Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
TEIRAWR 0 BUNT Y CiOeWVN A'R…
TEIRAWR 0 BUNT Y CiOeWVN A'R CEUNANT Sef Plant Naattle, wrth gwrs GOFYNNWYD inni lywyddu Ail Noson Nantlle yn Ysgoldy Crosshall St., nos Sadwrn cyn y diweddaf ac er ei bod hi'n hin mor hyllig, fe euthom, petae dim ond er mwyn clywed Cymraeg a digonlo led ynddo a gweldrhaio ddisgynyddion Hen Lanciau Clogwyn y Gwin. a Cwm Silyn a'r Mynyddfawr a chlogwyni ysgythrog Drws y Coed yn pincio mor ddigamsyniol o lygad a bochgern ami un o'r deucant a hanner a ddaeth drwy'r glaw a bistyllai fel o grwc. Wedi cydganu Marchog, Iesu, yn llwyddiannus a chael y cywair iawn i'r cyfarfod, mentrais ddweyd- a hynny am ei fod yn wir ac nid yn wen- iaith-fod plant y mynyddoedd, at ei gilydd, yn llawnach o awen adychymyg na gwyr y gwastadedd, a bod plant y dolydd, er brased eu tir a'u porfa, yn fwy llonydd-a Hoaidd!-na phlant y gelltydd geirwon a thrigolion ffriddoedd y grug a'r eithin. Wythnos i'r noson honno yr oeddwn yn Shotton, yn dweyd tipyn am Ddewi Sant wrth Gymry sir Dafydd ab Edmwnt a Chaerfallwch a Daniel Owen, ac yno gwelwn frithiad o chwarelwyr Nantlle yn gymysg a channoedd o byllwyr swydd Stafford sy'n, dal i ddylifo i'r gweithfau mawrion a godir ar lannau'r Dyfrdwy. A'r gwahaniaeth rhyngddynt yn peri imi dueddu i gredu sylw eithafol Emrys ap Iwan, sef mai gwerin Canolbarth Lloegr yw'r isaf yn Ewrop. 'Dyw pobl Nantlle,mwy na Chymry unman arall, ddim heb eu hie a'u tolc, fel sydd yn eu lleehau; ond 'roedd mwy o sglein yr Ysgol Sul a'r Dosbarth Darllen a'r Gymanfa Ganu a'r Eisteddfod ar lygad y Cymry nag oedd yn llygad y lleill o Loegr. Fel hyn yr aed ymlaen ar ol i'r emyn a'r rhagair wneud eu gwaith paratoawl Mr. J. J. Thomas, L.T.S.C., yn cyfeilio, Miss Jennie Jones yn canu Neges y Blodeuyn. Miss M. A. Roberts yn adrodd Helynt yn Set y Gornel, sef cyfaddasiad Cymraeg da a doniol iawn o Trouble in A men Corner y Saesneg. Wedyn, dyma Mr. R. W. Roberts (Arfonog) yn dod i'r llwyfan ac yn traethu'n ddiddan a blasus iawn am rhyw chwarter awr ar Feirdd a Llenorion y Dyffryn, sef Glasynys, Glan Llyfnwy, Alafon, Eben Fardd, Robt. Ellis o Clochydd, ac yn y blaen. Goddefer enghraifft nen ddwy :— Englyn y Clochydd ar fedd Dr. Dafydd Jones, Mynydd Llanllyfni Er meddu ar y moddion—a weHant Eraill o glefydon, Angau trwch, i'r llwchgell hon, Yma ddwg y meddygon. Dyma ddau englyn a ddyfynnodd o waith Glan Llyfnwy :—I, Set Fawr oer dan bregeth gynnes Er siarad a gwres-eiriau-uwch y sedd, Ni chlywch s teimladau Yr oera o bob, rhyw oer bau Yw mynwent yr amennau. A hwn gampus ei wers a dwys ei rybudd i'r Meddwyn :— Oni newidi d'anian,-yn Ei lid, 0 dy law yn fuan Duw a gipia dy gwpan, A gyr i ti gwrw tan. A phan y'i clywais yn adrodd englyn hysbys Alafon I'r Asyn O archnadwr yr erch nodau-di