Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Caffaeliad Parkf ield. I

_O'R DE I

News
Cite
Share

O'R DE I Dadl Rhyng-Golcgol Prifysgol Cymru yng Nghaer Dydd.-Cafodd Coleg y De y fraint eleni o wahodd y Gynnadl flynyddol i Gaer Dydd. Cynhelir hi yn y tri choleg yn ei thro, a chredwn fod iddi amcan gwir deilwrig, sef symud ymaith y pellter daearyddol rhwng y Colegau a'u huno mewn ysbryd. Y mae gan y tri choleg eu Cymdeithasau Cymreig, a mawr yw eu sel dros yr hen iaith. Llawenydd yw canfod y teimladau da a'r cariad cenedlaethol a ffyn rhyngddynt,— ffaith a welir yn amlwg yn y disgwyl mawr sydd am groesawu cynrychiolwyr y cyd- golegau i'r Gynnadl flynyddol. Bu Cym- deithas Gymreig Coleg Caer Dydd yn edrych ymlaen am wythnosau lawer at y diwrnod, ac fe'u gwobrwywyd yn dda. Ni arbedodd yr ysgrifenyddion llafurus-y Fonhesig Annie Rhys Davies a'r Bonwr D. Charles Morgan—nao amser nao egni yn eu paratoad- au, a chyda chydweithrediad y pwyllgor ceisiasant wneuthur -arhosiad yr ymwelwyr yn ein mysg mor gysurus a chartrefol ag y medrent. Nos Fercher, Chwef. 28, cyn- haliwyd y ddadl yn y Coleg. Lluddiwyd Cadeirydd y Gymdeithas-Dr. D. Evans, yr Athro Cerdd adnabyddus—i fod yno gan ei fod yn Aberystwyth ynglyn a'r Brifysgol, a llywyddwyd gan ein hathro newydd a'r bardd enwog, Gwili. Testun y ddadl, Mai mantais i Brydain Fawr fyddai i Gymru golli lei H iaith. Agorwyd ar yr ochr gadarnhaol gan y Bonwr W. W. Davies, B.A., a'r Fon- hesig Annie Owen, Aberystwyth, a chefnog- wyd gan y Bonwr Andrew Williams, Caer Dydd ac ar y nacaol, gan y Fonhesig Gwen Griffith a'r Bonwr R. T. Evans, Bangor, yn cael eu cefnogi gan y Fonhesig A. Rhys Davies, B.A., Caer Dydd. Ni chlyw- som well papurau erioed. Dangosent lafur mawr a meddwl clir, a'r ymdriniaeth o'r testun yn wir alluog. Wedi siarad pellach gan aelodau Cymdeithas Caer Dydd, pender. fynwyd mai colled i Brydain Fawr fyddai i Gymru golli ei hiaith, a mawr hyderwn i bob un ohonom,lheno, dyngu llw newydd o ffyddlondeb i Gymru, ei hiaith, ei ll-wyddiant a'i dyheadau uchaf a phuraf. O'r Coleg, cyrchwyd i Gafe'r Frenhines i fwynhau gwledd a barat6dd y pwyllgor. Wedi bwyta, cafwyd cyfarfod o adrodd, areithio a chan. Estynnodd Mr. G. Sirton Davies wahoddiad cynnes i'r ymwelwyr ar ran y Gymdeithas. Hyderai y teimlent yn gartrefol yn ein mysg ae y dychwelent adref gan gario dymuniadau goreu Caer Dydd i'w colegau eu hunain. Ateibodd y Fonhesig Annie Owen, gan gyf- lwyno cofion cynhesaf Coleg Aberystwyth a'r Fonhesig Gwen Griffith eiddo Bangor, a thystient yr arhosai eu hymweliad hwythau yn un o atgofion melys eu dyddiau coleg. Diolchodd y llywydd i'r dieithriaid am eu dyfod cyn belled, a sicrhaodd hwy nad buan yr &i y cyfarfod