Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
J mmmmmnmmmmmm iiniiii imihiih iiiiiniii mi—— Jew OLD pOST OFPICE PLACI (asw LARGEST saECTION LOWEST PRICES TELEPHONE 3075 ROYAL  ??Mn? woniBHH TO DAY The Time To Furnish. f1r ?t00,000 worth of Furnish q ing Goods all fcnuindy Reduced in Price. y I LONDON ROAD, TLLUITRLTXD LIST POST FRM. LONDON ROAD.   LIVERPOOL. Only OM Sak ? ytw*
Marwolaeth
Marwolaeth y Porch. DANH L ROWLANDS, M A oawiTH gan GymruGyfan oedd clywed am Jarwolaeth y gfrr patriarohaidd a hybaroh lawn, a ddigwyddodd yn ei breswyl, Tawelan, Bwgor, bore dydd Sadwrn diweddaf. Yr eadd yn ddeg a phedwar ugain oed ar y dydd Jfercher cynt, ac onibai iddo lithro ar y ifcew ac anafu ei ben yn bur dost bythnefos wyn hynny, yr oedd pob argoel ddynol y eawsal gyrraedd y cant a mwy, gan mor gryf -.dd ei gorff a'i holl gynheddfau. Fe'i ganed yn Llangefni, Chwef. 21, 1827 a diogel dweyd fod bywyd Cymru—ymhob agwedd iach arno-yn cael ei gludo ym myn- ww a chof Daniel Rowlands, ac y gellid tIlywedyd amdano fo fel y dwedodd Wm. Watson mor dlws a chywir am genedl y Qpnry—" and cherishing in his bosom all her past." Yn Ysgol yr Eglwys y cafodd ei addysg cyntaf a byddai raid iddo fynd i'r moddion yn y Llan, er mor groes hynny i'r Ayddid a'r Ymneilltuaeth oedd yn greddfu mor gryf ynddo mor fore a hynny. Dyna un pei4 ei fod yn ysgrifennu mor gryf a goleuedig < blaid datod yr huralau eglwysig a mynnu Dadgysylltiad a Dadwaddoliad i Gymru. Aeth i Goleg y Bala yn 1848; ac wedi bwrw tair blynedd yno dan y Dr. Lewis Edwards, aeth i Brifysgol Edinburgh, gan raddio'n If A. Y fo oedd y gweinidog Methodist cyntaf i raddio mewn prifysgol, a mawr y sblo arno pan oedd gwJr y graddau mor anaml ymysg yr Ymneilltuwyr rhagor ydynt keddyw. Yr eglwys gyntaf a fugeiliodd oedd yn nhre Trefaldwyn; ac yna bugeiliodd ecIwys China Street, Llanidloes, ddeng mlynedd. Araf ac ymresymiadol oedd ei ^fcaddodiacUgan ofalu goleuo ac argyhoeddi'n gyntaf cyn ymroi i ddeffro teimladau ei wrandawyr. Yr oedd yn ofalus o'i ymad- rodd a'i froddegu a chyn bod son am lawer « ddiwygwyr presennol yr iaith, defnyddiodd ei bin i chwynnu ami i fefl a brych estronol a fysg idiomau'r Gymraeg. Pan yno, priododcl Miss Bridget Griffith, merch i fiaenor pur hysbys o Aberystwyth. Y fo eedd cynrychiolydd y Cyfundeb yng nghyf- arfod mawr Jiwbili Cymdeithas y Beiblau yn y Free Trade Hall, Manceinion, yn 1864, As y gwefreiddiodd y gynulleidfa wrth sadrodd hanes y lodes Mary Jones yn cerdded y fath ffordd dros y mynyddoedd i grefu 818 Feibl at Thomas Charles y Bala. Ys- tyrrid honno'n stari ddilys y pryd hwnnw, ond y mae ymehwil diweddarach wedi dangos fod tryn ramant a chwedloniaeth wedi mws- oei amdani.. Pan fu farw'r Parch. Jolm Phillips, ethol- wyd Mr. Rowlands yn ddilynydd iddo fel Prif Athro Coleg Normalaidd Bangor, Dal- ioid y swydd hono hyd 1891, a dywedid wai dyna dynft'r Colog gorau o'i fath drwy'r Deyrnas tra bu ef yn bcnarno. Cafodd