serch, Dos hwnt o'n gororau, A dilyn dy bedolau Gyda cheg wedi ei chau, fe gofiais i garedigrwydd trwp o gyfeillion fynd a mi i hela iechyd ac ail hoen i'r Can- aries rhyw chwe blynedd yn ol, lie y mae asynod lawer. Nadai un bastardd mul mor uchel ac anynad o flaen fy ystafell yn yr Hotel Metropole nes y codais wedi gwyllt- io, agorais y ffenestr a gwaeddais yr englyn uchod ar ucha'm llais I; ac er mai mul Ysbaenig y fo, fe gaeodd ei safn yn chwap a chefais innau siawns i gysgu a breuddwyd io am Gymru a sir Feirionydd. Ysgrif- ennais wedyn at Alafon am iddo godi'i galon,—fod digon o nerth yng nghic llinell gloi ei englyn i gau genau bastardd mul Ysbaenig bymtheg can' milltir o'r fan y gwnaed yr englyn ar lethrau'r Wyddfa. Dyma loes hiizaeth yn mynd yn don dros fy nghalon y funud yma wrth feddwl am yr Alafon cu, caredig, sydd a rhes o'i lythyrau coeth yn f'ymyl yn un o gilfachau'r gell yma, ac yn union fel fo'i hun. Ond gee, cymoder, wo, ferlyn! a thyr'd yn d'ol o'r Canaries i Crosshall Street:— Canodd Mr. W. J. Jones, Death of Nelson ar y cornet, ac Iorwerth Parry-mebyn Prif Athro Ysgbl y Cyngor Pen y Groes— yn dal y copi Hen Nodiant o'i flaen, ac yn gwenu mor heulog a'i fam ac yn llygadu mor ddireidus a'i dad. Deuawd, Mae Cymru'n barod ar y wys gan E. Walter Williams a Sam W. Jones. Baner ein gwlad gan Ben Morris (gwn na ddigia bechgyn croendew'r wlad ddim wrthyf am ado'r Mistar allan o flaen eu henwau—hen lol gwastraffus a mursenllyd yr ugeinfed ganrif), ac yn canu jieuad dlos wrth ateb yr encor cryf. Dadl, Cystadleuaeth Ganu, y ddwyFiss Jones, • t Powell Jones un ohonynt. Dadl ag am- bell d'rawiad doniol ynddi; ond y mae yna fwlch yn lien Cymru am ddadleuon gwir deilwng. Hoffwn weld rhywun a fedro yn troi ati i wneud dwsin neu ddau o rai da. Y Preifat Walter S. Jones, llanc lalsyth o Lanllyfni sy gyda'r Kings yrig Y .fgwersyll Crosby, yn canu Gymru Lan, mor felys nes y mynnwyd ei gael yn ol jlfganu'r Hen Wr Mwyn, a'i olwg a'i oslef y flasus o Gymreig a mynyddig. Ar ol dj puhwelyc* i'r gwersyll oer o'r Noson\Nant lie \$ynnes dyma filwr Llanllyfni'n gwaeddi Aros;' fimud, estron ar y Sergeant boldr, gwarsyth, ac yn gwrthod ufuddhau i'w FalltJin, nes cael tywallt ei deimlad i'r wyth penrfi illl A ganlyn, Arferiad'r ht ">i Gymry, yr oesau a fu, Oedd cadw "os Lawen a'i gilydd yn gu; Anghofient dras lodion, dirmygent lais brad, Wrth ganu alaw" on a cherddi eu gwlad. j, 'Roedd tannau .1.. delyn yn dynion bob un, A llifai yr alaw ( I mêl troa y fin; O. dryoin A ruth^L'i troo VIOgwYn a. gwaon, Yn fyw yr hen JO(RAU gadwent y gin. I A heddyw, os drycin a'i swn sy'n y Nant, Mae heulwen yn gwenu ar ganu y plant; "Nos Lawen a gadwant tra'u gwybren yn ddu, Daeth ysbryd'r hen Gymry ar Gymry y Sy. Mi glywaf yn swn yr atgofion o'r Nant Fod gobaith