Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
HAVE  Y0V"&<1k /1 ?3??$ .c/A %>mVfOs '.Ii ?F" lÄ'.r ■ F @ ")= ■ A FREE VOLUME r A FREE o"VOLUME' I ECORATIVE ART & FURNISHING JUST cFertcua to war we complied. MgMdteM of cosi, ii, volujne con- taini-ng coloured plates and hundreds of illustrations, each article being ptked in plain figured at the then current valuors., whilat all goodsi are woll known to have considerably increased in cost owing to fluctuations T^pqiseot, upon the -av. A sinste number of this volume would to-day cost 7s, fd, to produce YOU ittay hara a rovr Mut to your residence, ABSOLUTELY FREE AND POSTAGE fAIP. (H¡n or jIwl¡ng Postcard to tfc* DinUCCD COMPLETE CTfiDP £ 9 T0 19 0010 ST., PIONEERFURNISHING *3 The Volume teaches one HOW TO FURNISH CASH OR OUT OF INCOME ^PWP— Phene 6220 Royal, waSStt&r
Basgedaid o'r Wlad.I
Basgedaid o'r Wlad. I GWILYM BERW YN EI FEDD.- Bu farw y Parch. William Lewis, Ficer Abergynolwyn, yn dra sydyn ddiwedd Ion- awr, yn 68 oed. Genedigol oedd o bentref Berw, ym mhlwyf y Gaerwen, Mon. Post- man oedd hyd nes y cyrhaeddodd 33ain oed, a phrin y medrai air o Saesneg. Y pryd hynny arferai y diweddar Ddeon Edwards o Fangor fynychu ardal Llangeinwen, sef cartref ei wraig, a daeth o hyd i'r postman gwledig, a gwelodd ynddo ddefnydd offeiriad. Wedi derbyn addysg rhagbaratoawl, aeth trwy gwrs diwinyddol yn Birkenhead, ac wedi treulio rhai blynyddoedd yn giwrad yn Nhal y Sarn a Llandudno, penodwyd ef yn Ficer Abergynolwyn, Adnabyddid ef fel cyfaill cywir a bugail ffyddlon. Medrai englynu gyda'r goreu. Wele un enghraifft i ddau forwr a olchwyd i'r lan yn Amlwch Gwyr yrrwyd i'n gororau-yn waelion Ar elor y tonnau Duw ei Hun wyr en henwau Daw ryw ddydd i godi'r ddau MERTHYR VALE.Chwef. 15 cyn- haliwyd Eisteddfod flynyddol y Methodist- iaid. Llywydd y Parch. W. A. Jones. Arweinydd, D. Francis, Ysw., M.E., Troed y Rhiw. Beirniad y Gerddoriaeth—ar y llwyfan y Proff.T. J.Morgan, F. T.S.C..R.A.M. (Pencerdd Cynon), Cwmbach, Aberdar yn y rhagbrawfion, Mr, W Canaid Thomas, Merthyr. Adrodd, Lien, etc., Mr. Michael Thomas a'r cyn Arol, Jenkins. Cyfeilwyr, Miss H. M. Jones a Mr. Idloe's Owen. Dyma'r prif ddyfarniadau :—Unawd ar y piano, Master VV. J. Evans, Treharris, Unawd Contralto, Miss F. C. Jones, Mardy. Unawd Tenor, Mr. R. Lewis, Dowlais. Unawd Baritone, Mr. W. Bennett, Aberfan. Unawd Soprano, rhannwyd rhwng Miss Annie Jones, Treharris, a, Mrs. Carrie Williams, Merthyr Vale. Pedwarawd, Mr. J. Jones, Aberfan, a'i barti. fler-tiiiawd, rhannwyd rhwng Mr. J. J. Lewis, Powlais. a Mr. J. R. Owen, Merthyr Vale. Englyn, Mr. Evan Williams, Bl. Ffestiniog. Traethawd, y Parch. R..Carii Adams, Caerdydd. Llythyr Agored i lywodraethwyr Ewrop, Mr. D. Davies. Chwe phennill coffa i Cranogwen, Myfyr yr Ynys." Traethawd, Miss Florrie Williams, Ffestiniog, Yr Eisteddfod yn Hwyddiant hollol. Gwnaeth beirniaid yr adrodd a'r canu eu gwaith yn foddhaol. Cafwyd llawer o oleuni ar bwnc y llais gan Proff. Morgan. N AN TLLE.