Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

f o Big y Lleifiad.

News
Cite
Share

f o Big y Lleifiad. Cysgodion Eisteddfod 1917 I-Am y Sul Cenedlaeibol. I YR aelod dros Ddwyreinbarth Dinbych, fel y gwyddis, ydyw llvwvdd Undeb y Cymdeithasau Cymraeg, sydd wedi dal i dyfu nes bod ganddo gynifer a saith a thrigain o GymdeithasauCymrodorol dan ei aden yn y De, ac ynddynt saith mil o aelod- au, a'r rheini'n hufen gwladgarwyr ieithgar y siroedd. Y mae ei lywydd pybyr yn awyddus am i'r Undeb chware rhan fwy a mwy dylanwadol ym mywyd y genedl, a chael cyfle i ddangos beth a ellir ei wneud ynglýn ag Eisteddfod Birkenhead. I'r amcan hwnnw, daeth i Reform Club Lerpwl brydnawn dydd Iau diweddaf i gyfwrdd cynrychiol- aeth gref o weinidogion y cylch, ddau tu'r afon. i osod ger eu bron gynllun i gael Sul Cenedlaethol y Saboth o flaen yr Wyl, sef Medi 2, 1917. Wrth y Sul Cenedlaethol, golygai fod pob enwad yn trefnu i'w weinidogion, y diwrnod hwnnw, bregethu neu ynteu. draddodi anerchiad ar rhyw gyfnod yn hanes crefydd Cymru, neu ynteu ar ryw wr enwog fel efengylydd, diwygiwr, eniynydd a merthyr, ac felly helacthu gwybodaeth y to sy'n codi am eu gwlad, dyfnhau eu gwladgarwch a'u parch iddi, a'u cael i sylweddol! fod gan Cymru, er ei lleied o ran maint ei thir a rhif ei phobl, genadwri i'r byd gwerth ymffrostio ynddi.—Pedr Hir a lywyddai'r cyfarfod, a'r Parch H. R. Roberts yn cadw'r cof- nodion. Croesawyd y syniad fel un teilwng a llesol, o'i gario allan yn drwyadl ac yn barhaus. Siaradodd y Parchedigion O. L. Roberts, S. R. Jenkins, J. Hughes, M.A., Dr. Owen Evans, D. Powell, T. Isfryn Hughes, H. H. Hughes, B.A., B.D., a D. E. Hughes, B.A., (ficer Dewi Sant). Etholwyd y Parchedigion a ganlyn i drefnu'r peth --Dros y M.C. J. Owen, D. D. Williams, H. JI. Hughes, B.A., B.D., G. R. Jones, B.A., B.D., Yr Annibynwyr: D. Adams, B.A., O. L. Roberts, S. R. Jenkins. Y Bedyddwyr D. Powell, Joseph Davies. Y Wesleaid T. Isfryn Hughes, D. Tecwyn Evans, B. A. Yr EglwysWladol D. E.! Hughes, B.A.—Yr oedd Pedrog yn bresennoi a datganodd y cyfarfod ei lawenydd mawr o'i weled wedi gwella cymaint, a bod pob argoel y cawn ei wasanaeth fel gwlad am flynyddoedd eto. Cydnabu yntau'r teimladau tirion a ddangosid tuagato. mewn gair byr cndtPedrogoaidd o ffraeth a phriodol. Yna eaciliwyd i ystafell arall, i gyfranogi parlwy hael ac amheuthun ei danteithion a ddarparesid i bawb ar draul Mr. John, i'r hwn y diolchwyd dros y gwedd- ill gan y Parchn. J. Owen a D. E. Hughes., 9-Athi y Gynhadledd CydaGeltaidd. I.- Peth arail sydd ym mryd Mr. John a'r Undeb ydyw cael Cynhadledd gyd-Geltaidd (Pan-Celtic Cottjerence) y dydd Mawrtth cyn yr Eisteddfod sef Medi 4, i'r hon y bwriedir gwahodd dysgedigion blaenaf v gwledydd Celtaidd, megis Syr O' M Ed- wards i siarad ar Safle a rhagolvgon Lien Cymru; Dr Hyde ar rai'r Werddon yr Anrhyd Erskine o Marr (golygydd y Scottish Review, Edinburgh) ar rai'r Ysgotland Mons Mocacr, y Proff., Lothel ac craill ar rai Llydaw; a dichon y rbydd Qmller-Couch yno dros Gernyw, a Mr, Hall Caine droo Ynys Manaw. Gwelir felly mai nid rhyw orymdaith beisiog. i ddeffro'r Uygad a dim byd mwy na hynny fydd y GyngresGyd-Geltaidd hon, end un y bydd ei llefarwyr yn werth i'r genedl eu clywed, eu papurau a'u hanerchiadau yn werth eu cadw 'a'u cyhoeddi, a'r Gynhadledd drwyddi draw yn brawf i'r Saeson mai nid rhyw fringe a godre bach ogenedl, yn medru canu'n felys a gweddio'n hir a chadw twrw cas am Ymreolaeth, mo'r Celtiaid yn unig ond fod ganddynt