hwn a chrynrych- iolwyr y Colegau Cymreig o gof myfyrwyr Caer Dydd. Er mor hapus y teimlem, crogai cwmwl uwch ein pennau. Trist gennym fod yr Athro Powel yn analluog i fod yn y cwrdd oherwydd afiechyd, ac eiddunwn iddo adferiad buan. Hefyd hedai ein meddwl dro. y don at ein hathro a'n cyfaill annwyl, y Sub. Lieut. W. J. Gruffydd, M.A. Cyfeir- iwyd ato yn dyner gan y Bonwr R. T. Evans, Bangor, ac adroddodd y delyneg swynol honno o'i eiddo- Y Wen Goll. Terfynwyd y cyfarfod drwy ganu Can Coleg Caer Dydd a'r Anthem Genedlaethol. Bore trannoeth cyfarfu'r pwyllgor a'r ymwelwyr ac aeth- pwyd i leoedd o ddiddordeb yn y cylch. Yn y bore aethpwyd i Eglwys Gadeiriol Llan Daf. Yno gwelsom yr adeilad gwych, y cerfiuniau ami, y bedyddfaen hynod a hanes Arch Noa wedi ei gerfio arno, ac ar y muriau gofebau am Gymry enwog a gwas- anaethgar yn eu dydd. Mewn agen yn y mur dangoswyd inni enau llwybr tanddaearol yn arwain hyd at Afon Taf. Nid oes ond ychydig ddyddiau er pan ddarganfuwyd hwn Yn y prynhawn aethpwyd i Neuadd y Ddinas i weled y colofnau marmor hardd a roes Argl. Rhondda iddi. Gwelsom Reception Room a'r gweithwyr yn prysur baratoi ar gyfer ymweliad Mr. Neville Chamberlain a ddis. gwylid yno y noson honno i areithio ar Wasanaeth Cenedlaothol; gwelsom Ystafell y Cyngor a'i cherfwaith addurnol o waith y saer cywraint, ac ynddi y Human a gyf- Iwynodd Dinas Caer Dydd i Capten Scott ar ei antur i Begwn y De gwelsom neuaddau yr aelodau a darluniau o'r cistiau a gyflwynwyd i'r Prif Weinidog ac ereill wrth roddi'r ddinasfraint iddynt, a hefyd gwelsom y neuadd ginio a'i muriau wedi eu haddurno a llawer crair. Treuliasom awr felys yno. Ond daeth amser y gwahanu, a chyda theimladau hiraethus yr ymadawyd a'n cyfeilion newydd, ond teimlwn i'w hymweliad fod o les mawr er cadarnhau cyfeillgarwch Cymry y tri choleg cenedlaethol PENCLA WDD, MORGANN WG.~ Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol flynyddol y lie uchod dydd Sadwrn Gwyl Ddewi. Beirniad, y Parch. D. J. Clement, Treforris, a'r Parch. J. Jenkins, M.A (Gwili). Cys- tadleuaethau lluosog iawn. Buddugwyr :— Her-unawd, Mr. G. Williams (Llew Morris), Ponthenri. Yr her adroddiad, Mr. John Francis, Penclawdd. Traethawd Y Rhyfel yng goleuni'r Efengyl, y Parch. Caron Rees, Abertawe, 14 yn cystadlu. Ystori gerdd, sef testyn y gadair a'r ddau gini, Mr. Seth P. Jones, Ysgolfeistr Penclawdd, 21 yn y gystadleuaeth. Cawd hwyl fawr wrth gad- eirio bardd-gerddor y lie. Y cor buddugol, Cor meibion Gowerton. Nos Wyl Ddewi cynhaliodd plant yr ysgol bob-dydd eu cyfarfod blynyddol. Cafwyd Alawon Cym- reig, adroddiadau, perfformio dwy ddrama- un ohonynt yn gyfansoddedig gan yr Ysgol- feistr. Cynhulliad rhagorol a brwdfrydedd tanbaid.