fy Nghymru yng nghanu ei phlant Os gelyn a'n treisiodd, nid gwaeth er y graith— Mae eli fy nghalon yn acen ein hiaith. Os hudwr a ddenodd y delyn i'w gell, Mae'r awel yn sibrwd," 'Dyw'r wawr ddim yn bell Cyn gelwir fy enaid i wyddfod fy Rhi, Rhowch dan ar y Delyn sy'n annwyl i mi." Doed meibion Eryri, o ddol ac o nant, I uno i gadw yn dynion ei thant, A'i,cheisio hi eto o ddwylaw y brad, I ganu serchiadol alawon fy ngwlad. A Margiad U ch Han, Brenhines y Gerdd, Plebynnag yr huna,'r dywarchen fo gwerdd I goffa amdani yn dyn byddo'r tant, Ar delyn fu annwyl gan feibion y Nant. Hir oes i'r Nos Lawen," caed englyn a th6n, Boed deuparth o'r ysbryd o Fynwy i F6n Dirmygwn yn wawdus bob gelyn a brad Wrth ganu alawon a cherddi ein gWlad. Ar ol Walter Llanllyfni, dyna T. J. Griffiths yn codiii ddweyd gair trefnus a da iawn am Bregethwyr a Gwyr Lleyg y Dyffryn, sef Robt. Roberts, Seraff Clynnog, awdur y bregeth wreiddiol ar Grist a Satan yn ym- aflyd codwm ar Galfaria, a Satan yn mynd danodd o'r diwedd John Jones, Talsarn, hoff-eilun Mr. Lloyd George yn anad yr un o Hoelion Wyth yr Hen Wlad Robt. J on83, Llanllyfni. un o'r pwythwyr mwyaf gwreiddiol a gododd Cymru; lolo Caer- narfon, bryddestwr meddylbraff; Mr. T. Lloyd Jones, F.R.G.S., a Dr. J. H. Jones, o hil a gwaed Tan y Castell, digon hawdd dweyd ar eu gwedd a'u gosodiad tywysog- aidd. Wedi i S. W. Jones ganu/ Cartref, adroddodd J. H. Griffiths Lladron yr Wyn- wyn-gwaith Robt. Ellis y Clochydd y soniasai'r Arfonog amdano, ac yn blethiad deugainc o wawd a doniolwch cyrhaeddgar. Parodd ei fynych gyfeiriad at wynwyn- nionod," chwedl llafar y wlad-imi gofio'r deffiniad o'r gair hwnnw a ddyry Wm. Salesbury yn y Geiriadur a ysgrifennodd cyn cyfeithu'r Testament Nwydd i'r Gym- raeg er mwyn i'r bobl ddallt y Testament pan y'i caent. Wynwyn llyseun (vegetable) a ddyry'r gwracedd wrth ei llygeit er cympell wylo pan fo meirw ei gwýr." "Y gwalch crafog iddo fo ebe Eluned sew. Gwaeddid am encor gan J.H.G. ond yn hytrach na dod i'r llwyfan ei hun, an- fonodd ei torch dalentog, Annie Wood Griffith, i lenwi ei le. A hi wnaeth hynny'n ag adroddiad campus o Nurse Cavell-dam Saesneg, gwaith chwaer Annie, hyTi na hi, sy'n nyrsio yn Colchester. Encdr byddarol i Annie wedyn, mwyn dn) Ond chware teg iddi gael ei gwynt ar ol darn mor faith, canys y mae hi i lawr ar y rhaglen eto dipyn bach is i lawr. Dyma gael cip o draethiad ar Gerddorion a Chanorion y Dyffryn-y rhai a fu—gan E. Walter Williams, ac wele hwy (1) Marged Uch Ifan—(pa faint na roiswn am gael benthyg yr hen fynyddwraig gorffol, gyhyrog honno, yn enghraifft o nerth corff a meddwl hen Gymraes y Wyddfa, o'i chym- haru a'r merchetos paintiedig sy'n rhygyngu heibioch mor simsan eu sodlau tua Lime St.) -(2) Mair Alaw (sef mam y brodyr Francis, felys eu pill a'u