Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

1 1 I- 0 Big Y1 Lleifiad.…

News
Cite
Share

1 1 I- 0 Big Y 1 Lleifiad. SYR OWEN THOMAS. V peth goreu ym mhapur bore heddyw- gan bob Cymro iawn, beth hynnag-ydyw gwelfl enw'r Cad- fridog Owen Thomas ymysg yr wyth teilwng aj., hugain a godwyd yn Farcitogion gan y Brenin, yn kh -sti- Anrhydeddau'r Flwydd- yn Newydd. Dyma. ft'n tynnu fy het iddo, yn ei syrio ar ucha'm Ilais, ac yn rhoddi cymaint fyth fedraf o bwyth crafog yn fy mhwyslais er mwyn dim ond pryfocio'i elynion sy'n las o gynddaredd wrth weld y Cymro'n cael y fath bluen a goruchafiaeth. Gynted y gwelaf Bryddestwr Goreu Cymru, fe ofynnaf iddo dywallt rhyferthwy ei 4wen yn Gan Goncwest i'r Syr gwlatgar, a dewr sy'r fath eilun gan ei genedi a'r Fyddin Gymreig Syr Owen Thomas. Dyma ddau Gymro arall a anrhydeddwyd gan y Brenin:—Mr. A. T. Davies, Ysgrif- ennydd Adran Cymru o'r Swyddfa Addysg yn Llundain, yn cael ei godi'n O.B. a Mr. J. T. Davies, Ysgrifennydd Cyfrinachol y Prlf Weinidog,— yntaa'n C.B. DEWISOL PARKFIELD.—Rhocs eglwys Parkfield, Birkenheadalwad gref y Suldiweddaf i'r Parch. Moelwyn Hughes, M.A., Ph.D., Aber- teifi i ddod yno i'w bugeilio, fel dilynydd y Parch. W. M. Jones, Llansantffraid. Y rhain oedd yno'n cynorthwyo dros y Cyfarfod Misol y Parchn. Wm. Henry a J. Owen Mr. W Pritchard (Douglas Road) a Robt. Roberts,Y.H. (Fitzclarence Street). Dr. Hughes yn frodor o Dan y Grisiau, Bl. Ffestiniog yn Abertcifi ers un mlynedd ar hugain; yn fardd uchel ryw ond nid cystadleuol; yn feddyliwr praff ac yn awdur liyfrau o fri. Y fo oedd clerc cyntaf Mr. Lloyd George yn y swyddfa gyfreithiol ym Mhorthmadog, ac atgofion am ei feistr-y Prif Weinidog erbyn heddyw-ydyw testyn pennod gyntaf ei gyfrol wych Llewyrchy Cwmzvl Mawr hyderir y cydsynia a'r alwad, ac y daw yno i borthi ac adeiladu'r achos yn Parkfield cystal a thrwy'r cylch. MERCHED MEDDWON.—Y peth tristaf, ym mhapurau dydd Gwener diweddaf ydoedd adroddiad Prif Gwnstabl Bootle, lie y dangosid y fath gynnydd gwarthus oedd mewn yfed ymysg merched y fwrdeisdref. Cafwyd cynifer a 15,000 yn llymeitian yn y tafarnau yn ystod 1916, sef chwe mil yn fwy nag yn 1915 a 10,600 yn fwy nag yn 1914. Gan bwy y mae gweled- igaeth a chynllun a ddyry ben ar y gwarth ofnadwy ? Awgrym Capt. Oversby yw'r goreu a welsom hyd yma, sef chwalu'r partitions a'r snugs sy'r fath feithrinfa i gudd-lymeitio, a mynnu bod pob ffenestr tafarn o wydr clir yn lle'r gwydr lliw a chysgodol sydd arnynt yn awr, ac sy'n hugan dros y fath rysedd ac anfoes. TRO AMRYFUS.—Yn hanes ymweliad Mr. E. T. John, A.S., a'r Glannau a groniclid yn r Brython diweddaf, set ynglyn a threfnu'r Sul Cenedlaethol o flaen Eisteddfod Birkenhead gadawyd allan enw y Parch W. O. Jones, B.A., cynrychiolydd Eglwys Rydd y Cymry ar y Pwyllgor Trefnu. Mewn amryfusedd hollol anfwriadol y digwyddodd hyn, sef wrth ail ysgrifennu'r copi cyntaf, oedd yn rhy anneall- adwy i'r cysodydd fedru ei ddarllen, a drwg iawn gennym am y tro. Da gennym ddeall i'r mudiad apelio mor gryf at sel a dychymyg y gweinidogion, a bod yr holl enwadau yn barod i gydweithio i wneud y Saboth hwnnw-Mediz 1917-yn un yw gofio gan yr ieuenctid a'r holl gynulleidfaodd. TRHETH ANGEUOL.