Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

W GOSTEG. I

DYOBlADUa I

Gyh^eddwyr v Cymod I

Advertising

DAU TU'R AFON.

News
Cite
Share

GARSTON.—Ion. 31, yn ysgoldy Capel M.C. Chapel Road, caed datganiad o'r operetta Gipsy Queen (Pattison) o dan arweiniad Mr. M. W. Humphreys. Y prif gymeriadau oedd Queen, Miss Dorothy Rowlands, Soprano Dana, the Queen's attendant, Miss Iorwen Humphreys, Contralto; King, Mr. Alf Profitt, Tenor Como, the King's attendant, Mr.J. Maher, Bass,—ond a luddiwyd i fod yn bresenn- ol trwy afiechyd,-cymerwyd ei le ar fyr rybydd gan Mr. Morfydd Humphreys ac nid gorchwyl. bychan oedd hyn Courtiers and Gipsies, y Cor Yn ychwanegol datganodd yGor Gloria (12th Mass) Mozart, a chanodd Mis, Dorothy Rowlands Dros y Garreg,alaw Gymreig. Caed can gan Mr.Morfydd Humphreys hefyd. Miss Maud Williams, L.L.C.M., yn cyfeilio. Llywyddwyd gan y Parch J. D. Evans, yn absenoldeb anorfod Mr. John Roberts, Island Road. Diolchodd y Cadeirydd yn wresog i'r unawd- wyr ac i'r Cor am eu gwasanaeth ac i Miss Maud Williams am ei gwasanaeth gwerthfawr wrth y piano. Sylwodd hefyd fod clod nid bychan yn ddyledus i Mr. M. W. Humphreys am ei lafur gyda'r Cor. Caed cynhulliad da a disgwylir elw sylweddol er budd cronfa'r milwyr a'r morwyr.—Strebor. KENSINGTON.—Y Nos Saboth o'r blaen caed peth newydd gennym fel eglwys, sef plant y Gobeithlu yn cynnal y gwasanaeth ac yn coroni'r cyfan cafwyd presenoldeb ein parchus weinidog y Parch J. O. Williams (Pedrog). Cafwyd anerchiad ganddo yn llawn o berlau. Bu ef ar hyd y blynyddoedd yn ffyddlon iawn i'r plant, ac arhoed ei fwa'n gryf eto i wneud dauioni yn y cyfeiriadau hyn. Awd at y rhaglen fel y canlyn :—Rhangan gan y Plant Mi glywais lais yr lesu'n dweyd, o dan arweiniad Mr. W. R. Job. Adrodd ad helaeth a chynhwys- fawr o'r Ysgrythyr gan Gwyneth Mills Jones. Rhangan Clywch y Came, y Cor. Arweiniwyd mewn gweddi gan Mr. Daniel Job, tad ein harweinydd, a llawen oedd gennym ei weled ar dro yn ein plith. Unawd Dyma Fe bl anwyl lesu, Olwen Gr'ffiths. Adrodd'ad, Dywedyd Na, Olwen Jones. Unawd Arglwydd Iesu'r Bugail Mwyn, Phyllis Wilson. Rhangan, Mae'r Iesu'n derbyn plant bychain, y Cor.. Adroddiad, Gweddi y Plentyn Amdditad, H. Griffiths. Unawd, Pererin wyt mwn anial dir, Nancy W'lliams. Adroddiad, Cadw draw oddiwrtb y Dafarn, D. Meredydd Williams. Unawd, Pa le mae', Amen, Cecil Jones. Pedwarawd, Hedwn pe Cawn, Ritchie a'i Barti. Unawd, Bugail Israel, Jennie jones. Rhangan, Dewi Sant a'r Chant Hemingford i ddiweddu. Cyfeiliwyd i'r cwbl gan Miss Lilian Jones. Cyfarfod da, ac yn sicr ddigon nid dyma y tro diweddaf i gyfarfod fel hwn gael ei gynnal gan fod dymuniad eisioes i gael un eto'n fuan. Diolchwyd yn gynnes i'r rhai oedd wedi bod wrthi'n hyfforddi'r plant i wneud y cyfarfod yn llwyddiant. Pedrog a lywyddai, ac yn dwyn ar- wyddion ei fod yn mwynhau gwrando y plant yn arfer eu doniau. Un o Gymry mwyaf. darllengar a medd- ylgar Glannau Mersi yw Mr. Henry Denman, un o ddiaconiaid Eglwys Annibynnol Grove Street, a gofid i'w gyfeillion lluosog fydd deall ei fod yn dioddef, ar hyn o bryd, oddiwrth gystudd trwm. Buan y caffo adferiad trwyadl. Mae dynion mor alluog a diymhongar yn brin. Nid yn fynych y ceir cyff o ddynion mwy goleuedig a ffyddlon i grefydd na'r brodyr Denman—yn y wlad, ac yn Lerpwl hefyd. SOCIAL Y MILWYR YN YORK I-IALL.-Rhoddir yr un Nos Sadwrn nesaf gan Mrs. Dr. T. Glyn Morris. Da fyddai gan y piryllgor4! chwiorydd eraill ddilyn yr un llwybr, fel y gellir dwyn y gwaith da hwn ymlaen. Nid oes gan y Trysorydd ddim arian ar law, a cherir y gwaith ymlaen mewn ffydd. TrSTEB PEDROG Argl Pontypridd i i o Y Parch John Hughes, M A .1 1 o Y Parch R. R. Hughes, B.A 0 zo 6 Y Parch. Wnion Evans, Machynlleth o 2 6 Y Cyngh. J.Harrison Jones, Y.H z 2 o Mr. T. Humphreys Jones, Martins Lane i 1 o WARRINGTON.—Nos Lun cyn y diweddaf cafwyd Noson gyda'r Beirdd Cymreig yng Nghymdeithas Lenyddol Heol Crosfield, dan lywyddiaeth Mr. W. T. Williams, Y.H., a'r Mri. R. Roberts a J. H. Jones yn gofalu am y rhaglen. Wedi canu ton gynulleid- faol traddodwyd anerchiad gan y llywydd. Yna bapurau diddorol gan bedwar o'r aelodau ieuanc, Miss Besie Williams ar leuan Gwynedd; Miss Lizzie Jones ar Dewi Arfon Master Glyn Parry Jones ar Iolo Caernarfon; a Mr. W. R. Williams ar Dafydd ab Gwilym. Cafwyd sylwadau pellach gan Mrs. W. T. Williams, Mrs. J. Jones, Mri. R. Roberts, J. H. Jones, J. Griffiths, A. Woodward ac eraill. Anogwyd y bobl ieuanc i ddal ati i lafurio ac arfer eu doniau. Gan fod ysgrifennydd y Gymdeithas, Mr. W. M. Jones, yn ymuno a'r Fyddin daliwyd ar y cyfle i ddiolch iddo am ei ffyddlondeb gwerthfawr. Brodor o Fettws-y-coed yw Mr. Jones, ac wedi cadw i fyny yr enw da a roddwyd iddo ar ei ddyfodiad yma o Lundain bedair blynedd yn ol. Y mae yma falchter mawr am fod y cyngerdd a'r te ddechreu'r mis wedi troi allan y fath lwyddiant. Gwnaed elw o dros £14 i gyfarfod y costau yr awd iddynt ynglyn a'r capel. Bu amryw gyfeillion o'r tuallan yn garedig wrthym, a theimlwn yn hynod ddiolch- gar iddynt.-R.P.J.