Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
Tnf. LIVE. R POOL OLD POST OFFICEPLACI ( j LARGEST saECTtON LOWEST PRICES TELEPhuNfc 3075 ROYAL
Basgedaid o'r Wlad.I
Basgedaid o'r Wlad. FFYNNON GROEW.—Cafwvd cyfarfod neilltuol o ddiddorol yng nghapel y M.C. y 14eg., er dathlu talu'r ddyled oddiar yr organ. Te yn y prydnawn, a chyfarfod amrywiaethol yr hwyr, pryd y cafwyd nifer o adroddiadaii a chaneuon gan rai o blant ac aelodau'r eglwys. Rhoddwyd hanes yr Achos yn y lie o 1871 hyd 1918 gan y Trysorydd, Mr. Jacob Roberts, ac yn hanes diddorol tros ben a chafwyd hanes yr Organ—y son a fu am ei chael, a'r ym- drechion a wnaed i'w chael, ynghyd a'i gwasanaeth gwerthfawr i ganiadaeth y Cysegr, gan yr ysgrifennydd, Mr. Edward Lloyd. Gofidiai pawb fod yr Organydd, Mr. T. E. Jones, yn absennol oherwydd afiechyd; gwasanaethwyd wrth yr offeryn gan Miss Jones, Leeds House. Datganwyd cydyrn- deimlad dwfn a'r Anrhydeddus J. Herbert Lewis, A.S., yn ei waeledd, a dyniunwyd idlo adferiad buan. Cynhygiwyd diolch- garwch gwresog gan Mr. R. Davies, i ysgrif- ennydd trysorfa yr Organ, Mr. E. Lloyd a'r Trysorydd, Mr. R. Davies, Point of Ayr, ac i bawb a gymerodd ran, a chefnogodd; Mr. D. H. R. Owen. Llywyddwyd gan Mr. James Roberts, Quay Stores, Mostyn. Casglwyd at anfon cysuron i fechgyn yr eglwys sydd yn y Fyddin. klARW PATRIARCII,-Mawrth 18, bu farw'r patriarch Wm. Williams, Traws- coed Bach, Maerdy, Corwen, yn 85 rnlwvdd oed. Mab ydoedd i Wi-n. Barnad, Ty'n y Rhos, o'r un gymydogaeth,ond mabwysiad- odd y cyfenw Williams yn lie Barnad. Yn fuan ar ol priodi dechreuodd fasnachu mewn ymenyn ac wyau, a theithiodd i'r Cefn a Rhos y Medre unwaith bob wythnos am yn agos i banner can mlynedd, y rhan gyntaf o'i oes gyda gwedd—nid oedd tren i Gorweu yr adeg honno. Nid oedd jaeb yn meddu mwy o ymddiriedaeth yr ardalwyr. Bu'n aelod o Eglwys Glan yr Afon, a chredwn iddo fod yn aelod am dymor I yn Soar gyda'r Annibynwyr. Ond yn Eglwys Dinmael y treuliodd 45 mlynedd I olaf ei oes. Y dydd Sadwtn dilynol daeth tyrfa o berthynasau a chyfeillion i hebrwng ei weddillion i fynwent Capel Dinmael. Qwasanaethwyd gan y Parch. Henlyn Owen, yr hwn a sylwodd ein bod wedi dod i dalu'r gymwynas olaf i hen dad yn Israel, gwr a fu a'i ysgwydd yn dyn o dan yr arch ac yn ffyddlon i gyfarfodydd yr Eglwys hyd eithaf ei allu. Cafodd ei ran o brofedigaeth- au, ond ni chlywyd ef yn cwyno, yr oedd llawenydd a heulwen yn ei grefydd. Teiml- ai'n falch iddo gael gwneud ychydig i hy- rwyddo'r deyrnas nad yw o'r byd hwn. Meddai gof cryf, a chanddo ystor o hen ben hillion nas ceir yn yr un o'rLlyfrau Emynau, ac adroddai hwy gyda bias pan ai y seiat yn heap. Nid oedd raid ond myned atWilliam Williams a gofyn am bennill i ail godi'r hwyl. Gadawodd weddw alarus, agos yr un oed ag yntau pump o feibion, a dwy ferch. Dau e'r meibion yn Utica ers dros 30 mlynedd, ae yn cymryd en rhan ym mysg y Cymry, aef Owen a W. D. Williams. Da fyddai i'r Drych sylwi ar hyn. CYMRODORION DYFFRYN AFAN A MARGAM.