Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

MT GOSTEG. I

Cyh ieddwyp y Cymod. I

Advertising

.04U TU"R 4F0^1. |

News
Cite
Share

.04U TU"R 4F0^1. | UNDEB EGLWYSI ANNIBYNWYR LERPWL, MAN-, CHESTER A'R CYLCH.—Yng nghapel Grove Street, Chwef. 21, dan lywyddiaeth Mr. E. Thomas, Y.H.f Widnes.-Darllenwyd cofnodion y cyf irfod diwedda gan y Parch. O.L.Roberts, Ysg., a chadarnhawyd.— Datganwyd gofid am absenoldeb-yn herwydd dam- wain-y Trysorydd, Mr. John Edwards, Rock Ferry, a phasiwyd pleidlais o gydymdeimlad ag ef.- Talwyd gwrogaeth uchel i'w wasanaeth gwerthfawr i'r Undeb am dros chwarter canrif.—Pasiwyd i roddi y grants arferol i Trinity Road, Boot'e, Vittoria St. a Lord Duncan St.-Amlygwyd llawenydd 0 weld y Parch. J. O. Williams (Pedrog), yn bresennol, ac wedi cael adferiad o'i gystudd.—Cafwyd ychydig eiriau ganddo. Amlygwyd teimlad cyffelyb at Mr. Rd. Simon, Grove Street, yntau hefyd yn bresen- nol.—Cyfeiriwyd at afiechyd Mr.Henry Denman, Grove Street. Llawenheid ei fod yn gwellla, a dymunwyd ei adferiad buan.—Cylfwynwyd Mr J. W. Jones a Rd. Williams, fel diaconiaid a dde- wiswyd gan Eglwys Marsh Lane. Hysbyswyd fod Mr. J. H. Jones wedi ei godi fel pregethwr gan Eglwys Hollinwood. Rhoddwyd croeso calon iddynt.—Pasiwyd i anfon cydymdeimlad a theulu oedd y diweddar Mri. J. G. Jones (Kensington T. A. Lloyd (Grove St)., Hugh Morris ac Ed. Roberts (Marsh Lane). Enwyd gydag unfrydedd hollol y Parch. H. M. Hughes, B.A., Caerdydd, fel Is-Gad- eirydd Undeb yr Annibynwyr Cymreig.—Dygwyd pwnc Addysg Ddiwinyddol a'r Colegau Cenedlaethol gerbron. Agorwyd gan y Parchn. Albert Jones, M.A., B.D., a J. Vernon Lewis, M.A., B.D. Siarad- wyd ymhellach gan y Parchn. D. Adams, B.A., ac O. L. Roberts. Gohirwyd y mater hyd y cyfarfod nesaf.—Cyn rhoddi yGadair i fyny i'w ddilynydd- y Parch. Albert Jones-traddododd y Cadeirydd anerchiad amserol ar berthynas yr Eglwysi a'r Rhyfel a Chwestiynau Cymdeithasol.—Diolchwyd i Mr. Thomas am ei anerchiad a'i wasanaeth yn ystod y flwyddyn.-Diolchodd y Cadeirydd newydd i'w ragflaenydd am ei eiriau caredig, ac hefyd i'r gynhadledd am ei ddewis i'r swydd anrhydeddus.- Y cyfarfod nesaf i'w gynnal yn Kensington.— Yn yr hwyr pregethwyd gan y Parch. Morgan Llewelyn. Llawenydd i bawb o honom ydoedd gweled yr Hy- barch Ddr. Owen Evans yn bresennol yn y cyfarfod. —Cafwyd arlwy ragorol gan y cyfeillion yn Grove St., a diolchwyd yn gynnes iddynt. J-M. YMGYRCH GENHADOL BEDYDDWYR CYMREIG LERPwL A'R CYLCH.—Nos Sadwrn, Chwef. 24, dan lywyddiaeth y Parch. Thos. Michael, B.A., B.D., cynhaliwydGyfarfod Cenhadol Arbennig yn Everton Village. Cymerwyd y rhannau arweiniol gan y Parch. D. Russell-Smith. Anerchwyd gan y Parch. Thos. Lewis, o'r Congo; Miss Lilian Edwards, India a Dr. Fletcher Moorshed, Ysgrifennydd yr t adran feddygol. Datganwyd gan Miss Nellie Hughes a Mr. J. T. Jones, arweinydd medrus Cor y Cymric. Cafwyd gair amheuthun ar y casgliad gan y Parch. Joseph Davies a therfynwyd trwy weddi gan Pedr Hir. Cynhulliad canmoladwy, dan yr amgylchiadau; areithiau rhagorol, canu cyn- ulleidfaol ag asbri ysbrydol ynddo ac unawdau o'r fath a garem. Diau y gedy cyfarfod o'r nod- wedd yma argraff annileadwy ar feddyliau pawb oedd yno. Y Sul dilynol traddodwyd pregethau ac anerchiadau cenhadol yn holl gapelau ac ysgol- dai y dosbarth. Gwasanaethid gan aelodau y Ddirprwyaeth oddiwrth y Fam-Gymdeithas, gweini- dogion y cylch a Mr.Wm.Evans,Edge Lane, ynghyda Mr. Stephen Jones, Birkenhead,ymysg y lleygwyr. Yn ol rhif aelodau saif Eglwysi Bedyddwyr Lerpwl a'r Cylch ar dir uchel o ran eu cyfraniadau at y Mudiad mawr Cenhadol. Llynedd cyfrannwyd gan Eglwys Everton Village, £ 44.17.7. Birkenhead, £ 31.7.6; Earlsfield Road, £ 9.13. Bousfield Street, £ 7.1 .9 Edge Lane, £ 7 .5 .1 Balliol Road, 14 -17.7 Seacombe, £ 3 .2.6 Caer, £ 8.4.4. Gan fod eich gofod mor brin, rhaid yma tal.