cân), Myfanwy o'r Glyn, Robt. Ellis y Clochydd, Hugh Owen, Griffith Ellis Jones, Ffoulk Williams (Eos Llyfnwy) ac E. W. Thomas. Yna canodd Annie Wood Griffith osteg o benhillion telyn, y mynnwyd ail ddogn ohonynt cyn y cawsai'r eneth dalentog lonydd. Dybiwn i fod y ddau ddawn-canu ac adrodd-mor gryf a'i gilydd yn Annie, a gobeithio y caiff hi chware teg i'w meithrin. Wedi i Jennie Jones a Ben Thomas ganu deuawd Y Llaethferch a'r Bugail, diolchodd W. R. Williams a James Lewis i bawb a gymerodd ran, ac ymwa. ynrwyd yn sn Hen Wlad fy Nhadau. Ond rhaid imi beidio a rhoi 'mhensil yn fy mhoced cyn crybwyll i Mr. R. J. Griffiths ddarllen llythyrau oddiwrth y Caplan W. G. Owen (Llifon, Cinmel), y Parch. W. Elias Williams (Bethel, Penygroes), a Mr. Ellis W. Davies (y Seneddwr dros Eifion), yn dymuno bendith ar y cyfarfyddiad, ac yn eiddigeddu na fuasent yno i gael rhan o ail hwyl ac afiaith Crosshall Street, a drefnasid gan y pwyllgor a ganlyn :—Mri. David Roberts, R. 0. Hughes, W. D. Roberts, J. J. Thomas, E. Walter Williams, R. R. Williams, W. W Roberts, T. J. Griffiths, J, J. Williams (llywydd), Evan Jones (trys.), R. J. Griffiths (ysg-)- Nos da, blant y graig a'r ebill; diolch am eich cwmni; a chan y bydd ugeiniau ohonoch yn anfon Y Brython a hyn o hanes i'ch ceraint yn y rhyfel ar dir a mor, dywed- wch wrthynt fy mod yn cofio atynt,yngwedd- lo drostynt, ac yn edrych ymaen at gael bod yn bresennol yn Noson Fawr y Dewrion Dychweledig ar derfyn y drin i ac os cafodd Noson Nantlle ddwy o'm colofnau cyfyng, y caiff Noson y Dewrion ddeg. Brysiwch wanu'r Caiser dan ei burned ais ebilliwch Brwsiaeth a militariaeth nes eu hollti, a dowch adre i Faladeulyn. Nid oes gennyf ddim yn well a ddymunwn ichwi na, bod sylfaen eich bywyd moesol mor llydan a chadarn a mynyddoedd eich Hen Wlad, a bryd ac osgo cryfa'ch eneidiau, fel eu pigau hwythau, yn pwyntio tua'r Nefoedd. Ond hawyr bu bron imi gau'r mwdwl cyn cyhoeddi'r pwt llythyr a ddaeth yma oddi- wrth Un o Blant Llanuwehllyn yn gofyn imi hel a hysio plant sir Feirionydd i CFosshall Street, i'w Noson hwythau. Ebe'r U.O'B.L# Gwelaf fod pobl Nantlle'n cadw digon o stwr a'u Noaon hwy a phaham, yn enw d, na ohawn ninnau bobl Meirion ein Noaon ninnau ? Dyma'r amser i blannu a phwy a wyr na ddaw'r hedyn a heuir yr un amser a'r tatws eleni yn bren mawr erbyn dechreu'r gaeaf nesaf. 'Rwy'n mawr hyderu y bydd ein bech- gyn annvryl yn ol erbyn hynny, i ehwyddo'r hwyl o.'r .Jam JO Aitsh, i" 1 Wet, rwy'n eithaf bodlon i wneuthur fy rhan i gael plant y Gymreiciaf o'n deu- ddeg sir-sir Feirionydd—at ei gilydd yn Lerpwl yma, ac a deimlwn yn odiaeth o gysurus ynghanol mil a mwy o fynyddwyr Ffestiniog a Thrawsfynydd a Thalsarnau a Harlech a Dyffryn Artro ac Ardudwy a'r Bermo a'r Ganllwyd a Dolgellau a Thowyn a Chorris a'r