rhagair y Llywydd. Llywyddwyd gan CHIEF INSPECTOR WM. JONBS, un o oruchwylwyr Cylchdaith Oak- fleld, a chyflawnodd ei waith yn ddeheig ac urddasol. Ar ol atgoflo'r gynulleidfa ein bod mewn Seiat, nid yn unig yn dod i fwyn- hau cymdeithas ein gilydd, ond i geisio cymdeithas Duw, cyfeiriodd gyda phriod- oldeb a thynerwch at y colledion trymion a gafodd eglwysi'r cylch oddiwrth weinidog- aeth angau. Collwyd amryw frodyr a chwiorydd teilwng yn ystod y flwyddyn, a nifer difrifol o wyr ieuanc addawol ar faes y frwydr-rhai ohonynt oedd wedi dechreu yyrfa o ddefnyddioldeb gwerthfawr. Ond gr oedd pedwar o w £ r amlwg ar gyfrif eu gwasanaeth wedi eu cymryd oddiwrth eu awaith at eu gwobr y carai gyfeirio'n o bennig atynt, a gwnaeth hynny'n fyr a rhryno-sef Mri. Edward Owens, o eglwys Oakfield; Hugh Parry, o eglwys Trinity Road, Bootle; a David Lloyd a Henry Will- iams, o eglwys Mynydd Seion. Yr oedd am wneuthur eithriad i r rheol gyffredin, trwy gyfeirio at farwolaeth un a berthynai i enwad arall, sef Mr. Edward Lloyd, Falnner Square, a hynny ar gyfrif y ffaith fod priod yr ymadawedig yn un o'r aelodau hynaf yn eglwys Mynydd Seion. Ar ran eglwysi'r cylch, estynnai'r cydymdeimlad dyfnaf a theuluoedA y rhai a hunodd yn yatod y flwyddyn. Rhaid, fe raid i Grist dayrnasu Hyn oedd testyn y Seiat Fawr,sef Marc i. 14:-15 "Ac ar ol traddodi loan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, gan bregethu efODgyl teyrnas Dduw; a dywedyd, Yr amser a gyflawn- wyd, a theyrnas Dduw a nesaodd: adifarhewch, a chredwch yr Efengyl." Wrth alwar y Parch. J. Felix, oyfeiriodd y Llywydd aty ffaith mai hwn oedd ymweliad ayhoeddus cyntaf y ¡h parchedig t'r ddinat ax .1 ei GadsiryddTalaitk Gya, taf Gogledd Oymru ac yn Llywydd fy Gyman" fa Gymreig. Adran Mr. Felix i siarad arnl oedd Yr Amaer a gyflawnwyd. Ar ol sylwi fel y llenwid amser a. dyddiau a blynyddoedd A digwyddiadau, datganodd ei gred fod gan Dduw adegau arbennig i weithredu. Ymhlith pethau eraill, er enghraifft, sut na fuasai Duw yn anfon Gwaredwr i'r byd yn gynt nag a ddarfu ? Nid yw Duw yn gwneud dim byd yn rhy fuan nac yn rhy hwyr. Sut na fuaaai TeyrnasNefoedd wedi dod yn gynt nag y daeth ? Yr oedd y byd wedi colli gwybodaetb am Dduw, ac wedi colli tangnef- edd a rhyddid, ac yr oedd eisieu eu dysgu i chwilio am Dduw, i geisio tawelwch meddwl, ac i deimlo ei anallu hollol ohono ei hun. Pan ddaeth y byd i'r cyflwrhwn, yr amser a gyflawnwyd, a theyrnaa Dduw a nesaodd." Ond er fod y Deyrnas wedi dod era pedair canrif ar bymtheg, nid yw eto wedi dod yn ei chyflawnder. Prawf o hynny ydyw'r gyf- lafan arswydus ar gyfandir Ewrop heddyw. Ond fe all hyd yn oed i'r gyflafan