-H.R Roberts. EGLWYS PARK ROAD.-Y cyntaf o'r wasg a welsom ni eleni yw adroddiad Eglwys Park Road, yn 5° tudal taclus iawn ei gyflead, ac ol llaw a llafur diball Mri. R. J. Roberts ac E. R. Hughes ar y rhannau ystadegol. Gwelir oddiwrth ragair hysbydd. ol y gweinidog—y Parch. J. Vernon Lewis,M.A.,B.D., fod Mr. G. J. Owen yn cwblhau deugain mlynedd fel organydd yr eglwys, ac fod y ddiadell wedi colli amryw drwy'r rhyfel. Rhif yr aelodau'n cyrraedd 377,-cynnydd o un ar 1916, a'r casg'iadau'n dangos haelioni eithriadol hyd yn oed ymysg eglwysi Lerpwl. EISTEDDFOD LITHERLAND.—Cynhaliwyd Eistedd fod gan filwyr Cymreig Litherland nos Fercher ddiweddaf, yn Neuadd y Y. M.C.A. Cyrnol O. Jones Williams yn y gadair Mri. J.T.Jones a J. Hughes yn barnu'r canu; Pedr Hir y farddoniaeth y Parch. O. Lloyd Jones, M.A., B.D., a Mr. R. Vaughan Jones yn arwa:n Mrs. S. R. Jenkins, L.R.A.M., yn cyfeilio a'r rhain yn ennill :—Traethawd, Amodau Heddwcb, Pte. W. Holland eto, Fy fjefryn lyfr yn Llyfr^ell y Y.M.C.A., Lee. Corp. Bowler. Molawd barddonol i'r R W F i, Lieut L R. Jones eto yn Saesneg, i, Lance Corp. Bowler. En%lyn i'r ??, Lieut. L. R. Jones a L. Corp. Bowler. Adroddiad Cymraeg, i, Pte. J. Williams 2, Pte. Rd. Richards. Cyfieithu i'r Gymraeg, Lce. Corp. Phillips a Lance Corp. Griffiths yn gydradd. Araith ddifyfyr, Beth a feddyliech 0 Lerpwl ? Pte. Mollison Darllen heb atalnodau,—Cymraeg Pte.J.W.Griffiths; Saesneg, Pte. Mollison. Unawd tenor-I, Pte. Harrop. Baritone,—Pte. T. C. Owen2, Pte. R. J. Davici. Bass, Ptes. G. Williams a J. Wood- house yn gydradd. Deuawd, Ptes. R. J. Davies a T. Edwards a Ptes Harrop ac Owen yn gydradd. Canu gyda'r tannau, Pte. Tom Parry. Ar y piano, -I, Pte. Cleasby. Ar y Corn-I, Bandydd E. Thomas; ar dant, Bandydd M. Roberts. Am y goreu'i joke, Corp. Par-ons. Ar ddisgyblaeth yn y Gwersyll,—1, Lce. Corp. W. J. Gruffydd. Traeth- awd, Silt oreu i wella Hut y Y.M.C.A., 1, Corp. Parsons. Eisteddfod flasus dros ben. Drannbeth, gorymde:thiodd yr holl gatrawd ar hydyrheolydd i Exchange Lerpwl ac yn ol, a chafodd milwvr yr Hen Wlad ddigonedd o glod a gwrogaeth ar hyd y ffordd. PRIFYSGOL LERPWL DATHLU GWYL (DDEWI GAN Y GYMDEITHAS GYMREIG.—Mwynhad gan lawer fydd clywed am y gymdeithas ieuahc uchod ond cryf ei hymlyniad wrth ddelfrydau'r Hen Wlad. Nos Fercher ddiweddaf cynhaliwyd cyngerdd yn y Coleg, 0 dan arweiniad Mr. W. R. Williams. Caed gwasanaeth Miss Freda Holland, y delynores beni- gamp. Canwyd gyda'# tannau gan Miss Thomas, Birkenhead, a phur soniarus y canai'r cor o dan arweiniad galluog Mr. D. H. Richards.. Rhwng y ddeuran eisteddwyd i swpera. Ar ddiwedd y wledd, codasom y gwpan goffi i anrhydeddu Cyfazonder, gan Mr. W. R. Williams, Dewi Sant, gan ein llywydd, y Proff. W. Garmon Jones, M.A., Ein Prif Weinidog, gan Mr. J. Smeath Thomas, M.Sc. Yna tostiwyd y Dieithriaid gan Mr. D. H. Richards; a'r Welsh Society gan Mr. Hugh Reed, Uwydd Guild of Undergraduates y Coleg. Y mae clod uchel i Miss Gwyneth Jones a Miss Joan Davies a'r pwyllgor am eu Uafur diball gyda'r cyfarfod.