—Araifcli ctda a theg gafwyd ym Mhen y Groes nos Wener gan Mr. Ellis Davies, A,S. Diolchwyd iddo am ei waith. ynglyn ag achos Syr Owen Thomas. Di- lynwyd 'gan y Parchn. R. J. Parry a J. Williams (ciwrad). — Anfonodd eglwys Calfaria (B), Clydach Vale, alwad unfryd a chynnes i'r Parch. D. Davies, Ebenezer, Llanilyfni. Penderfynu mynd y^ mae, a dechreu ar ei waith yno Ebrill 15.,kAiff yn ddilynydd i'r diweddar Dr. Elvad Davies, bu ef yno am 34 mlynedd. Brodor o Lwyn- hendy ydyw Mr. Davies, brawd rhagorol, dyn. rhydd braf a llydan. Bydd hiraeth mawr amdano yn Ebenezera Phontllyfni- hen faes Robert Jones," a bydd yr holl gylch yn gofidio ei fod yn ymadael.—Pryn- hawn Sadwrn, dyna angladd y cyfaill ieuanc, Mr. Owen Jones, Isfryn, Pen y Groes. Cafodd dair wythnos o gystudd a bu farw'n 27 mlwydd oed. Llu mawr yn yr angladd a'r Parchn, W. E. Williams, J. M. Williams, R. J. Parry. a John Jones, Bryn 'rodyn, yn gwasanaethr, Mae ei ewythr, Mr. J. O. Jones, yn flaenou parchus gyda'r M.C. yn St. Helens Junctioni Bu yntau'n gweithio yn Birkenhead, cyn e- gystudd.-Ffurfiwyd Cymdeithas Gynhilo yn Llanllyfni, a'r pentrefwyr yn bwrw eu rhoddion i'r drysorfa nes erbyn hyn rhaid wrth dri ffigiwr i osod y swm allan.—Cafwyd gwasanaeth yn Salem (M.C.) Llanllyfni, er cof am y Uanc ieuanc, Elwyn Roberts, mab y Parch, a Mrs. Ceidiog Roberts. Nos Sul ddiweddaf y bu hyn. Teilwng oedd o'r coffa goreu, felly hefyd hob un o gyffelyb ysbryd a'r cyfaill Elwyn.—Nos Iau, aeth Cwmni Pen y Groes i Ros Tryfan i berff ormio Y Ferch o Gefn YdJa. Ty Uawn a chaamol- iaeth i'r cwmni, a chais amdanynt o Foel Tryfan. Oes siawns am gyhoeddiacl yn Lerpwl Mr. Gol ? [Oes siawns inni gael eu gweld a'u clywed yn gyntaf ?—Y GOL.] CAERLLEON.—Cafwyd cyfarfod cys- tadleuol rhagorol yn St. John Street, Chwef. 21. Trefnodd y pwyllgor raglen o chwaeth da a digon o amrywiaeth. Wele rai o'r ynillwyr :—Her unawd, Miss M. Roberts, Catherine Street. Cor Plant, Milwyr a Morwyr, (Dr. D. Evans) Cor Hoole, dan arweiniad Mr. D. Hughes 2, John Street, (Miss Jennie Jones). Prif gystadleuaeth gorawl, Molwch yr Arglwydd (D. Jenkins). Wele y drefn y canodd y corau, a'r safle a gyrhaeddwyd ganddynt:—Cor Hoole (ar- weiiiydd y Parch. J.JE vans),73 (allan o 80); Cor Queen Street, Caer (T. Davies Jones), 77 Cor St. John Street (W. Jones), 75. Cafodd Mr. J. L.Thomas, beirniad yr adrodd, a Mr. G. W. Hughes, Liverpool, y beirniad cerddorol, lawer o waith, ond gwnaeth y ddau eu rhan yn nodedig o foddhaol. Cyf- eiliwyd gan Mr. H. D. Williams, A.N.C.M. Priodolwn lwyddiant y cyfarfod yn bennaf i Mr. G. Edwards, arolygwr, a Miss J. Jones (ysgrifennydd ysgol John Street) a Mr. I. Roberts, B.A., (arolygwr) a Mr. Trevor Roberts (ysg. y gangen ysgol yn Hoole). Mae ein cydymdeimlad yn fawr a Mr. W. Davies, fethodd ddod i gydfeirniadu a Mr. J. L. Thomas oherwydd gwaeledd, ac yn neillduol a felly Mr. Dodd, a fethodd ddod i'r cwrdd oherwydd gwaeledd ei annwyl briod. Diolchodd Mr. M. Parry a Mr. T. Hughes i bawb a gymerodd ran. Wele le cynnes i'r Parch. G. Hughes, Ffest- iniog, sy'n dod i ofalu am eglwys John