Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Basgedaid o'r Wlad.I

News
Cite
Share

Basgedaid o'r Wlad. FFYNNON GROEW.—Cafwvd cyfarfod neilltuol o ddiddorol yng nghapel y M.C. y 14eg., er dathlu talu'r ddyled oddiar yr organ. Te yn y prydnawn, a chyfarfod amrywiaethol yr hwyr, pryd y cafwyd nifer o adroddiadaii a chaneuon gan rai o blant ac aelodau'r eglwys. Rhoddwyd hanes yr Achos yn y lie o 1871 hyd 1918 gan y Trysorydd, Mr. Jacob Roberts, ac yn hanes diddorol tros ben a chafwyd hanes yr Organ—y son a fu am ei chael, a'r ym- drechion a wnaed i'w chael, ynghyd a'i gwasanaeth gwerthfawr i ganiadaeth y Cysegr, gan yr ysgrifennydd, Mr. Edward Lloyd. Gofidiai pawb fod yr Organydd, Mr. T. E. Jones, yn absennol oherwydd afiechyd; gwasanaethwyd wrth yr offeryn gan Miss Jones, Leeds House. Datganwyd cydyrn- deimlad dwfn a'r Anrhydeddus J. Herbert Lewis, A.S., yn ei waeledd, a dyniunwyd idlo adferiad buan. Cynhygiwyd diolch- garwch gwresog gan Mr. R. Davies, i ysgrif- ennydd trysorfa yr Organ, Mr. E. Lloyd a'r Trysorydd, Mr. R. Davies, Point of Ayr, ac i bawb a gymerodd ran, a chefnogodd; Mr. D. H. R. Owen. Llywyddwyd gan Mr. James Roberts, Quay Stores, Mostyn. Casglwyd at anfon cysuron i fechgyn yr eglwys sydd yn y Fyddin. klARW PATRIARCII,-Mawrth 18, bu farw'r patriarch Wm. Williams, Traws- coed Bach, Maerdy, Corwen, yn 85 rnlwvdd oed. Mab ydoedd i Wi-n. Barnad, Ty'n y Rhos, o'r un gymydogaeth,ond mabwysiad- odd y cyfenw Williams yn lie Barnad. Yn fuan ar ol priodi dechreuodd fasnachu mewn ymenyn ac wyau, a theithiodd i'r Cefn a Rhos y Medre unwaith bob wythnos am yn agos i banner can mlynedd, y rhan gyntaf o'i oes gyda gwedd—nid oedd tren i Gorweu yr adeg honno. Nid oedd jaeb yn meddu mwy o ymddiriedaeth yr ardalwyr. Bu'n aelod o Eglwys Glan yr Afon, a chredwn iddo fod yn aelod am dymor I yn Soar gyda'r Annibynwyr. Ond yn Eglwys Dinmael y treuliodd 45 mlynedd I olaf ei oes. Y dydd Sadwtn dilynol daeth tyrfa o berthynasau a chyfeillion i hebrwng ei weddillion i fynwent Capel Dinmael. Qwasanaethwyd gan y Parch. Henlyn Owen, yr hwn a sylwodd ein bod wedi dod i dalu'r gymwynas olaf i hen dad yn Israel, gwr a fu a'i ysgwydd yn dyn o dan yr arch ac yn ffyddlon i gyfarfodydd yr Eglwys hyd eithaf ei allu. Cafodd ei ran o brofedigaeth- au, ond ni chlywyd ef yn cwyno, yr oedd llawenydd a heulwen yn ei grefydd. Teiml- ai'n falch iddo gael gwneud ychydig i hy- rwyddo'r deyrnas nad yw o'r byd hwn. Meddai gof cryf, a chanddo ystor o hen ben hillion nas ceir yn yr un o'rLlyfrau Emynau, ac adroddai hwy gyda bias pan ai y seiat yn heap. Nid oedd raid ond myned atWilliam Williams a gofyn am bennill i ail godi'r hwyl. Gadawodd weddw alarus, agos yr un oed ag yntau pump o feibion, a dwy ferch. Dau e'r meibion yn Utica ers dros 30 mlynedd, ae yn cymryd en rhan ym mysg y Cymry, aef Owen a W. D. Williams. Da fyddai i'r Drych sylwi ar hyn. CYMRODORION DYFFRYN AFAN A MARGAM.