—Bu r Cymry iawn ae nid ail Raw hyn yn cadw Gwyl Ddewi Chwef. 27, yn ysgoldy Bethany, Port Talbot Mr. Haydn Lewis, eu llywydd, yn y gadair; a'r rhaglen yn cynnwys anerchiad ar Ddeivi Sant gan y gwr gwadd am y noson, sef y Parch, D. Eurof Walters, yr hwn a gyflwyn wyd gan y Parch. D. Morlais Davies, B.A., a diolchwyd iddo ef a phawb ar y diwedd can y Parch, J. Rees (Ap Nathan). Can wyd pethau gwlatgar gan Miss Jennie Thorn as, Mr. Geo. Llewelyn, Mr. D. J. Davies canwyd y crwth gan Mr. Haydn Griffiths caed adroddiad gan Mr. Islwyn Morgan, eanodd Llinos Cwmaman gyda'r tannau, a Mr. D. J. Thomas yn delynor iddi; a chaed hanes cyrddau'r tymor gan Mr. David Jones, yr ysgrifennydd. Cyfeilydd, Miss Gwyneth Jenkins. Hwyl, gwres, a grym-y tri byn ;i a'r mwyaf o'r tri, yn anodd dweyd.¡.¥M. NANTLLE.-Prynhawn dydd Iau bu angladd y diweddar Mr. Robert Roberts, County Road. Man ei feddrod ym Macpela, a'r Parchn J. M. Williams, R. W. Jones (Cilgwyn), a R. J. Parry yn gwasanaethu. Hen chwaer gymeradwy oedd Mrs. Ann Williams, Gladstone Farm, Pen y Groes, a fu farw nos Fercher. Hyhi'n un o ffydd- ioniaid Saron (M.C). Un o ffyddloniaid Calf aria (B) oedd Mr. Owen Owens, Clogwyn Melyn, a fu farw nos Wener. Dyma swydd ?gion Cynghrair Eglwysi Rhyddion Tal y S?? am y flwyddyn :—llywydd, y Parch. R. J. Parry; is-lywydd, Mr. H. Menander Jones trysorydd, y Parch. W. Williams; a'r Parch.J.Jones (Hyfrydle) yn ysgrifennydd Y Cynghrair yn anghymeradwyo yr anog- aethau i weithio ar Ddydd yr Arglwydd. Cyfarfod Coffa yn y Cilgwyn nos Fawrth i Mr. John Williams, y Bell, "milwr da i leau Grist," y gweinidog (y Parch. R. W. Jones) yn arwain. Cafwyd gair gan y Parchn J. M. Williams, R. J. Parry, Mri. B. T. Evans, Rd. Williams (Tal y Sarn), a H. Pritchard (diacon o'r Eglwys). An- fonwyd llythyr hefyd gan weithwyr Dorothea yn dwyn tystiolaeth ragorol i'w gymeriad. Bydd Miss 0. J. Roberts, prif athrawes Tsgol y Babanod Pen y Groee, ya symud ar fyrder i gymryd gofa1 Y sgol) Deiniolen. Un or fro honno yw Miss Roberts. Chwith gennym ei cholli o'a mvsg. Cafwyd oddeu- tu ugain punt o^elw^oddiwrthj gyngherddau plant yr Ysgol. Anfonir y cyfan i'r bech- gyn sydd yn y Fyddin. Rhodd ariannol a roddir y waith hon. Cyngherddau plant Pen y Groes yn unig a olygir gennym. LLANELID A N.— Yv wythnos o'r blaen daeth Edwin Williams, mab Mrs. Thomas Williams, Hendre Bach, adref o Canada wedi bod yno am bedair blynedd, i ymuno a llynges ei wlad enedigol. Edrychai'n dda a chalonnog. Fis yn ol derbyniodd Mrs. E. Roberts, Bryntirion, hysbysrwydd fod ei mab. Private R. E. Roberts, R.W.F., mewn ysbyty ym Mesopotamia. Wedi hynny cafodd air oddiwrtho ef eij,bun,| yr hyn a roddodd dawelwch^ mawr| iddi, mae yno ers misoedd lawer. Dywed iddo ddod ar draws dau o'r ardal hon yno a da gennym ddeall ei fod wedi gwella.—L.E.P. • o