Street. —Gvnlym. CYMRODORION GOLWYN BAY. Cynhaliwyd cyfarfod olaf tymor y Gymdeithas hon nos Wener ddiweddaf. Cafwyd anerch- iad y tro hwn ar Morgan Llwyd o Wynedd gan Mr. J.H.Roberts, yr Ysgol Uchelfennol, a brofai ei fod wedi darllen hanes y gwrth- rych yn fanwl a helaeth. Cadeiriwyd gan Miss Ceridwen Gruffydd, Ysgol y Cyngor, Penmaen Rhos, a chafwyd ganddi gynllun o anerchiad mewn iaith, meddwl, a hyd, Moes fwy. Yn y ddau gyfarfod blaenorol bu y Parch.W. Williams, (Maentwrog gynt) ac Anthropos yn ein hannerch, y cyntaf ar Arabedd AwenHiraethog, neu yn ol yBrython, fel y nodiad Mr. Williams Hiwmor Awen Hiraethog. A wna hiwmoraidd ansoddair ? [Gwnai.yn well na hiw morus a gawsom gan walch direidus y dydd o'r blaen.-Y GOL.] Yr olaf ar BrydferthnxJi Awen Emrys. Caw- som gan y ddau yr aur yn ei werth a'i burdeb. Ni soniwyd am y llwch y codwyd ef ohono, na'r arfau, na'r cloddwyr a wasanaethodd i'w roi i'r byd, ac afraid oedd hyn. Gallasai- hynny beri gwahaniaeth bam, ac efallai deimladau gwahanol, a thrwy hynny am. lygu prinder eangfrydedd,acnid diffyg gallu. Bu holl gyfarfodydd y tymor yn llwyddiannus iawn.-N odwr. 0 BENYGR0E8.—Angladd Parchus.- Dydd Sadwrn diweddaf ymgynhullodd tyrfa fawr o'n pentrefwyr ynghydag amryw eraill o'r ardaloedd cylchynol i dalu'r gymwynas olaf i'r bachgen ieuanc hawddgar, y diweddar Mr. Owen Jones, Isfryn, Llwyndu Road, a gleddid ynghanol teimladau dwys ym mynwent Macpelah. Gwasanaethwyd wrth y drws gan y Parchn. Wm. E. Williams, Bethol, a J. M. Williams, Soar, ac ar lan y bedd gan y Parchn. John Jones, Brynrodyn, a R. J. Parry. Yr oedd ein diweddar gyfaill yn un o gymeriadau prydferthaf yr ardal—yn dawel a boneddigaidd ei ffordd, a phob amser yn barod i roddi ei ysgwydd dan faich pob Achos Da. Bu'n ffyddlawn i foddion gras er yn ami yn ddigon gwan ei gorff, a gwnaeth ei ran yn selog er adfywhau y Ddrama Gymreig—yr oedd yn aelod gwasanaethgar o Gwmni Drama ein pentref. Bu am yspaid yn ddiweddar yn gweithio yn Nhre'r Brython, a chawsom air da iddo o Eglwys Parkfield lie y cartrefai. Gresyn colli dyn ieuanc mor ddymunol cyn bod yn saith a'r hugain oed. Mae ein cydymdeim- lad dwysaf a'i dad a'i fam galarus a hefyd a'i ddwy chwaer yn eu hiraeth am eu brawd caredig. Cludid yr arch o'r ty i'r fynwent ar ysgwyddau aelodau o Glwb yr Odyddion. i i
Clep y Clawdd Isef Clawdd…
 Clep y Clawdd sef Clawdd Offan I I [GAN YR RUTYN.) I Qioau Ho?anau ar y Sul.-Mao rhyw Sais o ffeirad tuhwnt i'r Clawdd wedi awgrymu ffordd newydd ar gynhilo amser, sef trwy wau hosanau ai, y 8ul dan y bregeth-neu yn y Cyfarfod Gweddi. Pwy ond Sais a fuasai'n breuddwydio y gellid y fath orchwyl dan bregeth ? Ond hwyrach y gellid hefyd dan bregeth Saesneg gan oifeiriad, os gellid ymgadw rhag trwmgwsg. Ni thai y cynllun hwn fawr ar y Clawdd yma, oblegid 'does ond ychydig a fedr wau ar y Llun yma, heb s6n am Sul. A'r tafod y gwcir yn awr ac nid a'r gweill. Tebyg mai cred yr offeiriad hwn yw mai gwastratf ar amser yw ei fath ef ar bregethau. Os felly, ewch ati i wneud hosanau, frawd! Ymholi am Yr Hutyn.Dywed y Gol. ac eraill fod cryn ymholi amdanaf. Wel, wele ft. Pa bechod a wneuthum ? Dywedir fy mod yn codi gwrychyn "rhai. Ai e ? But gebyrdt y daeth gwrych amynt ? Cam- fernir ti, trwy dybied mai cigydd wyf, Na, y mwynaf a'r ffolaf o'r gwyr wyf.