Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

IYr Hybarch .Daniel Rowlands,…

I Wrth Colli Richard Lloyd.…

Clep y Clawdd sef Clawdd OffaI

News
Cite
Share

Clep y Clawdd sef Clawdd Offa lOAN YR HUTYN.) □ I Olwyf i 1m. clod i'r llall.—Yng Nghyngor Tref Gwrecsam yr wythnos ddiweddaf, cyflwynwyd gan y Maer fathodyn y D.C.M. i frawd y milwr a'i henillodd, yr hwn hefyd a syrthiodd ar faes y gyflafan yn Ffrainc. Yr oedd yr holl Gyngor wedi ymgynnull yn ei wisg swyddogol, a thraddododd y Maer anerchiad tyner a thoddedig iawn. Yr oedd perthynasau eraill y milwr eyrthiedig yn bresennol heblaw ei frawd a dderbyniai'r anrhydedd a'r bathodyn yn ei le. Y naill yn cael y elwy, a'r llall y clod. Felly y mae yn ami iawn yn y byd hwn,ond nid oedd bosibl iddi fod yn wahanol y tro hwn. Milwr hefyd yw y brawd arall. Cofio'r DeU'f"ion.-Dro'n ol collodd gwr nobl ei fywyd wrth geisio achub geneth fach a syrthiodd i hen bwll glo yn ardal yr Wyddgrug. Aeth y gwr-Mr. Edward Jones-i lawr y pydew, ond gorchfygwyd ef gan y nwy gwenwynig. Ymgeisiodd g-frr glew arall—Mr. Blakemore--ei oreu i achub y ddau,ond er iddo anturio i ganol y perygl, anffortunus fu'r ymdrech. Teimlai'r holl wlad y dylid cydnabod y dewrion hyn. Caed blwydd-dal o'r Carnegie Trust i weddw Mr. Jones, a chasglwyd dros ddegpunt o gydnabyddiaeth i'r llall am ei ymgais ddewr. Mewn cyfarfod i gyflwyno y swmlyiignghoed Talon, yr wythnos ddiweddaf caed anerchiad grymus a phwrpasol iawn gan Mr. Rowlands, Y.H. Bydd cof cysegredig iawn am y dewrion hyn yn y gymydogaeth am yn hir. Y wialen gerydd.- Y mae Pwyllgor Addysg Gwrecsam wedi bod yn penderfynu pwy sydd i ddefnyddio'r wialen fedw yn yr ysgolion ac i ba raddau y dylid ei defnyddio-gan nodi y dylid hefyd osod mewn llyfr y dyddiau y rhai y defnyddid hi ac enw y truan fo tani,a'r gwr fu wrth y gorchwyl o'i gosod hi, ac yn y blaen, gan fanylu'n feddylgraS iawn ond anghofiasant un peth pwysig, sef nodi allan i'r fodfedd ar ba ran o gorpws y truan y dylid disgyn y wialen lem. Sawl gwaith, ac a pi a law y cydid ynddi. Bydd gofyn cael Register a Registrar i gario hyn allan, a chynnyg swm go dda am wr hy- ddysg yn y grefft gadw llyfrau. Hyderaf yr hysbysebir yn y papurau am wr cymwys ymh obysgol,ac y ca pawb chware teg i anfon eu henwau i mewn. Yr wyf am anfon fy enw'n syth. Codi cyfiog yr athrawon.- Yn araf iawn y symudir ymlaen gyda hyn ar y Clawdd yma. Mae yma dri dosbarth o bobl na fydd- ant yn cael fawr o godiad byth, sef yr Ath- rawon, yr Heddgeidwaid, a'r Gweinidogion. Dyma dri dosbarth pwysig,a'r bobl bwysicaf yn y wlad ar lawer cyfrif, ond eto ni chant fawr gyflog, ac ni sonnir ond yn anaml byth am godiad iddynt. Ond llwyddwyd, wrth Iwc, i basio ym Mhwyllgor Addysg ychydig godiad i gyfarfod a gofynion uwch y dyddiau hyn. Treiwyd gwrthwynebu 'hyn, ond trwy drugaredd aeth y peth trwodd. Degpunt y ciwrad.