Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

WRTH HEBRWNG i

News
Cite
Share

WRTH HEBRWNG Yr Ynad EDWARD LLOYD. I PAN. fu farw Mr. Edward Lloyd, Y.H.,31 Falkner Square, ddydd Mercher yr wythnos ddiweddaf, collodd Lerpwl un o'i Chymry mwyaf parchus a chu. Fe'i ganed ym MhenJy Bont Fawr,* sir Drefaldwvn, yn 18371; daeth yma mor bell yn ol a 1856, yn siopwr. Dechreuodd drosto'i hun yn 1860, a llwyddodd yn gyflym ond yn gadarn. Codwyd ef i'r fame ynadol yn 1895, a shyflawnodd ei waith'fel ynad gyda'r ymrodd- iad difwlch a'i nodweddai ym mhopeth yr ymgymerai ag o. Yr oedd yn flaenor yn 'Eglwys Annibynnol Grove Street era hanner can mlynedd, a bu'n drysorydd iddi ddeugain mlynedd. Llanwodd swyddi pwys- ig yn yr enwad yn gyffredinol ac ni chafodd y Gymdeithas Genedlaethol well na chy- sonach cefnogydd o'i thymor cyntaf hyd yn awr. Ddeufis yn ol y cleddid ei fab, Mr. T. Arthur Lloyd, a diau i'r loes honno ysigo ei gryfder. Mab iddo yw'r Proff. J. E. Lloyd, M.A., Coleg Bangor, sy mor hysbys led Cymru fel ei hanesydd disglair, Y ferch yn briod a Mr. W. R. Owen, goruchwyUwr adran Llundain o Ariandy y London City and Midland. Y mae cydyxndeimlad y ddinas a'r wlad a hwy ac S'rfweddw oed- rannus Mrs. Lloyd, sy mor hysbys am nerth ei chynheddfau corfforol a, meddyliol, ac sy'n goddef ei phrofedigaethau mor wrol er mor ymostyngar. Llawer ymgom a gaw- aom & Mr. Lloyd o dro i dro, a helaeth oedd «i gofion am Hiraethog- a chryfion pulpud Lerpwl yn y dyddiau gynt. Pa wrandawr mor gynnes ar bopeth y byddai'n Efengyl a phwy bynnag a fyddai'n gibog a beirniadol ei wedd, gweleeh ddigon o lygedyn eydvm- 'deimlad serchog yn ei lygad ef bob amser i'ch cadw rhag torri i lawr na digalonni. Diou nad'oedd aelwyd yn Lerpwl nac unman fwy trwyadl Cymreig a chrefyddol ei naws na 31 Falkner Square.% Boed rhagor o'i thebyg ymysg ein Cymry cefnog. Yn ei arwyl. ■ Cieddid ddydd Sadwrn diweddaf. Cy- ehwynnwyd y corff I y-l'y ty ganTy Parch. B. Davies, Mynydd Seion," ac ynjyr awr o oedfa a gafwyd wedyn yng nghapelI Grove Street,clywid y Funeral.Marchar yr organ gan Mr. Barker wrth i'r arch a'i gweddillion gael eu eludo hyd o flaen y Set Fawr. Canwyd Mor ddedwyydd yw y rhai trwy ffydd. ar d6n Abergele darllenodd y Parch. T. Price Davies 1 Cor. xv. 44-58; canwyd yn gyda'r lluoedd-(un o'i hoff enlynau, gwaith Watcyn Wyn) ar y d6n Headley gweddiodd y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A.; yna canwyd There is a land of pure Might, sef emyn Dr. Watts ar Beatitudo y Parch. D. Adams, B.A., a lywyddai'r cedfa a chaed tri anerchiad a'u rhediad fel y canlyn :— Dyn dau fyd. Wedi amlygu ei gydymdeimlad A'r weddw a'r teulu, ag Eglwys Grove Street a'i gweiriidog, sylwodd y Parch. O. L. Roberts na ddaeth i'r ddinas erioed Gymro a fu'n fwy ffyddlon i bethau da