Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
OVERCOATS aSKE BTJ h THE FINEST I SELECTION BR°1 OVERCOATS „ THE CELEBRATED IN THE I AILOKS9 PROVINCES LONDON ROAD & <.10/- to 8 01- CHURCH ST., DQ\A3l/ m to OQUA/I" U?/CrpOOL ro/Mea?re?mePWce. I OVERCOATS '"?A?" A'PLEASE WM. GRIFFITHS& SONS I 29 South John St., Liverpool, B AND I 349 Stanley Road, Bootle, MAKERS OP SMART CLOTHES FOR Civilians, Officers and Ladies. Raincoats ready to wear and to order, inter- lined oilsilk to waist or throughout, making the garment thoroughly rainproof, in Greys and Fawns of all shades. Prices from 55/- upwa ds. State Breast measure and length required when ordering. k A yw'ch Llygaid yn eich bUno ? Yw pethau'n troi'n 'niwlog ac anelwig ? D yna arwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech ga el eu hedrych rhag blaen eu gwaathygu WIla'U hasgeulso. Gallon ni, gyda'n holler gwyddonol, ddwayd wrthych 08 oes arnoch angen gwydrau ac os felly, eich cyflenwi i'r rhai a barai fwyaf o lea i chwi. Galwch heddyw- ARCHER SONS- F-Yesight Specialists. I w 3 LORD STREBTs I Sefydhr,a 1141. LIVERPOOL- I MORRIS EVANS' Household Oil 18 STILL ahead of all other remedies FOR Rheumatism, Sciatica, JLiumlaago, and 1STounds, of all kinds. In bottles 1/3 d 2/9 Grocers Lt Chemists, or direct for above prices from MORRIS EVANS & Co., no MANUFACTORY, 9ESTINIOG N, WABBS. LIVERPOOL The SHAFTESBURY," MOUNT PLEASANT, 44ottt 4 mists. *ilk from Lino el. & Ctnitttl Slot no, i firsi-olaaa Taaspertimija Hotel. Moderate ch SSnftss&atjr Haul, I/pool." Fttnt I ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottteh SODA WATER, POTASH 1WATBR, SELTZER WATER LEMONADE, DRY GINGER ALB, Etc., ete. IDRIS & Co., Ltd., Morthamberland lSt., LIVERPOOL D. GRIFFITHS oP SON 221 Breck Ad., and 9 Moss St.. vpool.o ¡ Pianos & Organs by all the leading makers. Frem 81- per month. TmiraoHM—4Mx Aafleld 3771 ROTALi KEEP SMILING We have a few Motor Cycles left, and as weido no know when we shall get any more we advise you to purchase now. Samples of what we have in stock are MOTO Rive, 4 h.p. Twin £ 3y 10 o Rudge-Multi, 3l h.p. £ 42 10 0 RYDEit, z-stroke, 2-speed £ 22 19 6 Rudge Multi, 1917 pattern JSS 15 o Motosacochi, 4-8troke £ 10 o o And many others all at pre-war price. "RUDGES," BOLD STREET, LIVERPOOL j j ROBERTS EDWARDS, ESTATE AGENTS, 64 KlrKdaie Rd., Liverpool Taltphone 1 12193 Rcnl.
Trem l-Arian Banthyg.