bresennol fod yn foddion i brysuro'r Deyrnas, trwy ddangos mor aneffeithiol yw pethau materol i ddyrchafu dynoliaeth. Cyn y rhyfel, credai llawer mai addysg a diwylliant oedd i ddwyn y byd i'w le, ond gwelid heddyw i ba leyrarweiniwyd y byd gan addysg a diwyll- iant. Pan welai fod rhai yn dywedyd fod. y gelfyddyd i ladd yn y pellter w edi cyrraedd y fath berffeithrwydd fel ag i brofi fod yr effeithiau yn wyrthiol," a phan goflai na thybiai rhai fod pregethwr yn bregethwr mawr heb ei fod yn dyfynu ysgolheigion y Oyfandir," ni synnai ef weled fod gradd M.A. yn cael ei roddi i'r un a laddai fwyaf yn y pellter 1" Na, trwy egwyddorion Teyrnas Dduwjjyn unig y dygir y byd i'w le, ac y mae sail i gredu fod yr egwyddorion hyn yn lledaenu hyd yn oed yn y dyddiau hyn Mae'r Byd a Ddaw ac anfarwoldeb wedi dod i fwy o amlygrwydd, ac y mae pechod yn dod yn fwy hagr yn syniad y byd, yn enwed- ig anniweirdeb a meddwdod, beth bynnag yw syniad arweinyddion gwleid- yddol. Yng nghysylltiadau'r testyn yr oedd pethau mawr a phwysig wedi digwydd -loan Fedyddiwr wedi ei draddodi i'r carchar, yr Iesu wedi ei demtio yn y di- flaethweh, ond dyma'r adeg y llefarwyd y geiriau Yr amser a gyflawnwyd,"a gellireu cymhwyso hyd yn oed at ddigwyddiadau y dyddiau presennol. Ni raid i Frenin Sior na'r Caisar deyrnasu, ond rhaid i Grist, ac ef yn unig, deyrnasu 0 for i for, ac o'r afon hyd derfynau'r ddaear." Nid swyn Nef na dychryn Uffern I chwaitb. Ar y Parch. Lewis Edwards y galwyd nesaf sef i siarad ar Teyrnas Dduw a nesaodd. Credai ein bod ni'n byw mewn amser tebycach i amser y testyn nag erioed. Y mae'r Beibl yn dod yn newydd inni, a cheir esboniad gwell ar fod a bywyd. Hawddach deall heddyw beth oedd croes i Grist ac aberth i Paul. Cyfnod eithriadol yw hwn gwelir pethau yng ngoleu eu gwrthwyneb; maefleithiau yn dadlu yn erbyn profiad. Y maeTeyrnas Dduw megis yn ddwy deyrnas -un oddifewn ac un oddiallan. Ni ddylai dynion fodloni ar deyrnas Dduw oddifewn yn unig; rhaid ei cheisio i gymdeithas oddiallan. Ni fedr neb fod yn Gristion peffifaith heb fod pob dyn yn Gristion. Ni pherffeithir hwynt hebom ni." Yn rhy ami, yn lie bod Cristion yn concro'r byd, y mae'r byd yn concro'r Cristion. Y mae'r Efengyl nid yn unig yn achub dynion, ond yn achub sefydliadau. Teyrnas oraehnatur- iol yw Teyrnas Dduw. Y mae hi'n golygu ymyriad Duw &'r byd. Oddiuchod y deillia. Neshau" y mae hi; ond y mae lie i'n hymdrech gydweithredu & Duw. Nid datblygiad yw'r deyrnas hon. Os daeth ton ysbrydol dros y byd i gymryd miloedd i'r fyddin, dichon y daw ton ysbrydol dros y byd i ddwyn miloedd i Deyrnas Dduw. Newidiodd Crist syniad yr Iddewon am aatur y