Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

Trem i—Ai rhy ddlweddarP

News
Cite
Share

Trem i—Ai rhy ddlweddarP TYBED, o'r diwedd, na fydd i araith y Prif Weinidog yn Nhy'r Cyffrodin-o leiaf pan drawsffurfir hi i Act Seneddol-beri i'r mwyaf anystyriol sylweddoli difrifoldeb y rhyfel, ac nad diberygl mo gynhaliaeth poblogaethein Hynys ? Tueddgref y mwy- afrif ohonom fu pellhau y dydd drwg," gan gredu, beth bynnag a wnai'r gelyn, y ceid yn y wlad hon ryw ddyfais a'i curai'n ol cyn hir,ac nad oedd inni sail i ofn a phryder. Bydd, yn ddiameu, lawer o feirniadu ar ryw bethau yng nghynhygion y Llywodraeth, ac nid rhyfedd hynny, canys mae'r mater yn un mor helaeth a chymhleth. Ond os oes ystyr i iaith o gwbl, golygai Mr. Lloyd George fod y perygl oddiwrth sudd-longau (submarines) y gelyn, yn wirioneddol fawr, ac yn galw am bob darpariaeth posibl i'w llesteirio. Nid oes neb yn ei synnwyr nad eddyf resymoldeb ei ddadl dros i'r rhai sydd adref roi'r cymorth eithaf i'r rhai sy'n ymladd, yn dioddef caledfyd annisgrifiol yn ami, a llawer yn aberthu eu bywydau dros wlad a chartref. Bydd cofio hyn oil yn gymorth i boblogaeth y wlad hon ddioddef llawer o brinder yn ddirwgnach. Ac onid gwfr a meibion a brodyr i'r rhai sydd adref-yn pryderu'n eu cylch, ac yn hiraethu amdanynt yn ol—yw'r rhan fwyaf o'r rhai yr apelir atynt am eu cefnogi trwy gyfyngu ar eu cysuron eu hunain dros amser ? Awgryma rhai fod Mr. Lloyd George yn lliwio'i ddarlun yn bur ddu, a gellid tybio mai math ar artist ydyw, yn astudio effaith yn fwy na chyfleu ffeithiau. Ond mae y rhai a. awgryma felly'n bur debyg eu hunain o fod yn tynnu peth ar eu dychymyg. Profodd Mr. Lloyd George yn gynnar yng ngyrfa'r rhyfel ei fod yn iawn wrth gymryd golwg ddifrif ar y sefyllfa. Condemnid ef gan lawer am ddarogan drwg," ac am ddadleu dros ormod brys a llymder mesurau i baratoi ar ei gyfer. Ond mae'r ffaith mai efe yw'r Prif Weinidog heddyw'n brawf go gryf nad dan ei ddwylo y bu'n meddwl, llefaru, a gweithio. A pha ddarpariaeth bynnag a all gael ei dyfeisio neu ei chymhwyso at y gelyn yn y dyfodol buan, yr unig beth rhesymol i Brydain yw diogelu ei hun hyd yr eithaf, ymhob modd. Ac ar hyn o bryd, ymddengys fod y mwyafrif vn barod i gadarnhau datganiad y Prif IVeinido, -fod trefniadau'n cael eu gwneuthur yn awr a ddylasai fod ar waith ddwy flynedd yn ol. Dro ar ol tro yn hanes ein hawdurdodau politicaidd a milwrol y gellsid dywedyd am eu symudiadau gartrof ac oddicartref, Rhy ddiweddar

Trem li.-Croos-ddad-leuonI

Advertising

[No title]

Trem Ill.-Pwnc y Baril Cwrw.

Advertising