-Dwedai'r Echo y nos o'r blaen fod yr hin a gawsom yn ystod y tair wythnos ddiweddaf yn galetach na'r un a gawsom yng ngaeaf 1895 hyd yn oed. Ond nac oedd, wir; canys gaeaf 1895 oedd y caletaf a gafwyd ar lannau'r Mersey ers deugain mlynedd beth bynnag. Rhewodd yr afon ar ei thraws bron bu raid i gwchW oodside dorri ei ffordd fel a swch aradr drwy'r rhew, a byddai wedi ail rewi erbyn y dychwelai am y daith nesaf. Gwelwyd pobl yn cerdded rai o'r dyddiau hynny hyd y rhew o Lerpwl i gyfeiriad Rock Ferry a chymaint oedd clem yr adar druain nes bod ami i wylan ac arall yn disgyn yn farw ar y rhew, a hynny er fod ugeiniau o deithwyr yn dod a'u llon'd dwy boced o borthiant iddynt wrth groesi i'w busnes bob bore. Ac y mae rhai ohonom yn cofio sgrech yr adar druan wrth gyd- ddisgyn yn eu cythlwng am bob tamaid a luchid A phe baem yn ddigon ystyriol, fe gofiem, wrth fwynhau'n hymborth dibrin a'n tanllwyth cyn- nes, fod ami i aderyn yn cilio i'w agen o'r neilltu tan blygu ei ben i'w blu i farw o eisiau tamaid a llymaid, heb fod yno'r un bardd na cherddor i roddi mydr a solffa am ei gwynion. HEDD wrN MEWN KIIAKI-Y ihae Hedd Wyn bellach yn breifat gyda'r Royal Welsh Fusiliers yn Litherland. Y fo'n fab fferm yn Nhrawsfynydd; yn fardd ieuanc addaw- ol er heb gael nemor o fanteision addysg; a fo oedd yr ail ar Awdl y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth y llynedd. Yr oedd bechgyn Mon, Meirion ac Arfon yn amlwg iawn yn Social y Milwyr yn Bankhall nos Sadwrn ddiweddaf, ac arogl iach mawn amynyddar eu canu a'u hadrodd. GO ST EG AM FUNUD.—'Rwy'n gweiddi am osteg er mwyn cael eich sylw gwerthfawr i'r gwaith clodwiw a wneir gan y pwyllgor o frodyr a chwiorydd sy'n hwylio'r wledd a'r cyngerdd a roddir i'r milwyr bob pythefnos yn Ysgoldy Bankhall. Yr oedd yno'n agos i ddau gant o lanciau'r Khaki yn eistedd wrth y byrddau nos Sadwrn ddiweddaf, ac yn mwyn- hau'r danteithion dibrin a arlwyid ar eu cyfer ar draul Dr. Glyn Morris, megis y gwnaed gan frodyr a chwiorydd yn gyffelyb dro ar ol tro. Rhoddir y wledd nesaf gan Mrs. Edward Ro- I berts, Trinity Road,Bootle; yr un wedi hynny- | set. noson y Flag Day Social-gan Mrs. Thos. Williams, Edge Lane; ac yn ddilynol i hynny j gan Gyfrinfa Cambrian y r: | Temlwyr Da. Bendith rar 3 ben y teuluoedd b ;el a gwladgar hyn gwych fyddal gweldBerallI yn dilyn eu hesiampl; cant hwyth- au fendith pwyllgor, bendith y bechgyn, a bendith y N-r SOCIAL a/ii\KHALL.—Dyma'r doniau a wasanaethai yng nghyngerdd y milwyr yn Bankhall nos Sadwrn ddiweddaf :—Miss Gee a Miss L. Kyffin Williams yn eu diddanuam awr a batwn ac offeryn cyn dechreu'r cyfarlod fel y cyfryw y Parch. G. R. Jones, B.A., B.D., yn traethu gair' o groeso cynnes pedair o ferched y Ilythyrdy-yr Happy go Luckies fel y galwent eu hunain—yn canu ac yn y blaen. Can, Gtclady Delyn, gan y Pte. Hughes. Adrodd- iad, Palmant y Dref, Pte. Williams. Pte. Tom Parry, B.A., yn adrodd Y Treibiwnalydd Darllen darn heb atalnodau, i. Pte.64. Jones 2,Pte. 84. Jones, Mr. D. Jones Hughes yn beirn- iadu. Canodd Mr. Ben Morris (Rhyd-ddu) rn y glazo. Miss Nellie Lewis a gyfeiliai, a Mr. R. Vaughan Jones yn arwain y cyfarfod. Hysbysodd y Parch. O. Lloyd Jones, M.A., B.D., am yr Eisteddfod sydd i'w chynnal yn Neuadd Y.M.C.A. Litherland Gwyl Ddewi: ac wedi i'r Pte. Tom Parry, B.A., a'r Pte. Edwards ddiolch am y wledd a'r cyngerdd, ymwasgarwyd, gan ffarwelio ag amryw fiIwyr oedd yn cychwyn i'r Dwyrain pell drannoeth. TRI CHRYFION PULPUD.