lenyddiaeth hen ac anhebgor i'r byd ei wybod, fod ganddynt draddodiadau gwych o'r gorffennol, a gobeithion gwychach fyth am y dyfodol, ac y mynnant y He a fwriadodd Duw iddynt yn Ei fyd, er gwaethaf Prwsiaeth Prydain a'r Cyfandir. Bwriada Mr. John groesawu holl gynrychiolwyr TT_.J_'L. "1_L1_- uuueu y v-jnmciuiasau v-ymraeg, vnghyda'r gwahoddedigion o wledydd eraill, i wledd y nos Lun cyn yr Eisteddfod ac y mae pob argoel y bydd y Sul Cenedlaethol a'r Gyngres Geltaiod yn atodiad hudol a gwerthfawr dros ben i'r Eisteddfod. BRONrN A BRIGrN.-Yr oedd y diweddar Mr. W. O. Elias-y gwelir ei lun a threm ar ei yrfa mewn colofn arall-yn berchenllyfrgell gyfoethog a'r rhai hynny wedi eu darllen a'u deall bob un, canys eu cynnwys, ac nid eu cloriau a'u claspiauj oedd y peth mawr yn ei olwg ef. Y mae ei fab- Lieut. Frank Elias—yn lienor ac awdur gwych y fo ysgrifennodd y bywgraffiadSaesncg poblogaidd o Mr. Asquith a adolygwyd mor glodus ym mhapurau Llundain a'r wlad pan y'i cyhoeddwyd rai biynyddoedd yn ol; ac y mae yn gartwnydd mo' fedrus ac uchel ci safon nes bod amryw o'i cartoons wedi ymcldangos yn Punch. PENNAETH rR ALLIANCE.-Bydd Cymry Lerpwl, fel Cymry gweddill y wlad, yn falch o glywed am benodiad Mr. O. Morgan Owen yn bennaeth Cwmni Yswiriol yr Alliance,yn ddilynydd Mr. Robt. Lewis,—y gwr yr oedd nesaf ato cynt o ran swydd a safle. Efen fab -y, diwsddar Mr. Owen Owen, y Glyn, Talsarnau; yr oedd ym Mhrifysgol Aber- ystwyth ar unwaith a'r diweddar Mr. Tom Ellis, A.S. a'r ddau'n gyfeillion o'r mwyaf mynwesol. Panyn arolygydd Cangen Lerpwl yr Alliance, yr oedd Mr. Owen yn flaenor yn eglwys David Street, megis y mae'n lfaenor ers blynyddoedd lawer yn Eglwys Charing Cross, a fugeilir gan y Parch. P. II. Griffiths, ac yr heidia hufen talentau a dysgedigion Cymreig y Brifddinas iddi. Mrs. Owen yn ferch y diweddar Mr. Thos. Jones, Garston, a'r plant mor groyw a beunyddiol eu Cymraeg a phlant Talsarnau, bob dydd y cyfodant o'u gwelyau. Ac nid rhyfedd hynny pan gofir y niaged eu tad yn yr awyr sy'n llawn o berarogi Elis Wyn ac Edmwnt Prys a Wm. Wyn a Gwyneth Vaughan, a bod adar Morgan Llwyd yn dal i nythu yng nghoed y Glyn o hyd. Y mae Mr. Owen yn un o'r gwyr harddaf ei bryd a boneddig- eiddiaf ef droediad yn y Brifddinas, a'r cwbl wedi ei gael o'r fconcyff ucheldras y tyfodd ohono. CrRRES LAIRD STREET.—Y Caplan W. Llewelyn Lloyd, Kinmel, a'r Parch Wm. Davies, M.A., Aberdar, a gadwai gyfarfod pregethu eglwys Laird Street, Birkenhead, nos Sadwrn a'r Saboth diweddaf. Cynhulliad cryf o wrandawyr mwyaf esgud dau tu'r afon yno nos Sadwrn a chlywsom fod y He dan ei eang nos Sul, a llawer o'r tuallan wedi methu cael lie. Cyfres o bregethau nad oedd, eisiau mo'u gwell o ran grym eu traddodiad a'r dif- rifweh a deimlid oedd tucefn i'r cwbl. Gwelodd y Caplan bethau yn Ffrainc sydd wedi ychwanegu tant newydd i delyn ei deimlad, ac wedi tynhau a dwyseiddio'r tannau eraill yn ogystal nes bod cyfeiriadau at y milwyr yn britho'i bregethau, ac yn peri clustio mawr i'w clywed. Ni ddaw o' De gennad melysacw gan y Gogledd ei wrando na'? 1 f efengylydd o Abcrdar; yntau wedi bwrw cryg amser, ar fwy nag un tro, gyda'r milwyr Cymrei yn Aldershot, ac yn cofio amdanynt beunydd wrth weddio a phregethu. A thrwy naws ei ysbryd addfwyn, grym a gafael ei draddodiad arafaidd, meddylgar, ynghyda'r newydd-deb a'r urddas sydd ar ei feddyliau a'i gymariaethau, ceir rhywbeth na fedr dysg ei hun byth mo'i roddi, ac nas ceir byth ond yn yr ciiedigaeth gyn,,alf a'r all. "Fr NUW Fr NUW !"