—Goh. CAERFFILI.—Cynhaliwyd Eisteddfod Gwyl Ddewi dan dawdd y Cymreigyddion nos Fercher yn Neuadd y Dre, pryd y cafwyd gwledd wir Gymreig a neuadd orlawn. Cymerid y gadair gan Mr. E. T. Griffith (cad- eirydd y Gymdeithas) ac arweinid yn ddoniol gan y Parch. Tafwys Jones. Y Beirniaid: Cerddoriaeth, Cynon Evans, Ysw., a Byron Jones, Ysw. Barddoniaeth, Brynfab; ad- roddiadau, y Parch. J. N. Jones,Y Twyn, a'r Parch. E. J. Evans, Ton y felin. Cystad- leuaethau clasurol a rhaglen faith, a mawr ddiolch yn ddyledus i Miss Gwen Rowlands, B.A., yr ysgrifennydd, am ei llafur. Wele brawf o'r hyn a all merch ei gyflawni wedi ei meddiannu & chariad at yr iaith Gymraeg a delfrydau goreu Cymru. Ni chaniata gofod i ni enwi y buddugwyr, ond hyderwn nad yw hyn ond dechreu cyfres o. Eisteddfodau cyffelyb yn y dref i wrth- weithio y llif Seisnig. Y Cadeirydd, E. T. Griffith, Ysw. Onid teg oeddcael E. T."—i'r gadair, A'i gydio'n dyn wrthi ? Llyw heb rwysg yn ennill bri I'w linach a'i haelioni. Cod arian ein cadeirydd—at alwad Teilwng sydd ddi-hysbydd; Chwim ar air a Chymro rhydd Yw E. T. ym mhob tywydd. Y Llywydd, Tafwys I Tafwys rhof bwt hefyd,—byw esgob Wisga wen drwy adfyd Hael a siriol y sieryd, A'i awen fwyn lonna fyd. Gwen Rowlands, B.A. I Miss Rowlands mae oansill-o wir fawl Yn rhy fyr o bennill; Ei dawn sydd wedi ennill A mynnu parch mwy na pill." Syw Gymraes—gem aur yw hi,—byw yw'r Yn ein bro o'i chwmni, iaith Deil hon hawl ein cenedl ni Ar hoff aelwyd Caerflili.-Celyit -CyniialioddMacwyaid yr Y sgolU chelfeullol eu cwrdd blynyddol i ddathlu Gwyl Ddewi. Beth amser yn ol sefydlodd Mr. Rees, yr Uchathro.. a Miss Gwen Rowlands, B.A Gymdeithas Gymreig y Plant, a ffrwyth eu llafur oedd y wledd Gymreig a gafwyd ar Wyl y Nawddsant. Caed drama fer o Cyinru'r Plant, caneuon, dawns Gymreig, ac unawdau.-Cymerwyd y gadair gan Mr. Penri Davies, Cadeirydd Cymdeithas y Plant.-Celyn. CWMBACH, ABERDAR.-Nos Fa wrth ddiweddaf rhoddwyd cyngerdd uchraddol yn y lie uchod gan Barti y Proff. T. J. Mor- gan, Mus.Bac. F.T.S.C., R.A.M. Sopranos, Miss May Roberts, Aberaman, Miss Ada Palmer, Cwmbach. Contraltos, Miss Frances C. Jones, Maerdy, Rhondda, a Miss Tydian M. Rees, Aberaman. Tenoriaid, Proff.T. J. Morgan (Pencerdd Cynon) a Mr. D. Lloyd. Morgan, Cwmaman. Bass, Mr. John Jones, Aberaman. Canwyd y Piano gan y Proff. Morgan, a Miss Grace Bennett, A.R.C.M., Caer Dydd. Cynhwysai y rhaglen ddarnau clasurol. Gwnaeth pawb eu gwaith yn anrhydeddus, yn arbennig Miss Frances C. Jones, Maerdy, a Miss Grace Bennett, A.R.C.M. Teimlwn yn ddiolchgar i'r Proff Morgan am baratoi y fath wledd. Llywydd' wyd yn ddeheig gan y Parch. R. H. Davies* £ .A.j> Cwmbach. Yr elw i gronfa y milwyr.*

Advertising