Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

BAPW 0 BIN 010i

Basgedaid o'r Wlad.I

News
Cite
Share

Basgedaid o'r Wlad. I CYMREIGYDDION CAERFFILI Bythefnos yn ol, cawsom ddarlith ragor- ol iawn gan Pedr Hir-, ",hir o ben a hir ei gorff," chwedl Mr. E. T. Griffiths, y Cadeir- ydd am y tymor. Nos Wener ddiweddaf cawsom noson gyda Dr. Vaughan Thomas ar Gerddoriaeth C/jmru, yn arbennig Gerddor- iaeth Cymru Fu o'i gymharu & Cherddor- iaeth Cymru he dyw. Tarawyd y tant cywir i gyfarfod o'r math yma gan Mrs. J. D. Hughes yn ei chan 'Does unman yn debyg i gartre. Mae Mrs. Hughes bob amser yn barod a i chan swynol. 'Roedd mawr ddisgwyliad am y Doctor enwog, a'r tan Cymreig yn llosgi yn ei fynwes ac sy mor ddi- ymhongar. Gwnaeth y cyfarfod inni feddwl am nosweithiau llawen yr hen Gymry, ond bod hon heb y delyn-er bod piano yno. Chwareodd ami i ddarn nes ein syfrdanu, i ddangos nodwedd y cyfansoddwr-nodau wedi byrlymu o ddyfnderoedd yr enaid. Nid oes gan neb hawl, meddai, i gyfansoddi un nodyn o'r pen—rhaid iddo fod o'r galon. Dyna'r rheswm am hirhoedledd ein caneuon a'n cerddi—mynegiant yr enaid—sef i fyw byth, i fachu y naill genhedlaeth wrth y llall. 'Doedd dim byd gweplaes yng Ngherddoriaeth Cymru os yn Heddf, eto 'roedd tine gobaith ynddo. Pa ryfelgyrch fel Gwyr Harlech ? meddai. Agorai y Marseillaise yn ardderchog, ond cynffon ddigon swta oedd iddi. A pha ganeuon serch mor lân a phur, meddai, a'n heiddo ni ? Cymharodd hwy a'r rhai tramor, ond nid oedd y rhai tramor mor lan eu cymeriacl a'n rhai ni. Cawsom drem hefyd ganddo ar Owain Alaw, Milsiaid Llanidloes, Ieuan Gwyllt, Tanymarian, Dr. Joseph Parri, Emlyn Evans, a David Jenkins. Ofnai ein bod wedi colli peth o'r elfen chwareus yn ein bywyd--gormod o fateroliaeth y 5% dividend yn tagu'r pethau cain Dymai' hofE ddywed- iad. Onid oedd neges inni yn yr hen alawon psx, mae n rhaid ein geni drachefn. Cawsom ddarlith ardderchog, a dychwelodd pawb adre yn teimlo'n falch o Gymru a'i hen alawon cyfoethog, ac hefyd fod ei meibion athrylithgar yn gallu plymio1 \i'r gwaelodion, a dod, 'A pherlau i ni'r bobi bach sy n^byw ar y traeth. Lle'roeddem ni gynt yn dall, 'rydym yn awrjynj dechreu gweld tipyn bach.—Yn wlatgar, Tyla Glas, Caerffili. Merck. y Castell. O'R HEN SI R-SEF SIR FON.—Y Parch. T. C. Williams, o'r Borth, a'i gymydog y Parch.H. HarrisHughes,Bangor,a gadwodd gwrdd pregethu Armenia, Caergybi, nos Lun a dydd Mawrth. Pregethau cryfion, a chyn- ulliadau Iluosog. Y gwr parchedig dethol fydd yn genhadwr y morwyr yng Nghaer- gybi ydyw gweinidog yr Independiaid ym Mhenrhynside, Llandudno, y Parch. W. Phillips. Llawer o ganmol sydd ar anerchiad y Parch. W. P. Thomas (B), Cemaes, a roes efe y nos o'r blaen yn Neuadd y Pentre, ar Trem i'r Gorffennol. Teimlai pawb iddynt gael gair yn ei bryd. Bu cryn farw'n ddi- weddar yn yr ardal honno. A dyna gymer- iad tlws agleddid yn hen fynwentLlanbadrig y dydd o'r blaen,—Mr. Isaac Hughes y Ffatri. Ni welodd Mon mo'i dawelach, na neb mwy diabsen. Ac yn ei huno collodd y Bedyddwyr mewn ychydig flynyddoedd bedwar diacon. Dyna y ddau Isaac Hughes oedd yn y fro wedi myned. 