Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

BAPW 0 BIN 010i

News
Cite
Share

BAPW 0 BIN 010i <&Jb LL; H. ,:i\ I Gweddill y Daith. I LLAWENYDD oedd cyrraedd Port Said yn ddiogel. Yma yr oedd y teithwyr a achub- wyd oddiar yr Arabia yn ein gadael. Nid anghofiaf yr olygfa. Yr oedd cysgod yr adeiladau gwynion oedd ar fin y dwr i'w gweld yn glir iawn ynddo. Yr oedd y lleuad tua'r Hawn a'r awyr yn deneu nes oedd y ddinas hud hon oedd yn y dwr fel Cantre'r Gwaelod a'i lledrith dud." Ac fel hyn, ar hanner nos y daethpwyd at Borth y Dwyrain. Bellach fe fydd popeth yn newydd,—lliwiau newydd,hinsawdd new- ydd, awyrgylch newydd, meddyliau newydd, ieithoedd newydd, wynebau newydd, cre- fyddau newydd. Yr oedd Port Said, erbyn glanio, yn Hawn o filwyr, y mwyafrif o Awstralia. Yr oedd- ynt yma'n ceisio mwynhau eu hunain am ychydig ddyddiau wedi naw mis yn yr Anialwch. Wedi gadael y porthladd a chael ohonom i'r Suez Canal, ymdonnai'r tywod o'n blaenau draw draw i'r gorwel pell. Wrth ddod ymhellach ymlaen yn y Gamlas, caem Camp anferth ein milwyr-cannoedd lawer o bebyll. Yr oedd y beeligyrt-.perthyti i rai ohonoch, pwy a wyr ?-yn ymdrochi ac yn nofio o'n cwmpas ninnau'n taflu cigarettes a chocolates iddynt, naill tin ar ol y llall. Un noson gorfu inni aros i adael longau eraill fynd heibio inni, oherwydd cul iawn yw'r Gamlas. Yr oedd y beehgyn wrth eu bodd, a dechreuasant holi enw'r Hong a lle'r oeddym yn mynd. Dyna nliw dwr ohonynt a'u dillad llwydion bron yn un- lliw a'r tywod, a'u crwyn bellach wedi llosgi yn haul yr anialwch. Y mae golwg raenus arnynt, ac y maent yn llawn hwyliau. Beth sydd arnoch chwi angen fwyaf, fechgyn ?" gofynnai'r teithwyr. Dim ond tri pheth," meddynt hwythau; y mae popeth gennyni ond tri pheth—Sand, Bully- Beef and Marmalade" 'Does dim euro ar eu hysbryd. Beehgyn o Edinburgh, Glasgow a Perth oedd y rhain. Diau fod Cymry lawer yn y Camp hwnnw. Fe ganodd y bechgyn hyn inni am oriau bwygilydd. Yr oeddynt wedi eyfansoddi degau o ganeuon a chanent fel rhai'n arfer a chanu llawer. Ddydd ar ol dydd tra'r oeddym yn y Suez, yr oedd y bechgyn yn y dwr ac ar y lan, a'r cwbl yn ein cyfarch yn galonnog ac yn codi dwylo arnom. Yr oedd trenches ddigon yno, a dug-outs, barbed-wire entanglements, ceffvl- au, mulod, camelod, motor-lorries, ffyrdd newydd sbon-popeth yn arwyddo bywyd a phrysurdeb—a'r. anialwch draw acw mor ddistaw ag oedd yn amser y Genedl. Nid yw wyneb yr anialwch, mae'n siwr, wedi newid nemor er hynny. Yno yr eangderau di-ddwndwr, yma arfau ac offer rhyfel, ie, a chanu non ac afiaith, er mor bell o gartref Cyraeddasom Colombo Tach. 23. Lie swynol dros ben sydd yma, oherwydd y mae'r lliwiau mor arddunol—y tonnau yn malu'n wyn air y tywod melyn, y m6r ei hun yn berjffaith las, y tai a'r temlau'n wynion, y ffordd yn goch, blodau melyn a phorffor yn y gerddi, ac yma ac acw y palmwydd tal gwyrddleision yn dyrchafu eu pennau mor unionsyth. Y mae Ynys Ceylon yn enwog er yn fore iawn am ei gemau, ei pheraroglau a'i hifori. Y mae gwisg ac osgo y dynion yn debyg iawn i'r merched. Gadawant eu gwallt dyfu'n Ilaes a chodant ef ar eu corun hefo crib J Y mae'r plantos bach croenddu wrth yr ugeiniau ar y ffyrdd yn rhedeg o gwmpas ac yn gweu i mewn ac allan rhwng y troliau, ond ni chymer yr ychen ieuog bodlon ddim sylw ohonynt. Y mae temlau lawer yma a chrefydd Buddha yn ymddangos yn bur flodeuog. Llawer offeiriad a welais ar y ffordd yn eu gwisgoedd melynion, eu pennau moelion a'r bowlen gardod yn eu Haw. Swynol oedd tlysni Colombo, a gwir bob gair yw geiriau'r emynydd pan ddywed Where every prospect pleases wrth son am Ceylon a'i "spicy breezes." Hawdd fai treulio mwy o amser yno. Dywed- ir fod canolbarth