deyrnas, o fod ya un dda#»r«l i fod yn *a *T aid MI dim byd "mwy ehwyldroadol na.'r moesol. Y mae'r Deyrnas yn dod mewn pethau annheb- yg iddi hi ei hun. Ni fu'r deyrnas erioed yn nes atom nag ydyw heddyw. Edrych ,o-mod tua'r Senedd. a rhy fach tua'r Nefoedd Edifarhewch oedd y rhan o'r testyn a neilltuwyd i'r Parch. J. Maelor Hughes draethu arno,ac wele faich yr hyn a ddy wed- odd:- Pan ddaw'r bechgyn adref o'r fyddin, edrychant am awdurdod uwch nag awdurdod milwrol Ni fydd modd eu dychryn a'r syn- iad o ufft rn, oblegid byddant wedi bod yng nghanol y cyfryw; ac ni fydd llawer o swyn mewn Nefoedd iddynt. Yr unig beth a'u bodlona fydd bywyd cyson ag egwyddorion Teyrnas Dduw. Golyga edifeirwch y testyn fwy na gofld am bechod y gorffennol; golyga newydd-deb buchedd. Achlysurir ef gan weledigaeth o ddelfrydau am fywyd gwell ac uwch, yn arwain i ymadawiad a'r hen fywyd, ac ym- roddiad i ddilyn buchedd newydd. Y mae'n edifeirwch parhaol, ac nid unwaith am byth. Gorchmynai Crist, nid yn gymaint i ofidio am y gorffennol, ond i newid syniad am y Deyrn- as, er mwyn gallu mynd i mewn iddi. Syniad materol oedd gan y bobl am natur y Deyrnas; ond yn wyneb y goleuni newydd a daflai Crist ar y Deyrnas, galwai am agweddiad newydd tuagati. Megis y temtiwyd Crist yn yr anialwch, felly hefyd temtir yr eglwys i goleddu syniadau'r Iddewon am y Deyrnas. Ac y mae lie i ofni fod yr eglwys weithiau yn rhoi i mewn i'r demtasiwn, pan wrthyd oleuni newydd ac y dibrisia broffwydi. Geilw Crist arni i gyfaddasu ei hagwedd- iad at y goleuni newydd. Onid oedd yr eglwys yn y gorffennol wedi canoli ei nerth ar ochr faterol y Deyrnas ? Dywedodd Dr. Dale fod gweiuidogaeth Wesley a Whitfield wedi creu awyrgylch i wneud diwygiadau cymdeithasol yn bosibl. Onid oeddym wedi edrych mwy at y Senedd nag at y Nefoedd am ymwared ? Geilw Crist sylw'r Iddewon at y moddion i ddwyn y Deyrnas i mewn- moddion moesol. Fel yr Iddewon, bu'r eglwys yn rhy fynych yn rhoi'r flaenoriaeth i'r materol ar y moesol. Ymddygai fel pe bai arfau ei milwriaeth yn gnawdol, megis Mohamed,a dysgai os na chai ddilyn- wyr trwy berswad, y mynnai hwy trwy fin y cledd. Ofnai fod Ewrop wedi arfer gormod ar orfodaeth yngl^n a chrefydd ,-i gael y deiliaid o'r un gred a'r teyrn. Rhagrithwyr, ac nid saint, a gynhyrchir gan orfodaeth. Dyletswydd yr eglwys yw pwysleisio eg- wyddorion marwolaeth ac aberth Crist, a phan gydnabyddid yr egwyddorion hynny, ni welid un wlad yn gorthrymu'r llall. Geilw Crist arnom i edifarhau, a thrwy hyn- ny i newid ein hagweddiad terfynol at y Deyrnas. Enillir ymgyrch filwrol weithiau mewn brwydr arbennig, eri'r ymladd barhan ar ol hynny. Er fod yr ymladd