-Hutyn wyf Y Gwoinidogion a'r gwasanaeth Cattedl- aethol.Dywed y Glep fod llawer gweinidog ar y Clawdd wedi ymgynnyg yn wirfoddol i Wasanaeth Cenedlaethol. Dywedodd un, meddir, ei fod yn barod i gynnal gwasanaeth claddu y Caiser pan fo galw. Da, was Dyma wasanaeth riiyng-wladwriacthol. Ond, atolwg, bet", a ddaw o'r wlad os â y gweini- dogion o'n heglwysi ? Troir y cloc yn ol am ganrifoedd, Mae angen y rhain gartref petai i ddim ond i weini cysur i'r trallodus yn y dyddiau helbulus hyn. Dyma y gwasanaeth mwyaf gwladwriaethol mewn pob rh yw ffordd. Y Messiah. -Da oedd gweld HenEglwys Sant Giles, Gwrecsam, dan sang nos Fercher gan bobl gwir awyddus i glywed cerddor- iaeth o'r iawn ryw. Mae y clod uchaf yn ddyledus i Mr. Wilfrid Jones, gwr y batwn- ganu, am ei berfformiad gwych. Canmol- adwy hefyd bawb ereill a'u cynorthwyodd. Buwyd yno hyd o amser-sef ami dro ar y cloc, ond rhyfedd mor gyflym y brysiai pob awr. 0 na chawsid ychwaneg nag un noson. Os teilwng y Toreador o rai dyddiau, teilwng y Messiah, o oesau lawer. Y trensh olaf.-I filwr, y bedd yw hwnnw. Cludwyd gweddillion y milwr Wm. Lloyd, yr wythnos ddiweddaf, yn ol i'r iios lie yr erys hyd ganiad yr utgorn sef ei hir gartref. Bu mewn llawer brwydr boeth. Clwyfwyd ef a bu farw yng Ngwrecsam, lie y gedy fam dyner a phriod galarus a chwech o anwyliaid. Rhoddwyd iddo gladdedigaeth filwrol a pharchus, ond nac anghofier y weddw. Yn aberth dro8 eu gwlad.-Gwnaeth y Parch. Lewys Morys, gweinidog Bedyddwyr Gwrecsam, goffa tyner am y ddau filwr o'i ddiadell a syrthiodd y naill ar faes y gwaed a'r Hall ar y ifordd yma. Talodd deyrnged uchel i'w cymeriadau a'u llafur ynglyn a'r achos yn y lie. Arthur oedd enw y ddau. Claddu hen batriarch.-Dangoswyd cryn lawer o barch i goffadwriaeth Mr. Thomas Charles, Coed Poeth, yn ei angladd ddydd Llun ddiweddaf. Daeth torf ynghyd nes llenwi y capel, ac yr oedd nifer fawr o flaenoriaid a gweinidogion yn eu plith. Tal- wyd teyrnged uchel i'w ffyddlondeb i achos crefydd, ac hefyd i w ddeall a'i ddawn. Nid oedd hafal iddo mewn Seiat, a pregethai hefyd yn ami dan arddeliad amlwg. Darllenai Ddiwinyddi.aeth,Athroniaeth,Seryddiaeth,etc Gwerthodd hefyd ami i lyfr da i bobl na fuasai byth wedi prynu ond dan ei gymhell- iad. Bu'n chwilio llawer am blwm ym myn. wes y Wern, ond ni chafodd fawr, ond. gwnaeth yn reit siwr o'r perl o werthfawr bris." Ceir colled cyfiredinol ar ei ol. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu. lien batriarch arall.-Hunodd Mr. Sam- uel Cunnah, Broughton Newydd, fore Sul. Yr oedd wedi ei gaethiwo ers wythnosau, ond daeth y diwedd yn annisgwyliadwy. Bu'n gefn i achos Methodistaidd Glanrafon, ac arall lawer tro. Bu'n llwyddiannus iawn mewn casglu eiddo, a rhoddodd lawer at achosion crefyddol. Adnabyddid ef gan gylch eang iawn, Treuliodd ei oes ar Y Clawdd. Gafr y Pentre.