Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

0 Lofft y Stabal.

IAdolygiad.I

News
Cite
Share

I Adolygiad. I CAN A MOLIANT: Llyfr Tonau ac Ernynau. Casglwyd a threfnwyd gan H. Haydn Jones. Llian 3/ net. Chwarter rhwym 4/6 net. Gwrecsam Hughes ai Fab, Argraffwyr a Chyhoeddwyr. 1916. YN anad dim, Llyfr Tonau ydyw'r gwaith newydd h wn, a da gan hynny oedd i gerddor gwych fel Mr. R. Roberts, Y Dyffryn. ei adolygu'n gyntaf yn eic-h colofnau. Y mae Mr. Roberts yn lienor da yn gystal ag yn gerddor—cyfuniad hapus nas ceir bob dydd; ond gan mai adolygu'r tonau 'n unig a wnaeth ef, cydsyniaf a chais y Golygydd i ddywedyd gair am yr emynau. Caniataer imi ddatgan fy Uawenydd digymysg am fod Mr. Haydn Jones wedi ymgymryd a gorchwyl mor bwysig a chysegredig, a chyn belled ag yr a r rhan gerddorol ohono, cydnabyddir ar bob Haw ei gymwysterau arbennig i'w gyfiawnni fedrus ac effeithiol. Y mao'r rhan fwyaf o lawer o'r emynau hefyd a geir yma, im bryd i, yn rhagorol. Nid oes eisiau colli amser i'w canmol gan mor adna- byddus ydynt. Ond ceir yma rai emynau newyddion, gan feirdd sy'n fyw heddyw, y dylid galw sylw atynt ar gyfrif eu rhagor- laeth arbennig. Yn eu mysg, ac yn amlwg felly, y mae emyn 520, Nesha at fy enaid, Waredwr y tlawd," a 187, Drwy ddyffryn tywyll adfyd gan y Parch R. H. Watkin, Dmorwig. Y mae naws addolgar ddwys ar y ddau emyn cyfoethog hyn, a bydd yn syn gennyf os na bydd iddynt "afael." Gellir dywedyd yr un peth yn union am 564, "0 Arglwydd grasol trugarha" gan y Prifardd Job, emyn newydd i mI, fel ei gyfieithiad campus yn 578. (Y mae 535, O heda, efengyl dragwyddol gan Job yn adnabyddus i gylch eang, ac yn ddiameu 'n un or emynau goreu). Y mae amryw o omynau Cernyw, Einon Wyn, Gwili, Ben Davies ac eTaill o feirdd y dydd, wrth gWTS, yn haeddu'r ganmoliaeth uchaf. Ceir Hower iawn o emynau Dyfed yn y llyfr hwn, ac er fod amryw ohonynt ymysg ei oreuon. tueddu at fod yn rhy farddonol, yn ol fy nheimlad i felly, y mae'r Archdderwydd talentog I mewn rhai o'i emynau. Bron na ddywed- wn petai Dyfed yn salach bardd, y byddai'n well emynydd hyd yn'oed ag ydyw,at ei gilydd felly. Emyn newydd i mi yw 283, "Garedig Ysbryd Duw," gan Gwynfryn, ac un hapus ac effeithiol ydyw. Nid oes eisiau s6n am emynau Elfed bellach,-y mae'r rhan fwyaf ohollyn,t hwy'n drysorau cenedlaethol. Ond os caf ddywedyd yr hyn a, deimla llawer heblaw fi, gormod o ol "gwneud" sydd ar lawer o'r emynau diweddar, gormod o ol ymdrech, a rhy fach o naws ysbrydol, o eneiniad, ac o naturioldeb, pethau sy'n anhepgor i wir emyn. Cy- merer hwn, er enghraifft. gan Gwylfa, a barned y darllenydd :— LLANW