ei wlad a bu'n ffodus mewn cael priod mor 81ddgar ag yntau. Mewn Eisteddfod y y ireuliodd ddau ran o'u mis mel adeg eu priodi, a gwelwyd y ddau yn bresennol yn yr Wyl Genedlaethol yn ddifwlch am hanner ean mlynedd. Yr oedd yn wr trwyadl grefyddol, ond ynv grefyddwr siriol ni ddysgodd erioed dynnu wyneb hir, a chref- ydd hawddgar 8. heulog oedd ei grefydd ef. Yr oedd yn enwadwr selog,-selog iawn, ond heb grebychu na chulhau yn ei syniad am werth a rhagoriaeth ei frodyr mewn enwadau eraill. Ni chaed neb rhyddach a llai rhagfarnllyd. Masnachodd yn llwydd- iannus, heb adael i bethau eyhoeddus ei j ieste Tlo, na gadael i fasnach ychwaith ei andwyo na'i aychu at bethau Seion. Yr j Qedd ei aelwyd yn ddelfryd o undeb eriwadol, canys er bod ei briod yn addoli gvda,"r Wes- leaid ac yntau gyda.'r Annibynwyr, t,eyrnasai tangnefedd yno bob amser. Cawsai'r ddau y fraint fawr o fagu Hanesydd gloyw Cymru, a Duw'r rhieni a barha;>'n Dduw eu plant.a ) phlant eu plant. Grove, Street byth yr un fath-I I Sylwai'r Parch. S. R. Jenkins, B.A. (yn Saesneg) fod Mr. Lloyd yn enghraifft or math goreu ar flaenor eglwys a dinesydd da ae na wyddai am neb o Gymry Lerpwl a wnaethai well argraff ar feddwl Saeson y ddinas o'r Cymro yn ei deithi goreu a mwyaf anrhydeddus. Yr oedd yn ddyn dedwydd | am ei fod yn ddynTmol' iach, o feddwl mor ddiddig a di gwyn, a'r diddigrwydd hwnnw'n ffrydio allan ohono i bawb a gaffai ei gYUJ. deithas. Kisteddodd yn yr un set yn Grove Street am hanner canrif ac wrth ei golli, diau y;teimla ei weinidog, Mr. Adams yma, yn debyg i'r fel y teimlai'm tad innau (yf Parch. D.^M.^Jenkins) |pan|« gollwyd Benjamin Owens o Park Road. Nirfydd Grove Street byth yr un fath' ar ol colli Thomas Arthur Lloyd yn ei anterth a'i dad Edward Lloyd vn ei addfedrwydd. MTirn—gvTTun I ru l :.oj Parod o ran cyflwr, parod o ran profiad. Ar yr Hybarch Ddr. Owen Evans y galwyd nesaf, ac ebe to :—Yr oedd Mr.Lloyd a finnau o'r un fan yn sir Dretaldwyn; buom yn yr ysgol gyda'n gilydd,ryn cyd- chware 44ac yn cyd-ddysgu. 'Rwy'n cofio'i dad a'i fam yn dda; ei dad a finnau'n cael ein derbyn yn aelodau o'r un eglwys yr un adeg-y fo'n^ddeg a thrigain oed a finnau'n ddeg. Rwy'n claddu un o gyfeillion anwyl- af fy oes heddyw. Doedd o ddim yn ber- ffaith mwy na phawb arall yr oedd iddo'i welldidau ond fe'u^cuddid gan eiJJiaws rhagoriaethau. Dywedai'r gwyddonwyr fod y'a frychau ar yr haul, er na welid mohonynt, a hynny am fod tanbeidrwydd ei oleuni yn eu cuddio.; Ac felly y cuddid gwendidau a diffygion ein hannwyl frawd gan luosowg- rwydd a thanbeidrwydd ei rasusau. Pe ehwilieoh Lerpwl i gyd, ni cliaffech dded- wyddach aelwyd nag f oedd yn Falkner Square; ond y mae o mewn cartref gwell fyth heddyw. 