—Bu r Cymry iawn ae nid ail Raw hyn yn cadw Gwyl Ddewi Chwef. 27, yn ysgoldy Bethany, Port Talbot Mr. Haydn Lewis, eu llywydd, yn y gadair; a'r rhaglen yn cynnwys anerchiad ar Ddeivi Sant gan y gwr gwadd am y noson, sef y Parch, D. Eurof Walters, yr hwn a gyflwyn wyd gan y Parch. D. Morlais Davies, B.A., a diolchwyd iddo ef a phawb ar y diwedd can y Parch, J. Rees (Ap Nathan). Can wyd pethau gwlatgar gan Miss Jennie Thorn as, Mr. Geo. Llewelyn, Mr. D. J. Davies canwyd y crwth gan Mr. Haydn Griffiths caed adroddiad gan Mr. Islwyn Morgan, eanodd Llinos Cwmaman gyda'r tannau, a Mr. D. J. Thomas yn delynor iddi; a chaed hanes cyrddau'r tymor gan Mr. David Jones, yr ysgrifennydd. Cyfeilydd, Miss Gwyneth Jenkins. Hwyl, gwres, a grym-y tri byn ;i a'r mwyaf o'r tri, yn anodd dweyd.¡.¥M. NANTLLE.-Prynhawn dydd Iau bu angladd y diweddar Mr. Robert Roberts, County Road. Man ei feddrod ym Macpela, a'r Parchn J. M. Williams, R. W. Jones (Cilgwyn), a R. J. Parry yn gwasanaethu. Hen chwaer gymeradwy oedd Mrs. Ann Williams, Gladstone Farm, Pen y Groes, a fu farw nos Fercher. Hyhi'n un o ffydd- ioniaid Saron (M.C). Un o ffyddloniaid Calf aria (B) oedd Mr. Owen Owens, Clogwyn Melyn, a fu farw nos Wener. Dyma swydd ?gion Cynghrair Eglwysi Rhyddion Tal y S?? am y flwyddyn :—llywydd, y Parch. R. J. Parry; is-lywydd, Mr. H. Menander Jones trysorydd, y Parch. W. Williams; a'r Parch.J.Jones (Hyfrydle) yn ysgrifennydd Y Cynghrair yn anghymeradwyo yr anog- aethau i weithio ar Ddydd yr Arglwydd. Cyfarfod Coffa yn y Cilgwyn nos Fawrth i Mr. John Williams, y Bell, "milwr da i leau Grist," y gweinidog (y Parch. R. W. Jones) yn arwain. Cafwyd gair gan y Parchn J. M. Williams, R. J. Parry, Mri. B. T. Evans, Rd. Williams (Tal y Sarn), a H. Pritchard (diacon o'r Eglwys). An- fonwyd llythyr hefyd gan weithwyr Dorothea yn dwyn tystiolaeth ragorol i'w gymeriad. Bydd Miss 0. J. Roberts, prif athrawes Tsgol y Babanod Pen y Groee, ya symud ar fyrder i gymryd gofa1 Y sgol) Deiniolen. Un or fro honno yw Miss Roberts. Chwith gennym ei cholli o'a mvsg. Cafwyd oddeu- tu ugain punt o^elw^oddiwrthj gyngherddau plant yr Ysgol. Anfonir y cyfan i'r bech- gyn sydd yn y Fyddin. Rhodd ariannol a roddir y waith hon. Cyngherddau plant Pen y Groes yn unig a olygir gennym. LLANELID A N.— Yv wythnos o'r blaen daeth Edwin Williams, mab Mrs. Thomas Williams, Hendre Bach, adref o Canada wedi bod yno am bedair blynedd, i ymuno a llynges ei wlad enedigol. Edrychai'n dda a chalonnog. Fis yn ol derbyniodd Mrs. E. Roberts, Bryntirion, hysbysrwydd fod ei mab. Private R. E. Roberts, R.W.F., mewn ysbyty ym Mesopotamia. Wedi hynny cafodd air oddiwrtho ef eij,bun,| yr hyn a roddodd dawelwch^ mawr| iddi, mae yno ers misoedd lawer. Dywed iddo ddod ar draws dau o'r ardal hon yno a da gennym ddeall ei fod wedi gwella.—L.E.P. • o

I IHeddyw'r Bore

| Ein Gmd! p 1 wsiran. I

RHIWMATIC AO ANHWYLDEBI Y…

Advertising