Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Basgedaid o'r Wlad.I

Clep y Clawdd Isef Clawdd…

Gair am Ffynnon Treffynnon.

News
Cite
Share

Gair am Ffynnon Treffynnon. [GAN HEN FRODOR] HWYRACH ygwnewch chwi gyd-ddwyn 4 musgrellni'r ysgrif hon, Mr. Gol. Yr wyf yn gaeth ar wely cystudd ers naw mis, fel nad yw'r Haw a'r pin mor ystwyth i waith fel hwn ag arfer. Carwn allu symud ychydig o'r cam-argraff sydd wedi ei roddi ar y wlad mewn perthynas i'r ffynnon uchod, Gallai'r anwybodna wyr ddim am y dref a'r amgylchoedd-dybied fod yr hen dref, ar ol i'r ffynnon gael ei sychu i fyny—wedi darfod amdani, a bod Ichabod wedi ei ysgrifennu ar byst ei phyrth,—fod ei holl ogoniant yn fasnachol, yn grefyddol, a chymdeithasol wedi cilio, a dim ond cyfyngder a chaledi yn ei hwynebu. 'Does dim o'r fath beth wedi digwydd. Mae'r hen dref mor fyw a sionc ag erioed. Nid yw corff y boblogaeth yn teimlo dim oddiwrth yr amgylchiad. Mae Treffynnon yn ganolfan cylch gweithfaol ac amaethyddol pwysig, ac yn gallu rhwyfo ymlaen yn llwyddiannus yn hollol annibynnol ar y ffynnon. Mae'n wir fod y ffynnon, oherwydd ei hynodrwydd, yn gryn dynfa i lawer, yn enwedig i'r Pabyddion, y rhai a gred fod rhinwedd dwyfol yn ei dyfroedd, ac fod delw y Santes Winifred yno'n wastadol yn eu hamddiffyn rhag pob niwed a cham. Yr oedd i bob dafn o'r ffynnon gael ei leibio i fyny mewn un dydd yn shock ryfeddol i ffydd a Chredo y Pabydd, ac yn wir, yr oedd yn syndod mawr i'r holl boblogaeth fod yr hen ffynnon-oedd wedi bod yn byrlymu tunelli o ddyfroedd yn ddiball bob munud am dros fil o fiynyddoodd-mown un nos- waith wedi sychu i fyny'n llwyr. Ychydig, mewn cymhariaeth, yw'r golled i'r dref. Yr oedd y Pabyddion, fel tenants, yn talu tua chan punt yn y flwyddyn i'r dref am ei gwasanaeth, a chael mynd yno i addoli yn y dwfr santaidd, a chusanu bawd y Santes am ei hamddiffyniad a'i bendith. Yr oedd miloedd o trippers yn dyfod yma i'r perwyl hwnnw am fis neu ddau bob haf ers rhai blynyddoedd, ac wrth gwrs gwneid elw mawr i goffrau Ileol y Babaeth. Heblaw y golled ysbrydol, mae'r golled ariannol yn fawr iawn i'r sefydliad Pabaidd. 'Rwy'n meddwl fod Y Brython, yn un o'i rifynnau, yn dweyd fod hyn yn iachawdwriaeth i DreSynnon. Wel, Mr. Gol., yr wyf yn un o'r rheiny sydd bob amser yn teimlo'n gryf iawn dros ryddid a hawl i bob dyn farnu drosto'i hun gyda phethau crefydd. Yr ydym, trwy drugaredd, yn byw mewn gwlad rydd, a chan bawb hawl i grefydda yn ol ei farn a'i ewyllys ei hun, tra yn unol a rheolau cyfiawnder a chware teg ond wedi byw yn y dref hon ers dros hanner can mlynedd, a sylwi'n lied fanwl ar gwrs pethau, nid wyf yn golygu fod y miri blynyddol ar ran y Pabyddion gyda'r ffynnon wedi bod