'Does dim tywyllwch yn Nuw, er fod tywyllwch o'i gwmpas. Rhaid wrt-h-ddau barodrwydd.i beri per- ffaith dangneFedd ym mynwes dýn-parod- rwydd fcyflwrif' a']f pharodrwydd profiad. 'Dyw'r ddau ddim gan bob dyn er-iddo fod yn dduwiol, canys er fod ei-gyflwr yn iawn, y mae ei brofiad ofnus a phrydei-us mor anglyson a'r gyflwr. Nid felly Dr. Watt, canys mewn llythyr at Doddridge yr Esboniwr svlwaPei fod ynJTddigon llesg ei iechyd ers talm, ond inor ddedwydd ei brofiad, er hynny if gyd, nes na phetrusai ronyn^wrth^fynd i'w wely'rJnos,f prun ai yn y byd hwn yntau' yn yr Hwn a Ddaw y deffroai. Ac i yr oedd Edward Lloyd yn barod o ran ei gyflwr,-ac Ó ran ei brofiad hefyd. Wedi | i'r gynulleidfa ganu emyn YrTArglwydd feddwl amdanaf, ar don Old Darby, gweddiodd y Parch." H.: H. Hughes, B.A., B.D.,ra chododd y dyrfa ar ei mud-sefyll wrth i'r arch a'i gweddillion gael eu cludo o'r capel tua'r gladdfa yn swn trist-lethol y Dead March oddiar yr organ. Caed anerchiad byr yil Saesneg" ar lan y bedd y m inynwent Smithdown Road, gan y Prlfathro T. Rees, M.A., Bala Bangor, a gweddiodd y Parch. D. Adams. Crybwyllwyd yn oedfa Grove". Street- fod llythyrau wedi dod oddiwrth eglwys Chatham Street, Arglwydd Faer y ddinas, y Prif Athro Syrjj H. Reichel a'r' Proff. Phillips (Bangor), y Parchn. Dr. Hugh Jones (Ban- gor), H. M. Hughes, B.A., Caerdydd T.Shankland (Bangor), Wm. Roberts, (Trin- ity Road), Rhys J. Huwsj (Glanaman), W. ParriHuws (Dolgellau), T.|Hughes, (Felin- heli), T. Well Jones (Croesoswallt), J. Roger Jones (Spellow Lane), J.t, HughesJ- (Fitz- clarence St.),Mri. Stephen Owen (Yarmouth), W. E. Webster (Caernarfon), W. Denman,' J. E. Williams ac Elias Evans-tri; o'i gyd- ddiaconiaid yn Groye St.sy'n llesg pu hiechyd. Y rhain oedd y prif alarwyr :—Y Proff. J. E. Lloyd, M.A. (mab), Mr. W. R. Owen (mab-yng-nghyfraith), Mr. Jos. Lloyd, Lieut. T. Ridge a Mr.Edw4 Griffiths (neiod) yn cael eu dilyn gan ugeiniau o weinidogion a blaenoriad ac aelodau'r eglwysi o bob enwad, heblaw gwyr cyhoeddus y ddinas. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa nos" Sul yn Grove St., pryd y pregethwyd gan p Parch. David Adams, B.A., i gynulleidfa luosog oddiar Salmxci. 14-16. Traethodd ar y cyfiawn a'i wobr, Rhoddodd amlinell- iad cywir a manwl o fywyd Mr. Lloyd, gan ei godi fel esiampl ddiogel i bobl ieuanc ei ddilyn. Dangosodd fod llwyddiant mas- nachol a llwyddiant crefyddol wedi cyd- dyfu a chyd-redeg drwy ei fywyd. Can- wyd emynau pwrpasol a chafwyd y Marche Funebre a Dead March gan Mr. Barker, yr organydd. Darllenwyd llythyrau oddi- wrth Eglwys cylchynol yn datgan eydym deimlad a'r teulu a'r Eglwys a'r gweinidog yn eu colled fawr. Fel hyn yr englynodd Eifionydd ei wrog- aeth i Mr. Lloyd Gwr addfwyn, gwir ddefnyddiol,—a'i ddawn Yn nhy Dduw'n wastadol Mor wag fydd yma ar ol Y Trysorydd tra siriol.

I Heddyw'r Bore I

Advertising