Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Gwib i ganol y Shonis a Chymrodorion…

I Can a Moliant.

News
Cite
Share

I Can a Moliant. II. NID diffyg gwerthfawrogiad o waith da a gwerthfawr Mr. Haydn Jones a barodd imi sylwi ar rai emynau a llinellau sydd yn y Casgliad rhagorol uchod, nac a bair imi hedd- yw nodi rhai o'r mefiau ieithyddol sydd arno. Yn hytrach, adolygu'n ffyddlon a gonest, hyd y medraf fi, heb geisio digio neb na phlesio neb chwaith, yw fy unig amcan. Y mae'r llyfr newydd gwasanaethgar hwn yn amcanu'n deg at gywirdeb mewn iaith, ac y mae hynny'n beth pur ddieithr,ysywaeth, yn Ilenyddiaeth Cymru, yn enwedig mewn Casgliad o Emynau. Ond rhaid dywedyd, gyda phob edmygedd o'r gwaith fel cyfan- gorff, na chyrhaeddwyd yr amcan teil- wng hwnnw yn y Casgliad hwn chwaith. Y mae'n amlwg fod y Golygydd yn amcanu at yr Orgraff Ddiwygiedig dengys di- ddordeb y Rhagymadrodd hynny. Ond ceir cymeryd yn cymryd yn yr un Rhagymadrodd, a dengys hyn nad yw'r neb a'i hysgrifennodd wedi meistroli'r holl ddiwygiadau. Ceir perchennogion ddwy- waith (yn anghywir) ar dud. iv. a perch- enogion" (yn gywir) ar yr un ddalen. Anghywir yw Os y cyfoethogir (nid oes eisiau fy ar ol os ac o flaen berf) a gwell na Darfu i'w gynhorthwy ysgafnhau fyddai Ysgafnhaodd ei gynhorthwy." Yn emyn 1 ceir bore yn gywir, ond troes ynforeu erbyn 16 aeth yn bore yn ei ol yn 202, ond di- rywiodd yn arswydus erbyn 332, oblegid forau (!) ydyw yno. Ceir "awdurdod bur yn 237, ond gwrywaidd yw cenedl (gender) awdurdod." Y mae tywell nos 234 yn gwbl anghywir tywyll nos 489 yn unig sy'n iawn, gan nad oes ffurf fenywaidd i tywyll,"—heblaw tywyll." Y mae y fan b'ost Ti 234 yn anobeithiol o anghywir am y fan bych Di neu y fan 'rwyt Ti"; felly'n union y mae Pan y byddost 333, pan fyddost 341, ac fel y mynnost 368 am Pan fyddych ac fel y mynnych." Y mae mor ddyfned 16, a mor fyred 548, yn gyfeiliornus am mor ddwfn" a "mor fyr," neu "cyn ddyfned" a cyn fyrred." Aeth "cymorth" cywir 363 yn I gyrnhorth" yn 299. Nid yw "Cei ddogn a bair 135 yn ddim byd tebyg i iawn, yn lie a bery, "-dim. on d fod' yr odl yn galw am- dano, ac yr wyf yn synnu at y gwall. Y mae melys 130 a 203 wedi troi'n felus yn 241 ond aeth yn felysach erbyn 264, ac eto dirywiodd yn felusdra" yn 390. Melyt?," melysach," "melystra" sy'n gy- wir. Y mae annherfynol 211 mor gywir ag yw anheilwng 193 o anghywir. Rhy- fedd ac ofnadwy yw gynnau gwynion" (white guns yn lie white gowns) yn 219 a 576. Cyffelyb yw "dórrau'u bedd 189 a phe dywedid "corrau" am corau. Ceir "hyfrytach yn iawn yn 543, a hy- fryda' yn anuniawn yn 289. Troswyf sydd yn 63, ond cywirwyd ef yn 139 a 160. ac aeth yn drosof yn y rheiny Yn 273 ceir distryw yn gywir a dilyw yn anghywir (" diluw"): o u fer yn Lladin y daw'r y yn y ddeuair fel ei gilydd gan hynny, os cywir "diluw," yna distruw hefyd sy felly. Am y gair anodd wyneb y mae ei gyflwr yn dra chymysglyd y mae pob llun arno yma, fel ym mhobman bron. "Yng ngwyneb" sydd yn 71,—fel petai g yn y gair wedyn yn 171 ceir y wyneb yn lie yr wyneb;" ceir Wynebaf" yn gywir yn 307, ond peth rhyfedd na welid gan hynny fod "yng ngwyneb" yr emyn nesaf oil, 308, yn anghywir. Ond ar ol troi 'ngwyneb yn 380, troes yn ei ol i'w symlrwydd cynefin yn 238 a 572,-ceir yn wyneb o'r diwedd yn y ddau. Len- orion a beirdd Cymru pa bryd mewn difrif y dysgwch y wers fawr ddofn anodd gyfrin nad oes.q yn y gair WYNEB ? Da yw gweld dihangol yn 538 a dihangfa yn 427, ond dihangodd yr h angenrheidiol o 73, a cheir diangfa yno. Nid yw ardalau 67 am ardaloedd ronyn yn fwy cywir na