GRAS. Dy feddwl Di am danaf, 0 fy Nuw, A Tn didol i farw ac i fyw Ni phrisiaf ddim am fara y byd a'i si,— Fy nhynged im' a ddaw o'th feddwl Di. Cael byw yn nes at fewnol dan y Gwir, Mwynhau ei vvres ali IewyTchiadau clir, Gan ddal fy hun yng ngwawr yffiam heb ofn, 0 Fal-rv Dyn, hyn yw fy ngweddi ddofn. Rhy ami y bu fy mywyd wedi ei gloi, A nerthoedd lu o'm hamgylch yn crynhoi 0 Dduw rho.flas ar agor yn ddigoll, I lanw gras feddiannu 'mywyd oil. "Emyn 6. (Myii bi'au'r italics) Nid ydys yn beirniadu dim o syjiiadau'r eniyn,-ymaentpibriod- ol yn ddiau, a'r mynegiad yn goeth wrth gwrs ond beth am y ewbl fel emyn onid yw rn rhy stiff? Ni wn pwy sy'Tt gyfrifol am y casgliad hwn o emynau,—o ran dim a wn i, Mr. Haydn Jones ei hun sy'n gyfrifol am yr emynau a'r tonau. Pwy bynnag ydyw, y mae yntau, fe Golygydd neu Olygwyr pob Llyfr Emynau Cymraeg bron, wedi goUwng rhai asynod gwyllt i mewn. Meddylier am gyhoeddi peth fel hyn yn yr oes oleu hon :— Fy enaid can, fy enaid can, I'th Brynwr glan, a dos i'r bedd "( !).—19. Gorchymyn i enaid fynfl i'r bedd Symol iawn, a dywedyd y Ileiaf, yw 252 trwyddo, er mai Pantycelyn ei hun yw'r awdur,Ile y sonnir am enaid llmth ddwywaith Yn curo f'enaid llaith Nes byddo dan y dwr" «ÎA'r olwg hon, trwy gwrs fy nhaith, Ddod f'enaid llaith i fynd yn lion Y mae digon o emynau gwell na hwn gan Williams, ein prif emynydd, ac emynydd y rhaid dywedyd amdano a fedr fod cyn saled a neb weithiau. A dyma ichwi enghraifft deg o rigwm, osbiiunilerioed,- Rho nertli i'm henaid gwan 0 Dduw, i wneud ei ran Mewn anial maith,—. A byw'r bendithion hyn I'r Gwr fu ar y bryn, A bwyta o'r manna gwyn Ar hyd y daith. "—285 Digrif tu hwnt i bopeth yw disgwyl i gynull- eidfa o wyr a gwragedd ganu Hillen feJ hon Gadi 1m gerdded, fel yn fachgen "( !) Os am ei chadw i mewn o gwbl, dylid ei cliyfleu fel hyn,— Gad im' gerdded fel yn f eneth I facligenf —y merched i ganu'r gair eneth," a'r meib- ion i ganu'r "baehgen Braidd yn siom- edig wyf mewn rhai o emynau'r Parch. R. R. Morris, Blaenau Ffestiniog. Nid yw Disgwyliwn ymhellach ymlaen," 543, yn deilwng o urddas emyn, a ydyw¡? Ni ellir edmygu ei waith yn galw'r Gwaredwr yn Febyn y preseb (529) ac yn Febyn Mair" (403). Pa beth a debygir am bennill fel hwn ?