Trem l-Arian Banthyg. NiD yw'r swm a lifodd i fewn i'r Drysorfa Fenthy(- pan ysgrifennir y nodiadau hyn, wedi ei gyhoeddi'n swyddogol, ond ym- ddengys yn lied sicr ei fod beth bynnag tua £700000,000, Cyfrifir, hefyd, yn gyifredin- ol, bod y swm hwn yn llwyddiant mawr, ac yn cyrraedd y nod a ddisgwylid gan obaith uchaf yr awdurdodau. Dengys hyn ar unwaith bod yn y wlad lawer iawn o arian, ac nid ychydig o'r ysbryd gwlatgar a theyrngar a barai'r fath barodrwydd i gyfrannu. Er mor annymunol yr achlysur a eilw am hyn oil, ceir o leiaf un elfen ragorol ynglyn a'r Drysorfa Fenthyg, nid amgen yr ymarferiad mewn hyder a chyd- weithrediad. Nid mater dibwys fu cael gan oludogion y wlad i symnd cymaint a hyn yn eu syniad am ddiben eyfoeth. Yr hen ddihareb am sicrwydd ydoedd, Mor ddiogel a Bane Lloegr." Erbyn hyn, mae'r Armagedom wedi gyrru cryndod hyd yn oed trwy gadernid y Banc, a gorfodir pobl i gredu y rhaid iddi bwyso am ei diogelwch ar Fyddin a Llynges. Clywsom sOn am y bwledi arian," ond ystyr hynny yw bod arian i'w gollwng allan ar dreigl, a phrynu a hwynt arfogaeth rnyfel a chynhaliaeth i ryfelwyr. Ofer fyddai pentyrru aur mewn banciau, a gosod milwyr arfog i'w hamddi- ffyn, eithr rhaid i'r Bane gael ei throi'n allu ymarferol ym mywyd a gwaith Prydain mewn rhyfel. Gwel perchenogion golud mai nid Bane, ond Buddugoliaeth, fydd eu diogelwch hwy a'u heiddo. Mawr y cyf- newidiad! Dro'u ol, ac oherwydd yr ychydig geiniogach a ofynnid at ddiwyg- iadau yn y ffurf o Bensiwn i Hen Bobl ac Yswiriant Cenedlaethol, fe fygythiai cyf- oethogion Lloegr yrru eu harian allan i'r Cyfandir, a dywedir ddarfod i nid ychydig wneuthur hynny-hyd yn oed i Germani! Erbyn heddyw, mawr yw edifeirwch y cyfryw rai, ac yn lie ochain oherwydd y trais tybiedig arnvnt, gollyngant eu harian wrth y miloedd a'r miliynnau i'r -Drysorfa Fenthyg, modd y gallo'r wlad a'i Chyng- hreiriaid lorio'r gelyn sy'n bygwth dinistr arnom. Ceir datguddiad rhyfeddol o'r cyfoeth a lechai ym meddiant y rhai y gellid tybio, oddi wrth eu cwynion cyn y rhyfel, eu bod ar drothwy'r Tloty! Yn sicr i chwi, nid un o bethau salaf y rhyfel fu peri'r chwyldroad hwn ym mherthynas pobl a'u golud. Ac os oes rhai goludogion —ac ereill, o ran hynny, canys y mae byd- olwyr nad ydynt bendefigion—yn teimlo fod yn rhaid iddynt wrth hunanymwadiad. a chyfyngu peth ar eu moethau, hynny hefyd fydd er daioni. Mae moethusrwydd, yn hytrach na thlodi, yn andwyol i enaid cenedl, ac yn hanes yr oesoedd wedi arwain ymherodraethau i'w cwymp difancoll. Beth bynnag, mae'n eglur oddiwrth sefyllfa'r Drysorfa Fenthyg dan sylw fod y wlad yn gyffredinol yn unol a phenderfynol i ddwyn barn i fuddugoliaeth yn y rhyfel hwn. Ac wrth s6n am yr arian a fwrir i'r Drysorfa hon, dylid coflo'r rhoddion gwirfoddol at amrywiol drysorfeydd ereill ynglyn a'r rhyfel, o'i ddechreu hyd yn awr, gan bob dosbarth o bobl. Yn amser heddwch, buasai'r symiau miliynnol hyn yn unig yn destun syndod aruthr mewn haelioni ac aberth. Yn ddiamheuol, un o'r arwyddion mwyaf calonogol o undeb a chydweithrediad penderfynol y wlad hon yw llwyddiant y Drysorfa Fenthyg.