0 fel mae olynyddoedd yn newid eu gwedd! Bu farw rnilwr ieuahc yn Litherland, a dyna belydryn o oleuni a ddaeth i aelwyd ei weddw pan gafodd hi air o gydymdeimlad oddiwrth y Brenin a'r Prif Weinidog. Y hi druan yn Mrs. Williams o Borth Amlwch, a phlant bychaxn i'w,: magu. Bachgen bach nodedig o bert ac annwyl a fu farw'n wyth oed oedd Cadwaladr Wyn, mebyn Mr. a Mrs. Davies, y Post Office, Llanfechell, a nai i'r Parch. T. J. Rowlands, Birkenhead. Bu unwaith am fynd yn bregethwr, ond newidiodd ei feddwl, a, dywedai fod yna ormod o waith siarad. Ac mor ddwys y gweddiai dros y milwyr a chofia am eu gwragedd a'u plant bach ebai. Wrth ysgrifennu i ddiolch i ferched M6n am eu earedigrwydd, ebai mihir Cymreig o'r Aifft, "'Does gyda ni yr an telorydd pert fel y rhuddgoch, y fwy. alch, a'r froixfraith, dim ond y sand piper a'i ddeunod lleddf." Ym marwolaeth Mrs. Thomas, Ty Fry, Pentraeth, collwyd un o wragedd rhagoraf M6n, a thorrwyd cwlwm priodas a barhaodd am bedair blynedd ar ddeg a deugain. Gadawodd weddw a saith o blant, un ohonynt yn fedrus ar nofela. Yng Nghemaes bu dathlu priodas aur Mr. a Mrs. W. Roberts, y Fron. Efe'n un o fasnachwyr oreu MOn yn ei ddydd a'r ddau wedi ym. ddeol ÐrB blynyddoedd i'w preswyl hai-dd-y Frf n. Bu am flynyddoedd lawer yn y Victoria House. Gwnaethant waith ardder- chog gyda chrefydd ar hyd eu hoes. A'u ffyddlondeb ym Methel (A) yn fawr iawn. Bu n ddiacon a blaenor y gan am hanner canrif. Efe'n frawd i Mr. j. Roberts, Bay View, sy mor hoff gan Gymry Lerpwl. Briodas euraidd! --tua'x- cant Aed y ddau yn Hon Hyd y^diwedd, mwyn fo tant Telyn teulu'r Fron J Hanner7canrif gyrfa Ffydd— Ij Dau ynfun fel hyn Duw yn galw adre fydd Torri'r cwlwm tyn. NANTLLE.—Trist y newydd a ddaeth i Lanllyfni prynhawn Mercher fod Elwyn, mab ieuengaf y Parch. G. Ceidiog Roberts, wedi ei ladd yn Ffrainc, ar y lOfed o'r mis. Efe'n swyddog, ac yn perthyn i'r Flying Corps. Cyn ymuno, clerc ydoedd mewn swyddfa Yswiriol yn Lerpwl.-Dyna'r swydd- og ieuanc, Glyn Jones, Manchester House, Llanllyfni. yn ennill y M.C.yn Ffrainc, a neb llaina'r Brenin yn cyflwyno'rjanrhydeddiddo. -Da y gwnaeth aelodau Cymdeithas y Groes Goch, Pen, y Groes, ddarpar gwledd pryn- hawn Iau, yn y Drill Hall, ar gyfer triugain o filwyr claf a chlwyfus" a erys yng Nghaernarfon. Trwy hyn, profasant fod yna ystyr i enw'r Gymdeithas. Wedi cyfranogi o'r danteithion, cafwyd cyngerdd yn dilyn.-Teml Clod oedd y ddrama fer a berfformiwyd yn Soar nos Iau gan y Go- beithlu, a phawb yn canu clod y cyfar- fod.—Bu angau'n brysur iawn yn y cylch. Collwyd Mr. John. J. Ellis, Hyfrydle Road, Tal y Sarn; Mr. Richard Rowlands, Ty'n-y fawnog, Tal y Sarn Mr. J. R. Owen, Tal y Sarn- -efe'n fab i ferch yr enwog John Jones, Tal y Sarn a Mr. Morris Roberts, Dolgau, Llanllyfni. Bydd yn ddrwg gan blant y dyffryn sydd ar wasgar glywed am farwolaeth y cyfeillion hyn.—Trefnir cyng- erdd i'w gynnal Gwyl Ddewi, gan blant Ysgol y Cyngor, Pen y Groes, nad oes eu bath trwy Gymru a Lloegr am ganu ac adrodd. Daw Mr. Ellis Davies, A.S., i Ben y Groes nos Wener nesaf i annerch cyfarfod cyhoeddus. PONT Y BODCIN.-Cynhaliwyd Soc- ial gan Babell y Rechabiaid Chwef. 