-Dyma dri dieithr, ond pur hysbys led y wlad, a fu'n pregethu ar y Glannau nos Sadwrn a'r Sul di- weddaf;Y Parch. Evan Roberts, Croesoswallt, yn cadw cyfarfod blynyddol Wesleaid Spellow Lane. Efe'n fab y diweddar Barch. Wm. Roberts, Maentwrog yn un o genhadon ieuanc teilyngaf ei gyfundeb a'i draddodiad a'i ysgrifau'n eglur ddangos ei fod yn credu bod medru iaith ei fam yn dda yn fantais fawr i efengylydd gael dust ei wrandawyr. Clywsom mai y fo sydd i ddilyn y Parch. Tecwyn Evans yn Birkenhead. Y ddau arall oedd y Parched- igion D. Stanley Jones, Caernarfon, a H. Elfed Lewis, M.A.,—hwy'n cadw cyfarfodydd pre- gethu y Tabernacl a Park Road. DAN ORIEL PARK ROAD.-Clywsom Elfed yn y capel hwn nos Sul, ac a ofidiem na fuasai camera bach wrth law i gael tynnu llun gwedd astud a mwynhad y dyrfa wrth wrando glust a genau ar feddyliau dwysion, tlysion y Prifardd o Lundain pan yn disgrifio Duw yn cammol Ei gariad yng Nghrist." Yr oedd fy nghydymaith yn deall canu, ac a ddywedai fod yr organydd yn deall ei offeryn, ac fod seiniau'r offeryn per yh lefeinio'r canu cynulleidfaol heb ei foddi. Yr oedd hi'n noson eithriadol o oer, a'r pesychu'n uchel a mynych ond ni fennodd hynny ddim ar y pregethwr na'r codwr canu talgryf. Mewn gair ar ddiwedd y bregeth, sylwodd gweinidog dysgedig yr eglwys-y Parch. J. Vernon Lewis, M.A.,B.D.,—mor wlithog a blasus y bu'r tair oedfa. Cyfeiriodd hefyd at farwolaeth sydyn Mr. Tom Hughes, un o aelodau ffyddlonaf a mwyaf hawddgar yr eglwys, ac yn wledd bod wrth ei wely marw, er eu tristed hwy a'i briod wrth ei golli Da'i glywed yn cyhoeddi hefyd fod eglwys Park Road, a'r gangen yn Gorsebank Road, cydrhyngddynt wedi casglu £348 yn ystod y flwyddyn ddiweddaf yn unig at drysor- fau'r milwyr-swm eithriadol, a theilwng o eglwys sydd bob amser ar y blaen mewn dyn- garwch a thosturi ar bob llaw. Hyfryd clywed am "un deb yr ysbryd yng nghwlwn tangnefedd sydd rhwng bug ail a phraidd Park Road ar hyd y blynyddoedd. CYMERADWYO AC rMROI.-Daeth cyn- hulliad cryf a chynrychioliadol iawn i'r Common Hall, Hackins Hey, brydnawn dydd Mercher diweddaf i roi mudiad Mrs. Lloyd George a phwyllgor Llundain ar y gweill yn Lerpwl a'r cyffiniau, sef mudiad y Flag Day at gasglu, ddydd Sadwrn, Mawrth y 3ydd at Drysorfa Genedlaethol y Milwyr a'r Morwyr Cymreig. Dewiswyd Mr. David Jones (cadeiryddy Gym- delthas Genedlaethol) yn 1 ywydd y pwyllgor; Mr R. Vaughan Jones yn ysgrifennydd; a Mr. R. O. Williams, L.C.&.M. Bank, Castle St., yn drysorydd. A'r rhain a ddewiswyd yn swyddogion Pwyllgor y chwiorydd llywydd, Mrs. Wm. Thomas, Aigburth Drive ysgrif- enyddion, Miss Katie Owen, Rhianva, a Miss A- G. Morris, Parkfield Road. Cymeradwywyd y penderfyniad i gymryd y peth mewn llaw, ar gynhygiad y Cynghorydd Henry Jones, Y.H., a'r Parch. D. Powell, a llawen gennym glywed fod y peth yn cael cefnogaeth galonnog iawn Cymry Lerpwl, Birkenhead, a Wallasey. A swn cydio ynddi o ddifrif gyda'r mudiad grasol hwn sydd i'w glywed o Fanceinion a threfi eraill Lloegr, heb son ddim am y sel drosto yng Nghymru ei hun. ■ ■' | r CHWIFIO'R LLUMAN TN BIRKEN- HEAD A W ALLASEr.