yn parhau o hyd, enillwyd ymgyrch Teyrnas Crist ym mrwydr Calfaria. Os metbodd yr Eglwys. ni fetha'r Efengyl Y Parch. W. 0. Evans oedd y siaradwr olaf, sef ar Oredwch yr Efengyl; ac ebe fo:- Yr oedd pertbynas agos rhwng edifeirwch a chredu yr oedd un yn troi oddiwrth bech- od, a'r llall yn troi at Grist. Ond er fod perthynas, y mae gwahaniaeth. Ymdrechai ateb dau gwestiwn: (1) Beth yw'r Efengyl? (2; Beth yw credu yn yr Efengyl ? Newydd da oedd yr Efengyl—newydd da arbennig. Cynhwysa'r genadwri a gyhoeddwyd gan Grist. Nid Efengyl oedd popeth a gyhoedd- wyd gan Grist. Yr oedd y Bregeth ar y Mynydd yn cynnwys moeseg ardderchog, ond nid oedd yr Efengyl yn gyfyngedig i'r bregeth fawr honno. Yr oedd Efengyl Crist yn Efengyl am Dduw—fod Duw yn Dad; nid yn dad i'r Iesu'n unig, ond yn dad i bob dyn —drwg a da. Gweledigaeth ysblennydd oedd eiddo Crist ar Dduw fel Tad. Er gwaethaf ymddygiad dynion, Mae calon Tad tu ol i'r fraich Sy'n cynnal baich y byd." Yng ngoleu'r gwirionedd am Dadolaeth Duw, gwelir y gwirionedd gwerthfawr arall am Frawdoliaeth Dya, a gwerth ac urddas dyn. Y mae dyn in bwysicach na'r un creadur na sefydliad. Y Saboth a wnaed er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Saboth. Ond ni ddylid seilio'n parch i'r Saboth ar syniadau Iddewig, y mae'n angenrhaid a braint. Beth bynnag a ddywed Arglwydd Devonport am y Saboth, dywedwn wrtho "Hands off Cynhwysa Efengyl Crist ofal am y plant: gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi." N id Pasiffist fnasai Crist yn wyneb y creulonderau at blant bach Belgium Rhaid i Brydain wneud rhywbeth mwy nag a wna i blant. Ni ymfodlona rhieni i fagu plant er mwyn eu gwneud yn filwyr. Y newydd da a gyhoeddodd Crist oedd fod y Deyrnas wedi dod. Dysgodd fod yr Efengyl yn newydd da amdano 'i hun. Efengyl Iesu Grist y gelwir hi. Y mae Efe a'r Efengyl yn un Efe yw'r Efengyl. Efengylu am Grist oedd gwaith yr apostolion-Ei farw a'i adgyfodi. Nid oes eisieu Efengyl newydd, ond ffydd newydd yn yr Efengyl. Beth yw credu yn yr Efengyl ? Credu yng Nghrist fel Gwaredwr-nid cydsynio a'n deall, ond cyflwyno ein hunain yn gwbl iddo. Pan wneir hyn, deuir i undeb a'i Berson-ac y mae'r ddau yn mynd yn iin. Nid dodirundebigaelmaddeuant, ond i gael bywyd newydd hefyd. Nid ufuddhau iddo fel un galluog i'n cadw a'n santeiddio, ond Ei dderbyn yn Arglwydd ein bywyd- ie, i lywodraethu mewn masnach, yn y Senedd, ymhopeth ac ymhobman. A ydym yn credu yn yr Efengyl yn yr ystyr hwn ? Dywedir fod yr Eglwys wedi methu-fe allai hynny ond sicr yw, nid yw'r Efengyl wedi methu, ac ni fetha chwaith. Terfynwyd Seiat sylweddol a chref trwy weddi gan y Parch. Philip Price.
