Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

par* GOSTEG. I

News
Cite
Share

par* GOSTEG. R. M. Thomas.—Diolch i un o blant Glari Llyn, Talsarnau, am ei gofion cynnes o ffosydd Ffrainc. Dyrwch wybod a fo'r Brython yn paUu a'ch cyrraedd yn eich trigle newydd. Yr ydych chwi yn dysgu Ystyr y gair aberth drwy waed a chelanedd a ninnau gartre'n bygwth ei ddysgu drwy glem a newyn. Buan y caffoch ddychwelyd 1'eh -eynefin o flaen Moel Scyfaraogoda'r j Fonllech. Ymae'r hen fynyddoedd yno'n > amryw am Fau Aberteifi o hyd, ac Ynys Gifftan fel stud ar frest y Traeth. Gair buan os galloch rliarii, yr ergydio enbyd. Evan Williams.—Buasai'n dda iawn gen- nym gyhoeddi'r bregeth, ond y mae hynny'n hollol amhosibl, yn yr arngylchiadau sydd ohoni ar hyn o bryd. Y mae'r gwr a'i traddododdyn un o'n cenhadon gonestaf, a bu portead ohono yn un o Lithoedd y Merlyn flynyddoedd yn ol, sef ar ol ei glywed yn traethu ar dre balchter atgaja'r ddaear a phe deuai i Lerpwl weithiau, fe aa n i'w wrando, a'i godi i golofn Yr Hoelion Wyth yn anad neb bron. Taldir ar dir y byw.- Y clyw y mae'Mons. Jaffrennou (Taldir)--sef y bardd a'r golygydd Llydewig—ar dir y byw, o drugaredd, er ei fod ym mhoetha'r rhyfel o'r cychwyn cyntaf. Cawsoin air oddiwrtho ddydd Sadwrn di- weddaf. Brigadier y fo gydag adran neill- tuol o'r Fyddin Ffrengig, ac yn dyhnu am gael dod i nes eyswllt a'r Fyddin Gymreig. Y mae o yn un o'r llenorion gwladgar a ddisgwylir i'r Gynhadledd Gyd-Geltaidd sydd i'w chynnal ynglynJug^Eisteddfod Birken- head fis Medi nesaf. Athroniaeth cadw illochyn-Creaclur pwysig iawn, os atgas ei arogl ydyw'r mochyn y misoedd hyn, ac ami i Sanitarian, a fu'n gwaeddi'n groch yn erbyn i neb gael cadw mochyn o fewn milltir i'w dy ef, yn ddigon anghyson i ddwrdio fod ei gig mor ddrud nac yntau'n cael cymaint ohono ag a ddymun ai. Un o'r anerchiadau etholiadol rhyfeddaf a welwyd ar bapur erioed ydoedd honno a wnaeth Daniel Owen, pan ymgeisiai am sedd ar Gyngor yr Wyddgrug. Yr oedd un paragraff go fawr ohoni'n cael ei neilltuo i draethu ar athroniaeth cadw mochyn ac ebe fo :— Ond cyngliorwn bob etholwr sydd yn perth- yn i'r dosbarth gweithiol, fel fy hunan, ofyn y cwestiwn hwn i bob ymgeisydd :— A wyt ti'n dyfal dal yn dyn mai iachus yw I cadw mochyn ? Ac ebe fo wedyn, yn is i lawr :— Mae nhorob dda, a ham, Yn nhop y ty'n gytun, A llwyth o datws yn yr hog Yn hendwr i bob dyn. Mwynlais a Chreglais.—Xlewn ymgom a gododd ar yr aelwyd yma'r nos o'r blaen am adar, soniodd un o'r cwmni am-ddarlith a glywsai beth amser yn ol, lie y dywedai'r darlithydd mai'r adar plaen eu gwisg oedd canorion goreu, gan enghreifftio'r fronfraith a'r aderyn du pig melyn a'r Eos Gefnllwyd, ac mae rhyw greglais o groglofft," chwedl Twm o'r Nant, oe4d gan y Paun a'r Aderyn Paradwys a'r Parrot a'r Cockatoo a'r Elaffiingo ac yn y blaen. Dyfynnodd sylw un o sylwedyddion naturiol craffaf Cymru