bob j anrhydedd a allai ei Gyfundeb ei ddodi arno bu'n llywydd Cymdeithasfa Chwarterol y Gogledd ac a gyrhaeddodd y crib pan ethol- wvd ef yn llywydd y Gvmanfa GyfEredinol yn 1890. Golygodd Y Tmethodydd am flynyddoedd a chadwodd yr enw a'r urddas oedd wedi ei ,-roddi i'r cylchgrawn clasurol hwnnw gan Dr. Edwards a'i gynorthwywyr. Ni chaift y wlad byth wybod y (iraffi-rtli a gafodd wrthdocio a graenuso a llenwi'r Tmethodydd, canys nid oedd yng|Nghymru'r adeg honno mo'r ddegfed ran o ysgrif enwyr i syrthio arnynt. ag y sydd heddyw, wedi i'r Colegau Cenedlaethol ddwyn eu cynhaeaf o wyr cyfarwydd,^ Llawer siom a gafodd ar y munud olaf, a} gorfu arno I dror ati i'nyddu ysgrif ar ol ysgrif o gloddfa'i wybod- aeth a'i alluoedd ei hun. Darllenai bob cyfrol yn fanwl cyn ei hadolygu ;;cnoai ei gil ar ei chynnwys a: dywedai beth r oedd dysg a'i rheidiadhi cyn bwrw'i farn a'i dded- fryd graffjci hun ar ei theilyngdod. Ac un o brif bethau'r Tmethodydd bob rhifyn oedd ei nodiadan llenyddol [ pwyllog a mantoledig eu barn. P- Ysgrifennodd ar lawer iawn o bynciau ac i lu o bapurau a chylchgronnau, !ond taflodd ei holl enaid o blaid Sobrwydd, ac ni chafodd Cymru na'r un wlad arall gryfach na chysonach pleidiwr i'r achos da hwnnw nag oedd Daniel Rowlands drwy'r wasg a'r llwvfan a'r pulpud. Yr oedd ei gorff eadarn a'i droediad hamddenol ac urddasol yn enghraifft a chadarnhad godidog i'r egwyddor y dadleuai drosti,lheb sou am y sylfeini moesol ac ysbrydol ar y rhai, yn y pen draw, y sylfaenai ei ddadl ddiwrthdro dros lwyr ymwrthodiad. Cydnabuwyd ei wasanaeth digymar yn y cyswllt hwn pan gyfarfu Cymanfa Ddirwestol Gwjaaedd ym Mangor, ac yr anrhegwyd ef ag anerchiad. Clywsai'r to digyffylyb o bregethwyr a ysgad- wai Gymru pan oedd ef yn llanc, a, gwledd amheuthun oedd gwrando'i atgofion amdan- ynt. Yr oedd yn gadwyn gu a gydiai ddau gyfnod mor wahanol yn ei gilydd yn hanes ei wlad, yn ddigon ystwyth ac ehangfryd i ymestyn at gasgliadau cyfnod diweddar y chwilio a'r gwybod, heb lacio dim o'i afael ar bethau^dyfnion a diwygiadol cyfnod y profi a'r argyhoeddi. Yr oedd yn weddw ers blynyddoedd, ond gedy ddau fab a thair o ferched, sef y rhain Mr. J. G. Rowlands, B.A., a briododd ferch y diweddar Mr. D. P. Williams, Llanberis, ac sy'n un o golofnau cenedlaetholdeb Cymreig yn Lerpwl; Mr. Llewelyn Rowlands, arolygydd ariandai Miss Anne Rowlands, B. A.,prif athrawes Ysgol Ganolradd Rhuthin; Miss Menai Rowlands, B.A., arolygydd ysgolion danTFwrdd Canol Cymru; a Miss Olwen.,Rowlands, F.R.C.O., A.R.C.M., or- ganydd Eglwys M.C. Twr Gwyn, Bangor. Cleddid ym Mangor ddoe (dydd Merch er) a disgwylid Syr O. M. Edwards, y Parchn. E. J. Jones, M.A., J. Owen, M.A. (Caernar- fon), J. Williams, (Brynsiencyn) ac eraill i gymryd rhan, t a Mr. Williams sydd i bregethu'r bregeth goffa amdano yng nghapel Twr Gwyn nos Saboth nesaf. Daw ysgrif arno yr wythnos nesaf gan un a wyr yn dda am ei waith a'i nodweddion. --0-
Ffetan y Gol.