Bala-ei pharlwr hi a Jerusal- em Cymru. Gofaled Un o Blant Llanuweh- llyn am rai i ganu ac adrodd a thelyna, ac fe ymorolaf innau am frai cymhwysa'r cyleh i draethu ar odidogion fel Morgan Llwyd ac Elis Wyn ac Edmwnt Prys a Dafydd Ionawr a Philipiaid Mochras a Chyrnol John Jones *o Faes y Garnedd a Michael Jones a Lewis Edwards a Williams o'r Wern a Thanymarian a Gwyneth Vaugh- an-ie, a Thom Ellis, pwy bynnag arall a fo allan Diau mai'r diwedd fydd, y rhaid i bobl pob un o'r deuddeg sir gael eu Noson yn ystod y gaeaf nesaf, pwy bynnag fydd byw. I'th stabl, ferlyn canys er mai dim ond un golofn o libart a fwriadwn it' ei gael wrth neidio ar dy gefn i gychwyn tua Noson Nantlle, dyma ti wedi neidio dros y Clawdd a phrancio dwy. Pa beth a wnaf a thi, dywed ? Dy werthu t Byth! er druted yw'th fwyrI J • Llygad y Wawr, J.H.J. I
rSUFELL Y RORRD I
rSUFELL Y RORRD I i cynhyrclnon Tgogyter a'r golofn hon i'w eyfeirio-PEDROG, 217 Prescot rd., L'pool Y Cymro Oddicartref.-Gresyn fod can ag ynddi gynifer o darawiadau da mor ddiffygiol, ar y cyfan, mewn ystwyth- ter mydyddol a cheinder iaith. Englyn i- Y llinell Angylaidd eiliwr englyn yn wallus. CYMERADWY.-Y Fam a'i dau Faban, Pte. W. Jones. Gwyl Ddewi, Yr unig Elyn, Ymson y Milwr, Priodas Capten Roberts, Er Cof am Mari Lloyd, Dan Dy gysgod Di, Plant y Ffosydd. CYDWYBOD. r Gorucha'r raddfa reddfol—d £ f i raid 0 fawrhydi moesol Anwar yw na wna'i rheol,^ Y da a r6d ar ei h61.—PEDROG. AR FEDD MILWR YN FFRAINC. I N6d bedd lie gorwedd gwron-ymladdodd Am lwyddiant cyd ddewrion 'F'allai un o'm cyfeillion— A shame! his name was Unknown EILIR ALED. SYR OWEN THOMAS. I Syr Owen Thomas-dyma fo, Yn Gymro pur i'r earn Adwaenem ef ers llawer tro Fel gwr o bwyll a barn Ei benderfyniad cryf aeth drwy Bob rhwystrau—dyma'r s6n A rhaid i bawb ei syrio mwy- G*yr Llundain fel a*yr M6n. Ei daid a'i hendaid da a gaed Yn gadfridogion byw, Gan farchio 'mlaen heb golli gwaod Ar flaen byddinoedd Duw. Bu yntau'n flaenor y Set Fawr Cyn bod yn flaenor cad Ac fel Syr Owen raid yn awr Ei gyfarch drwy y wlad. Ar Huwco. FFARWEL JOB. I Ffarwel i'r Prifardd tirion- A'i ddagrau fel y gwlith, Ffarwel i'r bardd a'i riain hardd Fu'n trigo yn ein plith Un saeth sy drwy'n calonnau, A'n dagrau sydd yn lli, A than ein hais mae clwyfus glais Wrth ganu'n iachâ chwi. Ffarwel i'r g-ftr dirodres, Ein bugail tirion, mwyn, Fu'n gwylio'i braidd rhag rhuthr y blaidd Ac yn bendithio'r "yn. Ffarwel i'r hwn fu'n gwarchod Eneidiau saint y fro, Ffarwel, weinidog annwyl, Rhaid canu'n iach-ond, 0 Mae'n anhawdd hyn, weinidog gwyn, Heb gymorth ganddo Fo. Pregethaist in' Efengyl Y Groes am flwyddi maith, Mewn swyn dinam ac ysbryd fflam, A'th lygaid weithiau'n llaith GweddIaist drosom ganwaith Ar rhyw felysaf dant, Nes synnu Gabriel ganlliw— Can's nid yw ef yn