I IHeddyw'r Bore
I Heddyw'r Bore 0 BRYDAIN DRYTHYLL Gwyddis bod pwyllgor penodedig gan Dy'r Cyffredin wrthi'n chwilio i mewn i'r fieithiau am y godineb sy'n ffynnu mor alaethusf'yn y wlad hon. Mor chwannog y buom ni Brydeiniaid f hunan-gyfiawn ■ i edliw i Ffrainc ei hanniweirdeb ond nid oes gennym y rhithyn lleiaf o le i frolio dim, eithr i blygu pen mewn gwarth fod yr haint a,'r llosgach cnawdol hwn mor arswydus o gyffredin drwy'r wlad ae "yn lladd mwy lawer o'n pobl nag a ladd y rhyfel. Ac mewn cyfarfod o'r pwyllgor uchod yr wyth- nos ddiwedclaf, dvwedodd Syr John Burns beth felhyn :— "Po isaf yr ewch i lawr yng ngraddfa cymdeithas, lleia'n y byd a geweh o 11 haint y godineb/5 set yw hynny :—dweyd bod tlodion y wlad yn llawer mwy diwair a glan o'r ymlcsgach na'n mawrion ucheldras, cyfoeth a diogi y rhai sy'n ceulo ae yrabesgi nesbod yr ad- nod honno sydd yng Ngalarnad Jeremeia yn dragwyddol wir amdanynt :— Y rhai a ymborthent yn foethus, ddifethwyd yn yr heolydd v rhai a feithrinwyd mewn ysgarlad a gofleid- ia-nt'y tomennydd." Ac y mae clywed a glywir am buteindra Prydain, ar adeg mor ddifrif a hon, yn peri i ddýn ofyn pa faint, gwell ydym, wedi'r cwbl, na'r paganiaidJdi-Ddatguddiad a ddis- grifiwyd mor ofnadwy gan Paul yn y bennod gyntaf o'i Lythyr at y Rhufeiniaid,—pennod a mwy o realism ynddi na dim a sgrifennodd Emile Zola erioed. Gymry annwyl ny llanciau a lodesi, ymogelwch am eich hywyd rhag cychwyn ar y llwybr llithrig hwn. I OOFIOfJOHN RHYS.-Y mae'rJPrif Weinidog fwedifcydsynio bod yn ben y pwyllgor sy'n trefnu coffliau'r diweddar Syr John Rhys drwy gael traddodi darlith flynyddol o flaen yr Academi Brydeinig, y darlithiodd Syr John ei hun ger ei bron mor ddisglair a dihysbydd ei ddysg. Swnia Syr John Rhys yn dda, ond John Rhys yn well byth, canysjpo uchaf y byddo dyn o ran gallu a dysgeidiaeth, lleia'n y byd y rhaid iddo wrth ben na chynffon i'w enw. Treiwch ddweyd Syr Paul, Syr loan y Difeinydd, Syr Wm. Shakespeare, Syr Williams Pant y Celyn a Lady Ann Griffiths, gael ichwi weld mor wrthun a syrffed y peth CANU I'R CNAWD.—Y mae un o feirdd y De wedi ei gythruddo gan y son fod ieuenctid ei ardal yn cael hwyl ar ganu'n hofi emynau tan lyrneitio mewn tafarn ae:ebe fo :— Dywed calon gwlad yn unllef Nad y dafarn ydyw cartref Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau" A Bydd myrdd o ryfeddodau," A melodaidd seiniau esmwyth Crug y Bar ac Aberystwyth. Yn dy ryfyg, gyfaill, gochel Rhag i ryw ddigofus angel Droi sant eiriau'r hen emynau 'N ddafnau tfln ar dy wefusau. TORRI CRIB Y CEILIOG.