Ffetan y Gol. I I- Mawrth Ynyd. I MR. yn xawr pe cai rhywun yn rhoddi ystyr a tharddiad y gair Ynyd yn Y Brython. Yr ydym wedi chwilio a throi tipyn ar y Geiriaduron, ond heb gael ond ychydig oleuni ar y pen. Dywed un ei fod yn dod or gair Ennyd-dechreu cyfnod, etc. Credwn y byddai cael ystyr a thardd- iad y gair o ddiddordeb i lawer o ddarllenwyr Y Brython.—Yn bur, Pwllheli. DAVID GRIFFITH. ILCymreigiad 0'1'1 nitium (dechreuad neu gychwyniad peth) Lladiri yw Ynyd ac Inidium Quadragesima yw'r term eglwysig am Ynyd y Gra.wys. Y QDL.] i Tysteb Pedrog.  S"Caniatewch' mni'?hysbysu fod yr 1 i dal?r tanysgriRadau at yr uchod yn cael ei estyii hyd y dydd olaf ym Mis Mawrth. Bydded i bawb sydd yn bwriadu tanysgrifio wneud hynny ar unwaith, ac hefyd diolchir i'r rhai sydd wedi iaddo symiau neilltuol i dalu'r eyfryw'n fuan, fel y gellir cau'r cyfrifon yn ddiffael ar y dyddiad hwn.—Yn gywir, I O.L.ROBERTS. R, VAUGHANJONES; J Ysg. Chwff. 24, 1917. Hiwmor yn y Seist, AXINWYL MB. GOL,—DarHenais lythyr Mr. J. R. Morris yn Y Brython [diweddaf o dan y pen uehod a bias, "Fel iarj yn|sengi ar farwor y troediaf innau gyda'r gair hiwmor [yma. Periglhiwmorys am hu- morens fuasai mynd yn Huw -Nioi'i's fel y dywedodd cyfaill wrthyf. Modd bynnag y mae i eiriau benthyg eu hacen eu hunain (cym. ffilosoffi) ac os am dderbyn hiwmor.' i'r seiat, rhaid derbyn 'hiwmorys' hefyd mor bell ag y gwelaf fi. Ond atolwg, pa beth a ddywed y "\bIaenoriaid ?|| Gwelaf John Morris Jones, Ifor Williams, Tecwyn, Gwynn Jones, Peclr Hir, Pedrog, Puieston, J. H. Jones, etc., yn Ilechun ddistaw, yng nghornel y set fawr a ninnau'ndisgwyl; y weledigaeth o'r cyfeiriad hwn. Dowch, wir, frodyr, chvedwch air. Y maelarnaf flys dweyd gair bach am bethau eraill a'm taraw- odd yn Y Brython diweddaf. Yn eich llith ragorol chwi—Y Gol. Oddicartref-gwelaf ddefnyddio ohonocli y gair 1 Haw,' am sig- nature. Ai oni fuasai 1 llofnod yn llawer iawn gwell ? 'Dwn i ddim ond yr wyf yn ei hoffi am ei fod yn cadw'r f sydd wedi colli ar lafar o'r gair llaw(f) a chredaf y dylid ei arfer bob eyfle posibl. Cyn terfynn, dywedaf i chwi stori. Yr oecldwn yn ym- gomio gyda hen iareigai-i unwaith, a di- gwyddais, ddweyd wrth son am rywun: Wel, tydio ddim yn rhyw ddysgedig iawn mwy na minnau." Gwrando, machgen i," ebe hithau, "Twyt ti ddim yn gwneud dy hun yn ddim callach na mwy dysgedig wrth ddweyd fel 'na. Meddyliwn am y digwyddiad wrth ddarllen paragrafE 5 yn illitli Y Gol Oddicartref —y'Gol anllythrennog" yn ei dyb ei hun. Ha frawd, trugarha wrthyt dv hun Yn bur, St, ,1 ?- ? DAVIDf I.O^ LANDS. Swydd fa Yr lf,ydclyi?iig. 0-?.
