Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Basgedaid o'r Wlad.I

Clep y Clawdd Isef Clawdd…

News
Cite
Share

 Clep y Clawdd sef Clawdd Offan I I [GAN YR RUTYN.) I Qioau Ho?anau ar y Sul.-Mao rhyw Sais o ffeirad tuhwnt i'r Clawdd wedi awgrymu ffordd newydd ar gynhilo amser, sef trwy wau hosanau ai, y 8ul dan y bregeth-neu yn y Cyfarfod Gweddi. Pwy ond Sais a fuasai'n breuddwydio y gellid y fath orchwyl dan bregeth ? Ond hwyrach y gellid hefyd dan bregeth Saesneg gan oifeiriad, os gellid ymgadw rhag trwmgwsg. Ni thai y cynllun hwn fawr ar y Clawdd yma, oblegid 'does ond ychydig a fedr wau ar y Llun yma, heb s6n am Sul. A'r tafod y gwcir yn awr ac nid a'r gweill. Tebyg mai cred yr offeiriad hwn yw mai gwastratf ar amser yw ei fath ef ar bregethau. Os felly, ewch ati i wneud hosanau, frawd! Ymholi am Yr Hutyn.Dywed y Gol. ac eraill fod cryn ymholi amdanaf. Wel, wele ft. Pa bechod a wneuthum ? Dywedir fy mod yn codi gwrychyn "rhai. Ai e ? But gebyrdt y daeth gwrych amynt ? Cam- fernir ti, trwy dybied mai cigydd wyf, Na, y mwynaf a'r ffolaf o'r gwyr wyf.-Hutyn wyf Y Gwoinidogion a'r gwasanaeth Cattedl- aethol.Dywed y Glep fod llawer gweinidog ar y Clawdd wedi ymgynnyg yn wirfoddol i Wasanaeth Cenedlaethol. Dywedodd un, meddir, ei fod yn barod i gynnal gwasanaeth claddu y Caiser pan fo galw. Da, was Dyma wasanaeth riiyng-wladwriacthol. Ond, atolwg, bet", a ddaw o'r wlad os â y gweini- dogion o'n heglwysi ? Troir y cloc yn ol am ganrifoedd, Mae angen y rhain gartref petai i ddim ond i weini cysur i'r trallodus yn y dyddiau helbulus hyn. Dyma y gwasanaeth mwyaf gwladwriaethol mewn pob rh yw ffordd. Y Messiah. -Da oedd gweld HenEglwys Sant Giles, Gwrecsam, dan sang nos Fercher gan bobl gwir awyddus i glywed cerddor- iaeth o'r iawn ryw. Mae y clod uchaf yn ddyledus i Mr. Wilfrid Jones, gwr y batwn- ganu, am ei berfformiad gwych. Canmol- adwy hefyd bawb ereill a'u cynorthwyodd. Buwyd yno hyd o amser-sef ami dro ar y cloc, ond rhyfedd mor gyflym y brysiai pob awr. 0 na chawsid ychwaneg nag un noson. Os teilwng y Toreador o rai dyddiau, teilwng y Messiah, o oesau lawer. Y trensh olaf.-I filwr, y bedd yw hwnnw. Cludwyd gweddillion y milwr Wm. Lloyd, yr wythnos ddiweddaf, yn ol i'r iios lie yr erys hyd ganiad yr utgorn sef ei hir gartref. Bu mewn llawer brwydr boeth. Clwyfwyd ef a bu farw yng Ngwrecsam, lie y gedy fam dyner a phriod galarus a chwech o anwyliaid. Rhoddwyd iddo gladdedigaeth filwrol a pharchus, ond nac anghofier y weddw. Yn aberth dro8 eu gwlad.-Gwnaeth y Parch. Lewys Morys, gweinidog Bedyddwyr Gwrecsam, goffa tyner am y ddau filwr o'i ddiadell a syrthiodd y naill ar faes y gwaed a'r Hall ar y ifordd yma. Talodd deyrnged uchel i'w cymeriadau a'u llafur ynglyn a'r achos yn y lie. Arthur oedd enw y ddau. Claddu hen batriarch.-Dangoswyd cryn lawer o barch i goffadwriaeth Mr. Thomas Charles, Coed Poeth, yn ei angladd ddydd Llun ddiweddaf. Daeth torf ynghyd nes llenwi y capel, ac yr oedd nifer fawr o flaenoriaid a gweinidogion yn eu plith. Tal- wyd teyrnged uchel i'w ffyddlondeb i achos crefydd, ac hefyd i w ddeall a'i ddawn. Nid oedd hafal iddo mewn Seiat, a pregethai hefyd yn ami dan arddeliad amlwg. Darllenai Ddiwinyddi.aeth,Athroniaeth,Seryddiaeth,etc Gwerthodd hefyd ami i lyfr da i bobl na fuasai byth wedi prynu ond dan ei gymhell- iad. Bu'n chwilio llawer am blwm ym myn. wes y Wern, ond ni chafodd fawr, ond. gwnaeth yn reit siwr o'r perl o werthfawr bris." Ceir colled cyfiredinol ar ei ol. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu. lien batriarch arall.-Hunodd Mr. Sam- uel Cunnah, Broughton Newydd, fore Sul. Yr oedd wedi ei gaethiwo ers wythnosau, ond daeth y diwedd yn annisgwyliadwy. Bu'n gefn i achos Methodistaidd Glanrafon, ac arall lawer tro. Bu'n llwyddiannus iawn mewn casglu eiddo, a rhoddodd lawer at achosion crefyddol. Adnabyddid ef gan gylch eang iawn, Treuliodd ei oes ar Y Clawdd. Gafr y Pentre.-Mae Arglwydd Rhondda wedi estyn gafr yn rhodd i blant ysgol Pentre Brython, fel anogaeth iddynt fynd i mewn am eifr yng Nghymru. Dyma beth newydd "Myn gafr i" Dylasai'r Cymry fod yn fwy hofi or afr nag ydynt. Mae hen drigolion y wlad yn cyflym ddyfod yn eu holau, sef y mochyn, yr afr, yr winhingen ddof, a'r bytaten. Safn y dafarn ar agor.-Deellir mai am. can cau y dafarn am hanner awr wedi'dau y prydnawn oedd atal i'r gweithwyr fyned yno yn eu dillad gweithio, wrth ddod o'u gwaith. Ond canfyddir mewn ami i le bod safn y dafarn ar agor ar ol yr amser. Gwelir amryw lowyr yn eu du yn ymlwybro i mewn i ddiota wedi amser cau. Ofnir fod Ilawel o hyn mewn mannau. Daliwyd sylw ar rai yn ddiweddar. Ble mae y police ? i Lleidr sal.-Torrodd lleidr neu ladron t offis yn Bryn Mally gan geisio dwyn cisd haearn ac wedi ei chael allan ni fedrwyn ei hagor, a chollodd un o'r lladron ddar pum swllt o'i logell, yn ei ymdrech i ddwyn gist. 0 grefftwr sal. Dylasai hwn gael, e1 grogi am aflerwch. Cudyn o wallt '"hen Fari yr oedd gan y diweddar Syr Ffoster Cynliffe, A cton Pare, Gwrecsam, medd y Glep, gudyn o wallt yr hen Frenhines Mari. Cadwodd ef yn ei gist yn ddiogel hyd ei ladd yn Ffrainc dro'n ol. Gedir y cudyn yn ei ewyllys i Syr David Kinloch. Pa neilltuolrwydd, tybed, oedd yn y cudyn hwn rhagor un arall ? Ai ynteu hwn oedd yr unig gudyn oedd ganddi ar ei helw Beth ydyw gwerth cudyn o'r fath yma 1 Mai'r Clawdd yn fyw am wybod a yw wedi ei stwffio ai peidio ynteu sut y cedwir ef yn ddifrau ? Carai'r Hutyn gael ateb. Darlithwyr Y Clawdd.—Cefn (W) George Borrow gan y Parch. D. Gwynfryn Jones, Fflint. Brymbo (B) Proffwydoliaeth yr Hen Destament gan y Parch. T. Garddi Davies, B.A. Summer Hill (C.M.) Billy Bray gan y Parch. D. Ward Williams, Gwrecsam, Bwledi aur y Rhos.-Helir arian wrth y miloedd yn y Rhos yma, i gynorthwyo'r wlad i ennill yn y frwydr fawr Dywedir fod digon o war certificates yn y Rhos i bapuro tai yr holl ardal. Dywedir fod un cape yn unig wedi casglu mil o bunnau mown I ychydig wythnosau, a dilynir hwnnw gan ereill. Mawr fydd cyfoeth y trigolion wedi yr el y rhyfel heibio. Telir holl ddyledion y capelau, a chodir cyiiogau y gweinidogion fel offrwm diolch i'r Arglwydd. Da cael rhyfel i wneud hyn l'w hir gartref.-Lliaws oedd y rhai a ddaeth ynghyd i gynhebrwng Mr. Samuel Cunnah, Broughton Newydd, ddydd Iau diweddaf. Yr oedd yn adnabyddus i gylch mawr iawn, ac wedi cael hir oes. Yr oedd yn wr a phen arno. Gwnaeth lawer gydag achos crefyddol. Blaenor liyddlon fu hefyd yng Nglan yr Afon, efo'r Methodistaidd Calfinaidd am flynyddoedd meithion a daliodd ben trymaf y baich tra yno, Teimlir colled ar ei ol. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y gweinidog, y Parch. W. Roberts-Jones, cymerwyd rhan gan y Parchn. R. Morris, M.A., J. T. Jones, B.A., J. Lloyd Jones,B.A., Evan Jones, a chaed anerchiadau gan y Parèhn., Edward Roberts, J. Smallwood, D. Ward Williams, a R. E. Morris, M.A.

Gair am Ffynnon Treffynnon.

AR GIP.

Advertising