-Y mae'r newyddion da o faes y rhyfel yn peri i ddyn ysu na chawsai weld yr olwg sydd ar y Caiser wrth weld ei Fyddin ar encil, a'i holl frol a'i freuddwydion yn mynd gyda'r gwynt. Dyma ddechreu torri crib y ceil- iog sydd wedi clowca ar domen Ewrop ers cyd a diau fod cynddaredd yr Ym- herawdr yn ddigon i doddi'r ewyr oaled hwnnw sydd wedi cadw'i fwstas mor stiff a'i ysbryd hyd yma. Newyddion mawr yw'r newyddion diweddaf yma, ac yn ar- goel o rai mwy i ddod eto pan welir bwch gafr y Royal Welsh Fusiliers yn rhoddi blaen ei gom drwy ffenestrparlwrPötsdam ac yn gwneud Berlin yn barod i lewion Cymru ddod yno i gadw cymanfa g nu, yn ddiolchgarwch am ddiwedd y rhyfel. SYR OWEN. THOMAS YN EI GYN. EFIN.—Ymwelocld Syr Owen Thomas a'i hen gartref yng Nghemaes, Mon, yr wythnos ddiweddaf ac achubodd y bobl y cyfle i ddangos iddo fo—a'i elynion morfawr yw eu syniad amdano. Trefnwyd gorymdaith fawr, tynnwyd o mewn eerbyd gan y bobl- i'r N en add sydd yn y pentre chwifia-i baner o bob siop a thy a thwlc tynnid y ce'tbyd gan ugeiniau, a phawb yn ymladd am ga-el rhan yn y rhaffau. 'Doedd dim lie yn y Neuadd i banner y dyrfa a fyrinai fod yno. Mr. W. Hughes- Jories, Y.H., oedd yn y gadair cyflwynwyd tusw o flodau tlysion i Syr Owen gan ferch bump oed y Parch. Llewelyn Jerman caed anerchiadau gan Mri. O. Owens, R. Williams (Penllyn), J. C. Jones, Y.H.( Cafn- au), H. Parry" Edwards, H. E. Jones, y Parchn J. S. Evans, LI. Jerman, H. Rich ards, W. P. Thomas, ac eraill. Cyflwvnodd Mrs. Roberts y Fron, ar ran y tanysgrifwyr, anerchiad hardd ei gweithiad a molawdus ei geiriau i Syr Owen ac wedi i Miss Lena Jones ganu, cododd Syr Owen i gydnabod y cwhl, gan wneud y lle'nboethach byth o frwdfrydedd lVIonwysaidd. Wedyn, cododd y Parch. J. Williams, Brynsiencyn, i ddat- gan ei deiinladau, da a diolchgar am weld Syr Owen yn cad ei haeddiant o'r diwedd, ac i ddweyd y byddai rhieni Cymru dan ddyl- ed. fytliol iddo am. a whaeth, yn dymharol ac ysbrydol, i'w bechgyn yn y Fyddin. Cafwyd anerchiadau barddonol gan y Parch. LI. Jerman, Henry Williams, a Rhydfab, ac anfonwyd gwifren longyfarch i Lady Thomas. Dyma',r miri a'r gorohian mwyaf a fu yng Nghemaes erioed,-yr oedd fel pe buasai Owen Glyn Dwr wedi dod o'i fedd a chord ded i ail fflamio'r hen genedl. BRAD MASNAGH RYDD.—Dydd du i Fasnach Rydd oedd dydd Mercher diwedd- ai, pan gymeradwyodd Ty'r Cyffredin gyn- hygiad Mr. A. Chamberlain i osod 4 y cant o doll ar gotwm a allforir o Brydain i'r India. Dyna dorri'r cytundeb a wnaethid nad oedd pwnc politicaidd pleidiol fel hwn i'w ddwyn gerbrcn hyd nes terfynai y rhyfel, a dyma ddechreu agor y drws i fwgan Diffyndoll, yn rhith Angel Hedd Trefedigaethol, ddod i fewn i lygru'r wlad. Trist gweld agwedd yr Aelodau Cvmreig, canys fotiodd y rhain o blaid y doll ac yn erbyn eu hen gredo gu— Masnach Rydd: Wm. Brace,* J. H. Cory, D. Davies, Vaughan Davies, Clement Ed- wards, J. H. Edwards, D. 1..1. George, Syr A. Mond, Col. Prvce-Jones, L. Haslam, Syr Ifor Herbert, J. Hinds, Edgar Jones, Towyn Jones, Ormesby Gore, G. C. Rees, Syr J. H. Roberts, C. B. Stanton, T. J. Will- iams.