Advertising
Prynir Dodrefn Outright. Distance no object. Sale. by auction on owner*' premises. GREETHAM & SON (Est. 1848). AncdnnMM, 27 Newington, ?verpoo!: I 18 Rydal Bank & 106 Lbc<Td li:dpool, I TA M Roy? ,>
I COLOfN Y DDRAMA. )
I COLOfN Y DDRAMA. ) 'Dyw tqn y ddrama ddim wedi diffodd yng Nghymru er rhyfel a chwalfa a dyma syniad y Parch. Wyn Williams, Cricieth, am actio Ar y Groesffordd (drama'r Parch. R. G. Berry, a enillodd y wobr o ganpunt a gynhygid gan Argl. Howard de Walden) gan Gwmni Penrhyn Deudraeth yr wythnos cyn y ddiweddaf :— Cymer hon ei theitl yn naturiol o'r drych- feddwl canolog fod Eifion Harries, gweinid- og newydd ieuanc Seilo, yn earn ac yn bwriadu priodi Nel, merch Die Betsi, y portsiar, a thrwy hynny,daw i wrthdarawiad â blaenoriaid ei eglwys sydd yn cynrychioli barn, neu'n gywirach rhagfarn, yr eglwys a'r ardal. Dyna'r argyfwng a ddaw i fywydEifion Harries. Saif ar y groesffordd a rhaid arno ydyw dewis ei lwybr un ai ufuddhau i reddfau cysegredig ei natur ei hun neu ynteu ufuddhau i ragfarn ddall a chul pobl ei ofal. Ymddengys y byddai dewis y llwybr cyntaf yn rhoddi pen ar ei holl obeithion fel gwein- idog, Fel y dywed Marged, chwaer y gweinidog:- '¡1ø ve ti ;|s" Cred if, dyna'r "groesffordd "yr wyt"ti ami heddiw-Nel, merch Die Betsi, ne'r eglwys Gristnogol. Os Nel ddewisi di, mi fydd ar ben arnat am byth fel gweinidog yr Efengyl, nid yn unig yma'n Seilo ond ymhobman'arall." s. rf Yna daw pethau"* i" b wynt gyda'r blaenor- iaid, ac "etyb Eifion Harris yn groew y priodaiNel pe collai Eglwys Seilo am wneuth- ur hynny, a dengys iddynt fod gwahaniaeth go fawr rhwng bod yn Weinidog yr Efengyl a bod yn weinidog ar Seilo. 'Roedd hynny'n beth newydd i'r blaenoriaid, a rhoddir esboniad iddynt yn y geiriau a ganlyn :— einidogyr Efengyl ar bobl Seilo ydw i, ac nid Gweinidog Seilo ar yr Efengyl,— mae'r Efengyl yn fwy na Seilo—yn an- feidrol fwy, ond mae perig i ddyn feddwl weithia fod Eglwys Seilo yn\ fwy" ac yn gallach na'r Efengyl." Daeth amgylchiadau a phethau o amgylch fel y symudwyd y gweinidog o'r Groes- ffordd aeth Nel, merch Die Betsi, dan addysg i Lundain, daeth adre yn Nyrs Nel Davis, ac yn perthyn o bell i Mr. Black- well y Plas. Newidiodd pawb ei farn am- dani. Cafodd y gweinidog hi'n wraig, a chadwodd ei le fel gweinidog Seilo hefyd. Dyma'r ddau brif gymeriad Eifion Harris, gweinidog Seilo a Nel Davis, merch y. portsiar ac arnynt hwy y syrthiodd gwaith trymaf y ddrama. Credwn yn ddi- betrus i'r ddeuddyn gyfiawnhau eu dewis i chwarae y rhannau anodd. Dangosodd Eifion Harris urddas tawel a berthynai iddo fel gweinidog, amynedd penderfynol yn wyneb pob gwrthwynebiad, ac ni anghofiwn y cyffyrddiad mwyaf byw a gawsom yn Act iv.yng ngheithty'r Saer pan ddywedodd Net yn amwys, Rwyf wedi priodi," ac yntau'n cychwyn tua'r drws gan wisgo'i g6t yn brudd a dywedyd, 0, wel dyna hi ar ben arna i am byth. Teimlem ar bryd- iau ei fod ychydig bach yn rhy passive. Chwareuodd