Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

WRTH HEBRWNG i

I Heddyw'r Bore I

News
Cite
Share

I Heddyw'r Bore I DAL DROS Y GEN H IN EN.—Y mae Golygydd y Church Times (Mawrth 2) jm adolygu llyfr Mr. A. E. Hughes, y argyf- reithiwr, ar Leek or Daffodil ?-ac yn cytuno a'i awdur mi'r Genhinen yw'r arwyddlun cenedlaethol iawn, ac nid y Daffodil (Cenin Bedr). Ofnir mai snobeiddiwch sydd wrth wraidd y mudiad yn erbyn y Genhinen a'r beilchion yn dadlu dros y Daffodil am ei. bod hi'n amgenach'ei lliw a'i harogl. Ond y mae'r crach foneddion hyn yn bur barod i gtudo yn eu cylla yr hyn y cywilyddiant ei gludo ar eu brormau. CYMREIGIO'R FAM EGLWYS.Ac yn yr un rhifyn o'r 'Church. Times, ceir ysgrif ragorol, gan wr galluog a dysgedig pwy bynnag ydyw, yn. dadlu'n gryf a goleued- ig dros gael yr Eglwys yng Nghymru yn wir genedlaethol. Pe buasai lie, caraswn ei I chyfieithu yn ei chrynswth, er mwyn profi bod rhai o fawrion y Fam yn gweld pethau mor gywir o safbwynt Cymru a'i gwerin ac nid o safbwynt" Caergaint ac ysweiniaid y palasau.Nid yw'n poeni nemor ddim am Ddad- waddoliad,lI)t' canys os methodd gwaddol gadw'r genedl o fewn yr Eglwys fe fetha ei chael yn ol hefyd. WG WLAN Y GEMILs—Dyma.'r hin yn oer athyllig eto, fel y bu'r mis o'r blaen. Y gaeaf caletaf a gawsom ers yr hawg, a'r gwynt yn ddigon main i fynd rhwng ami un a'i fywyd, canys edrychwch ar golofn marwolaethau'r papurau, a gwelwch ei bod cyhyd ddwywaith bob tro y daw'r heth a'r barrug a gwynt y dwyrain heibio. Oc; bycld y crac lleiaf yn dy babell, cant hwy hyd iddi, cuddiwch a guddioch arno. Ond gwelsom ambell famog ar faes yr wythnos ddiweddaf yn gorwedd dan gnoi ei chil eira o'i chwmpes, a dau oen yn nythu yn ei chesail ac yn edrych yn draethawd o dlysni a thynerwch y buasai'n wiw gan engyl droi oddiwrth y Gogoniant am ehnydli sbio arno. TRY FERWCH A RHWYDWCH. — Y mae Cyngor Llangollen wedi pasio pender- fyniad yn galw ar"y Llywodraeth i dynnu'n ol y gwaharddiad ar bysgota'r afonydd, gan adael y fSrydiau'n agored i bawb ddal hynny o bysgod a fedro. Y mae yno ddigon. o "frithylliaid i gadw llaweroedd yn y Dyfrdwy, a dyma'u mawr eisiau ar fyrdd- au r gweithwyr sydd ar ei glannau. Y DEWR DIWYBOD.-Peth prudd ddiddorol sy'n digwydd droeon yn ystod y rhyfel ydyw hyn milwr yn achub bywyd eyd-filwr clwyfedig o dan gawod dan y gelyn, ond yn marw ei hun cyn gwybod fod ei orchest wedi ennill iddo fathodyn y Llyw- odraeth yn gydnabyddiad o'i lewder. Dyna fel y bu hi gyda'r Sergt. Philip Woolford, mab Mr. a''Mrs."Alf. Woolford, Pen ylBont, Ffestiniog, a" laddwyd chwe mis yn^ oL yn Ffrainc, ac y galwyd ei weddw—Mrs." Edith Woolford, Pont y Cymer-ir Soldiers' Rest yn Mary Street, Caerdydd, ddydd Mercher, i dderbyn y Bath Milwrol (Military Medal) o law Commander y Garrison am ei wrol- deb aehubol. Ymunodd Phil, y funud y canodd. corn y gad yn Awst, 1914, heb aros iq betruso am ddim ond diogelwch ei wlad ae enw da Hen Gymru dangosodd ddeheurwydd cyflym gyda'i orchwylion newydd