Gorea Gyroro. yr on OddieartFe…
Gorea Gyroro. yr on OddieartFe I WARRINGTON.—Chwef. '19,'oynhaliwyd cyf- arfod amrywiaethol ynglyn a Chymdeithas Lenyddol| Heol Crosfield. Yn absenoldeb Mr. A. Woodward, cymerwyd y gadair gan Mr. W. |Jones. Ymddiriedwyd y trefniadau i1 ddosbarthiadau Miss" J. Roberts a Mri. J. Griffiths a J. H, Jones," ac aed trwy y rhaglen hon :Adi,o(i.d.iad, All's for the best, Glyn Parry Jones; cydgan, gan aelodau y Gobeithlu, dan arweiniad Mr. J. Griffiths; adroddiad, Haito up His Ilarp, Miss Lizzie A. Jones darllen SeiaiJylPlant (Rhys Lewis), Mr. W. R. Williams ,|fean,l: Charity, Miss Nellie Thomas; deuawd, That beautiful Land, Miss Blodwen a Glyn Parry Jones adrodd, Ac yr oedd hi yn nos, Mr. J. H. Jones cydgan, aelodau y Gobeithlu darllen, The Responsibility of -97aridwal Parry Jones; can. Love at Home, Miss Nellie Thomas; adrodd, Pive la Moustache, Mr. J. Emlyn Jones, 'y gwr ieuanc hwn yn bresennoram y tro diweddaf cyn ymuno a'r Fyddin, a phawb yn dymuno'n dda iddo.^ Efe yw y deunaw- fed i fyn'd allan o'n plith. Cystadleuaetii darllen darn heb atalnodau, Mrs. W. T. Williams yn cloriannu, a Miss Nellie Thomas ac Idwal Parry Jones yn gydradd ore11; unawd, Peidiwch gofyn i mi ganu, v Mr Griffiths. Diweddwyd cyfarfod gwir dda trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau," a "LDuw gadwo'r Brenin," Mrs. W. T. Williams Y1 tArwaiii.-R.P.J. I PRESOOT.—Nos lau yr 22ain, yn ysgoldy Ebenezer, cynhaliodd y Gymdeithas Ddi- wjdliadol gyfarfod amrywiaethol.* Mr. Rd. Jones yn llywyddu. Caed anerchiad da ganddo yn Uawn gwersi. Canwyd gan Miss Annie Evans, Mri. Isaac a John Williams, Elwyn Williams yn adrodd. Cystadleuaeth adrodd, 1, Gwyneth Williams, 2,T. E. Whitley Cyfieithu i rai mewn oed, cyfartal Pte. Rob- erts, Connah's Quay, a Mr. O. D. Owen Gwyddai Cymry y cylch hwn am Isaac Will- iams fel siaradwr ar unrhyw bwnc, a'i fod yn un peryglus mewn dadl er ei fod yn 74, dyma fe yn dangos i'r canorion sut i ganu, rhoddodd ddisgrifiad byw iawn y modd y byddent yn canu 60 mlynedd yn oil canodd nifer o benillion ar fesur Pen Rhaw. Beirniad, Pte. Roberts, Connah's Quay, a Pte. Jones, Rhes y Cae. Diolchwyd i bawb gan Wm. Whitley. Nid yw Cymry Prescot am fod yn ol i'w cymydogion yn Lerpwl a St. Helens mewn perthynas a darparu ar gyfer ein milwyr clwyfedig ac eraill. Y maent wedi cael caniatad i gynrial Flag Day y Sadwrn nesaf, y cylch yn cynnwys Prescot, Huyton, Roby, Huyton Quarry, Whiston, Rainhill, Bold, Ecelestoii, *a, Knows- ley. Y Cyngor Trefol, Canon Mitchell ac eraill am gynorthwyo. Swyddogion y pwyll- gor-llywydd, Mr. Rd. Jones; trys., Mr. Shem Jones archwiliwr, y Cynghorwr J. P. Preston: ysg., Edward Williams. Bydd- wn ddiolchgar am unrhyw gynhorthwy 0'1' lleoedd uchod ddydd Sadwrn Cyfeiriad yr ysgrifennydd yw 