—19. Dim ond da-Li-E. T. John a W. F. Roch—a fotiodd yn erbyn y doll. 8cb folio :Herhert Lewis, T. H. Parry, Ellis Davies, E. J. Griffith, Haydn Jones, Syr F. Edwards, S. Robinson, Guest, Llew. elyn Willis irr, JWilljam8, Mabon.McKenna, T. RichardF-13. Y rhai a seren(*) wrth eu henwau yn dal swydd yn y Llywodraeth. Yr unigAelodLlafur a fotiodd dros y doll oedd W. Brace, sef yr Is-Ysgrifennydd Cartref ol ymgadwodd amryw Ryddfrydwyr o'r ym- raniad rhag ymddangos eu bod yn gwrth- wynebn'r Llywodraeth. Fotiodd y tri A.S. Torlaidd dros Gymru dros y doll. Ni fotiodd ond dan o bob pump o aelodau Ty'rCyffredin. O'r Aelodan Rhyddfrydol drwy'r deyrnas, fotiodd 63 o blaid y doll, a 21 o'r 63 yn dal swydd dan y Llywodraeth fotiodd 60 o aelodau Rhyddfrydol yn erbyn y doll; a chadwodd 175 aelod a'r ymraniad.
| Ein Gmd! p 1 wsiran. I
Ein Gmd! p 1 wsiran. Ni fetha Crist os methodd etEe?wys UN o brif ddigwyddiadau'r tlwyddyn yw Cymanfa Bregethu pedwar capel y Method- it-tiaid. Ambell waith cyfyd rhyw bethau eithriadol i ddenu tyrfa, ond ii id yw darlith, eyngerdd, te parti, Eisteddfod ond ffurflau ar gicaion undydd, o'u cyrahara a'r Gymanfa hon, er mai etifeddiaeth un enwad ydyw. Y cenhadon y tro hwn oedd y Parchn. J.Owen, M.A. Caernarfon; J. H. Williams, Porth- madog; R. R. Hughes, B. A. aH. H. Hughes, B.A., B.D., Lerpwl. Gynhaliwyd y Seiat Gyffredinol yn Heywood St. nos Sadwrn. Y Parch. E. Wyn Roberts yn llywydd. Cyfeiriodd at amryw bethau yng nghylch v Cyfarfod Misol. Ni ehollwyd oud un aelod y flwyddyn ddiweddaf, sef Evan Jones, Bolton, ond collwyd dau y flwyddyn hon, sef Daniel Roberts, Pendleton, swyddog ffyddlon o deulu enwog am eu gwasanaeth a'r Parch.Thos. Hughes, Stockport, gwr byw iawn i bopeth. Collwyd hefyd trwy symud i le arall y Parch. J. S. Roberts, o Bolton i Ddinbych a'r Parch. Hugh Jones o Tyl- desley i Hen Golwyn a Chaergybi. Daw dau arall yma yn eu lie, sef y Parch Lloyd Williams i Moss Side, ac arall gyda gradd o sicrwydd i eglwys Bolton. Ni chaed adroddiad am yr ystadegau y tro hwn am nad ydynt eto wedi eu cwblhau. Gofidiwyd am anallu'r YsgrifenDydd-y Parch. E, Humphreys—i fod yn breseunol; ac hefyd Mr. Williams, Victoria Park. Cyhoeddwyd fod 247 o enwau yn Rhol Anrhydedd yr eglwysi, a 12 wedi aberthu eu bywyd; un o Ashton, Bury, Oldliam. a Phendleton, dau Vi etoria Park a Tyldesley, a phedwar o Moss Side Testyn y gyfeillach oedd Brenhim^eth Crist, seiliedig ar yr ail Salm. Dewiswyd y testyn gan Mr. WUl. Jones, swyddog yn Heywood St. oedd yn glafacanaUuog i fod yn bresennol. Agorwyd gan y Parch. J. Owen. Wedi ychydig sylwadau rhag- arweiniol gan y Llywydd, dywedodd mai brenhiniaeth Crist, nid Duw, sydd yn y Salm. Ceir yn y Salm derfysg y