-S.G.J. Gwelir oddiwrth hysbysiad mewn colofn arall fod Cymanfa'r Wesleaid yn dechreu nos yfory, pryd y pregethir yng Nghapeli Oakfield, Mynydd Scion, Birkenhead (Claughton Road), Bootle (Trinity Road), ac Egremont (Serpentine Road). Cynhelir y Seiat Fawr ym Mynydd Seion nos Sadwrn, a dechreuir eleni am 6-30. Gwahoddir yn gynnes Gymry'r cylch i'r cyfarfodydd hyn. Drwg iawn gennym ddeall fod Mr. J. Lloyd Jones, 34 Eslinglon Road, Anfield-y pregethwr Wesleaidd adnabyddus o Eglwys Oakfield-newydd dderbyn hysbysrwydd o Swyddfa'r Rhyfel, fod ei fab ieu- engaf, Sergeant J. Lloyd Jones, wedi cwympo'i y frwydr rywle yn Ffrainc ar Chwef. i6.diweddaf. Ymunodd y gwr ieuanc a'r fyddin yn Awstralia lonawr, 1916. Daeth drosodd yn mis Gorffennaf diweddaf, a bu'n Salisbury Plain hyd Tachwedd. Yr oedd yn wr ieuanc neilltuol o hoffus gan bawb a'i hadwaenai,—diwylliedig a chyflym ei feddwl, i siriol ei ys bryd, mawrfrydig ei galon; a bu ei rodiad yn deilwng o draddodiadau crefyddol y teulu. Bydd galar mawr ar ei ol yn ddiau, yn enwedig ym ardal ei enedigaeth—Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Cydymdeimlir yn ddwys a Mr. a Mrs. Jones yn ew trallod dwfn.-Cepbas. Dathlwyd Gwyl Ddewi yn Kensington eleni a hir gofir. Cafodd Plant y Gobeithlu wledd ragorol trwy garedigrwydd Mr. J. Evans, ac mewn ystafell arall clywsom y rhai ieuengaf yn canu ac yn adrodd a hynny mewn Cymraeg mor bur. Y rhain a adroddai: Idris Bryn Owen, J. Nuttall, Hughie Griffiths, Olwen Jones. Edith Clarke, Dilys Richards Jones, Gwyneth M. Jones, May Clarke a chanodd Nancy Williams, Phyllis Wilson, Olwen Griffiths, Cecil Jones, Miss Maggie Nuttall, a Mr. Griffiths. Cawsom action song o dan gyfarwyddyd Miss Lillian Jones. Detholiad, Miss Nellie Gilmour. Deuawd, Miss Jennie a Lillian Jones. Pianoforte solo gan Ritchie Griffiths a gwledd ragorol trwy glywed yr hen Alawon Cymreig ar y Violin gan Doris Jones. Gwelid deithriaid yn ein plith; yn eu mysg Mr. a Mrs. W. E. Jones o'r Tabernacl. Canodd Mr. Jones ddwywaith er mawr foddhad. Llywydd y cyngerdd oedd Pedrog a datganwyd llawenydd mawr o'i weled wedi ei adfer cystal a chawsom ganddo anerchiad diddorol ac addysgiadol. DioJchwyd i bawb a wnaeth y cyfarfod yn ilwyddiant mor fawr gan yr Ysg., a J. Roberts a Mr. W. R. Job. Cyfeil- iwyd gan Miss Elsie Nuttall, Lillian Jones a Mrs. W. E. Jones. LAIRD STREET, BIRKENHEAD.—Nos Wener, llan- wyd yr Ysgoldy i fwynhau Cyngerdd Cysuron i'r Milwyr. Ar y Piano gan Ivor G. Jones, Lizzie Roberts, A.L.C.M., Eunice Thomas. Caneuon gan Olive Jones, Maggie Jones, Eluned Evans, Lewis Edwards, Doris Roberts a Miss Roberts. Adrodd- iad gan Myfanwy Davies, Ogwen Evans. Canwr Penhillion, Mr. Morris. Dadleuon Hetiau Merch- ed." Miss Doris Roberts, D. Herbert Evans a Hywel R.Edwards. "Rhannu'r Deisen,' 'Enid Evans, Olive Jones a Lewis Edwards. "Y Llongwra'r Hwsmon J. R. Davies a Llew Roberts; "Bai o bobtu," J. R. Evans, D. W. Evans a Mrs. R. J. Griffiths. Llywyddwyd gan Mr. W. Thomas, Treflyn, a chyfrannodd yn anrhydeddus. Mrs. W. Edwards yw ysg. y Pwyllgor, ac yn fedrus tuhwnt i hyfforddi y plant.-R.Y.G.

RHIWMATIC AC ANHWYLDEB I Y…

!Ein 6nnsftl ym Maneeinion.

Advertising