11 Derby Square, Prescot-. -E.W., CROESAWU'R MILWYR YN SKELMERSDALE. —Nos Sadwrn ddiweddaf bu nifer o gyfeill- ion o Eglwys David Street, ar ymweliad a Skelmersdale gyda'r amcan o roddi ychydig adloniant i'r milwyr Cymreig sydd yn gwersyllu yn Lathom Park. Detholiadau o ddrama Rhys Lewis ffurfiodd ran fwyaf y rhaglen. Pawb yn mwynhau'r cwbl yn fawr. Cymerwyd rhan gan y rliaiii. Mori Lewis, Miss Barbara Pugh. Marget pit. Miss, Nell Pugh, Miss Hughes, Miss Maggie H. Jones. Tomos Bartley, Mr J. R. Roberts. Wil Bryan, Mr. E. E. Williams. Rhys Lewis, Mr. Bdward ElIi. Bob Lewis, Mr. Tom Bodden. Sergt. Will- iams a James y Cipar, Mr Edwin Edwards. Datganwyd hefyd gan Miss Dilys Holland a Mr. R. J. Williams. R. J. fel arfer, yn gwneyd gwaith dau—fel cyfeilydd a dat- ganwr-yn feistrolgar dros ben. Wedi i'r milwyr gael swper (ac Eglwys David Street yn dwyn traul hwn), treuliwyd awr ddifyr iawn yn canu Emynau Cymraeg dan lywydd- iaeth Mr. R. J. Williams. Y farn gyffredinol oedd ein bod wedi treulio nos Sadwrn ddify dros ben. r
f Yr Wyl Ddirwestol. )
f Yr Wyl Ddirwestol. ) CYNHALIWYD cyfarfod cyhoeddus yn'ysgoldy Fitzclarenee Street nos Sadwrnf ddiweddaf, dan nawdd Pwyllgor yr Wyl Ddirwestol, Y Parch. J. Vernon Lewis, M.A. B.D. (llywydd yr Undeb) yn y gadair, ac ebe fo :— Ni chynhaliwyd yr wyl erioed ar adeg fwy difrifol. Gwarafunir popeth heddyw gan y Llywodraeth ond hwn. Gwaherddir y barn oedd yn arfer bod ar ein byrddau, y goleu yn en capelau, a bore heddyw dyma warafun i ddynion lawer iawn o bethau sydd mewn gwirionedd yn angenrheidiau bywyd, gan adael y ddiod, rad yw yn angenrhaid i neb, heb fawr o gyfyngu arnt. Mae rneddwl am yr eiddilwch sydd nawaherddir y pethau sydd yn dinystrio dynion yn Llywodraeth Prydain fawr heddyw i ddar- ostwng pen" yr angheyifil hwn, yn profi i mi mai'l' Fasnach Feddwol sydd yn llyw- odraethu ein gwlad. Onid yw'r amser wedi dod i yrru y gelyn creulon yma o'r tir ? Oni wneir hynny'nTawr, mae arnaf ofn na wneir hynny byth. Dywedodd y Prif Wemidog fod y fasnach teddwol yn waeth gelyn i'r wlad yma na Germany, ac na fednvn ni fyth setlo Germany hyd nes y set-lir cwestiwn y ddiod. Wet dyma gyfle Mr. Lloyd George yn awr. Byddesd iddo setlo'r fasnach ynla yn awr ac achub y wlad yma rhag gwarth a ehywilydd. Beth well fyddwn nilo ennill y rhyfel es mai cenhedlaeth lygredig isel eu moesau fydd etifeddiaeth y dyfodol ? Yr ydym wedi chware a'r gallu llygredig yma ym mlynydd- oedd heddweh, wedi chware ag ef yn ystod y ddwy flynedd a hanner o ryfel a phan y mae Prif Weinidog ddoe ddiweddaf wedi gwaeddi trychineb nwchben helyntion y wlad yma, oni bydd i bawb wneud ryw aberth, dyma un gelyn, a'r mwyaf ohonynt, wedi ei adael heb ei setlo,—gelyn sydd mewn cynghrair a holl allu y tywyllwch. Mae'n bryd i'r wlad ei daro a'i wyneb i