brenhinau am brenhinoedd." Yn 101 a 109 ceir disglaer peth od felly na cheffid disglaerwen yn lie disgleirwen yn 234 ceir ef er hynny yn 273, yn gyson ddau ddisglaer annisglair yn 286 a 426. Ond daw'r ffurf gywir "disglair" i'w hetifeddiaeth yn 384. (Os yw disglaer yn gywir, yna "disglaeru" a ddylid ei ddywedyd, ac nid" disgIeirio.") Bastardd yw greigydd 9 am "graigiau," ac nid cywir yw trengw, 28 am trengi." Beth yw. "Nol darfod gwaith 5 ? Anghywir yw yn meirw 556, am na ellir lluosogi'r berfenw marw" mwy na'r un berfenw arall. Da fyddai tynnu un r o dorc-ay'r bedd a'i rhoddi yn y barau heiyrn yn 333. Y ffurf wneuthuredig gwlaw" a goir trwy'r llyfr yn llr ffurf iawn glaw." Dyma yn mhell 27 yn lie ymhell" 52 Ceir glynnaf" yn 478 yn lie glynaf," ennynodd 11 523 yn lie enynnodd" gwaned 37 am gwanned ddyfer- odd 285 'am ddiferodd." At y gwallau argraffu a ddodir ar ddechreu'r llyfr gellir chwanegu Diogel yw "61 am "Diogel ym.' Ymwrando â" sy'n gywir, nid ymwrando ar 388. Ceir uwchaf yn 388, ond ni welais uwchel yn unlle eto am uchel." Aeth "angylion" 158 yn angelion" syrthiedig erbyn 403 a 529. Hynafgwyr sy'n iawn ac nid "henafgwyr" 561 pwy eroied a glybu am "y mab henaf" yn y ddameg ? Rhyfedd yw troa 570 yn lie try." Am yr Acen druan, y mae rhyw bla wedi disgyn arni hi mewn Llyfrau Emynau diweddar. Ceir yn 7 clyd," teg," caf," haf," ag acen ar bob un lie nad oes ddim o'i heisiau. Yn 24 rhoddir acen hir uwchben rhad," ond gadewir hi allan o wlad, allan y dylai fod o'r ddau air. Ceir glod a fod yn 26 rhod a fod yn 52 drwg ac wg yn 32; ac yn lie a ceir ä" ( ) yn 509. Beth pe cyhoeddid llyfr Groeg a'r acen wedi ei cham-Ieoli hanner cymaint ag y gwneir yn Llyfrau Ernvnau Cymru ? Nid yw de ac Ef yn ail bennill 98 ddim yn odli; ac nid yw ymolchaf "nac "aflanaf" yn 504 ddim yn odli a Haleliwia." Teitl un o'r tonau yw Arosfa ynllo Arhosfa a dyma un arall, "Bankyfelin," -paham y defnyddir y gair Saesneg bank mewn enw Cymraeg ? Y mae Bank Villa yn iawn, ac felly y byddai Bancyfelin." Dylid dywedyd mai cyfieithiad truenus o Lead Kindly Light yw rhif 630 gan W. Cadwaladr Davies. Yn wir, prin y mae'n gyfieithiad o gwbl mewn rhai rhannau: er enghraifft, Hyd rydiau'r afon ddofn, heb ofni byth Ei hymchwydd hi. Pa gyfieithiad yw hwnyna o O'er moor and fen, o'er crag and torrent, till The night is gone "? Gwael iawn hefyd yw'r llinell olaf Hen deulu'r llawr a'r palmwydd yn eu llaw." Nid yw "blwyddi yn yr ail bennill ddim yn air o gwbl. Er beirniadu cymaint a hyn ar Gymraeg y llyfr hwn, rhaid dywedyd mai dyma'r Llyfr Emynau goreu ei Gymraeg yn yr iaith,— os nad yw'r Caniedydd Cynulleidfaol cysta ag ef (o ran iaith). Pa bryd y daw terfyn ar annibendod ac aflerwch llenyddol Gol- ygwyr Llyfrau Emynau Cymru? Er cymaint o ragoriaethau sydd yng Nghymraeg y gwaith hwn, rhagor ei gymheiriaid, gwelir fod eto le i ddiwygio. Petai'r iaith ynddo yn gyson a hi ei hun ni ellid cwyno cymaint. Na ddyweded neb mai manion dibwys yw'r pethau y galwyd sylw atynt. Onid yw cywirdeb yn bwysig ? Arwydd o ddiffyg diwylliant, ac nid o anwybodaeth yn unig, fyddai gwadu hynny. I ddiweddu, dymunaf ddywedyd o galon (er gwaetha'r meflau ieithyddo I a nodwyd, ac er gwaethaf rhyw nifer o emynau sfll ac annheilwng a aeth i mewn) fod Mr. Haydn Jones wedi cyflawni cymwynas genedlaethol wrth gyhoeddi'r llyfr hwn, trwy gyflwyno i'n sylw gynifer o emynau newyddion gwir- ioneddol wych,—heb sdn am y cyfraniad rhagorol a geir yma i ganiadaeth gysegredig ein gwlad, cangen y mae ef mor hyddysg ynddi ac yn gymaint o feistr arni. f D. TECWYN EVANS

Advertising