sant. Ac uwch dy ben 'roedd enfys wen Y bendigedig blant. Bethesda. BEN JONES. Y DIWEDDAR EDWARD ROBERTS, I MARSH LANE. DYN yn llanc ieuanc, yn hen,—dan yr Aroh, Dyner ❖r, fu'n llawen Iddo yn Golofn addien, Mae'i rasol oes ym Marsh Lane. Byth, ef yn esgob a thad,—arh6ai Trwyadl oedd i'w Geidwad Poen gymrai rhoddai yn rhad Chwys cur yn achos cariad. Ei ddifrif arwedd hyfryd,—ei rudd laith Ei rwydd law, mewn adfyd Y didwyll ❖r, rhaid dwedyd, Ganfu wobr y Gwyn ei fyd. CYBI. I
Advertising
ANfFTD, PESWCH, INPLLWNZA-itac rhain gyda ni bab amser. Pair hintawdd gyfn ewidiol fod llawer o ddioddef oddiwrth Beswch, Bronchitis, Pat, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffyg Aaadl. Y mae'r hen feddyginiaeth DAVIES'S COUOB MIXTURE eto ar y blaen, ac yn cad ei gwerth- favrrugi yn fwy nag erioed, bob amser wrth Jaw, ye felYI, yn eynheju y frest, ac yn rhyddhau'r phlegm Bydd dose mewn pryd yn ddigon. is. i i d. a it. fe (pottage, 3^.)-HVOB DATIM, Chemist, Machynlletfc SARZINE BLOOD bflXTURZ. CROEN tACH A GWAED PUR.-Dyna yr by* y mae Sarzine Blood Mixture yn ei ricrhaa, a dim arall. Nid yw yn honni gwella popeth fel Yanket Patent Medicines, ond os hiinir chwi gan groes afiach, yefa, pitnples, toriad tflan, scurvy, doluriau peadduynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac amhur, myanweh bottlaid o Sanuu Ill..d Mixture gan y drugfitt ikeof aicah, z., 94 y botd, ikeu gyda 3t at y tindifld yn yAwaaerot oddiwrth y p«rthoanof— HUGH DA VIES, Chemist, Machynlleth elphome, Royal 1157.- Established 11) ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South* Has Property to Let in rarioas parts of the town. Mortgages arranged. Valuations made LEstablishad 1884 1-. WOOSNAM ROBERTS, FA. Bootie Estate Office, 62 STANLEY ROAD, BOOTLE. is TÐleorams-U Woosnam, 205 Bootle." TslephoM No. 7999. J. LEWIS JONES, MOTATL 4GKNS VALUMB, 60 Victoria St., Liverpool. Fropsrtie* oanfuHy lnADapd. Rasta per, eoaally oollooted. Purohassxs ami Balsa 8" gottateol. Mnftgaqos araaagsd anti IsmrMce eSeotod. THOMAS iS JONES. 1STATB AGBNTf VALUIRRO. ISVHfMSVT ISVILOINOO. if Lerd Street, Liverpool, Tologhme No. -18. Bask, Ffopertls» Bought and Sold. Monl6. iitrangs& Valustiommads. Beata eollsWt txsk. SC1 AXWVBHD. SBeA»&2sns Stephen Roberts & Set AfirA" AORNOR & TALUS=. 137 Everton Road, Liverpool Pro"" cluefaH7 MSRS$MD. PAN$@ B« 30])?!? owkmtmd. Par- ad )MM asgotiatod. Mortgages arratsfed tad b ssuraaeM aflsoted. Henry Jones, BSTATE AGENT, VALUIM fc'PROPKBTY AUOTIONBKR, 3 Lord Street, LiTevpoil FAST BAJTX Ala. 0. JONES WILLIAMS, F-AI,, 1STATB AGENT k VALUER, 17 Boundary^Placei Moss St, Liverpool. Lot. less. Tslephens i 96f Rsrai Hfslsphoms 8586 Ba nk JONES aHtiUGHES, lIøaJJ OFFICE, 13 Whitechapeli LlTerpoel FREEHOLD LAND FOR SALB, Advances Made. R. E. HUGHEb, Katate Agent, Surveyor & Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone Bo.