waered. Y Parch. O. L. Roberts :—Gwir fod oriau yfed wedi eu cwtogi yn ddirfawr, ond cafodd pobl y wlad hon ddigon ¡ o gyfle i wario pedwar can miliwn o bunnau am ddiodydd meddwol y flwyddyn ddiwedd- i af. Dywedodd Lord Devonport fod y diwygiad wedi ei ddwyn ymlaen nid fel Mesur Dirwestol na Social Reform. Nid rhyfedd iddo gael atebiad Hawn o wawdiaeth gan Mr. Lief Jones, A.S.,yn dwevd nad oedd angen iddo ddweyd hynny. Sonnir yn bai-haus arn wasanaeth y Red Cross a'r Y M.C. A., ond y rhwystr mwyaf ar ffordd eu gwaith hwy yw y wet canteen. Merched Canada yn gyrru deiseb at y Llywodraeth wrth yrru eu meibion dewr a fagwyd mewn taleithiau He 'roedd llwyr waharddiad mewn grym Yr ydym yn anfon ein bechgyn. i yrnladd dros yr Yinerodraeth, ond yn enw Duw peidiwch a'u damnio yna eyn" eu goll- wng yn ol adref." Byddai'n well gan bob mam a thad sydd yn agos i'w lle'weled eu bechgyn yn syrthio dan fagnelau y German- iaid na dod adref wedi eu dinistrio gorff ac maid gan. y ddiod felldigedig. Mwy na. hynny nid ydym fel gwlad wedi ein difrifoli fel y disgwylid y buasai y rhyfel yma'n gwneud. Y mae yn brawf o hynny na ddarfu i esiampl y Brenm ddim apelio at gannoedd a miloedd o aelodau crefyddol yn Lerpwl a'r wlad, ac mae eu cyson arferiad o yfed ac arogl y ddiod arnynt yn y Cysegr yn beth y dylent gywilyddio o'i blegid. Hefyd bllasech yn disgwyl i rieni a pherthynasau y bechgyn sy'n yrnladd dros ein gwlad atal rhag yfed ond y ffaith alarus ydyw, yn ol yr hanes, fod gwragedd y milwyr wrth y cannoedd yn myned yn aberth i'r fasnach fileinig. Y mae'r cwbl yn pwysleisio yr afael gref sydd gan y ddiod ar ein pobl. Ymffrostiwn fel gwlad einl bod yn grefyddol,^ ond y ffaith alarus ydyw fod gan y ddiod swyn a ehyfaredd uwch ein dirnadaeth ar y boblogaeth hyd oed yn ei chyfyngder' mwyaf. Ystyriaeth arall deilwnig on sylw ydyw^ cryfder aruthrol y Fasnack yfB, y wlad, ac yn nau D £ 'r Senedd. Y mae ynt; fragwyr ae ereill yn uniongyrchol yn rhot atalfa ar ffordd unrhyw fesur dirwestoL Yr wyf yn dal yn fy Haw lyfryn byeban chwecheiniog a'i deitl ydyw Defeat. Gwnai les aruthrol i bawb a'i darlleno. Y mee'n agoriad Uygad i'r rhwystr|mawT y mae hom. yn ei daflu ar ffordd t elmill yj rhyfel. Ystyriaeth arall ydyw, y dylai Dirwestwyir ddod i ddeaIl ei gilydd yn well. )fa cwestiwn prynu'r fasnach yn un sydd wedi cael sylw amlwg iawn, a llawer yn creduVmar o'r cyfeiriad hwnnw y deuai y waredigaetb. a Ilwyr waharddiad, end yr wyf wedi fy argyhoeddi mai fliloreg hollo] ydyw syssiad o'r fath. Nid oes dim a'n bocllona koud llwyr waharddiad.. t Yn dilyn cafwyd anerchiad grymus gam" Parch J.Owen, Anfield. Dyma rai o'i sylwad- au Rhaid addef, er ein gofid, nad yw gweitfa ■ wyr y wlad yn addfed i waharddiad, ac mai nid y mawrion sydd gymaint, ar ffocdldt diwygiad dirwestol. Gwelsai