- Gallwn nesu'n agos, agos, Gyda rhodd at Febyn Mair Pwy na eharai weld ei Gsidwad Haddyw rmurn cadachau aur ? Flynydd )edd yn ol clywodd eyfaill im bregethwr yn Sir Fon yn gwaeddi ar ucha'i lais mewn h wyl fawr, wedi cyrraedd at ryw bwynt, neilltuol yn ei bI'egeth, Bobol I cojleidiwch Fabi JMctn Nid wyf yn sic r prnIl ai "Babi Ma-ri" y pregethwr hwnnw ynteu Mebyn Mair y Parch R. R. Morris yw'r goreu gennyf. Beth am hwn hefyd fel emyn ? "Nithorrwydynawyryddaear Erioed gynganeddion mor ber Tarewir cyweirnod mor uchel Gan luoedd y wlad uwch y s6r, "—529 Nid wyf yn deall y ddwy linell olaf,-o,' nad Ni tharewir yw r ystyr (eymharer Ni thorrwyd "). Doniol iawn yw s6n am dorri cynganeddion mewn emyn,— a'r angylion sy'n euog o wneuthur hynny yn yr emyn InVIl. A dyma emyn arall (568) ar "iLawenydd Seion lie y sonnir am ei thyrrau pell (its far-off heaps I). (Wrth gwrs am ei thyrau pell y meddylir, y mae'n ddiau). Pennill olaf yr emyn hwn yw,- Pabell y Jehofa Erys gyda ni, Gwelsom honno'n agor Draw ar Galfari Caned ei phreswylwyr Ar y lUnyn lion Prynwr meibon dyn ion Bia'r babell hon." Y mae r ferf plan yn ddigon "diffygiol" fel y mae, heb wneuthur cam a hi fel y gwneir ddwywaith yn yr emyn hwn,-bia yn lie biau A beth am y lUnyn uchod ? Da fyddai crogi r peiinill wrth y Uinyn hwn, a mynd ag ef, yn lion hefyd, la'i osod ar un o r tyrrau pella'n bosibl, a'i adael yno,— yn lle'i gyhoeddi mewn llyfr. Dyma gwpled o gyfieithiad gan Geufronydd (574),- Rhois flwyddaii drosot ti Ro'ist ti un drosof Fi "? Nid da geiriau wedi eu liitaleiddio mewn em- yn, ae nid yw flioyddaiumdha^i&vdd^VLV ond nid son am: iaitli y cwpled yw fy amoan yn awr, ond gofyn onid oes rywbeth yn sti.ff ynddo yntau ? Nid wyf am ddyfynnu chwaneg, ac nid oes imi'n wir unrhyw flas mewn dyfynnu cy- maint o r cyfryw bethau ag a wneuthum. Ond methaf ddeall pah am y myn y neb sy'n gyfrifol am gyhoeddi'r emynau hyn roddi'r rhain i mewn,— Rhyw anial erchyll yw y byd, A maglau ei bleserau i gyd "7 (ai gwir hyn, mewn difrif ?) "Beth sydd imi yn y byd Ond gorthrymder mawr o hyd 7--474 (un arall tebyg,—er gwaetha'i bleidwyr yn y Drycli Americanaidd) A'r gwaed yn dorthau ar ei ben. A bar o ddur trwy'i dirion draed,"—62 (llinellau na fedraf gondemnio mwy ar eu cigyddiaeth nag a wneuthum eisoes). Sonmr yn 39 am bechadwr yn brefu Fodd bynnag, dymunaf eto ddywedyd a phwyslais ac a hyfrydwch fod mwyafrif mawr emynau'r easgliad hwn yn dra rhagorol. Pa beth a ddaeth tros ben y Golygydd pan ollyngodd gynifer o erthylod i menvitli Y mae mwy o ofal nar eyffredin we,di ei arfer ynglyn a'r awduron. Ond ceir rhai emynau heb enw o gwbl odditanynt,-heb Anad. na dim. Nid Cyfieithiadau, fel y dywedir yma, yw'r rhan fwyaf o'r emynau gan Charles Wesley sydd yn y llyfr, ond Efelychiadau, a'r rheiny lawer ohonynt yn rhai digon llac. Nid Ann Griffiths biau emyn 7,y penuill cyntaf yn unig sy'n eiddo iddi hi. Rhaid gadael yr hyn sydd i'w ddywedyd am G ymraeg y llyfr hyd yr wythnos nesaf. D. TECWYN EVANS.

Advertising