—Dvma ran o iythyr oddiwrth un o fechgyn Cymreig Lerpwl sydd mewn ysbyty milwrol yn Lloegr ers misoedd, a llythyr a ddengys fel y mae Duw yn mud-orwedd yn enaid pawb ohonom nes y daw ergydion rhyfel ac angau i'w ddeffro a'i droi'n waedd a gweddi :— I honestly tan say that Ii have never seen God so near as in the midst of all the bombardments- the ghastly sights-seen out there. Not many of us realised what death meant, to us before this; but since we have been next door to it, as you might say, we have more than realised since. An incident occurred on the morning of August 9th last year, which date I will always remember. He was an officer in the King's Own. I was next to him in No Man's Land. He was leading his men towards the German trench, when suddenly I heard a cry. My God My God was all he said, with his hands clasped towards heaven. He was struck by a sniper's bullet. I knelt down beside him. He was killed. I said to myself, A few seconds ago, full of life- and now!" His little prayer I am sure was answered. There are many such cases. God in their mind the whole time,and what purer thought than this can a man have when on the battle- field of the greatest battle the world has ever seen ? It has taught us to be men. And to be a man is a great thing rN FWY CREFYDDOL, NID TN LLAI.- Ac wele ran o lythyr un arall o fechgyn Cymreig Lerpwl sydd yn y rhyfel ers dwy fiynedd, ac a ddaeth i law gwraig grefyddol oedd wedi ysgrifennu ato :— There was a time when we young men rather kept our religion closely locked up, but things are now changed. When once we would have been embarrassed by letters of religious feeling, we now welcome them. When one has been out and in action, as I have been, our views on life become changed. We have lost so many friends—and those that have spoken to us to-day have gone under to-morrow,—that we know that if we are spared, our lives shall be different when we get home. The principles for which so many noble men and boys have laid down their lives to attain will be carried out by us. The world must be a better place and we must make it so. DONIAU SMITH STRFET.-Daeth Ilonaid Neuadd Genhadol Smith Street, perthynol i eglwys M.C. Anfield Road, nos Sadwrn ddiweddaf, i fwyn- hau'r doniau canu ac adrodd a wasanaethai yno, dan lywyddiaeth Mr. John Evans, Newsham Drive, gan yr hwn y caed anerchiad a rhodd deilwng o'r achos; Mr. Isaac Williams, B.A., a Mr. Owen Hughes, y cenhadwr lleol, yn diolch i bawb am wneud eu rhan mor ganmoladwy ac ewyllysgar. Dyma'r rhaglen :-Rhangan, Comrades in Arms, Gwalia Glee Party. Can, Gwlad y Delyn, Madame Lilian Lloyd. Can, England, Mr. Griff Owen. Adroddiad, Span Jones a'r Cloc, Mr. J. R. Jones. Can, Corp! Hughes. Canu Pennillion, Miss Maggie Parry merch Madryn). Dcuawd, The Keys of Heaven, Madame Lilian Lloyd a Mr. Griff, Owen. Detholiad o'i ddigrifion fel y fo'i hun gan Arvon Hope. Cor- awd, Y Delyn Aur, Gwalia Glee Party, ac yna Martyrs ot ibe Arena gan y parti i ddechreu eilran y cyngerdd ar ol anerchiad y llywydd. Can, Corpl. Hughes., Adroddiad, Siop y Pentref, Mr. J.R. Jones. Can, Hoff Wlad fy Ngencdigaeth, Mr. Griff Owen. Canu Penillion, Mss Maggie Parry. Can, Carmina, Madame Lilian Lloyd. Deuawd, Corpl. Hughes a Mr. Griff Owen. Diniolwch Arvon Hope eto, a rhangan, OldFolks at lIome ganyGwalia Glee Party. arweinydd, Mr.W. J, Roberts, organydd Bethlehem. Diolchwyd hefyd i Mr. R. Llanfor Roberts am e llafur mawr ond cudd.

DAU TU'R AFON.

Advertising