Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

' 8? GOSTEG.1

OYoni ,'{}(JR

Cyh ieddwyr y CymodI Y Sabath…

Bwrdd y Penodiadau i .Gynfu."

I Heddyw'r Bore I

News
Cite
Share

I Heddyw'r Bore I sef bore dydd Metcher. I Er mwyn y Naw. -Wrth agor Seren Cymru heddyw'r bore, dvma weld fod Gwili'r Golygydd wedi symud o Ysgol y GwynfrYll i Gaerdydd, sef i ddarlithio ar lenyddiaeth yn y Brifysgol. Y mae'n byw o fewn hwb cam a naid i'r Parch. H. M. Hughes, B.A., Gol. Y Tyst; a rhyngddynt hwy ill dau, ac Ifano a Dyfed, Eluned a Moelona, Ernest Hughes, a Silin Roberts a John Thomas, bydd Caerdydd yn werth ei chadw ar yr wyneb er cymaint o rai fel arall sydd ynddi. Cynhadledd Ton y Pandy.-Y mae Undeb y Cymdeithasau Cymraeg yn galw glewioa yr iai h drwy'r Do i gynhaclfedd-yng nghapel Bethania, Ton y Pandy, Chwef, 24, i ystyried y pwnc hwn Y llifeiriant Seisnig y modd i'w wrthweithio. D. Lleufer Thomas, Ysw., fydd y cadeirydd a'r Proff. E. Ernest Hughes, M.A., Prifysgol Caerdydd, a Mr. Lewis Davies, Cymer, y prif siaradwyr. Dyma un o ddau bennill Emyn a Gweddi Brynfab sydd i'w canu ar y dechreu er mwyn rhoddi'r cywair iawn i'r cyfarfod :— Tydi 0 Dduw, sy'n gwrando Dy foliant ymhob iaith Na ad i dafod Cymro Ddistewi dan ei graith Dilea'n temtasiynau A'n rhwystrau o bob rhyw, Wrth ddiolch am ein breintiau, A chadw'n hiaith yn fyw. -Owen Morris.-Bu un o adeiladwyr mwy- af bysbys Caernarfon, sef Mr. Owen Morris, farw r wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn 77ain oed, ac yn Geidwadwr disyfl. Am ei chynnal.-Y mae Arddangosfa Amaethyddol Dyffryrt Conwy i'w chynnal Awst y I5fed, os bydd modd yn y byd. Etholwyd Mr. Green, Colwyn Bay, yn llywydd y Gymdeithas Mr. David Hughes, Tal y Cafn, yn is-lywydd a Mr. J. R. Chambers yn ysgrifennydd. Yr Heth.-Rhewodd porthladd Pwllheli yr wythnos ddiweddaf mor galed nes y cafwyd eog (salmon) ugain pwys wedi rhewi'n gom ynddo. A pharodd cledi'r tywydd i lawer ysgol bob dydd gael ei chau ac i laweroedd o ddefaid ffriddoedd Hiraethog ac Eryri a Brycheiniog golli eu bywyd. Dim ond hanner awi-Dirn ond un achos oedd gan y Bamwr Moss i'w drin yn Llys Sirol Conwy ddydd Iau diweddaf, ac fe orffennodd y cwbl o'i waith mewn hanner awr. Enbydrwydd y Clio.Ddydd Sul di- weddaf torrodd y Clio-sef yr hyfforddlong sydd ar y Menai—yn rhydd a phe di- gwyddasai fod yn dywydd mawr, gallasai'r canlyniadau fod yn drychinebus i fywydau'r deucant a hanner o fechgyn oedd ar ei bwrdd. Ymddygodd y bechgyn yn iawn a digyffro, a chaed y llong i'r lan drwy fedr y Capten a'i swyddogion. Y mae'r Clio. ar y Menai ers deugain mlynedd bron. Cael dwy rodd.