yn un- rhyw fantais i foesoldeb a chrefydd yn y di-ef. Ar un adeg, ychydig o flynyddoedd yn 01, yr oeddynt wedi mynd yn ddigon rhy- fygus i orymdeithio trwy y brif heolydd a chanhwyllau wedi eu goleu, a,c yn cario delwau o Fair v Forwvn a St. Winifred, etc.. yn eu breichiau; ac heblaw hynny, tra'r oedd yr orymdaith yn mynd heibio, yr oedd y masnachwyr Pabaidd yn goleuo eu ffenestri ganol dydd goleu, ac yn gwneud display o'u creiriau. Mae'n anodd gwybod beth oedd dylanwad peth fel hyn ar feddwl ieuanc y dref. Hyn a wyddom, fod y Babaeth wedi ennill He cynnes iawn ym meddwl y bobl, a thrwy briodasau, etc., wedi ennill llawer o deuluoedd a phlant y dref. Wel, mae'r dyfroedd Bantaidd-dyfroodcl y gwyrth iau,— wedi sychu i fyny, mae lie i ofni byth i ddychwelyd mwy. Nifer o fwnwyr yn cloddio crombil mynydd Helygen dair milltir o'r ffynnon, ac yn dryllio'r graig ag ergyd o dynamite, dyma'r dyfroedd cuddiedig yn rhuthro allan gyda nerth ofnadwy ac yn ysgythru'n llifeiriant rhuadwy trwy dwnel i lawr i Fagillt, yn lie i Dreffynnon, ac felly y deil i ruthro i lawr yn ol pum neu chwe miliwn galwyn o ddwfr bob munud. Mae cwmni cyfoethog wedi bod wrthi ers rhai blynyddoedd yn cloddio'r mynydd, er cael gafael ar y trysorau o blwm, etc., sy'n gor- wedd ynddo. Y maent eisioes wedi suddo tua dau can mil o bunnau yn yr anturiaeth. 'Does gan y Cymry mo'r galon na'r boced i anturio fel hyn. Maent yn eithaf bodlon i'r Saeson gael canu'r cyrn, a hwythau druan, cul rwysg, yn cael yr esgyrn. Dyna hanes y Cymry hyd yn ddiweddar, onite BodJoni ar y gaib a'r rhaw, ac estroniaid i fwynhau y braster ond erbyn hyn mao bechgyn Cymru yn brysur yn cymryd eu lIe ym myd addysg, inasnach, celf yddyd, a gwleidyddiaeth. Mae fod Cymro o waed coch cyfa wedi dringo i ben pinacl uchaf yr Ymherodraeth, yn ernes go dda fod dylodol di-glair o flaen bechgyn talentog Cymru eto. Heblaw colli can punt o rent oddiwrth y ffynnon, ma- tipyn o anghyileus- tra wedi ei achosi i'r melinau oedd yn derbyn help oddiwrih y ffynnon, ond hawdd gwneud ttynnv i iyny mewr. ffyrdd eraill. Y dar. llawdy sy'n ffinio ar y ftynnon sy n cael y golled twya!. Yr oedd St. Winifrid's Ale mewn bri mawr, yn enwedig gan yr Hibern- ian," sychedig, ond trwy drugaredd, 'fydd dim eisiau cymaint o ddwfr yn awr wedi i Devonport orchymyn bod deunaw mil- iwn o farilau llai i gael eu darllaw. Diolch i Lord Devonport am ofalu am ymborth i'r bobl,—gwell fyth fuasai deunaw mil arall. Mae ffynnon Treffynnon, o leiaf, wedi oario allan y prohibition i'r llythyren. Hwyrach y bydd gennyf air eto yr wythnos nesaf ynghylch perthynas y Council â'r mater, ac ar bwy y mae'r cyfrifoldeb o amddifadu'r dref o'i ffynnon fydenwog.

AR GIP.

Advertising