—Dyma beth newydd- ciwrad yn cael codiad yn ei gyflog. Yn awr fe fydd rhyw obaith i weinidog Ymneilltuol. Os ydyw ciwrad yn gofyn ychwaneg o gyflog —a pham lai ? mae angenrheidiau byw iddo ef, fel eraill wedi codi—pam na cha gwein- idogion ychwaneg ? Credaf y cwyd hyn gywilydd yma, ac y codir yng nghyflogau eu gweinidogion, set er dim ond cadw i fyny anrhydedd y weinidogaeth, heb son am ym- gadw rhag y tlbty. Chwe Mil Brymbo.-Dywedir fod gweith- wyr Gwaith Dur Brymbo wedi gosod chwe mil o bunnau yn llogell y Llywodraeth yn fenthyg i gario y rhyfel ymlaen. Da iawn. Rhaid fod yma arian, a chalon i roi, ond, atolwg, faint o ddyled sydd ar y capelau ? Pa faint o gyflog ga y gweinidogion ? Pa faint a werir ar wirodydd yma'n wythnosol ? Da iawn v Gwaith Dur, ond nac anehofiweh waith yr Arglwydd. Y aegurwyr a'u 8igaret.Cymeithas o'r bon yw hon yn y Rlios, yn erbyn yCigarettes. Mae ei hangen yn wir. Daw cannoedd yn ol o'r Sosydd wedi eu handwyo gan yr ysmyglen wenwynig. Wedi cael gwaredigaeth rhag y gelyn Ellmynig delir hwynt gan y gelyn Seisnig hwn. Da hefyd cael Ffeif a Drwm i alw sylw at y perygl hwn Hei ati, r y Rhos. Y pytatws.-Call wyr y Werddon. Maent hwy wedi gweld gwerth ydaten ers blynydd- oedd lawer, a chodant fwy na neb. Dilynir hwynt yn awr gan yr holl wlad, a chlywir am Gyfarfodydd y Pytatws ar hyd a lied y Clawdd yma. Y mae yma ddechreu palu eisioes—ni fydd neb heb, ei bal yn union,; ond cofier nad pawb a fedr blannu pytatws, ac nid pob taten a osodir i lawr a gwyd i fyny. Ofnir y byddyma feirwon lawer nad adgyfodant byth. Rhaid cael Coleg Pytatws ar y Clawdd i ddysgu pobl cut i wneud. Cynhilo papur.—-Gwastreffir llawer ar bapur gan y bragwyr ar barwydydd wrth geisio hysbysu eu trwyth damniol. Mae rhai o'r posters yma hefyd yn wrthun a dichwaeth. A ateHr y rhai hyn, tybed ? Dawnsio dwl.-M.ae llawer o hwn o hyd, ac ofhir mai dal ati a wna llawer o'r ffyliaid penwan hyn hyd nes daw'r Ellmyn i mewn yma ar eu traws, ac yna newidir eu 11am. Darlithwyr Y. Clawdd.-Scilisbury Park, Gwrecsam (A),Yn ac o amgylch Rhufain, gan y Parch. C. H. Dodd, M.A., Rhydychen. Penuel, Rhos, Dr. Timothy Richards, y Parch. D. Wyre Lewis, Rhos. Meifod (W), Y Beibl yn y Ffos, y Parch. D. Ward Will- iams, Summerhill. Crosshall St., Lerpwl, Edwart Mathews, y Parch. J. J. Morgan, yr Wyddgrug. Brynteg (A), Y Feibl Gym- deithas, y Parch A. W. Jones, B.D., Caer.

Advertising