Net ei rhan yn bur ganmoladwy 'roedd hi'n gwella wrth fyned ymlaen. Rywsut gofynnem i ni'n hunain pa beth a barodd i'r gweinidog eyrthio mewn cariad a Net a hi'n ferch portsiar di gapel a "rêl sgiamp," yn ol barn Ifan y Crydd. Amlwg iddi hi etifeddu rhinweddau'i mamglendid pryd a gwedd, rhyw swyn a diniweidrwydd, ac hefyd etifeddodd gryn lawer o ysbryd barddonol ac ofergoelus hynafiaid pell a'i gwnai hi'n blentyn natur, yn rhydd oddi wrth addurniadau mursenaidd yr oes hon. Cawsom fynegiant o'r pethau hyn yn rhag orol iawn yn Not. A lwyddodd hi'n hollol iffynegi syniad yr awdur o'r cymeriad yn Act ii. sydd ychydig yn amheus. Teimlem fod y rhannau hynny y gellir eu galw yn comedi yn llithro rywsut i fod yn farce. Y gamp fawr i Net yn Act ii yw gwybod pie mae'r llinell derfyn rhwng comedy a farce. Cymeriad pwysig yn y chwarae yw Die Betsi, tad Net. Ca ef un act ar ei hyd i ddangos ei fedr, ac heb os, medd Die dalent eithriadol. Yn wir, fflachiadau o athrylith ar brydiau. Ymddangosai rhywbeth yn annaturiol i ni yn ei bortread o'r portsiar Cymreig gorliwio mewn ystum cofff ac wyneb a goslef y llais. Teimlem ormod o'r elfen fileinig. Efallai y gellid beio'r awdur am baentio portsiar Cymreig yn dd:9n mor frwnt a chreulon, neu a oedd y chwareuwr ei hun yn ei bortreadu yn greu- lonach nag y meddyliodd awdur y ddrama iddo fod ? Ond yn bendifaddeu y I mae actiwr o dalent Die yn ychwanegiad amhris- iadwy at werth y Cwmni. 'Roedd y ped- war blaenor yn dda odiaeth, yn enwedig Ifan y Crydd. Nid oedd hwn yn ail i neb o'r Cwmni,—pob symudiad o'i eiddo'n natur- iol a di-dramgwydd, ac o bosibl fod acen Sir Aberteifi yn amrywiaeth digon dymunol ymhlith y'lleisiau, ac felly'n ychwanegu at ddiddordeb y gwrandawyr yn ei actio. Ni anghofir ychwaith iho'r lleill, sef Marged Harris, Doctor Huws,fMr. Blackwell, Harri, prentis Jared Jones. Ni welsom well chwar- ae ers llawer o amser nag eiddo'r Cwmni hwn. Dewiswyd ganddynt Ddrama ragorol a gwnaethant gyfiawnder a hi. Aeth yr elw at Gymdeithas y Groes Goch a chafwyd elw sylweddol. Os oes unrhyw ardal eisiau noson o fwynhad, a chyda hynny gyfle i helpu unrhyw achos teilwng, rhodded gy- .hoeddiad i'r Cwmni hwn. Prif symudydd a threfnydd y Cwmni yw Mr. Llewelyn Williams, Ysgolfeistr y Penrhyn. Efe a fu'n rhoddi pethau ar y gweill, o dan ei addysg ef yr oedd y Cwmni, a chyfiawnhawyd ei fedr. WYN WILLIAMS. I
.Goreo Cymro, yr uo Oddieartre
Goreo Cymro, yr uo Oddieartre V WARrINGTON.-Ymunodd y Gymdeithas Genedlaethol ac aelodau'r eglwys Gymraeg i gadw cyfarfod Gwol DdeWl yn addoldy Crosfiold Street, Mr. Henry Roberts, Y.H., yn iy gadair. Cymerwyd rhan mewn cftrni ganiMr. Griff Owen (Lerpwl), Mrs. W. T. Williams a Miss Jennie R. Roberts, Mri. A. Woodward a W. Hughes. Enillwyd ar yr unrhyw unawd gan Mrs. Ph. Lloyd Jones, Thatto Heath. Pennill i Lloyd George, 1, Mrs. R. Parry Jones. Cyfeiliodd Nyrs Humphreys (Machynlleth); beirniaid y canu, Mri. Payton a