bobl a gwrthryfel dynion ar un tir, ac ar y Hall sicrwydd tawel am frenhiniaeth y Mab. Terfysg ar y ddaear, ond yn y Nef mae gosodiad y Mab yn Frenin gan Dduw. Dyma sicrwydd IJIlai Crist biau dyfodol y byd. Hen freniniaethau y byd yw y bwystfilod yn llyfr Daniel, ond gwelodd y proffwyd y Mab yn dod yn frenin ar y ddynoliaeth i gyd. Am ei fod yn Fab y mae yn Frenin, ac y mae yn Fab Duw a dyn, heb derfyn i'w frenhiniaeth. Nid oedd dim arall yn deilwng, wrth greu y byd, ond ei roddi i Grist. Crewyd y byd trwyddo- mae naws y frenhiniaeth ar bopeth. Taflodd Abram ddiflastod ar bopeth pan orfu iddo ddweyd "caetbwas fydd fy etifedd," ond mae gan Dduw Fab, a cheir awgrym gan y proffwyd pwy biau'r byd. Nid oes ond dau ymgeisydd, Crist a diafol. Difa'r deiliaid y mae teyimas y drwg, ond eu gogoneddu gftnt yn nheyrnas y da. Maluriwyd rhai o ymerodraethau eadarnaf y byd oherwydd aflendid. Mae Crist yn ddatguddiad o Dduw, a'r pethau cryfaf yn ei fywyd ar y ddaear oedd addfwynder, tynerwoh, grae, cariad, trugarecld. a maddeuant. Ni all Duw goncro ewyllys dyn a'i hoUaIluogrwydd, ond gall ei lethu a gall ei goncro a'i gariad. Elfennau tyneraf Duw fydd pwerau cryfaf y byd yn y man. Ni fedr y fidog a'r cledd byth goncro cenedl. Mae aberth Crist yn haeddu iddo fod yn ben. Nid oes dim gan Dduw yn fwy Dwyfol na'r gallu i aberthu ac y mae eisieu ein dysgu am werth aberth dynion yn y rhyfel preaennol. Mae Duw yn mynd i anfon ei Fab i'r byd yn gyfiym- ach trwy y rhyfel nag hebddo, ac y mae sicrwydd fod Duw yn prys-uro Crist ar vr orsedd. Traethodd y Parch. II, H. Hughes yn Saesneg, a dyma'r lli'nell a gymerodd :— It is so easy to talk about the Sovereignty of Christ, but so hard to realize. One writer said that he was unable to write about things now, because he saw they are so big. Our mind is not able to rise to the magnitude of things in theoe times. We are passing through a time of tests, and we are comfronted with questions we never have confronted before. Can we believe in GodAlmighty, and believe He is good too, when we see things happening on this earth ? The sovereignty of Christ, was familiar to I us, and it is the fundamental truth of our religion. Only the Lord of all can be the Redeemer of mankind, and only the King can save even one soul. After 19 centuries can we believe in the sovereignty of Christ Think of the shellbroken ground, and the myriads of men gathered to slay one another, and all the power of minds concentrated to carry on this terrible war. Is the sovereignty of Christ a fact or a dream ? Is He simply a King now, or that we wish Him to be a King ? The Bible says He is the King. He is to be more j fully a King, His reign is established. There is a purpose running through this turmoil; there is not even an idea, but a truth making its way out. There is a sovereignty