ar y pwnc, ac wele fo :— Frodyr, gadewch inni yn y fan yma ddiolch i Dad y Trugareddau am ei gantorion. Ni fuasai Ynys Prydain hanner mor hawdd- gar pe'i hadar yn fudion. Mewn rhai gwledydd ni chlywir un hyfrydlais, er fod yno nifer afrifed ohonynt, a'u gwisgoedd yn anhraethol fwy gorwych a harddach na'n hadar ni, eto ni feddant na chwibanogl nac organ,—dim ond rhyw ysgrech annaearol ambeil waith fel ebwch mudan." Y mae can y fronfraith yn fwyn odiaeth a hi'n iach ac ifane ond dywedir fod ei chan wrth farw'n fwynach byth, a, chyn ddwysed a brefiad oen wrth gael ei ysgar oddiwrth y famog byth-i gyd-bori a hi mwy ond nid llawn cyn brudded ag ochenaid bardd pan gollo'r Gadair Genedlaethol. John Jone, Treffynnon.-Ie,-dyn teilwng o'i atgyfodi i olwg y genhedlaeth bresennol oedd yr hybarch John Jones, Treffynnon, petai dim ond am ei fedr fel datodwr cylym- aumwyaf dyrys diwinyddiaeth, a'i atebion ,cyrhaeddgar a chrafog i'r rhai a gyfrifid yn hereticiaid gwenwynig y pryd hwnnw, ond sydd wedi cael eu cyfriflyn blant y Goruchaf erbv" n heddyw. __Daw'r llythyr gynted y bo He. ') Peryglon Plant y wlad wrthgytaudir di-c.- Dyma bwnc y nawfed llith ar hugain a gyrhaeddodd yma o Lofft Stabal yr Hen Was ddoe, ac a ymddengys yn Y Brython nesaf. Y mae ynddi ami i gyngor a rhybudd gwerth- fawr, ambell stori syth ei hergyd, a rhyw ffordd wledig ddi-lol o ddweyd ei feddwl. Ys gwn i a symudodd Mart r forwyn o r wlad i'r dre, canys ni chlywsom mohono'n son dim gair amdani ers tro. Gobeithio ei bod hi'n ffyddlon iddo. j Lloyd George. ar gan.- Y mae Mr. R. Morgan, Pen y Groes, Llandebie, wedi canu. can ar Gwyl Ddewi Lloyd George at y cyntaf o Fawrth, ac fe wna'r tro i'w chanu mewn cyrddau gwlatgar a milwrol ar hyd y flwyddyn o ran hynny, canys rhai tebyg i hwn yw gweddill ei ddeuddeg pennill :— Efe yw Moses Prydain, A'i lais adseinia'r groch Fod llwybr gwaredigaeth Trwy ganol pob Mor Coch Mai tynged pob Phar-a-oh, A'i holl farchogion, yw Cael hedd heb un maen coffa Ym m6r digofaint Duw. Hwyl, a'i werth.-Gwir a ddwedwch fod Tlavrer o'n canu yn ganu i'r cnawd, ac o'n gorfoledd yn orfoledd has, heb gyfne wid dim ar ddyfnderau moesol yr enaid-dim ond chwa'n chwythu a chodi ewyn ar wyneb y don. Ond dylem,fel cenedl ac fel personau unigol, gofio geiriau Woodsworth The gods approve The depth, and not the tumult, of the soul. Ni fedrwch chwi na minnau newid natur nwydus y Cymro, ac ni fynnem; eithr da fyddai gweld mwy o ballast goleuni a gwybod- aeth i gadw'i long rhag mynd gyda'r gwynt. Y mae'n debyg mai sylwadau'r Parch. Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) ar Afiaith Oanu Cynulleidfaol y Cymry, yw'r peth goreu a chywiraf ar y pwnc. Ac o gariad ati y beirniadodd ef ei genedl,ac nid am ei fod yn cael hyfrydwch wrth fod yn od ac yn groes i'r lliaws.

Advertising

I -U X Dili <.-'

Cyhieddwyr y Cymod y Sabotb…

Gair o Ffrainc.I

Advertising