Advertising
Prynir Dodrefn Outright. Distance no object. Salts by auction on owners'/premises. GREETHAM & SON (Est. 1848). Auctioneers, 27 Newington, Liverpool IS Rydal Bank & 106 Liscard Road- Eiactrd Tel. 64.6 Royal.
IIrem 11-Glociaul n Gwrthdaro.
Irem 11-Glociaul n Gwrth- daro. Rhyfedd fel y parheir i gadw meddwl y bobl mewn ansicrwydd ynglyn a gwir sef- yllfa a rhagolygon y rhyfel. Ysgrifennodd yr enwog .J.B." gynt, yn dra miniog hefyd, ar y gwithuni o beri i glociau ddywedyd celwydd. Soniai am amryw glociau'n yr un ty, a'r cwbl yn taeru'n erbyn ei gilydd. A lied debyg yw'r modd y gwrthddywedir ei gilydd gan awdurdodau ucliel ynglyn a gyrfa'r rhyfel. Nid ydynt yn cytuno a'i gilydd, nac a lieithiau, ond megis ar ddam- wain. Day cofiwn Churchill, yn Lerpwl, yn bygwbh y tynnid llongau rhyfel Germani allan o Gamlas Kiel, fel llygod mawr o'u tyllau. Trannoeth fe suddodd y gelyn dair o'n llongau rhyfel ni ym Mor y Gogledd. Y dydd o'r blaen, cyhoeddwyd yr hyn a honnai fod yn draethiad o eiddo'r Maes- Lywydd Syr Douglas Haig, yn gosod allan ragolygon y Cynghreiriaid yn Ffrainc yn dra disglair. Nid oedd waeth gan bwy, ymhle, na pha bryd y dechreuid yr ymosod mawr, yr oeddym yn barod ar gyfery gelyn, yn meddu cyflawnder o bob darpariadau, ac yn sicr o dorri trwy ei rengoedd. Yr oedd y meirchiilwyr yn gwylio am fwlch i ruthro trwyddo ar y Germaniaid, ac i'w chwalu'n ddiobaith. Ryw ddarlun fel yna oedd yr un y gellid ei wneuthur o'r geiriau a briodolid i Syr Douglas. Gall mai gwir hyn oil, a gobeithio mai dyna yw; ond digwyddiad go annymunol oedd y rhuthr a wnaeth y gelyn yn union wedyn ar y Ffrancod, gan eu curo'n ol o safle go bwysig, a, cholledion go drymion hefyd. Ond heblaw hynny, dyma Arglwydd Derby, mewn anerchiad o'i eiddo ddydd Sadwrn diweddaf, yn gosod gwedd wahanol iawn i Syr Douglas ar y rhagolygon-yn cydnabod fod adnoddau'r gelyn yn ddirfawr, y bydd y rhyfel yn debyg o barhau'n hir ac yn ffyrnig, ac y gofynnir eithaf y wlad hon i sicrhau buddugoliaeth. Nid yw efe'n amen na chawn fuddugoliaeth, ond inni wneuthur y goreu erddi; ond hyd y derbynnir ei farn yn ol ystyr eyffredin iaith, nid yn ddi- bryder y syll ei arglwyddiaeth i'r dyfodol. Nid yw cloc Arglwydd Derby a chloc Syr Douglas Haig yn cadw'r un amser. Ond i fod yn hollol deg at Syr Douglas, dylid j cofio, os collodd y Ffrancod beth o'u tir, ddarfod i'r Prydeinwyr ennill ar gyfer hynny mewn man arall. Ceir gweld yn fuan a yw'r rhuthr diweddaf o eiddo'r gelyn yn cychwyn yr ymosod mawr cyfiredinol a fygythid ganddo, ai, ynteu, mai ymgais at arddangosiad rhwysgfawr mewn un man yn unig a wnaeth, i'r amcan o ddylanwadn ar ddychymyg poblogaeth Germani'n arbennig Amser a ddengys, ac ofer i neb, ar gyfrif yr hyn a gyhoeddir mewn intarfiwiau," wneuthur ei feddwl i fyny fel pesimist nae optimist chwaith.