yr Ynys yn rhyfeddol o dlws hefyd. Cyn cyrraedd Calcutta buom yn dangos ein gwerthfawrogiad o'r Capten, ei ddewrcler, a'i ofal trwy roddi anrheg iddo ac anerchiad wedi ei arwyddo gan y teithwyr i gyd. Yn- tau, wrth ddiolch yn ei ddull gonest a gos- tyngedig,|yn dweyd y dylem fod yn ddiolch- gar mai ar wyneb y dwr yr oeddym yn cyrr- aedd, ac nid ar ei waelod Tra'r oedd y Hong hardd Arabia a llu eraill, meddai, yn gorffwys ym mynwes ddofn y mor, yr oeddym ni yn cael dod yn ddiogel. Yr oedd pawb yn teimlo fod i'r hen long le cynnes yn eu calon, ac mai gofid pur fawr fai meddwl i ddim aflwydd ddigwydd iddi. Ac ar yr 28ain o Dachwedd dymaCalcutta, wedi bod namyn dau ddiwrnod deugain ar y llong, Ni chaf aros hefo dim o'r pethau a welais yn Calcutta. Digon dweyd ein bod i raddau helaeth iawn yn teimlo ein bod allan o ddwndwr y Rhyfel. Taith ryw saith awr ar hugain sydd i Sylhet o Calcutta. Cychwynasom tua saith y bore,ac erbyn un ar y gloch yr oeddym yn Goalundo ar lan yr afon Brahmaputra. Cawsom i'r stemar fach yno, a dechreuasom ddod i fyny'r afon. Diddorol oedd gweld y bobl a dyrfai i mewn wrth bob glanfa. Dont a'u gwely a'u dysglau a'u potiau hefo nhw, ar eu pennau fel rheol, a byrlymant Bengali bymtheg y dwsin, Fu erioed y fath barlio Y mae'r cyfan mor newydd i mi ac edrychaf i fyny ac i, lawr yr afon lydan yr ydym ar ei chefn gan ddweyd wrthyf fy hun, Dyma India! Dyma India!" lawer gwaith drosodd. Tua wyth ar y gloch y nos yr oeddym yn Chandpu, ac yma gadawyd yr afon am y tren. Er fod y dydd yn boeth yr oedd y nos yn bur oer, yn enwedig yn y bore bach. Yr oedd yn goleuo arnom yn Kalaura, lle'r oeddwn i ddisgyn Arhosai Miss Aranwen Evans yn y tren wrth tynd i Silchar. Llaw- enydd oedd gweld Miss Roberts, Miss Wil- iams, a'r Parch, a Miss D. E. Jones, Lujiai, yng nghyfwrdd y tren yno. Nid bes rhyw lawer o amserjer pan y mae'r ffordd haearn wedi ei gwneud i Sylhet. Rhed trwy ganol gwastadeddau reis, trwy jungle a thros afon- ydd. Yma a thraw gwolir ryw dipyn o godiad yn y tir, ac o dro i dro oontref. bach o ryw hanner dwsin o dai. Wedi cyrraedd stesion Sylhet rhaid croesi'r afon i gael i'r dref. Ymtwybra hen gychod gwled- ig yn ara deg i fyny ac illawr yn drymlwythog o reis neu hesg. Wedi cael ohonom drosodd s ac i'r cerbyd gyrrwn ar hyd glan yr afon am dipyn bach ac yna trown am y dref,'a'r peth cyntaf 6, welaf yw enw William Pryse, y cenhadwi1 cyntaf yn Sylhet. Neuadd y Dref sydd yma a Llyfrgell Goffa iddo ef. Yna down at yr Eglwys Wladol cyn cyrraedd y Llysoedd, a, chyn pen hir yr ydym yn gyrru drwy'r Bazaar gyda'i holl brysurdeb mawr. Mawr oedd fy JIawenydd wrth weld ein Capel Cenhadol y gwelswn ei lun ers dipyn mewn Adroddiad Cenhadol. Yn ymyl dyna'r lVa- masudra Hostel a r ochr arall ysgol y bechgyn sydd o dan arolygiaeth y Cenhadon,—y Parch, a Mrs. J. W. Roberts a'r Parch, a Mrs. Oliver Thomas. Ymhen ychydig funudau yr ydym wrth y ty cenhadol arall, cartref Miss Williams a Miss Morgan- -a fy nghartref innau bellach. Fe apelia prydforth weh y wlad yn fawr iawn ataf—y mae pobman mor goediog. Bamboo a phalmwydd welir yn fwyaf cyffredin. Oddiar y Verandah fe welir Bryniau Kliasia, Y mae bron fel gweld copau Eryri oddiar ochrau Mon. Rhyddfy Bryniau deimlad o gartref megis i'r pererinion gynt wrth ganu Salmau'r Graddau. Ambell dro cuddir hwynt yn Uwyr o'r golwg gan niwl, ond y maent er hynny y tu ol i'r niwl. Ac wrth edrych arnynt hwy fe hed y meddwl gartref, a chly waf ledio emyn Edmwnd Prys ar fore Saboth taweJ o haf Disgwyliaf o'r mynyddoedd draw, Lie daw im' help 'wyllysgar Yr Arglwydd rydd im gymorth gref, Yr Hwn wnaeth nef a daear.' J. HELEN ROWLANDS I Sylhet, lonatvr 10, 1917.

Basgedaid o'r Wlad.I

Advertising