-Ddydd Gwener diweddaf, yn Ninbych, buwyd yn anrhegu'r Parch. David Thomas, B.A., curad hynaf y dref, a I phyrsaid trwm o arian ar ei waith yn symud wrth gael bywoliaeth Pentrefoelas. A dydd Llun diweddaf, caffai anrheg well nag aur, canys priodai a Miss Owen, pennaeth y nyrsus yn Ysbyty Dinbych. Disgyn yn farw.-Dyna ddarfu'r Ptc. W. H. Gay R.W.F., wrth gerdded gyda'i gatrawd ar ffordd Abergele bore ddydd Gwener diweddaf. Marw o wendid y galon oedd dedfryd cwest a fu ar ei gorff. Dal at ei arfaetb.-Nid gwr mo'r Cadfrid- og Owen Thomas i wan-galonni na rhoi ei arfaethau da heibip ar chware bach, canys y mae pwyllgor gweithiol ei fudiad ar ran mihvyr a morwyr adfydus Cymru i gyfarfod yn 'r Amwythig yr wythnos hon, sef i gwbl- hau ei gynllun i atodi cynllun gorfodol y Llywodraeth a chynllun o gyfraniadau gwir- foddol fel na bo'r un milwr na morwr a ysigwyd yn ei gorff a'i amgylchiadau wrth ymladd drosom yn y rhyfel yn dioddef prinder,y fo na'i deulu, mewn bwyd na gwaith Wrth gwrs, fe ddylasai cynllun y Llywod- raeth fod yn ddigon ei hun, ond da y gwyddis na fydd o ddim mewn llawer iawn o achosion, a dyna'r pam fod y Cadfridog am gadw chware teg i'r diamddiffyn. Ficer Abergynolwyn.- Y mae'r Parch. Rd. Hughes, M.A., Chwilog, wedi cael byw- oliaeth Abergynolwyn, gwerth £335 yn y flwyddyn. Pawen Llundain.-Yng Nghyngor Gwyr- fai, ddydd Sadwrn diweddaf, dywedwyd pethau cryfion iawn yn erbyn cynllun Arglwydd Haldane a'i bwyllgor i osod Prif- ysgol Cymru a'i haddysg yn nwylo dyrnaid o wyr penodedig gan y Llywodraeth. Yn awylo pobl Cymru y dylai fod, debyg iawn, ac nid tan bawen clymblaid Llundain, ebe aelodau'r Cyngor. Drychiolaeth y Groes.-Dyma'r storid dwys- af a thlysaf.oedd ym mhapurau bore hedd- yw :—Llanc o filwr yn gyrru at ei berthynas- au yn y wlad hon iddo gwympo'n glwyfedig ar faes y gwaed gwelodd wr mwyn odiaeth ei bryd a gwyn ei wisg fel eira yn dynesu ato yntau'n glwyfedig, a'i fraich mewn rhwym, daeth uwch ben y milwr, gwyrodd tuagato, ac ebe fe Are you wounded, brother ?" Yes." So am I-wounded for your transgressions." Ac yna rhoes bandages cyffelyb i'w rai ei hun am fy mraich. Pan ddeffroais, yr oeddwn mewn ysbyty; gofynnais am gael gweld y Gwr Gwyn a chael fy mandagio ganddo fo, canys yr oeddwa yn hollol iawn wedi iddo fo fy ymgeleddu. You're wandering." ebe daearolion diffydd yr ysbyty. Ond nac oeddwn ddim yn crwydro, canys beth bynnag am fy mywydanystyricl yn cael y weledigaeth honno, yr wyf yn c ddyn newydd a phur wahanol er pan welais i y Bandager Gwyn ar faes y gwaed. "Illusion^ a lledrith." Hwyrach; ond mor dlws ei ffurf a bendigaid ei ffrwyth Y mae yna'fwy o ysbrydiaeth i ddaioni mewnaml i ddrychiolaeth ddieithr nag sydd mewnjlwyth o'r cynghorioncallaf.

Advertising

I Ffetan y Gol. I

I Goreo eymyo, ye an Oddieantpe…

Family Notices

Advertising

IOAU TU"R ArON.