12. Daeth dros gant o aelodau ac eraill ynghyd. Mwynhawyd y danteithion a baratowyd gan Mr. Jonathan Jones, Liverpool House, yn cael ei gynorthwyo gan nifer o foneddigesau. Caed cyngerdd tan lywyddiaeth y Br. Coppack, P.D.C.R., Connah's Quay. Can- wyd gan y Mri. R. J. Hughes, J. Watkin Davies, Wilfred Rogers, Misses Lottie Davies, —Hughes. Mrs. Samuel Connah yn cyfeilio. Cafwyd anerchiad buddiol gan y llywydd. Cyfeiriwyd at yr amryw frodyr sydd wedi ymuno a'r Fyddin. Diolchwyd gan ysgrifennydd a thrysorydd y Babell, —Mri. Thos. Jones, Bryn Tirion, Coedllai, a D. Jones, Hartsheath. Cyfarfod rhagorol —-Hysbyswyd yr eglwys bon gan eu swydd- ogion yxx y gyfeillach y nos o'r blaen fod y ddyled yr aed iddi drwy helaethu'r capel yn 1906 wedi ei chlirio, ac fod swm da mewn llaw at y dyfodol. BETHESDA.-Chwef. 14, cynhaliwyd cyngerdd blynyddol Bethania, yn y Nexxadd Gyhoeddus. Methodd J. Lloyd Edwards, Ysw., cyfrethiwr, Bangor, a dod i lenwi'r gadair oherwydd profedigaeth yn y teulu. Cymerwyd ei le gan Mr. J. W. Parry, Coet- mor Hall. Yr arweinydd eleni eto oedd Deiniol Fychan. Mae Deiniol wedi arwain cyfarfodydd teulu Bethania am 27ain yn olynol. 'Does dim eisieu'i well. Cafwyd canu da, ond, chwedl y cadeirydd, hoffem glywed yr hen Gymraeg, yn hytrach na'r iaith fain, ar finioix ein canorion. Ton gyffredinol ar y geiriau "Marchog Iesu,"etc., dan arweiniad Mr. D. Pernant Evans. Can, I'm a, Roamer, Mr. Vaughan Davies. Can, Darlun fy Mam, Miss Gertie Lloyd. Da iawn—rwy'n siwr fod pawb yn barod i ddweyd Amen. Can, All joy be thine, Mr. Evan Lewis, Capel Curig. Can, Friend, Miss Myrtle Jones, Birkenhead. Cafodd encor, a chanodd Y nyth a'r deryn. Adrodd- iad, Brwydr y Coed, Deiniol Fychan, yn hy- nod effeithiol. C&n,Gyda'r Wawr,MissMyrtle Jones. Deuawd, Tell me, Gentle Stranger, Miss G. Lloyd a Mr. Vaughan Davies- encor byddarol. Anerchiad y Llywydd,— yn fyr ac yn flasus. Deuawd ar y piano, Pencerddes Arfon, cyfeilydd y cyngerdd a'i chwaer. Deuawd, Tenor and Baritone, Mri. Lewis a Davies. Can, Angus Mac- donala, Miss Gertie Lloyd. Alawon Cym- reig (a) Dafydd y Garreg Wen (b) Cymru Lan, Mr. E. Lewis-yn cyffwrdd y galon. Deu- awd, Life's dream is o'er, Miss G. Lloyd a Miss Myrtle Jones. Un o bethau goreu'r cyngerdd. Can, "Largo al factotum, Mr. V. Davies, hwyl fawr ac encôr-Cymru fy Ngwlad. Can, Fy Ngwlad, Miss M. Jones. Can, Cyfri'r Geifr, Miss G, Lloyd. Enc6r Bechgyn Gwalia, nes bod hiraeth yn llenwi ein mynwesau am rai ohonynt nas gwelwn mwy. Can, Gwraig y Morwr, Mr. V. Davies. Daliwch ati, deulu Bethania. —Bu Mr. Job yma'n weinidog eglwys Carneddi am 18 mlynedd. Chwith y teim- lem yn y cyfarfod nos Fawrth yn y Fron, wrth golli bugail oedd yn caru ei braid d yn angerddol. Pregethodd gyda grym mawr, act ymhob ysgogiad o'i fywyd. Carwn ef yn fawr oherwydd ei agosrwydd atom, a'i wyneb siriol, a'i fywyd glftn,—fel bardd, a, Ilenor,-a physgotwr Nos Fawrth y 13, buwyd yn cyflwyxxo tysteb yr ardal iddo- sef cheque sylweddol. Bwriadem iddo fo a'i briod fod yma hyd derfyn eu hoes, ond mae pobl Abergwaen wedi mynd a hwy oddi- amom. Y ni yn fawr ein colled a hwythau'n fawr eu hennill -Ben Jones.

Advertising