-H Bh" Has Houses to Let and for Sals in various parti of the Town aad oat districts. Also Land to ks Sold for Bnilding p a. Adraaoes made fA Baildera. Estates laid ont. Renta Golleoted, asi Property oarafally managed. COOK &T0WNSHEND Warm Wool Oomforts for Soldiers and Sailors. Splendid collaotion of High Quality Goods at Popular Prices. Wool Socks 1/ 1/6, & 1/llr pair Khaki Wool Mitts, 1/- & 1/6 Rjr Natural Wool Body.Belts, 1/6ach Balaclava Sleeping Helmets 1/11 and 2/6 each. Cardigan Jackets, 4/11, 5/11 & 6/11 Special line of Men's Khaki Cardigan Jackets, 6/11 each Men's Army Grey Shirts 3/11 & 5/11 each #< Men's Khaki Shirts 4/11 & 5/11 each. Special Prices quoted for Church Guilds eto By-om st. i A Dale St., LIVERPOOL. | W. & J. VENMORE, Estate Agents Valuers, 200 SCOTLAND RD., L,iverpool TsiJEPHOJat No. 4216 Royal (2 ines). ALLAN llMnl LINE To CANADA ,,IV WOOI. M.&%OW. LONDON HATRI TO CANADA, NEWFOUNDLAND UJUk. James St., Liverpool 14 Ooakspui St., S. W., and 103 Leadenhall St. London, S.Oi J. Lloyd Jones, & Co., BSTATE AGENTS, 6 Lord Street, Liverpool MARASN «UI MAMMJ R. Zalspbone—Aafleld. tOt; 115 KENSINGTON, LIVBRPOOL.'i R. W. EVANS, funeral dibectob, AH Orders pononslly attended to throughout. I P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, 364 Stanley Road, L'pool. TELEPROME-261 BOOTLB. VTELEPHONE-575aANFIELD. J. T. JONES, Funeral Undertaker, EVERTON,'????? EVERTON, MdSSfineklUa LIVERPOOL funerals personally arranged to all parte. If you want The most Comprehensive POLICIES io 6D Tn. BEST TERMS$ write for partUmlars to The Gresham LIFE, FIRE, AND ACCIDEN1 Insurance Offices. SDud Office t St. Mildreds Boote Foulitryl LONDON. 3.49. Branch Offlceli 014]Exchanse B'li LIVERPOOL. JAMES B. SCOTTI Oeaeral Manaser DIM TALU YMLAB. LLAW. ARIAN YN FENTHYG. (yn ddistaw bach), mewn symian bach asn faw (heb fod llai na £10) AR A. DDAWEB T BBNT As Y 610) 8BFTDLWTD HR. M MLYNIBDD. ac yn awr yn rhot ICBC.000 YN FBJlTHYG BOB BLWYDDY8 it Am daflen a thelsrau ymofynnsr a George Payne a81 Feib., 8 Crescent Read, Rhyl, a 16 School Lane, Liverpool, LADIES BLANCH4RD PILLS  stard roD md mov" 1.alte.aIIn1U8 an -am *?  PM?ytoy<d. m Ootht*,BtttMA??? ?WCM?S am the bed of .U P? <er We?.11 MM bMM, ill}, j? DOO&W &MMtM. ?mt': Br. Md ?N (?Nah?. pGlt MUMMt?tM? LENLtB ?AMTYN. L? aM???t??..lM? L Bootle Auction Rooms, 76 & 78 STANLEY RD., BOOTLE, W. H. Butterfield Co. holds Weekly Sale at their Rooms erary Friday Evening, 7 p.m. Furniture and Stocks of every kin for prompt sash. Tetspfcuras 1299 BeaMe. -TYPEWRITERS All makes at modmfis prloss. •flies Farnttars and aU TrpewMtng Susclalitiss JOHN R. FOULKES, 12 Fanwlak St., Uvarpool. Oantrml 70TS Tlflnsufcinil Dnt-  Sm S hS?S?t,