Rickman; a'r farddoniaeth, Mr. W. Parry (Bolton). Dychvvelwyd y gwobrwyon gan y ddwy, aoaeth. holl elw'r eyfftrfod i'r milwyt Cfyrareig. Yr oodd 180 I., n br»s«nnol, phfclfb Ik's lNAia Goek a. I e\ fron. Cafwyd anerchiadau rhagorol gan y llywydd a Mr. E. Lloyd Jones (is lywydd y Gymdeithas Genedlaethol). Diolchwyd i bawb gan y Parch. R. Parry Jones a Mr. D. J. Price, ysgrifennydd pybyr yr wyl. Cyfrannodd y llywydd £10 at yr amcan, a rhwng hynny a ffrwyth y cyfarfod, a gwerthu'r llumanau ar yr heolydd, cafwyd £58 11/- at drysorfa'r Fyddin Gymreig. Go dda Gymry Warrington, onite ? EARLESTOWN.—Cawsom gyfarfod cys tadleuol i'r plant Mawrth 3. Arweiniwyd gan Mr. John Roberts. Beirniaid :—Cerdd, Mr. Abram Jones, adrodd, y Parch. Enoch Rogers a Mr. Edward Roberts; cyfeilydd, Mrs. J. T. Williams. Unawdiaid, Miss Seddon a Mr. R. O. Williams (Leigh). Budd ugol :—Unawd i enethod dan 12, 1, Blod- wen Griffiths 2, Winnie Rawlins. Ad- roddiad i blant dan 12, 1, Eira Tattum,- Atherton 2, Wilfred Jones, St. Helens Junction 3, Emlyn Wynne Jones. Un- awd i fechgyn dan 12, 1, Wilfred Jones; 2, Emlyn Wynne Jones. Deuawd, dan 16, Jessie Leyland a Lilian Sudworth. Unawd i fechgyn dan 16, Edie Roberts i enethod dan 16, Gertie Goslin. Adroddiad i rai mewn oed 1, Mr. Williams 2, Miss Will- iams—y ddau o St. Helens Junction. Parti o 12 o blant, 1, Parti Mrs. J. T. Williams 2, Parti Mr. Edward Thomas. Cafwyd anerchiad gan Corp. Davies (Llundain) yn 11awn thn ac addysg. Diolchwyd gan y Parch. R. Parry Jones a Mr. R. Jones. Y cyfarfod drwyddo yn wir dda.. Y Saboth dilynol unodd y tri enwad yng Nghapel M.C., pryd y cafwyd tair pregeth ragorol— y bore gan Corp. Davies nawn a hwyr gan y Parch. Enoch Rogers.-E.J. PRESCOT.—Ynglyn a'r Gymdeithas Ddiw- wylliadol, cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol. Mr. Wm. Whitley yn llywyddu. Detholiad rhagorol ar yr offeryn gan J. W. Whitley. Y mae dyfodol i'r bachgen hwn. Caed tair o'r hen alawon Cymreig gan Miss Gladys Williams, Mri. John Williams, a D. J. Foulkes. Adroddiad, Elwyn Williams. Cys- tadleuaeth canu i blant dan 16, 1, Hywel Williams a H. Blackwell; 2, Frank Thomas. Adrodd emyn, 1, Tryphena Williams; 2, T. < E. Whitley; 3, Blodwen Trehearne. Araith fyrfyfyr, 1, Mri. Rd. Jones a T. E. Whitley. Rhoddwyd y gwobrwyon i'r plant gan Mrs. Trehearne a Mr. Rd. Jones. Pte. Jones (Rhes y Cae) a Mr. Rd. Jones yn beirniadu'r adrodd, a Mr. D. J. Foulkea y canu. Mr. John Williams yn diolch i bawb. Canwyd Renwlad fy Nhadau" i ddiweddu, Mr. D. J. Foulkes yn arwain. Casglodd Cymry Prescot £ 50/17 /6 at drysor fa'r Milwyr' Cymreig, a diolch i bawb a'n cynorthwyodd.-E. W. CREWE.