gov- erns the world, it is the very basis of human thought. Science says that law governs the world, and running through the whole creation. The philosopher comes and says it is not that; it's a truth, an idea working | itself out. Then religion says it is not that, J. but that there is a God, a truth, a person j ality coming out, but hides itself in the j sovereignty of Christ. He reveals His whole j mind, His whole nature and method, This terrible event says Christianity is hank- rupt, but it is not, it maybe that-the Church is bankrupt. Has it dawned on your minds j what little the church counts in this world ? How much force is there in what the church says and does in these times ? I feel ashamed that the Church does not count. Christianity has not failed. God forgive us that we have failed in our mission and pray that He gives us another chance. Oh that we get a new, mission of His Comforter, that we can prove the greatness of His sovereignty. There is a relation between His sovereignty and the church, Christ reigns in it, and there we find it nearest perfection. It is the place where Christ dwell?,—you must have a body for every spirit. There is a sure sign these days that divisions and sects wish to unite. Oh that we should animate with one mind, and with one object. The Church ought to be the conscience of the poeple %id the conscience of the country. The opinion of the Church should mould public opinion. It could make the country un- easy while wrong is in the world. We want more than munitions and money to win this war-we want morality. Cyfeiriodd y Parch. R. R. Hughes at amryw o sylwadau'r anerchiadau blaenorol, gan, helaethu arnynt. Dywedodd hefyd mai y eamgymeriad mawr yn awr yw tybio mai dynion sydd yn gwneud popeth ae nid Duw, oherwydd fod Duw yn gwneud yn-ddistaw a dyn yn dyrfus. Mae'r deyrnas yn sier o Iwyddo am mai t, eyrna j Dduw ydyw ac y bwysig i ni yn y cymheiri rnawr fod yn sicr am y deyrnas. Mae'n fethiant un oes, ond dyma unig lwyddiant yr oesau. Nid oes ond un ew'yllys sydd yn para trwy'r oesau. Mae'n sier o lwyddo, hid er pob rhwystr, ond trwy bob rhwystr. Achlysuron ei Hwyddiant yw rhwystrau, trwy ddinistr yr anghrist. Trwy ryfel mae rhyfel i gael ei ddiddymu. Mae holl fuddugoliaethau y diafol yn llwyd«iianti i Grist, am fod y diafol yn dinystrio'i hun. Trwy ffeithiau hanesyddol hynod o addysg- iadol yr ymdriniodd y Parch. J H Williams a'r pwnc pethau mor darawiadol wrth eu gwrando fel na ellir gwneud tegweh a hwy wrth eu crynhoi. Sylwodd ar y ifaith fod rhai yn yinyrryd a Duw a'i lywodraeth ar y byd yn ymyrryd ag atalf^ydd pechod,- un o'r rheiny yw y Sul ac y mae'r eglwys yn cefnogi gweithio ar y Sul. Un o gyn- Uuniau Duw ambell dro yw gadael i bechod gael ei rwysg. Cynlhm arall ganddo yw cosbi pechod. A chynllun arall yw gwared/a oddiwrth bechod.