bethau ar- swydus yn Lerpwl wrth fynd o amgylch rhai heolydd o ddrws i ddrws gyda dirwest. Dywedid mai gwraig, wedi el chythrnddo- drwyddi gan brofedigaeth a, gafodd trwr suddiad y Lusitania, a ddechreuodd v cythrwfl ofnadwy a fu yn Lerpwl yn erbyn y Germaniaid a'u siopau, canys yn ei Hid lluchiodd brocer neu rhyw erfyn drwy ffenestr un or porkshops nes oedd hoano'n deilchion. Dyna'r Ileill wedyn yn ei chael hi, nes oedd pob siop gyffelyb yn ddarnare, drwy'r ddinas. Gresyn, ar rhyw gyfrif, na chythruddid rhyw fam i wneud yn gyffelyb a'r tafarnau, nes bo ffenestri y rhai hynny' deilchion drwy'r wlad i gyd. Cynhygiwyd penderfyniad gan Y Pareli. J. Hughes, M.A., cefnogwyd ga.n y Parch. D. Adams, B.A., a chariwyd yn xmfryd. Dewiswyd y Parch. David Jones, Edg« Lane, yn llywydd yr Undeb Dirwestol St y flwyddyn nesaf. Diolchwyd i'r siaradwyr a'r cadeiryda gan y Parch. W. A. Lewis a Mr, Joiub. Williams, Park Road. Dechreuwyd y cyfarfod gan Mr. David Jones, Faraday Street a therfynwyd gam jr, cadeirydd —Rhydwenydd.
Advertising
COOK &TOWNSHEND Warm Wool Comforts for Soldiers and Sailors. i Splendid collection of High Quality Goods s i Popular Pr ces, Wool Socks 1/ 1/6, & l/llrCi. Khaki Wool. Mitts, 1/- & 1/6 Pp-are r Natural Wool Body .Belts, l/6«ac»» Balaclava Sleeping Helmets 1/11 and 2/6 each. Cardigan Jackets, 4/11, 5/11 k 6/11. Special line of Men's Khaki Cardigan Jackets, 6/11 each Men's Army Grey Shirts 3/11 Ie 5/11 each Men's Khaki Shirts 4/11 & 5/11 each. Special Prices quoted for Church Guilds etc- Byrom St. & Dale St., LIVERPOOL. -v_ -¡:c: -¥'' CCCCCODDDcacaCCODOOOCCCCCC n J]IJJ ri a a SUINEA GOLD WEBItKS KilOS I a (rom 7/6 to 60/- Half-doz best Electro-plated Q Spoons given to each Purchaser of a Ring. Q C BALL'S LUCKY ENGAGEMENT RINGS at prices to suit all D C —————— a a BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, 0 C finger-Size Cards Post Free 33, London Road, LIVERPOOL. 6J C CCCCCCCCDOaCDCCCCDCCDCCCCC .L CYFEIRIAD NEWYDD (Change of Address) D. R. JONES (Alaw Madog), 25 RadstocK Road, Liverpool. Dealer in PIANOS, ORGANS, and HARMONIUMS, MUSIC PUBLISHER, &c. Catalogues Free on application. Terms Cash, or on easy payments to suit Customers, Orders by Post are promptly attended to. Tuning and Repairing a Speciality. Town and Country visited. Dwy gan Newydd yn barod, Pris Swllt yr un. Trwy'r Post, 1/1. « Saf i fyny dros dy Wlad (Stand for thy Country), W. T. David. Sop. neu Tenor. Mab y Milwr (The Soldier's Son), D. E. Williams, C.R.A.M. Contralto neu Bass. Geiriau Cymraeg a Saesneg. Hefyd, y mae i hon eiriau cysegredig,— Jerusalem Newydd (The New Jerusalem). For Bedsteads and Bedding. W. WHITTLE SON & STOTT, LTD., 116, 18 a 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. 0 II II TelepboDe Ja 131 Royal.