^—Er fod y rhyfel du wedi tlodi cryn dipyn ar ddiadell Gymreig y cyleh yma, eto i gyd daeth nifer dda ynghyd ysgoldy'r Drindod i Wyl Goffa ein Sant, a chaed cyfarfod gwresog dros ben. Agorwyd gydag arlwy flasus wedi ei phara- toi'n ddeheig gan y chwiorydd, ac er fod yr Ellftiyn trahaus yn ceisio ei oreu i gwtogi hyd y dafell, eto i gyd ni chwynodd neb fod prinder yn y wledd hon. Wedi clirio'r byrddau anelodd pawb am ei sedd, yn eidd- gar am gael treulio noson lawen yn awn yr hen alawon a'r tannau. Cymerwyd yr awenaugany Parch. R. Williams, ac ynghyntaf galwyd Miss Mabel Jones i'r llwyfan i'n llonni ag unawd ar y berdoneg, hyhi'n ddisgybl addawol i Dr. Caradog Roberts. Yna caed anerchiadau gan y beirdd. Diolchwn i'r ddau frawd, Mr. Roberts, Henry Street, a Mr. Trevor Owen am gadw'r awen mor fyw a chynnes ar waetha'r tywydd oer. Ymysg y pOr gan- orion gwelwyd Miss Blodwen Prichard o Glwt y Bont, a chyda llais cyfoethog, dat- ganodd Saf i fyny dros dy wlad a Gwalia a mynnodd y dorf ei chlywed eilwaith. Swynol oedd y detholiad o'r hen alawon a gaed gan Miss Arfona Davies. Ni ddis- tawodd y glep nes y rhoes hi ragor o'i phigion melys. Cyfeiliwyd gan ei brawd, Mr. Davies. Annwyl i Gymro'r alltud oedd Cartref gan Miss Ethel Evans, a chafodd dderbyniad gwresog. Cymru Fydd oedd byrdwn ein y Parch. W. Penrhyn Williams a gwefreiddiwyd y dorf nes y canwyd y cydgan grymus drachefn a thrachefn. Mel. odaidd iawn y canwyd Owktd y Delyn gan Mr. T. H. Owen. Diolchwn i'r canwr mwyn hwn am ei ddatganiad newydd o'r hen emyn Yn Eden cofiaf hynny byth. Mwyn, os lleddf, oedd dolef Cloch Dinas Is gan y pedwar-Misses Llewela a Dilys Lewis, a Mri. Conwy Roberts a T. S. Jones. Cyfeiliwyd yn ganmoladwy gan Miss Olive Davies. Cafwyd anerchiadau brwd gan y llywydd a chan y Parch. W. P. Williams, Mr. R. Roberts (Edleston rd.), a'r ysgrifen- nydd. Hefyd caed dau adroddiad campus gan Mr. Trevor Owen a Miss Carvel; ond er mor glodwiw y doniau hyn anghyflawn fuasai'r Wyl heb y delyn. Yn ffodus sicr- hawyd Miss Nansi Richards, a phwy well na'r delynores gu o Faldwyn ? Melys odiaeth oedd y pigion a roes, a moes mwy oedd cri parhaus y dorf. Tarawyd penhill- ion hapus gan Miss Blodwen Prichard i awn y tannau, a 11 phan g!Ln y tafod gyda'r tant, eu mwyniant a drwy'r 'mennydd. Di- weddwyd gyda Hen Wlad fy Nhadau dan arweiniad Mr. R. Roberts. BiRmiNGHAM.-Tach. 10, bu'r gwf daw?- us y Parch. T. Eynon Davies, l?ndM yn darlithio ar 2'? J?T-e?? .B?M?? yn EgIt Annibynnol Wheeler Street. Llywydd y P rch nIndwr Morgan, Saltl?y. Oyfarfod dymunol. Y darlithydd yn 11 awn hiwmof ac yn cadw'r dorf yn ddiddig i fwynhau'i' addysg werthfawr. Diolchodd y Parch. J. Roberts Evans a Gwym Jiwy iddo. Pre-t gethai Mr. Eynon Davies yn Wheeler Sti, y Sul, a mwynhawyd ei winidogaeth )\- fawr. ir ——
Advertising
¡;If Athrofa Aberystwj/th (UN O'R COLBGAU Tit MHEIFTSCOL C.fMBO). ■. Prifathraw-T. F. ROBERTS, LL.D. ( —■— DC,t ECHREUA'R Tymor Dar Dåydd Mercher, Hydref 3ydd,,911. Paratoir yr efrydwyr ar gyfer Amloliada ,u prifysgol Cymru. Cynygir amryw 0 ysgolo,.Aðsu (amryw 0 honyiit yn gyfyngedigi Gy mry4 y flwyddyn hon. Cymer yr arholiad le ya I berystwyth ar ylSted o fis Medi, 1917. Am fanywa pouwh" Y, o»fyner A J. B. DAVl jJ" N A Otfrrtfydd