RHIWMATIC AO ANHWYLDEBI Y…
RHIWMATIC AO ANHWYLDEB Y KIDNEY. Y mae Rhiwmatic yn ganlyrdad tilic add crystal yn y Ilywethau a'r cymalau, effaith gormod o uric acid yn y cyfansoddiad y methodd yr elwlod (kid- neys) ei symud fel y bwriadodd iiattir gyda kyu y cytuna pob meddyg graddedig. A'r acid hwn yw'r achos o Boen yn y Cefn, Lumbago, Gout, Anhwylrfeb y Dwr, Carreg, Grafel a Dropsy, Mae Hwyddiant; Tabledi Estora at drin Rhiwmatic a ffurfiau ereill o anhwyldeb yr elwlod i'w briodo!i i'r ffaith eu bod yn adferu yr elwlod i weithredu'n naturiol, a thrwy hynnysymudir achos yr anhwyldcb, yr hyn o angenrheidrwydd a symuda'r effeithiau drwg a ddeillia ohono, ac mae wedi iachau achosME dirifedi gwedi methiant meddyginaethau eraill, yr hyn sy'n cyfrif amdanynt yn prysur gymryd lie meddyginiaethau hen ffasiwn a wcrthir am brisiau sydd allan o gyrraedd pawb ond y cyfoethog. Mae Tabledi Estora yn llawn deilyngu y dis- grifiad ohonynt-meddyginiaeth onest am bris gonest —is. • 3c. y blwch o 40 o dabledi, neu chwe blychiad am 6s. 9c. Ar werth gan fferyllwyr ymhob man, neu'n rhad drwy'r post, am y prisiau hyn, oddiwrth. Estora Co., 132 Charing Cross Road, London, W.C
Advertising
For Baths, Lavatories, Closets Frass FiUingit Lead Pipes; etc., apply to- JAMES CHEW & CO., Plumbers' Merchants and Brassfounders. Tel. No. 58 6 60 PARADISE STREET Bank 3402. LIVERPOOL Manutactnrere of'Gopper Cylinders. Boilers. Gas, Washing Boilers. J.HUGHES —T'a?ilcM? ,— ? 20 Oxton Rd. BIRKENHEAD. CV Ladies' cestomes   <  ?'/?'??s  <?? Perfect Fitting OuraanteeC a a a Q a a a a a a a a a a a a o a Q o a a a a a a a 8UIHEA GOLD WEDDINB .R118S I a from 7/6 to 6011. Half-doz best Electro-plated Q Spoons given to each Purchaser of a Ring. U C BALL'S LUCKY ENGAGEMENT RINGS at prices to suit all u o ———————— D D BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, 0 O PlAjerSiie Cards Post Free 33; London Rofld, LIVERPOOL* t CI CCCccccccaccaOCCCCCCCCCCCC "L.> -u .a. n .w'- CYFEIRIAD NEWYDD (Change of Address) D. R. JONES (Alaw Madog), 25 RadstocK Road, Liverpool. Dealer in PIANOS, ORGANS, and HARMONIUMS, MUSIC PUBLISHER, &c. Catalogues Free on applicacion. Terms Cash, or on easy payments to suit Customers* Orders by Post are promptly attended to. Tuning and Repairing a Speciality. Town and Country visited. Dwy gan Newydd yn barod, Pris Swllt yr un. Trwy'r Post, 1 /1. « Saf i fyny dros dy Wlad (Stand for thy Country), W. T. David. Sop. neu Tenor. Mab y Milwr (The Soldier's Son), D. E. Williams, G.R.A.M. Contralto nea Bass. Geiriau Oymraeg a Saesneg. Befyd. y mae i hon eiriau cysegredig, Jerumaen Newydd (The New Jerusalem). For Bedsteads and Beddtng. i% ■Ml t w. WHITTLE SON & STOTT, 100,, 116, 118 t) lZO WHITECHAP,"k;L,, LIVERPOOL. ø Tele-pboDII5 s2 t 31 Royal. {,¡;J