perthynai i'r Royal Engineers a bu ym mhoetha'r frwydr am ddwy flynedd bron. Clwyfwyd ef droeon, a, bu yn ysbytai Ffrainc rai misoedd; eithr ymwrolsi a hybai bob tro nes y daeth yr ergyd greulon a aeth a'i enaid glan a serchog oddiarnom. Mawr oedd rhif ei gydnabod yn y Gogledd a'r De, a'i hawddgarweh di- orchest yn tynnu pawb ato mor glos. Gad- awodd ei dranc graith ddofn yng nghialon ei dad a'i fam a'r teulu ond balm nobl i'r briw yw cofio'i farw mor ddewr a hunan- aberthol, gan ennill un groes wrth gario un arall. Y dewr diwybod, rneddwn uchod ond dichon y gwyr fwy na nyni i lawr yma. DA A DIFEFL.—Bu un o wyr goreu ac amlyeaf Gogledd Cymru farw ddydd Iau diweddaf, sef Mr. Mr. Issard Davies, Caer- narfon. Dyn chwech a thrigain oed brodor o Drefeglwys, Maldwyn M.A. a chiwrad yng Nghaernarfon ar y cyntaf; ond a ymddihatrodd o'i grys gwyn gan ymroi i wasanaethu'r sir a'r wlad drwy gadw chware teg i addysg. Gwnaethddiwrnod o waith ardderchog, ac fe'i cyfrifir iddo'n gyfiawn- der, er iddo roi fyny'r urddau eglwysig. Eglwyswr^a^Thori egwyddorol, ond teg a difroch at bawb, mewn Capel fel mewn Llan. Bydd ynT chwith" iawn"5 i'r" athrawon amdano, ac i'lawer heblaw hwy o ran hynny. I OLiVa YR ALANAS.Y mae'r Parch. W. Bayley Roberts, B.A., bugail eglwys M.C. Saesneg Hill Street, Rhos Llannerch Rugog, yn mynd i Ffrainc gyda'r Y.M.C.A. Dyna ddwYEtyw'r dine sydd ym mhregethu pob cennad sy'n dychwelyd o'r maes, a'r alanas wedi rhoddi rhywbeth iddynt na f?dr llond cwpwrdd o gyrff diwinyddol. WMAlWr^YMWfGAELWC^vT^ Yt oedd milwyr" Cymreig Alexandria, yr Aifft, wedi ffurfio cor meibion, dan arweiniad Lieut. W. T. Davies, at ddathlu" Gwyl Ddewi.w A phayi"ddoder"Cyinro i-gysgii wrth operatio arno mewn ysbyty, canu emyn y mae yn ei gwgc -„ IFOR HAEL CAER., YBI.~Fel y gwyddis yrfoedd Mr.R. J. Thomas," Garreg Lwyd, Caergybi, wedi cyfrannu ugain mil o bunnau at godiTysgol goffa (at ddysgu amaethydd- iaeth a phethau buddiol a chynhaliol eraill) am lewion Gogledd Cymru a to wedi cwympo yn y rhyfel. Cwrddodd pwyllgor gweith- iol y mudiad yn y Rhyl yr wythnos ddi- weddar, a chyhoeddwyd yno fod deng mil arall wedi eu haddo. Y mae'r peth i'w ddwyn gerbron y Cymry drwy'r byd, canys y mae esiampl rasol gwr y Garreg" Lwyd wedi tynnu erailli fod mor hael ag yntau yn ol eu moddion. ,-OYMREIGIO'R" TIMES.Hen elyn i Gymru a'r Celtiaid fu'r Time8, na byth yn blino taranu yn erbyn yr iaith Gymraeg a'r Eisteddfod a'n Hyrmieilltu- aeth cyn i Mr. Mathew Arnold roi taw ar ei glebar anwybodus a rhagfarnllyd a chael John Rhys a'i GadairGeltaidd ynRhydychen o bobman Dyna ddechreu buddugol- iaeth oedd honno Dyw'r Times sydd ohoni heddyw ddim i'w gymharu o ran grym ac urddas i Times yr adeg honno; ond y mae gobaith y daw'n well maes o law, canys y mae Mr. Aneurin M. Davies—mab y diweddar gerddor Meudwy Davies—wedi cael He ar y staff, a hwnnw'n lie go bwysig. Nid yw ond pedair ar hugain oed, ac i fyny a fo eb<; i gyfeillion yn Llanelli a'r De. SILOD Y SIGARETS.