-Mae Arglwydd Rhondda wedi estyn gafr yn rhodd i blant ysgol Pentre Brython, fel anogaeth iddynt fynd i mewn am eifr yng Nghymru. Dyma beth newydd "Myn gafr i" Dylasai'r Cymry fod yn fwy hofi or afr nag ydynt. Mae hen drigolion y wlad yn cyflym ddyfod yn eu holau, sef y mochyn, yr afr, yr winhingen ddof, a'r bytaten. Safn y dafarn ar agor.-Deellir mai am. can cau y dafarn am hanner awr wedi'dau y prydnawn oedd atal i'r gweithwyr fyned yno yn eu dillad gweithio, wrth ddod o'u gwaith. Ond canfyddir mewn ami i le bod safn y dafarn ar agor ar ol yr amser. Gwelir amryw lowyr yn eu du yn ymlwybro i mewn i ddiota wedi amser cau. Ofnir fod Ilawel o hyn mewn mannau. Daliwyd sylw ar rai yn ddiweddar. Ble mae y police ? i Lleidr sal.-Torrodd lleidr neu ladron t offis yn Bryn Mally gan geisio dwyn cisd haearn ac wedi ei chael allan ni fedrwyn ei hagor, a chollodd un o'r lladron ddar pum swllt o'i logell, yn ei ymdrech i ddwyn gist. 0 grefftwr sal. Dylasai hwn gael, e1 grogi am aflerwch. Cudyn o wallt '"hen Fari yr oedd gan y diweddar Syr Ffoster Cynliffe, A cton Pare, Gwrecsam, medd y Glep, gudyn o wallt yr hen Frenhines Mari. Cadwodd ef yn ei gist yn ddiogel hyd ei ladd yn Ffrainc dro'n ol. Gedir y cudyn yn ei ewyllys i Syr David Kinloch. Pa neilltuolrwydd, tybed, oedd yn y cudyn hwn rhagor un arall ? Ai ynteu hwn oedd yr unig gudyn oedd ganddi ar ei helw Beth ydyw gwerth cudyn o'r fath yma 1 Mai'r Clawdd yn fyw am wybod a yw wedi ei stwffio ai peidio ynteu sut y cedwir ef yn ddifrau ? Carai'r Hutyn gael ateb. Darlithwyr Y Clawdd.—Cefn (W) George Borrow gan y Parch. D. Gwynfryn Jones, Fflint. Brymbo (B) Proffwydoliaeth yr Hen Destament gan y Parch. T. Garddi Davies, B.A. Summer Hill (C.M.) Billy Bray gan y Parch. D. Ward Williams, Gwrecsam, Bwledi aur y Rhos.-Helir arian wrth y miloedd yn y Rhos yma, i gynorthwyo'r wlad i ennill yn y frwydr fawr Dywedir fod digon o war certificates yn y Rhos i bapuro tai yr holl ardal. Dywedir fod un cape yn unig wedi casglu mil o bunnau mown I ychydig wythnosau, a dilynir hwnnw gan ereill. Mawr fydd cyfoeth y trigolion wedi yr el y rhyfel heibio. Telir holl ddyledion y capelau, a chodir cyiiogau y gweinidogion fel offrwm diolch i'r Arglwydd. Da cael rhyfel i wneud hyn l'w hir gartref.-Lliaws oedd y rhai a ddaeth ynghyd i gynhebrwng Mr. Samuel Cunnah, Broughton Newydd, ddydd Iau diweddaf. Yr oedd yn adnabyddus i gylch mawr iawn, ac wedi cael hir oes. Yr oedd yn wr a phen arno. Gwnaeth lawer gydag achos crefyddol. Blaenor liyddlon fu hefyd yng Nglan yr Afon, efo'r Methodistaidd Calfinaidd am flynyddoedd meithion a daliodd ben trymaf y baich tra yno, Teimlir colled ar ei ol. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y gweinidog, y Parch. W. Roberts-Jones, cymerwyd rhan gan y Parchn. R. Morris, M.A., J. T. Jones, B.A., J. Lloyd Jones,B.A., Evan Jones, a chaed anerchiadau gan y Parèhn., Edward Roberts, J. Smallwood, D. Ward Williams, a R. E. Morris, M.A.
Gair am Ffynnon Treffynnon.