Trem lll-Gloc Mawr Rhagluniaeth.
Trem lll-Gloc Mawr Rhag- luniaeth. Nid yw'r gwrthdarawiad a ddisgwyliai rhai rhwng America a Germani, hyd yn hyn, wedi dod i bwynt terfynol. Maen Eilmyn wedi cychwyn o ddifrif ar weini- dogaeth ddibris eu suddlongau, ac y. gwneuthur difrod ar longau masnach Gwir na fu nifer y rhai a suddwyd yn ddi- weddar gymaint ag ar gychwyn yr ymgyrck. diweddaf hwn. Dywed y Germaniaid mai'r rheswm am y lleihad ydyw lleihad yn nifer y llongau sy'n mynd allan o'n porthladd- oedd. Ac ni wiw i ni wadu fod peth gwir yn yr hyn a ddywedant. Hysbys fod rhai perchenogion llongau, am ryw hyd, wedi oadw rhai o'u llestri'n ol. Nid yw hynny'n golygu, o anghenrheidrwydd, eu bod yn bwriadu parhau i'w cadw'n ol. Gall mai un rheswm am hyn yw'r angen am gyfadd- asu'r llongau masnach yn well ar gyfer y peryglon sy'n eu bygwth. Beth bynnag, hawdd iawn credu fod yr awdurdodan uchaf ar y mater yn cyfrif y gangen hon a ymgyrch y gelyn yn bur ddifrifol, ac y gall beri dirwasgiad mawr ar gynhaliaeth pobl- ogaeth yr Ynys hon. Er yr holl wahaniaeth a all fod rhwng llywyddion gwahanol swyddfeydd y Llywodraeth bresennol, nid ymddengys fod yr un ohonynt nad yw'n cydnabod y perygl hwn fel un difrifoL Mae prisiau ymborth a rheidiau cyffredin cysur yn uchel iawn, ac yn rhy uchel i lawer allu cyrraedd fawr ohonynt. Mae hi eisoes yn ddifrifol ar y prin ei dSn a'i fwyd. Ond, i ddychwel at y pwynt cy- chwynnol, mawr yw'r disgwyl beth a wna Germani nesaf i ddiystyru America, a pheth a wna America wedyn i amddiffyn ei hawliau a'i nanrhydedd. Polisi brys yw eiddo Germani o'r cychwyn, a thrwyddo hi lwyddodd i gyrraedd hyd i bwynt neilltuol droeon, ond, hyd yn hyn, hi fethodd gyrr- aedd yr un o'i hamcanion eithaf. Ym- ddengys ei bod unwaith eto "ar frys mawr i dagu Lloegr yn ei thrafnidiacth, cyn y gall America fod yn barod i symud fawr. Gall, wedi'r cyfan, Olai methiant fydd y rhuthr anwar hwn hefyd. Mae'r argyfwng terfynol yn sicr o fod yn nesu, a thynged y gwrthluoedd ar gael ei phender- fynu. 1 bob argyfwng mawr, daw'r adeg pan ddywed Rhagluniaeth, daeth yr awr," a thery ei hawriais Hi'r awr honno nes bo'i swn yn diasbedain dros yr holl fyd.
Advertising
DONEGAL TWEED CO. LIVERPOOL'S TAILORS FOREMOST TAILORSO The Name DONEGAL TWEED CO. is a guarantee of QUALITY and the PRICES are always moderate. Overcoats 30/- to 70/- —— NO EXTRA CHARGES. —— Ir^r: 21 ?RBST., UVERPOOL of Address:. 21 LORD ST., LIVERPOOL Manager JO?N JONES. auo»| »%%GerJ?n £ l £ .tB'b'*d Cymro am byth. at 226 High Street, Bangor, ymro am 23 Hope Street. Wrexham, We speciati?e In Ladies TaUor-Made and throughout the Kingdom. Costumes to ord??r from 50/. ?? iiiiili 1-i i-