-Mewn cyfarfod yn Ysgoldy Parkfield, nos Lun ddiweddaf, dewis- wyd y rhain yn swyddogion y pwyllgor sy'n hyrwyddo mudiad y Flag Day yn y dref :— Llywydd, Mr. W. Garmon Jones, M.A. ys- grifenyddion, Mr. David Evans, (Cynlais) a Mr. Parry Williams trysorydd, Mr. Ben Thomas. Y mae Mr. T. T. Rees yn weithgar iawn gyda'r mudiad a bwriedir cael cyngerdd nosWyl Ddewi yn Neuadd yY.M.C.A., ac ynddo ddoniau canu ac adrodd o enwogrwydd cenfedl- aethol. Ac y mae Cymry Wallasey yr un mor bybyr, canys mewn cyfarfod yn Neuadd y Dref honno nos Lun, a'r Maer yn bresennol, dewiswyd ef yn llywydd y mudiad; Mr. T. Humphreys Jones, yn gadeirydd y pwyllgor Mr. G. Booth (ysgrifennydd y Maer) yn drefnydd; Mr. Aneurin Rees yn ysgrifennydd a Mr. Burnley (trysorydd y fwrdeisdref) yn drysorydd. Ethol- wyd pwyllgor cryf yn cynrychioli'r holl enwad- au, Cymdeithas Genedlaethol Cilgwri a'r Wallasey Welsh War Relief Society. Cymerwyd rhan hefyd gan y Parch. T. Price Davies. AT DrSTEB PEDROG.-Y Parch. James Charles, Dinbych, 5. Dr. Glyn Morris, Ler- pwl, £ 1.1. Capel Walton Park, drwy law Mr. J. C. Roberts, 11/ ANRHEGU MR. R. J. THOMAS.-Y mae firm llongau hysbys Messrs Wm. Thomas & Co., Ltd., yn ymddatod yn wirfoddol fel y cyfryw; a'r wythnos ddiweddaf, yn y Brif Ddinas, bu staff y ddwy swyddfa, sef yn Lerpwl a Llundain, yn anrhegu Mr. R. J. Thomas, y prif gyfarwyddwr, ag anerchiad hardd, lie y cydnabyddid ei gwrteisrwydd gwastadol iddynt, ac y dymunid pob llwyddiant i'r firm newydd sydd wedi ymffurfio dan yr enw Messrs RJ. Thomas & Co., of London and Liverpool. Mr. W. O. Hughes (Lerpwl) a gyflwynodd yr anerchiad, yn cael ei gyfnerthu gan Mr. R, S. Farrell (Llundain) Diolchodd Mr. Thomas am eu caredigrwydd a'u teimladau da. Gyda'r anerchiad, cvflwynid replica arian o'r War- wick Vase, gwaith Mri. Walker a Hall, a'r anerchiad wedi ei gwneuthur gan Mri, Water low & Sons. MR. THOMAS HUGHES, 103 CLAUGH* TON ROAD. BIRKENHEAD.-Bu ef farw'n bur sydyn nos Sul ddiweddaf. gwedi rhyw hanner awr o gystudd. Yr oedd yn agos i bedwar ugain oed yn flaenor yn eglwys M.C. Parkfield; yn un o Gymry hynaf y dref, ac yma oddiar pan yn ieuanc. Cleddir heddyw (ddydd Iau) a daw gair helaethach amdano gyda hanes yr angladd. IN A ROS LLE. Bu'r fath dreth ar ein gofod nes y bu raid cadw hanes y Cyfarfod Misol a Chwith Atgof am y diweddar Mr. Edward Roberts, Marsh Lane, hyd y rhifyn nesaf. 0 raid a gorfod y bu hyn, ac nid o fodd. AFIECHYD MR JAMES VENMORM. —Bydd yn wir ofidus gan bawb drwy'r ddinas a'r wlad glywed am afiechyd Mr. James Venmore, Y.H. Tarawyd ef yn wacl yn bur sydyn ddydd Linn yr wythnos ddiweddaf—nervous breakdown ebe'r medd- ygon, ac y bydd raid iddo wrth ofal mawr a llwyr ymorffwys am beth amser. Dymuniad a gweddi pawb a'i hedwyn ydyw am i Mr. Venmore gael adferiad llwyr a buan, ac y'i gwelir yn 01 yn y lliaws cylchoedd gwaldol a chrefyddol a lanwai mor ddyfal a hawddgar. Y mae raddau'n well pan ydym yn myned i'r wasg bore beddyw--ddydd Mercher.

IOAU TU"R ArON.

Advertising