Gair am Ffynnon Treffynnon. [GAN HEN FRODOR] HWYRACH ygwnewch chwi gyd-ddwyn 4 musgrellni'r ysgrif hon, Mr. Gol. Yr wyf yn gaeth ar wely cystudd ers naw mis, fel nad yw'r Haw a'r pin mor ystwyth i waith fel hwn ag arfer. Carwn allu symud ychydig o'r cam-argraff sydd wedi ei roddi ar y wlad mewn perthynas i'r ffynnon uchod, Gallai'r anwybodna wyr ddim am y dref a'r amgylchoedd-dybied fod yr hen dref, ar ol i'r ffynnon gael ei sychu i fyny—wedi darfod amdani, a bod Ichabod wedi ei ysgrifennu ar byst ei phyrth,—fod ei holl ogoniant yn fasnachol, yn grefyddol, a chymdeithasol wedi cilio, a dim ond cyfyngder a chaledi yn ei hwynebu. 'Does dim o'r fath beth wedi digwydd. Mae'r hen dref mor fyw a sionc ag erioed. Nid yw corff y boblogaeth yn teimlo dim oddiwrth yr amgylchiad. Mae Treffynnon yn ganolfan cylch gweithfaol ac amaethyddol pwysig, ac yn gallu rhwyfo ymlaen yn llwyddiannus yn hollol annibynnol ar y ffynnon. Mae'n wir fod y ffynnon, oherwydd ei hynodrwydd, yn gryn dynfa i lawer, yn enwedig i'r Pabyddion, y rhai a gred fod rhinwedd dwyfol yn ei dyfroedd, ac fod delw y Santes Winifred yno'n wastadol yn eu hamddiffyn rhag pob niwed a cham. Yr oedd i bob dafn o'r ffynnon gael ei leibio i fyny mewn un dydd yn shock ryfeddol i ffydd a Chredo y Pabydd, ac yn wir, yr oedd yn syndod mawr i'r holl boblogaeth fod yr hen ffynnon-oedd wedi bod yn byrlymu tunelli o ddyfroedd yn ddiball bob munud am dros fil o fiynyddoodd-mown un nos- waith wedi sychu i fyny'n llwyr. Ychydig, mewn cymhariaeth, yw'r golled i'r dref. Yr oedd y Pabyddion, fel tenants, yn talu tua chan punt yn y flwyddyn i'r dref am ei gwasanaeth, a chael mynd yno i addoli yn y dwfr santaidd, a chusanu bawd y Santes am ei hamddiffyniad a'i bendith. Yr oedd miloedd o trippers yn dyfod yma i'r perwyl hwnnw am fis neu ddau bob haf ers rhai blynyddoedd, ac wrth gwrs gwneid elw mawr i goffrau Ileol y Babaeth. Heblaw y golled ysbrydol, mae'r golled ariannol yn fawr iawn i'r sefydliad Pabaidd. 'Rwy'n meddwl fod Y Brython, yn un o'i rifynnau, yn dweyd fod hyn yn iachawdwriaeth i DreSynnon. Wel, Mr. Gol., yr wyf yn un o'r rheiny sydd bob amser yn teimlo'n gryf iawn dros ryddid a hawl i bob dyn farnu drosto'i hun gyda phethau crefydd. Yr ydym, trwy drugaredd, yn byw mewn gwlad rydd, a chan bawb hawl i grefydda yn ol ei farn a'i ewyllys ei hun, tra yn unol a rheolau cyfiawnder a chware teg ond wedi byw yn y dref hon ers dros hanner can mlynedd, a sylwi'n lied fanwl ar gwrs pethau, nid wyf yn golygu fod y miri blynyddol ar ran y Pabyddion gyda'r ffynnon wedi bod yn un- rhyw fantais i foesoldeb a chrefydd yn y di-ef. Ar un adeg, ychydig o flynyddoedd yn 01, yr oeddynt wedi mynd yn ddigon rhy- fygus i orymdeithio trwy y brif heolydd a chanhwyllau wedi eu goleu, a,c yn cario delwau o Fair v Forwvn a St. Winifred, etc.. yn eu breichiau; ac heblaw hynny, tra'r oedd yr orymdaith yn mynd heibio, yr oedd y masnachwyr Pabaidd yn goleuo eu ffenestri ganol dydd goleu, ac yn gwneud display o'u creiriau. Mae'n anodd gwybod beth oedd dylanwad peth fel hyn ar feddwl ieuanc y dref. Hyn a wyddom, fod y Babaeth wedi ennill He cynnes iawn ym meddwl y bobl, a thrwy briodasau, etc., wedi ennill llawer o deuluoedd a phlant y dref. Wel, mae'r dyfroedd Bantaidd-dyfroodcl y gwyrth iau,— wedi sychu i fyny, mae lie i ofni byth i ddychwelyd mwy. Nifer o fwnwyr yn cloddio crombil mynydd Helygen dair milltir o'r ffynnon, ac yn dryllio'r graig ag ergyd o dynamite, dyma'r dyfroedd cuddiedig yn rhuthro allan gyda nerth ofnadwy ac yn ysgythru'n llifeiriant rhuadwy trwy dwnel i lawr i Fagillt, yn lie i Dreffynnon, ac felly y deil i ruthro i lawr yn ol pum neu chwe miliwn galwyn o ddwfr bob munud. Mae cwmni cyfoethog wedi bod wrthi ers rhai blynyddoedd yn cloddio'r mynydd, er cael gafael ar y trysorau o blwm, etc., sy'n gor- wedd ynddo. Y maent eisioes wedi suddo tua dau can mil o bunnau yn yr anturiaeth. 