—Pe buasai o fewn cyrraedd, curaswn gefn Dr. Peter Price am godi cymdeithas yn y Rhos i geisio cael pen ar bla, a melltith mygu'r sigarets sy mor andwyol i gyrS a grym ewyllys y to sy'n codi. Y mae sipian coes cetyn yn ddigon niweidiol, ond sipian nicotin drwy bapur fferylledig y sigaret yn gan gwaeth. Y mae'n codi cnwd o silod ysig eu nerfau, mor lwyd-lipa'u gwedd, a'u gwddf a'u cylla'r un lliw atgas a phennau'u bysedd melynddu. Nid peth i ysmalio ag ef mo hwn, and pwnc o'r difrifwch mwyaf, ac y mae llawer iawn o rieni a phregethwyr a blaenoriaid ae athraw- on yn euog o roddi esiampl ddrwg i'r glas- lanciau sy'n ddigon hy arnynt i ofyn am I dhn ar eu tybecyn. Ac yn y papur heddyw, dyma weld y Llywodraeth mewn un lie yn caniatau i lodesi'r munition8 ysmygu'r j geriach andwyol i'w hiechyd a'u glendid a'u Uedneisrwydd. le, wir, hen Holog draws a phendwp yw'r natur ddynol,? na fedrai fyw ar bethau sy'n dda iddL  M???- TWAIN ?yM?!7.—Gwe]aom rhyw ohebydd yn Y Cyniro'n awgrymu mor dda fuasai cael rhywun i gyhoeddi cyfrol I o ffraethebion y Parch. Thos. Chas. Williams, ) M.A. Wel ie, cyfrol ddiddan iawn fuasai hefyd, ac yn gwneud yr un peth i genedl r y Cymry ag a wnaeth Charles Dickens i genedl y Saeson-he taught vt how to laugh megis y dwedodd Argl. Rosebery mor dwt am greawdydd anfarwol Sergeant Buz-Fuz. Y mae ar lawer o bobl dda ofn hiwmor am I eu bywyd, ac yn eu gamgymryd am ys- gafndra; ond hwy allant fod yn eitbaf tawel na fuasai'r Nefoedd byth yn gollwng i Dickens i Loegr na Daniel Owen a T.C.W. j i Gymru onibai fod yn rhaid eu cael hwy a'u I noptimistiaeth i ledu gorwel a siglo ais y ddwy genedl i'w cadw'n i3¡Ch a siriol. Diolch fod yr Hen Wlad yn codi ambell Fark Twain i'w chadw rhag mynd a'i phen i'w phlu. BOED FELLY, O'M RHAN I.-Dyma bapurau bore heddyw yn dweyd gyda llawenydd fod Count Zeppelin wedi marw. Wel, boed felly, Y mae un o'i fath yn hen ddigon a phwy a gollai ddeigryn byth am ddyfeisydd mor ddieflig. BROCHI WRTH BREGETH.—Yn ol y papur bore heddyw, sef bore dydd Mercher, digwyddodd peth pur gyffrous ac anhyfryd yng nghapel Wesleaid Seisnig Caer Gvbi bore dydd Sul diweddaf. Y Parch. F. B. Hankinson,pasiffist croew, oedd yn y pulpud • j a chan dwymo iddi a mynd i ganlyn ei ddawn, dywedodd bethau a dramgwyddodd ei wran- dawyr selog dros y rbyfel. Dyma un o'r fraw- doliaeth honno'n codi ac yn gwaeddi dros y capel; Rwy'n protestio yn erbyn eich honiadau, y rhai sy'n anghyson ag arferiad y cyfun- deb," a Kwrdd a'r protestiwr allan, gan sodlu'n dalog-a ffrom ei wedd. Dywpdodd y pre- gethwr fod yn ddrwg ganddo i'rbrawd fynd, allan; "Ond rhaid inni gofio," meddai, "bod ganddo fab yn y Fyddin." Aeth ymlaen wedyn a'i bregeth, gan ddal fod y rhyfel yn groes i ewyllys Duw. Yn lle'u lleddfu, dyma hyn yn brochi'r Ileill, a wele amryw-ac un o'r blaenoriaid yn eu '_H mysg-yn mynd allan, gan adael y pregethw yn flin a gwelw'i wedd gan fraw a hartrwyddr Methodd bregethu dim rhagor, a dyma ddibennu'n chwap heb ganu na gweddio.

Advertising