'Does gan y Cymry mo'r galon na'r boced i anturio fel hyn. Maent yn eithaf bodlon i'r Saeson gael canu'r cyrn, a hwythau druan, cul rwysg, yn cael yr esgyrn. Dyna hanes y Cymry hyd yn ddiweddar, onite BodJoni ar y gaib a'r rhaw, ac estroniaid i fwynhau y braster ond erbyn hyn mao bechgyn Cymru yn brysur yn cymryd eu lIe ym myd addysg, inasnach, celf yddyd, a gwleidyddiaeth. Mae fod Cymro o waed coch cyfa wedi dringo i ben pinacl uchaf yr Ymherodraeth, yn ernes go dda fod dylodol di-glair o flaen bechgyn talentog Cymru eto. Heblaw colli can punt o rent oddiwrth y ffynnon, ma- tipyn o anghyileus- tra wedi ei achosi i'r melinau oedd yn derbyn help oddiwrih y ffynnon, ond hawdd gwneud ttynnv i iyny mewr. ffyrdd eraill. Y dar. llawdy sy'n ffinio ar y ftynnon sy n cael y golled twya!. Yr oedd St. Winifrid's Ale mewn bri mawr, yn enwedig gan yr Hibern- ian," sychedig, ond trwy drugaredd, 'fydd dim eisiau cymaint o ddwfr yn awr wedi i Devonport orchymyn bod deunaw mil- iwn o farilau llai i gael eu darllaw. Diolch i Lord Devonport am ofalu am ymborth i'r bobl,—gwell fyth fuasai deunaw mil arall. Mae ffynnon Treffynnon, o leiaf, wedi oario allan y prohibition i'r llythyren. Hwyrach y bydd gennyf air eto yr wythnos nesaf ynghylch perthynas y Council â'r mater, ac ar bwy y mae'r cyfrifoldeb o amddifadu'r dref o'i ffynnon fydenwog.
AR GIP.
AR GIP. O'r un ar bymtheg a "sythai am swydd gofalu am bresenoldeb plant yn'r ysgolion bob dydd, penododd Pwyllgor Addysg Ffestiniog y Pte. J. J. Evans, Penrhyn Deudraeth. Yr oedd o a milwr arall ymysg yr un ar bymtheg, I a'r ddau wedi colli'r fraich dde. Y mae Miss Maggie Evans, merch fferm Cefn Llydan, ger y Drenewydd, ar goll er dydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn wyth ar hugaih. oed, a chaed ei hymbarel ar lan yr Hafren. Y mae'r Anrhyd. F. G. Wynn, Glyn Llifon, a Bodfean, sir Gaernarfon, yn bur wael a lid peryglus y pneumonia, Mab y fo i'r diweddar Arglwydd Newborough. Glyn Llifon yw'r hen bias a fyddai'n gartref yr Yswain Huw Llwyd, oedd mor dyniaethus i'r Ymneilltuwyr fel y disgynnodd yn farw gelain, oherwydd gwylltio wrth fethu cael ei arfaeth a'i ewyllys fileinig ar un o'r hen Gynghorwyr. Bu'r Barch. Thos. Price, ficer Prestatyn, farw yn Llanfair Muallt ddydd Iau diweddaf. Yr oedd yn saith a phedwar ugain mlwydd oed, ac wedi bod yn ficer Prestatyn am flynyddoedd. Y mae'r Parch. R. E. Morris, M.A., wedi bugeilio eglwys M.C. Scion, Gwrecsam, era chwarter canrif. Y mae Mr. Morris yn tvr caredig dros ben yn Hebreigiwr cyfarwydd, ond byth yn dweyd hynny wrth bregethu o'r Hen Destament. Da clywed fod Mr. Rd. Lloyd, Cricieth- sef ewythr y Prif Weinidog—yn well ei iechyd nag y bu. Y maer hen ewythr yn ail i Mr. Lloyd George ei hun yn serch ac edmygedd y wlad. Yng nghyfarfod Misol Dyffryn Conwy, yng Ngholwyn Bay yr wythnos ddiweddaf, caed anerchiadau gan y Parchn. O. Gaianydd Williams (Ro Wen), H. H. Roberts (Capel Curig), ac 0. Evans (Colwyn Bay) ar Sut orew i afael yn y Fasnach Feddwol. Am ei gwahardd yn llwyr yn ystod y rhyfel yr oedd Mr, Gaianydd Williams ond am ei phrynu a'i chael i balfau'r wlad yr oedd y ddau arall. Fel hyn y dadleuai Mr. H. H. Roberts :— Pe gwaherddid hi'n awr, fe ail godid y cwes- tiwn ymhen chwe mis wedi terfyn y rhyfel, a'r pryd hwnnw byddai'r Blaid Ddirwestol yn llawer gwannach i ymladd a'r ddraig ddichellddrwg. Eithr pe prynnid vested interests y Fasnach yn awr, pan gostiai hynny lai nag ar un adeg i ddod, byddai Plaid Sobrwydd yn ablach lawer i gael llwyr wared a'r drwg ar derfyn y rhyfel. Dywed Mr. E. R. Davies, ysgrifennydd Pwyllgor Amaethyddol sir Gaernarfon, fod llaio 10,000 o aceri o dir dan driniaeth yn y sir yn awr nag oedd dair blynedd a deugain yn ol, ond fod chwe mil o aceri yn rhagor i gael ei drin eleni Gair yn cyrraedd Pwllheli fod y Pte. W. J. Pritchard, brawd Mr. Hugh Pritchard, y cyfreithiwr,—a mab y diweddar Capt. Pritchard, Sabrina—wedi ei ladd yn y rhyfel. Cawsai ei addysg yng Ngholeg Aberystwyth a bancer oedd w rth ei alwedigaeth. Dyna'r unig fan y byddaf i yn teimlo'n siwr nad wyf yn gwastraffu'r amser," ebe'r Parch. Wm. Evana, B.A., Pen y Bont ar Ogwr, wrth sgrifennu yn Y Dysgedydd am Genhadaeth Poen, a son am yr amser a ddyry i ymweliadau a gwely'r cystuddiol. Bod poen yn gosl.),-dyii.a ateb yr Iddew i'r cwestiwn dyrys,—a mewn gwirionedd, er ein bod ni'n Gymry glan, atebion Iddewig yw bron bob ateb sydd gennym i ofyniadau mawr bywyd." Y mae'r Lifft. T. J. Owen, unig fab Mr. John Owen, Avallon, Llandudno, wedi marw o'i glwyfau yn Ffrainc. Treffynnon yw ysmotyn du sir Fflint, meddir, o ran lluosogrwydd ei thafarnau, sef un ar gyfer pob 115 o'r trigolion. Ddeng mlynedd yn ol, aeth Mr. W. Jones—mab Mr. Ellis Jones, New Street, yr Wyddgrug—i Canada. Clerc ydoedd gartref ond yn y wlad newydd, ymrodd i barotoi at y weinidogaeth. Graddiodd yn B.A. Yna daeth yr ias feddyga ato, a gradd iodd yn M.B., ym Mbrifysgol Toronto Flwyddyn yn ol ymunodd a'r Fyddin, y mae bellach yn gaplen a meddyg milwrol, ac wedi cael eyfle i weld ei deulu a hen Dre Daniel Owen. Y mae'r tanysgriliadau at weddwon ac amddifaid y Conizemartz-a gollwyd y mis o'r blaen ar greigiau Greenore—yn cyrraedd £ 1,000,— £ 500 o hynny wedi ei gyfrannu gan Mr. R. J. Thomas, Garreg Lwyd, Caergybi. O'r ardal honno yr oedd y rhan fwyaf o'r rhai a gollwyd. Y mae Mr. Lloyd George wedi cael ei ethol yn llywydd Cymdeithas Ryddfrydol Pwllheli. Bu Mr. E. R. Ronner Thomas, eurych, Porthmadog, farw'n sydyn ddydd Sadwrn, yn bump a deugain oed. Gedy weddw a dau blentyn. Y fo oedd arweinydd Cym- deithas Gerddorfaol y dref, a thebyg mai y fo oedd un o grythorion gorou Gogledd Cymru. Y mae'r Parch. Ellis H. Griffiths, rheithor Llangadwaladr, M6n, wedi penderfynu derbyn bywioliaeth Trallwng. Bydd cryn dwll ym Mon amdano, canys yr oedd yn bur bybyr gyda phob gwaith cyhoeddus a defn- yddiol, er gwaetha'r ffaith ei fod yn ddiwinydd myfyrddwys.
Advertising
ANWTD, PESWCH, INFLUENZA-Hac, rhain gyda ni bob amser. Pair hintawdd gyfnewidiol fod llawer o ddioddef oddiwrth Betwch, Bronchith, Pat, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffyg Aaad). Y mae'r hen feddyginiaeth DAVIES'S COUGH MIXTURE eto ar y blaen, ac yn cael ei gwerth. fawrbgi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, jn felys, yu cynhesu y freat, ac yn rhyddhau'r phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. is. I d. a u. f4 (postage, 3I.)-HUGH DAVIKS, Chemist, MachjroIIelli SARZIN £ BLOOD MIXTURE. CROEN IACH A GWAED PUP-Dyna yr hys y mae Sarxine Blood Mixture yn ei sicrhan, a dim arall. Nid yw yn honni gwella popeth fel Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groes afiach, ysfa, pimplet, toriad allan, tcurvy, doluriau pendduynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac amhnr, mynnwcb botelaid o Sarzine Blood Mixturt gan J I druggist nesaf atoch 21. qd. y botel, neu gyda 3L at y ciudiad yn ychwanegol oddiwrth y perchemog- | QUCH DAVIES, Chemiat, MadvubOo